Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Jane Bryant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Croesawodd y Prif Weinidog Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion i'w gyfarfod cyntaf o'r Cabinet.

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 18 Mawrth.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Cynhadledd i’r Wasg

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi mynychu ei gynhadledd i'r wasg gyntaf y bore hwnnw yng Ngholeg Gwent yng Nglynebwy. Roedd y cwestiynau wedi canolbwyntio ar y gostyngiad mewn gwariant ar gyfer amgueddfeydd, a'r awgrym y gallai adeilad Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd gau.

2.2 Ar ymylon y gynhadledd i'r wasg, roedd y Prif Weinidog wedi cwrdd â myfyrwyr a oedd yn hapus ac yn gadarnhaol ynghylch y cyfleusterau a ddarperir yng Ngholeg Gwent.

Gwobrau Dewi Sant

2.3 Ar ddydd Iau'r wythnos flaenorol, roedd y Prif Weinidog wedi cynnal ei seremoni Gwobrau Dewi Sant gyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sef cyfle i ddathlu rhai o'r bobl fwyaf deallus a dewr o bob rhan o Gymru.

Datganiad Llafar: Blaenoriaethau'r Cabinet

2.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai'n rhoi Datganiad Llafar i'r Senedd ar Flaenoriaethau'r Llywodraeth y diwrnod canlynol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

3.2 O ran busnes ddydd Mercher, roedd y Cabinet yn cydnabod yr angen i bleidleisio yn erbyn y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru). Roedd y Bil yn rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar y Llywodraeth ac yn cyfeirio adnoddu i ffwrdd o'i rhaglen ddeddfwriaethol ei hunan, ac roedd hefyd yn ddiffygiol ac yn anymarferol.

Eitem 4: Blaenoriaethau'r Cabinet

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet flaenoriaethu'r gwaith ymgysylltu y byddai angen ei wneud i nodi a chefnogi blaenoriaethau'r Llywodraeth.

4.2 Wedi degawd o gyni, roedd y Prif Weinidog yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio ar gyfres o flaenoriaethau craidd os yw'r Llywodraeth am lwyddo i gyflawni'r newidiadau cadarnhaol a blaengar yr ydym yn awyddus i'w gweld.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ebrill 2024