Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS  
  • Vaughan Gething AS (eitemau 1-3)
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS

  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS (eitemau 1-2)

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS 

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig    
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol. Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg 
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol 
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Iechyd Cyffredinol a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol 
  • Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau (eitem 2)
  • Abi Phillips, Pennaeth Arloesedd (eitem 2)
  • Steffan Bryn, Ymgynghorydd Arbennig (eitem 2)
  • Rhian Griffiths, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 2)
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 3)
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 3)
  • Vivienne Lewis, Pennaeth Cyflawni’r Gyllideb (eitem 3)
  • Stephen Thomas, Pennaeth Iechyd Rhywiol a Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (eitem 4)
  • Marion Lyons, Cynghorydd, Diogelu Iechyd (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 6 Chwefror.

Eitem 2: Y Strategaeth Arloesi

2.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo'r Strategaeth Arloesi newydd i Gymru a chymeradwyo'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu. 

2.2 Roedd y Strategaeth yn defnyddio dull integredig a thrawslywodraethol, ac yn amlinellu gweledigaeth ynghylch sut y gall arloesi gefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ar draws yr holl bortffolios.  Roedd yr adrannau’n ymwybodol o'r dasg oedd o'u blaenau ac roeddent wedi ymrwymo i barhau i gydweithio ar y Cynllun Gweithredu.

2.3 Roedd y Strategaeth wedi’i llunio yn dilyn ymgynghori helaeth ar draws y Llywodraeth. Roedd wedi'i datblygu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd ac roedd yn cyd-fynd â'r Cytundeb Cydweithio, gydag arweinydd Plaid Cymru yn mynychu un o'r digwyddiadau bord gron.

2.4 Roedd iddi bedair thema genhadol: yr Economi, Addysg, Iechyd a Llesiant, ac roedd pwyslais drwyddi draw ar gydraddoldeb, diwylliant o arloesi, cydweithio ac effaith. Y nod fyddai cefnogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn arloesedd, ac i elwa ar ei effeithiau, waeth beth yw eu demograffeg neu ble maen nhw'n byw yng Nghymru.

2.5 O ystyried bod llawer o'r cyllid ar gyfer arloesi wedi tarddu o Gronfeydd Strwythurol yr UE, roedd yn hanfodol bod y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar gronfeydd y DU ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau o fewn Adrannau.   Byddai cyllid y DU yn gystadleuol, ac ni fyddai'n seiliedig ar anghenion.  Dim ond rhan fechan o'r ecosystem arloesi yng Nghymru oedd y Llywodraeth ac roedd hi'n bwysig bod pob ymdrech yn cael ei chydlynu.  O'r herwydd byddai angen i Lywodraeth Cymru fod yn gynullydd mewn ymdrech gydweithredol.

2.6 Byddai Cynllun Gweithredu yn cael ei ddatblygu, gan nodi nifer bach o nodau ym mhob maes cenhadaeth. Byddai hwn yn cael ei gyflwyno gyda phartneriaid, gyda cherrig milltir a mesurau tymor byr, canolig a hirdymor.  Byddai angen ymateb i dirwedd wleidyddol ac economaidd sy'n newid, er mwyn nodi cyfleoedd gwahanol a gwell.  Byddai’r cynnydd yn cael ei werthuso ym mlynyddoedd un, tri a phump i benderfynu ar effaith y Strategaeth. 

2.7 Croesawodd y Cabinet y Strategaeth a'r ffaith fod yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb oedd yn cyd-fynd ag ef yn cyfeirio at gydraddoldeb fel thema allweddol.  Roedd ynddi’r weledigaeth i sicrhau mynediad teg at y cymorth oedd ar gael i arloesi, ac roedd y gallu yno hefyd i ddylanwadu ar arloesedd a theimlo’r manteision.

2.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r Strategaeth yn cael ei lansio ar 27 Chwefror.

Eitem 3: Pecyn Cyllideb Derfynol 2023-24

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo pecyn Cyllideb Derfynol 2023-24.

3.2 Ychydig iawn o newidiadau oedd rhwng y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr a'r Gyllideb Derfynol, gan na chododd cyfnod craffu'r Senedd unrhyw ddadleuon sylweddol dros newid y cynigion buddsoddi gwreiddiol.  Roedd Aelodau'r Senedd wedi amlinellu nifer o feysydd ychwanegol i'w hariannu, ac wedi mynegi pryder am feysydd lle’r oedd cyllid wedi'i leihau neu ymrwymiadau wedi'u cwtogi.  Nid oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i ddyrannu cyllid ychwanegol o ystyried diffyg adnoddau. 

3.3 Roedd y newidiadau'n ymwneud â rhai mân ddiwygiadau gweinyddol a chyfrifyddol, gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng Prif Grwpiau Gwariant.

