Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr Trefniadau Pontio, Cyfansoddiad a Chyfiawnder Ewropeaidd
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
  • Dianne Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • John Howells, Cyfarwyddwr Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
  • Christine Wheeler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Datgarboneiddio ac Ynni

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 4 Hydref.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymddeoliad yr Ysgrifennydd Parhaol

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y ffaith bod yr Ysgrifennydd Parhaol yn mynychu ei chyfarfod Cabinet olaf a chofnododd ei ddiolch i Shan am y gwaith yr oedd wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd yr Ysgrifennydd Parhaol wedi rhoi arweiniad i'r Gwasanaeth Sifil yn ystod cyfnod eithriadol o lywodraethu. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio ei gwybodaeth a'i sgiliau diplomataidd yn ystod Brexit a rheoli ymateb y sefydliad i COVID-19, lle'r oedd y gwasanaeth sifil, ymhlith pethau eraill, wedi trosglwyddo'n ddi-dor i fodel gweithio’n rhithiol dros nos.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wrth y Cabinet bod disgwyl i’r amser pleidleisio fod am 7:10pm ddydd Mawrth a thua 5.35pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Dull Strategol o ymdrin â Biliau'r DU

4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar ddull strategol o reoli Biliau'r DU.

4.2 Cydnabuwyd y byddai Biliau'r DU, o'u datblygu ar y cyd â Gweinidogion Cymru, yn helpu i gyflawni ymrwymiadau o fewn y Rhaglen Lywodraethu a chyfrifoldebau statudol. Felly, roedd mynd ar drywydd gweithredu Confensiwn Sewel yn effeithiol yn rhan allweddol o uchelgais y Llywodraeth ar gyfer Deyrnas Unedig lwyddiannus yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol.

4.3 Fodd bynnag, roedd nifer fawr o Filiau'r DU yn y rhaglen bresennol a oedd yn effeithio ar y setliad datganoli. Roedd Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i Gonfensiwn Sewel, ond roedd enghreifftiau diweddar wedi dangos nad oedd hyn yn wir.

4.4 Mynegodd y Cabinet bryder bod Llywodraeth y DU yn parhau i geisio pwerau cydredol a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar Gonfensiwn Sewel.

4.5 Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion yn y papur.

Eitem 5: Cymru Sero Net

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gymeradwyo'r cynllun lleihau allyriadau i gyflawni'r 'Gyllideb Garbon 2’.

5.2 Yn dilyn y datganiad ar argyfwng hinsawdd, pennodd y Llywodraeth ei hail Gyllideb Garbon, i gwmpasu 2021 i 2025, ar gyfartaledd o ostyngiad o 37% yn erbyn y llinell sylfaen. Roedd y Gyllideb Garbon nesaf, o 2026 i 2030, wedi'i phennu ar gyfartaledd o ostyngiad o 58%. Byddai'r cyllidebau hyn, ochr yn ochr â'r targed degawdol nesaf o ostyngiad o 63% yn 2030, yn bodloni'r ymrwymiad statudol newydd i Gymru fod yn sero net yn 2050. O ystyried y newid sylweddol, byddai angen perfformio'n well na Chyllideb Garbon 2 er mwyn cyrraedd targedau diweddarach.

5.3 Cydnabuwyd nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr holl bwerau mewn perthynas â gweithgarwch penodol o fewn y cynllun a bod cyflawni yn dibynnu ar y strategaeth Sero Net a ragwelwyd gan Lywodraeth y DU yn cyflawni ar gyfer Cymru.

5.4 Roedd Cymru wedi cyflawni llawer iawn, yn enwedig o ran gweithredu ar ailgylchu ac ôl-osod tai cymdeithasol, ond roedd angen gwneud llawer mwy, a fyddai'n cael ei adlewyrchu mewn cynlluniau gweithredu.

5.5 Anogwyd Gweinidogion i ymgysylltu â gweithgareddau amrywiol sy'n gysylltiedig â'r Gynhadledd arfaethedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) i helpu i hyrwyddo'r angen i bawb yng Nghymru weithredu ymhellach.

5.6 Croesawyd y papur gan Weinidogion.

5.7 Cymeradwyodd y Cabinet y cynllun lleihau allyriadau ar gyfer y Gyllideb Garbon 2.