Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion presennol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – mynd i'r afael â'r heriau.

[Ddim papurau - trafodaeth ford gron gyda dogfennau cyfeirio yn cael eu darparu]

3. Diweddariad ar waith y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg

[Papur Eitem 3]

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

[Papur Eitem 4]

5. Unrhyw Fater Arall

Yn bresennol

  • PYr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Gareth Lynn
  • Meena Upadhyaya
  • Aled Edwards
  • Judith Paget
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Jo-Anne Daniels
  • Tracey Burke
  • Amelia John
  • Gawain Evans
  • Peter Kennedy
  • Zakhyia Begum
  • David Richards
  • Des Clifford

Yn mynychu

  • Yr Athro Emmanuel Ogbonna
  • Usha Ladwa-Thomas
  • Riaz Hassan
  • Polina Cowley
  • Catrin Sully

Ymddiheuriadau

  • Helen Lentle
  • Andrew Slade
  • Carys Williams

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 28 Ebrill. Diolchodd y Cadeirydd i Zakhyia Begum am rannu nodiadau'r cyfarfod o'r Bwrdd Cysgodol a gynhaliwyd ar 26 Mehefin.

1.2 Llongyfarchodd y Cadeirydd Judith Paget ar ei phenodiad parhaol i rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

1.3 Rhoes y Cadeirydd y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd ar nifer o faterion cyfredol gan gynnwys negodiadau ar y cylch gwaith ar gyfer tâl, paratoadau ar gyfer Ymchwiliad Cyhoeddus COVID a gwaith ar baratoi cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru. Nododd y Cadeirydd hefyd fod trefniadau pontio ar waith ar gyfer rheoli'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru tra bo'r blaid yn ethol arweinydd newydd.

2. Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – mynd i'r afael â'r heriau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Emmanuel Ogbonna i'r cyfarfod a gwahoddodd yr Athro i rannu ei feddyliau gyda'r Bwrdd ar yr heriau wrth gyflawni nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y Cynllun) a'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.

2.2 Dechreuodd yr Athro Ogbonna drwy nodi tri chwestiwn allweddol sy'n allweddol i ddileu hiliaeth yng Nghymru un ei farn ef. Yn gyntaf, sut i argyhoeddi pobl bod hiliaeth sefydliadol yn bodoli. Yn ail, sut i gael pobl i ymgysylltu â'r math o newid y mae ei angen i ddileu hiliaeth. Yn drydydd, sut i argyhoeddi'r rhai sydd mewn grym nad lliwddallineb yw'r ffordd o sicrhau tegwch, gan fod hyn yn golygu nad ydych chi'n gweld canlyniadau materion sy’n ymwneud â lliw.

2.3 Tynnodd Tim Moss sylw at mor bwysig ydyw i Lywodraeth Cymru ddadansoddi ei pholisïau trwy safbwynt gwrth-hiliol a chael mynediad at ddata wedi'i ddadgyfuno i gefnogi llunio polisïau. Fel cyflogwr pwysleisiodd Tim fod angen i Lywodraeth Cymru weld gwahaniaethau yn ei chanlyniadau recriwtio.

2.4 Nododd David Richards yr angen am ddealltwriaeth fwy sylfaenol o sut y mae hiliaeth sefydliadol yn gweithio.

2.5 Wrth fyfyrio ar ei phrofiadau personol ei hun, aeth Meena Upadhyaya i'r afael â phwysigrwydd monitro a mynd i'r afael â hiliaeth mewn mannau cyhoeddus a throsi data ar brofiadau bywyd yn gamau cadarnhaol.

2.6 Tynnodd Reg Kilpatrick sylw at y rôl sydd gan yr awdurdodau lleol fel cyflogwyr mawr ledled Cymru a darparwyr gwasanaethau wrth fynd i'r afael â hiliaeth.

