Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Dawn Bowden AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet  (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Rob Orford, Prif Swyddog Gwyddonol – Iechyd
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr y Rhaglen Gyflawni ar gyfer y GIG
  • Brendan Collins, Pennaeth Economeg Iechyd
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau
  • Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Ffion Thomas, Argyfyngau Sifil Posibl a Diogelwch Cenedlaethol

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 20 a 21 Rhagfyr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Bu’r Cabinet yn ystyried cynnwys grid y Cyfarfodydd llawn, gan nodi y byddai sesiynau’r wythnos honno’n cael eu cynnal yn rhithiol. Roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:30pm ddydd Llun a dydd Mercher.

Eitem 3: Ymateb y Llywodraeth i COVID-19

3.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y swyddogion iechyd i roi trosolwg o sefyllfa iechyd y cyhoedd.

3.2 Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol wrth y Cabinet fod y sefyllfa yng Nghymru yn parhau’n anodd, gyda throsglwyddiad sylweddol o’r feirws yn digwydd yn y gymuned. Roedd y cyfartaledd saith diwrnod wedi gostwng i lefel o dan 2,000 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, i lawr o 2,300 yr wythnos flaenorol, ac roedd nifer yr achosion ymysg pobl dros 60 oed hefyd wedi gostwng.

3.3 Fodd bynnag, roedd yn rhy gynnar i ddweud a oedd trywydd yr achosion wedi troi a dechrau symud ar i lawr, ac roedd yn bwysig cydnabod y byddai’r newidiadau i’r system brofi yn effeithio ar nifer yr achosion. Ar ben hynny, roedd yn debygol y byddai’r ffaith bod plant yn dychwelyd i’r ysgol, a bod gofyn i fwy o bobl fynychu lleoliadau gwaith, yn cael effaith ar y cyfraddau heintio.

3.4 Y disgwyl oedd y byddai’r pwysau ar wasanaethau’r GIG yn parhau drwy gydol mis Ionawr.

3.5 Dywedodd y Prif Swyddog Gwyddonol Iechyd bod rhywfaint o ansicrwydd yn parhau o ran pryd y byddai’r don bresennol yn cyrraedd ei brig, ond roedd y modelu yn awgrymu y byddai nifer yr achosion yn codi i rhwng 12,000 ac 18,000 y dydd cyn iddo ddechrau gostwng. Roedd lefel y derbyniadau i’r ysbyty’n cadw’n agos at lwybr y senario y cynlluniwyd ar ei gyfer, ond roedd y symptomau’n llai difrifol i’r rheini a oedd wedi cael eu brechu.

3.6 Nid oedd y cyfraddau ar gyfer cleifion mewn gwelyau Unedau Gofal Dwys mor uchel ag yr oeddent yn Lloegr, a oedd yn awgrymu bod mesurau lefel rhybudd dau yn cael yr effaith a fwriedid.

3.7 Dywedodd Prif Weithredwr y GIG wrth y Cabinet bod 500 yn rhagor o bobl mewn gwelyau ysbyty o’i gymharu â’r un pryd y flwyddyn flaenorol. Allan o’r 8546 o gleifion, roedd 1,030 yn gysylltiedig â COVID-19, gyda 786 o achosion wedi cael eu cadarnhau. Roedd hyn yn gynnydd o 40% ar yr wythnos flaenorol. Roedd gofal critigol o fewn y capasiti cynnydd sydyn. O’r 170 o gleifion mewn gwelyau Uned Gofal Dwys, dim ond 42 o achosion a oedd yn gysylltiedig â’r coronafeirws.

3.8 Problem fwy critigol i’r GIG oedd absenoldebau staff oherwydd salwch a gofynion hunanynysu, a oedd rhwng 8% -15%, a’r absenoldebau’n effeithio waethaf ar staff nyrsio a bydwreigiaeth. Roedd disgwyl i nifer yr absenoldebau gynyddu. Felly, roedd rhai penodiadau a thriniaethau wedi cael eu gohirio, ac roedd staff yn cael eu trosglwyddo i weithio mewn gwasanaethau brys ac argyfwng.