Cyfarfod y Cabinet: 13 Ionawr 2022
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 13 Ionawr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Vaughan Gething AS
- Jeremy Miles AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
- Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
- Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni’r GIG
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer
- Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn
- Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr COVID-19
- Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr
- Terry Kowal, Uwch-gwnsler Deddfwriaethol
- Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
- Chris Roberts, Pennaeth Gwyddorau Ymddygiadol (Iechyd COVID-19)
Eitem 1: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) – 13 Ionawr 2022
1.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur a oedd yn nodi rhai o’r meysydd y gallai’r adolygiad ffurfiol nesaf o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) eu hystyried. Gofynnwyd hefyd i’r Gweinidogion gynghori ynghylch a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau yn syth.
1.2 Atgoffwyd y Cabinet mai diben y cyfyngiadau sy’n ymwneud â COVID-19 yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws oedd atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.
1.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i roi trosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd.
1.4 Roedd y sefyllfa wedi newid yn gyflym yn ystod y 48 awr diwethaf lle gwelwyd gostyngiad yn y nifer o achosion a oedd yn cael eu cofnodi. Gellid esbonio hyn efallai yn sgil newidiadau i’r drefn brofi ac ymddygiad pobl dros gyfnod y Nadolig. Fodd bynnag, yn sgil y gostyngiad sylweddol, roedd gobaith bod y trywydd presennol bellach yn gostwng.
1.5 Roedd derbyniadau i’r ysbyty oherwydd COVID-19 yn gostwng, gyda 58% o heintiadau bellach yn cael eu canfod fel salwch sy’n cyd-ddigwydd â salwch arall. Roedd nifer y bobl yn yr Unedau Gofal Dwys hefyd yn gostwng. Ymhellach i hynny, ymddengys bod cyfradd y niwed a achosir gan Omicron yn llai difrifol i’r rhai hynny a oedd wedi’u brechu.
1.6 At hynny, roedd crynodeb o ddadansoddiadau dŵr gwastraff yn awgrymu bod cyfraddau heintio yn gwastatáu. Roedd data o’r arolwg COVID-19 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod achosion wedi parhau i gynyddu yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, ond ar gyfradd lawer arafach, gyda’r amcangyfrif bod 5.56% wedi’u heintio. Roedd hyn yn cyfateb i oddeutu un o bob ugain o’r boblogaeth. Yn ogystal, roedd cyfradd yr haint ar draws gweddill y DU yn sefydlogi.
1.7 Roedd y papur yn crynhoi’r disgwyliad bod brig y don Omicron, yn nhermau achosion, naill ai wedi’i gyrraedd eisoes, neu ar fin ei gyrraedd yn fuan iawn. Ategwyd y farn hon gan dystiolaeth newydd gan y Gell Cyngor Technegol, gan awgrymu bod y risg o drosglwyddo’r haint allan yn yr awyr agored yn is hyd yn oed nag oedd wedi’i hystyried yn flaenorol. Gyda’i gilydd, awgrymai hyn y gallai fod lle i ddechrau llacio’r amddiffyniadau a dychwelyd at fesurau sylfaenol Lefel Rhybudd Sero, neu o leiaf ddatgan y bwriad i wneud hynny.
1.8 O ganlyniad i hynny, cynigiwyd dull fesul cam o godi’r amddiffyniadau, ar yr amod bod yn rhaid i sefyllfa iechyd y cyhoedd fod yn ffafriol ar y pryd.
1.9 O ddydd Gwener 21 Ionawr, gellid dileu’r cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n gallu cwrdd yn yr awyr agored, a’r gofynion cadw pellter cymdeithasol perthnasol. Byddai lletygarwch yn yr awyr agored yn gallu gweithredu heb y mesurau rhesymol ychwanegol hefyd, ond byddai’r mesurau hyn yn parhau o dan do. Yn ogystal, byddai lletygarwch mewn digwyddiadau yn caniatáu i fwyd a diod gael eu cymryd allan i’r awyr agored.
1.10 Ddydd Gwener 28 Ionawr, byddai sefyllfa o ddychwelyd at fesurau sylfaenol Rhybudd Lefel Sero, gan gynnwys dileu’r gofynion cyfreithiol ar unigolion a chyflogwyr i weithio o gartref. Byddai hyn yn cael ei ddisodli gan ganllawiau sy’n argymell y dylai’r amddiffyniad hwn barhau. Byddai’r mesurau rhesymol ychwanegol yn cael eu dileu, gan gynnwys y gofyniad 2m, gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt mewn mangreoedd trwyddedig. Gallai clybiau nos ailagor, ond byddai’r defnydd o’r Pàs COVID-19 er mwyn cael mynediad i glybiau nos, digwyddiadau, sinemâu a theatrau yn parhau.
1.11 Byddai’r adolygiad o’r Rheoliadau bob tair wythnos yn dychwelyd o 10 Chwefror.
1.12 Ystyriodd y Cabinet a oedd yn rhy gynnar i godi’r amddiffyniadau. Yn sgil yr angen i gydbwyso’r holl niweidiau ac i’r cyfyngiadau fod yn gymesur, cytunwyd y dylid symud i godi amddiffyniadau yn unol â’r cynigion ym mharagraffau 38 a 39 o’r papur, os bydd yr amodau yn ffafriol yn yr adolygiadau wythnosol. Byddai’n bwysig i’r cyhoedd ddeall y cyfaddawdau fyddai’n cael eu gwneud, yn ogystal ag effaith barhaus y feirws ar wasanaethau cyhoeddus.
1.13 Nodwyd y byddai’r amddiffyniadau sy’n llywodraethu’r Sector Addysg yn ddarostyngedig i ganllawiau ar wahân. Byddai’n hanfodol parhau â dysgu wyneb yn wyneb lle bynnag y bo modd.
1.14 Yn nhermau’r cynnig i ganiatáu digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys hyd at 500 o bobl, yn ogystal â 500 o wylwyr o ddydd Sadwrn 15 Ionawr, nodwyd y byddai angen i’r Prif Weinidog ystyried yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a oedd hynny yn briodol ar y pryd, neu a ddylid codi’r cyfyngiad o ddydd Llun 17 Ionawr, neu yn rhan o’r newidiadau a gynigiwyd ar gyfer dydd Gwener 21 Ionawr.
1.15 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion fwrw ymlaen â’r penderfyniadau a wnaethpwyd gan Weinidogion a chyfarwyddo’r cyfreithwyr yn unol â hynny.