Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Allanol

  • Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (eitem 1)
  • Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (eitem 1)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol   
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Ruth Meadows, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau
  • John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
  • Michelle Delafield, Uwch-reolwr Cyflawni, Ymaddasu i Newid Hinsawdd

Eitem 1: Wcráin

1.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod y Llywodraeth wedi bod yn cydweithio â phartneriaid i baratoi ar gyfer croesawu ffoaduriaid o Wcráin i Gymru. Oherwydd hynny, roedd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cael eu gwahodd i fod yn bresennol yn rhan gyntaf cyfarfod y Cabinet.

1.2 Yn ogystal â’r £4m a roddwyd i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, roedd Llywodraeth Cymru wedi anfon y llwyth cyntaf o gyflenwadau meddygol i Wcráin, ac roedd disgwyl y byddai rhagor yn cael eu hanfon yn y dyddiau nesaf.

1.3 Yn ystod y dyddiau diwethaf, cynhaliwyd trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch ei Chynllun Noddi Dyngarol. Roedd Gweinidogion y DU yn rhagweld y byddai dau lwybr y gellid eu dilyn i baru ffoaduriaid â chynigion llety. Y cam cyntaf fyddai cynigion unigol, lle y byddai’n bosibl y gallai’r paru ddigwydd â theuluoedd noddi drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl i ffoaduriaid gael eu paru â noddwyr byddai angen iddynt wneud eu ffordd eu hunain i’r DU a chwblhau’r gwiriadau adnabod biometreg wrth gyrraedd.

1.4 Byddai’r ail gam yn paru grwpiau o ffoaduriaid â lleoedd a gynigir gan noddwyr unigol. Roedd y Prif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu i Lywodraeth y DU yn cynnig y dylai’r ddwy Lywodraeth allu gweithredu fel uwch-noddwyr gan gymryd cyfrifoldeb dros garfannau o ffoaduriaid o fewn eu gwledydd.

1.5 Roedd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl i ddechrau yng ngham cyntaf y cynllun, yn seiliedig ar brofiad y rhaglenni adsefydlu llwyddiannus ar gyfer ffoaduriaid o Affganistan a Syria, ond roedd Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn ac i dderbyn gyfran gymesur o’r ffoaduriaid o Wcráin sy’n penderfynu dod i’r DU.

1.6 Byddai’r gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU yn parhau o ran datblygu’r cynllun er mwyn sicrhau bod Cymru yn barod i dderbyn ffoaduriaid o’r penwythnos ymlaen, pan fyddai’r fisas cyntaf, a’r paru a oedd wedi digwydd o dan y cynllun newydd, yn barod.

1.7 Yn y cyfamser, roedd y Gweinidogion yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol, CLlIC, CGGC, a phartneriaid eraill i baratoi ar gyfer croesawu ffoaduriaid i Gymru.

1.8 Dywedwyd bod swyddogion yn cynnal trafodaethau â Thrysorlys y DU i weld faint o gyllid ychwanegol a fyddai ar gael, ac a fyddai’r cyllid hwnnw’n gyfran Barnett neu wedi ei ddyrannu at ddiben penodol.

1.9 Dywedodd y Cyng. Morgan wrth y Cabinet bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu mwy o eglurder o ran y llwybrau mynediad, yr amserlenni ar gyfer cyrraedd, a niferoedd y ffoaduriaid er mwyn osgoi’r posibilrwydd y gallai rhai ardaloedd gael eu gorlethu. Roedd yn bwysig sicrhau bod y canolfannau derbyn arfaethedig yn cael eu gwasgaru mewn modd teg ar draws Cymru.

1.10 Dywedodd Prif Weithredwr CGGC fod Cynghorau Gwirfoddol Sirol ar gael i weithio gyda chanolfannau derbyn i roi cyngor a chymorth, ac i sefydlu fframwaith cymorth brys.

1.11 Cofnododd y Prif Weinidog ei ddiolch i swyddogion a phartneriaid am eu gwaith dros y penwythnos i ymateb i gynlluniau Llywodraeth y DU, a datblygu cymorth i’w ddarparu i ffoaduriaid yng Nghymru.

Eitem 2: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

2.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 7 Mawrth.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod pleidlais wedi ei threfnu ar gyfer 6:50pm dydd Mawrth, a thua 6:25pm dydd Mercher.