Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Jayne Bryant AS
  • Sarah Murphy AS

Ymddiheuriadau

  • Julie James AS
  • Mick Antoniw AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol (eitem 4)
  • Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelwch Tomenni Glo (eitem 4)

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 8 Gorffennaf.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliad Brenhinol

2.1 Soniodd y Prif Weinidog am ymweliad diweddar y Brenin a'r Frenhines i goffáu 25 mlynedd ers datganoli. Hefyd, cafodd y Prif Weinidog gyfarfod preifat gyda'r Brenin y diwrnod hwnnw.

Araith y Brenin

2.2 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i roi trosolwg o'r paratoadau ar gyfer Araith y Brenin, a fyddai'n digwydd ddydd Mercher yr wythnos honno.

2.3 Roedd disgwyl i'r Senedd eistedd tan ddiwedd Gorffennaf a dychwelyd ddechrau mis Medi, ac roedd disgwyl i nifer o Filiau gael eu cyflwyno cyn y toriad.

Cyfarfod â Changhellor y Trysorlys

2.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai ef, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet, yn cyfarfod â Changhellor y Trysorlys fore Mercher.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 6.55pm ddydd Mawrth a thua 7pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Diweddariad ar hynt Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) (Cymru)

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i nodi'r cynnydd a wnaed ar Fil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) (Cymru).

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2024