3.4 Fel y cytunwyd eisoes, ni fyddai unrhyw newidiadau i Gyfraddau Treth Incwm Cymru y tu hwnt i'r rhai a amlinellwyd yn y Gyllideb Ddrafft, er gwaethaf y pwysau o rai cyfeiriadau.

3.5 Croesawodd y Cabinet y papur a chofnododd ei ddiolch i bawb a fu'n rhan o gwblhau'r Gyllideb yn yr hyn a fu'n setliad tu hwnt o anodd.

3.6 Adroddwyd bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi parhau i ymwneud â Phlaid Cymru o dan delerau'r Cytundeb Cydweithio ac y byddai'n cyfarfod â Sian Gwenllian, yr Aelod Dynodedig, eto yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw i drafod blaenoriaethau Plaid Cymru o ran y gyllideb.  Byddai'r Cabinet yn cael gwybod am ganlyniad y trafodaethau parhaus.   

3.7 Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion yn y papur.

Eitem 4: Cynllun Gweithredu HIV ar gyfer Cymru CAB(22-23)48

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar Gynllun Gweithredu HIV i Gymru.  Roedd hwn yn helpu i gyflawni'r rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV.

4.2 Roedd y cynllun hwn wedi'i ddatblygu ar y cyd gan weithgor Cynllun Gweithredu HIV, dan gadeiryddiaeth Dr Marion Lyons, Uwch Swyddog Meddygol yn Llywodraeth Cymru.  Roedd y grŵp yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys rhai o'r sector cymunedol a gwirfoddol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion ac, yn bwysig, y rhai sy'n byw gyda HIV.

4.3 Roedd y cynllun drafft, a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin 2022, wedi bod yn destun cyfnod ymgynghori o 12 wythnos i sicrhau bod yr holl randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd, yn cael cyfle i ddylanwadu ar ei ddatblygiad.

4.4 Roedd y cynllun wedi cael derbyniad da, gyda'r mwyafrif llethol o'r 55 ymateb yn gefnogol i'r camau arfaethedig. Fodd bynnag, tynnodd yr ymatebion sylw at rai bylchau a meysydd i'w gwella. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, roedd y cynllun wedi ei ddiwygio i gynnwys pedwar cam gweithredu ychwanegol, ac fe gryfhawyd adrannau yn y cynllun i adlewyrchu'r adborth.

4.5 Roedd swyddogion iechyd wedi gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr yn y Gangen Cydraddoldeb a’r Gyfarwyddiaeth Addysg, a oedd yn aelodau allweddol o'r gweithgor.

4.6 Roedd y cynllun terfynol yn cynnwys pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, sef atal; profi; gofal clinigol; byw'n dda gyda HIV; a mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

4.7 Mewn ymateb i randdeiliaid, roedd y cynllun terfynol bellach yn cynnwys 30 o gamau uchelgeisiol, ond cyraeddadwy, i'w gweithredu erbyn 2026, a fyddai'n gwneud llawer i helpu Cymru i gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddim heintiau HIV newydd erbyn 2030 ac, yn hollbwysig, i arddel agwedd o ddim goddefgarwch tuag at stigma sy'n gysylltiedig â HIV.  Byddai hyn yn cael ei ategu gan ddull gweithredu’r Llywodraeth: y cyntaf yn y DU i gynnig proffylacsis cyn-gysylltiad i bob unigolyn yr oedd yn glinigol briodol ar eu cyfer.

4.8 Byddai'r Cynllun yn cael ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mawrth a byddai'n cynnwys manylion pecyn o dros £600,000 o gyllid newydd ar gyfer camau allweddol, megis sefydlu Llwybr Carlam Cymru, a fyddai'n darparu capasiti a ffocws strategol ar gyfer rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

4.9 Byddai Grŵp Goruchwylio Gweithredu yn cael ei sefydlu, a fyddai â chyfrifoldeb dros sicrhau bod y camau'n cael eu cyflawni.  Yn ogystal, byddai llif gwaith yn cael eu sefydlu ar gyfer nifer o'r camau allweddol i sicrhau bod yr ymrwymiad a'r momentwm a grëir drwy ddatblygu'r cynllun, yn parhau. Byddai mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV a mabwysiadu dull dim goddefgarwch tuag ato, yn thema drawsbynciol ar draws y llifoedd gwaith.

4.10 Croesawodd y Cabinet y papur a'r cysylltiadau uniongyrchol â'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a oedd yn ceisio goresgyn rhwystrau i bobl rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol.

4.11 Roedd yn bwysig gweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo'r Cynllun Gweithredu HIV a datblygu cyfathrebu i helpu i leihau stigma, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw’r rhai sy'n byw gyda HIV, ac sy'n derbyn triniaeth effeithiol, yn peri unrhyw risg i eraill a’u bod yn gallu byw bywydau hir ac iach.

4.12 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Busnes y Senedd

5.1 Ystyriodd y Cabinet y grid Cyfarfod Llawn a nododd y byddai’r amser pleidleisio tua 6pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.