Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaethau Cyllidebu
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
  • Matt Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • Dianne Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 27 Mai, 3 Mehefin a 7 Mehefin.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Rhoddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wybod i’r Cabinet fod yr amser pleidleisio yn y Cyfarfodydd Llawn wedi ei drefnu’r wythnos honno i ddigwydd rywbryd tua 6:35pm ddydd Mawrth a 6:30pm ddydd Mercher. Roedd un Cwestiwn Amserol wedi cael ei gyflwyno hyd yn hyn, sef ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd.

Eitem 3: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021 i 2022

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynnwys arfaethedig Cyllideb Atodol Gyntaf 2021 i 2022.

3.2 Y gyllideb hon oedd y cyfle cyntaf i ystyried y newidiadau ers Cyllideb Derfynol 2021-22, a gafodd ei chyhoeddi ym mis Mawrth. Er bod yr ymateb i’r pandemig wedi golygu bod angen tair cyllideb atodol yn ystod y flwyddyn flaenorol, byddem yn dychwelyd at y drefn o gael dwy yn y flwyddyn ariannol bresennol, sef y drefn arferol.

3.3 Roedd natur ffocws y Gyllideb yn dechnegol yn bennaf. Roedd yn adlewyrchu’r angen i ailstrwythuro’r Prif Grwpiau Gwariant i gyd-fynd â strwythur portffolios y Cabinet newydd a gyhoeddwyd ar ôl yr etholiad, gan amlinellu’r newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i Brif Amcangyfrifon y DU. Hefyd roedd nifer o ddyraniadau o gronfeydd wrth gefn, a oedd wedi cael eu cyhoeddi’n flaenorol er mwyn parhau ag ymateb y Llywodraeth i COVID-19, wedi cael eu hunioni. 

3.4 Byddai bron i £1.5bn yn cael ei ychwanegu at gyllideb Cymru, yn bennaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol a oedd wedi codi o gynlluniau gwariant y DU a gyhoeddwyd yng Nghyllideb mis Mawrth y DU a’r Prif Amcangyfrifon. Roedd hyn yn cynnwys dyraniadau o dros £700m i Brif Grwpiau Gwariant, gyda £627m yn ymwneud â dyraniadau o’r gronfa ymateb i COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys: £429m i bortffolio’r Economi ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau, y Gronfa Cadernid Economaidd, a’r Gronfa Ddiwylliant; £100m i’r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer adfer y sector Iechyd; a £98m i’r portffolio Addysg a’r Gymraeg ar gyfer cymorth dal i fyny i ysgolion ac Addysg Bellach, y cynnig plant a phobl ifanc, ac addysg awyr agored.

3.5 Byddai £100m arall yn cael ei neilltuo ar gyfer mesurau nad oeddent yn ymwneud â COVID-19, megis y Gyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol, maes awyr Caerdydd, a dyraniadau a oedd yn ymwneud â throsglwyddiadau o Lywodraeth y DU.

3.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Item 4: Materion cyfansoddiadol, datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn gwahodd Aelodau’r Cabinet i ystyried nifer o faterion a oedd yn ymwneud â’r cyfansoddiad, datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol.

4.2 Gan fod Llywodraeth y DU yn llywodraeth ymosodol ac unochrog a oedd yn dangos gelyniaeth amlwg tuag at ddatganoli, roedd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu’n glir ei chefnogaeth tuag at ddiwygio’r Deyrnas Unedig, ynghyd â’i gweledigaeth gadarnhaol o ran sut y gellid gwneud hynny.

4.3 Roedd yn ymddangos bod Gweinidogion y DU yn benderfynol o danseilio ac ymyleiddio rôl y ddwy Lywodraeth ddatganoledig a’u deddfwrfeydd, gan roi ar waith swyddogaethau yn Llywodraeth y DU sydd â’r nod o herio, dyblygu, a chystadlu â pholisïau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol mewn rhai meysydd penodol lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Roedd hyn yn erbyn cefndir o ymdrin â chanlyniadau Brexit, y galw am ail refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, a’r sefyllfa wleidyddol fregus yng Ngogledd Iwerddon.

4.4 Cynigiwyd y dylid diweddaru’r ddogfen ‘Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU’, a’i chyhoeddi. Byddai hyn yn ail gyhoeddiad yn hytrach na fersiwn sydd wedi ei hailysgrifennu, a byddai’n disgrifio dyfodol cadarnhaol i’r DU a sut y gellid diwygio’r Undeb, ynghyd â’r rhesymau pam y mae’n rhaid gwneud hynny, er mwyn adlewyrchu realiti datganoli sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn o fewn y cyfansoddiad cyffredinol.

4.5 Ochr yn ochr â hyn, cyn gwyliau’r haf, byddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol. Byddai’r comisiwn hwn yn ymgysylltu’n helaeth â chymunedau ac ar draws y gymdeithas ddinesig, gan wneud hynny mewn modd cynhwysol, er mwyn ceisio adeiladu consensws ar ddiwygio’r cyfansoddiad a’r trefniadau datganoli mewn modd a fyddai’n dod â’r budd mwyaf i fywydau pobl Cymru.

4.6 Hefyd, ac i ymateb i’r ymrwymiad yn y maniffesto i weithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gofynnwyd i’r Gweinidogion gymeradwyo parhad Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder.

4.7 Croesawodd y Cabinet y papur, a chytunwyd ei bod yn bwysig datblygu consensws eang i ddull gweithredu arfaethedig y Llywodraeth, gan sicrhau bod ymgysylltu helaeth yn digwydd o fewn y gymdeithas ddinesig yn ehangach, sy’n cynnwys grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ac Undebau Llafur.

4.8 Cytunodd y Cabinet â’r argymhellion yn y papur.