Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol:

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd) 
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS 
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS 
  • Julie James AS 
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Mick Antoniw AS 
     
  • Dawn Bowden AS 
  • Jayne Bryant AS 
  • Sarah Murphy AS 

Swyddogion

  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog 
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet 
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat, Prif Weinidog Cymru
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol 
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet 
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig 
  • David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig 
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Darren Griffiths, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig 
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig   
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Owen Jones, Cynghorydd Arbennig 
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig 
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion) 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol 
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol   
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Y diweddaraf ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 

2.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

2.2 Roedd y rhaglen newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y SFS wedi cychwyn, yn unol â'r datganiad llafar ar 14 Mai.  Yn ogystal, roedd swyddogion bellach wedi cwblhau'r dadansoddiad o'r ymgynghoriad a'r nod oedd ei gyhoeddi ynghyd ag ymateb y Llywodraeth yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Gorffennaf.

Tata Steel 

2.3 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet ei fod ef ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y cyd, yr wythnos flaenorol, mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Tata Steel ei fod yn bwriadu cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot cyn y gweithredu diwydiannol a gynlluniwyd gan Unite.

2.4 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Cabinet ei fod wedi cyfarfod â Phrif Weithredwr Tata Steel UK ddydd Iau i drafod y pryderon am ddiogelwch.  Ers hynny, roedd cyfres o drafodaethau wedi bod i osgoi gorfod cau yn gynnar; o ganlyniad, cynigiodd Tata Steel drafod buddsoddiad yn y dyfodol ochr yn ochr â thelerau diswyddo ac fe ganslodd Unite y gweithredu diwydiannol arfaethedig yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Gweithredu diwydiannol gan y BMA

2.5 Nododd y Cabinet fod tair cangen ymarfer y BMA, sef meddygon iau, meddygon SAS ac ymgynghorwyr, wedi derbyn cynnig cyflog diwygiedig y Llywodraeth ar gyfer 2023-24 yr wythnos flaenorol.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet y Grid Cyfarfod Llawn gan nodi y byddai'r amser pleidleisio rheolaidd tua 4:50pm ddydd Mawrth, ac y byddai Cyfnod 3 o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn dilyn hynny, gyda phleidleisio drwy gydol yr amser. Trefnwyd cynnal y bleidlais am 6:40pm ddydd Mercher. 

Eitem 4: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a wahoddodd y Cabinet i gytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2023-2024. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd adolygu'r amcanion llesiant.

4.2 Hwn oedd trydydd adroddiad blynyddol y Senedd bresennol ac roedd yn cyflawni dyletswydd statudol y Llywodraeth o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

4.3 Er gwaethaf yr heriau ariannol roedd y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd. Ymhlith y cyflawniadau: roedd 140,000 o gleifion newydd wedi cael gofal deintyddol y GIG; roedd 6,900 o leoedd Dechrau'n Deg ychwanegol wedi'u darparu, gyda mwy i ddilyn; ac roedd 17,500 o bobl wedi cael cymorth gyda llety dros dro.  Yn ogystal, cyflwynwyd y Rheoliadau newydd ar gyfer Ailgylchu yn y Gweithle, gan adeiladu ar y cyflawniadau ym maes ailgylchu yn y cartref. 

4.4 Cydnabuwyd mai dyma'r flwyddyn gyntaf yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC) ar yr amcanion llesiant.

4.5 Croesawodd y Cabinet y papur a diolchodd i bawb a fu'n rhan o baratoi'r Adroddiad Blynyddol. 

4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar 9 Gorffennaf a'i drafod yn y Senedd yr wythnos ganlynol.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2024