2.7 Nododd Judith Paget mor fawr yw’r her a gofynnodd a oes angen cymryd mwy o gamau a/neu gamau gwahanol i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol.
Wrth fyfyrio ar y GIG yng Nghymru, nododd Judith waith sydd ar y gweill i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau a phwysleisiodd yr heriau wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd

2.8 Nododd Gareth Lynne yr ystadegau brawychus ar hiliaeth mewn cymdeithas a gofynnodd sut y gall Llywodraeth Cymru fel sefydliad fynd i'r afael â'r mater hwn.

2.9 Gwahoddodd y Cadeirydd yr Athro Ogbonna i ymateb i'r sylwadau a wnaed. Tynnodd yr Athro sylw at yr her o ran mynd i'r afael â hiliaeth mewn sefydliadau ac ardaloedd lle mae poblogaethau Du ac Ethnig Leiafrifol bach. Yn achos sefydliadau awgrymodd yr Athro Ogbonna y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwysau anuniongyrchol i orfodi sefydliadau i newid. Ychwanegodd yr Athro Ogbonna nad yw'r llywodraeth yn gallu newid agweddau personol ac y gall y rhain gymryd amser hir i newid. Yn hytrach, dylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar newid agweddau ar lefel sefydliadol.

2.10 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i roi safbwyntiau ar ran y Bwrdd Cysgodol. Nododd Zakhyia natur gymhleth y materion a bod y trawma a achosir gan hiliaeth yn gallu cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol y dylai hyfforddiant gwrth-hiliaeth fod yn orfodol i staff yn y sector cyhoeddus a chyrff sydd wedi'u hariannu. Wrth fyfyrio ar brofiadau ymhlith y gymuned anabledd, rhybuddiodd y Bwrdd Cysgodol yn erbyn peryglon gogoneddu rhai sydd wedi profi materion, a elwir yn 'porn ysbrydoliaeth', gan y gall hyn greu statws 'arall'.

2.11 Nododd Amelia John fod gan holl Uwch Weision Sifil Llywodraeth Cymru amcanion perfformiad bellach sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â hiliaeth.

2.12 Gwahoddodd y Cadeirydd Usha Ladwa-Thomas a Riaz Hassan i gyflwyno sylwadau. Cynghorodd Usha y Bwrdd i beidio â thanbrisio'r her o ran mynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru a gofynnodd i'r Bwrdd gadw mewn cof y cwestiynau allweddol y mae angen iddi eu gofyn o gofio ei rôl yn Llywodraeth Cymru. Dywedodd Riaz, er bod Cymru wlad fach yn ddaearyddol, fod ganddi ôl troed byd-eang mawr a'i bod yn darparu arweinyddiaeth ryngwladol wrth fynd i'r afael â hiliaeth. Tynnodd Riaz sylw at bwysigrwydd sicrhau bod llunio polisïau cymryd profiad bywyd i ystyriaeth.

2.13 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a gwahoddodd yr Athro Ogbonna i gyflwyno unrhyw sylwadau terfynol. Nododd yr Athro'r trawma sydd ynghlwm wrth ofyn i unigolion rannu eu profiadau o hiliaeth dro ar ôl tro, yn enwedig os nad yw rhannu yn arwain at weithredu cadarnhaol. Nododd yr Athro y gall trawma ddigwydd ar draws cenedlaethau a chael ei rannu ar draws cymunedau. Daeth yr athro i ben drwy nodi ei gyffro am y gwaith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru.

3. Diweddariad ar waith y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg

3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg i roi cyflwyniad i'r Bwrdd ar waith y Grŵp. Yn ei chyflwyniad, rhoddodd Jo-Anne drosolwg o'r grŵp ynghyd â'r blaenoriaethau a'r heriau allweddol i'r Grŵp.

3.2 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Bwrdd wneud sylwadau ar y cyflwyniad.

3.3 Nododd Meena Upadhyaya y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector Addysg Uwch a gofynnodd ba effaith y mae'r rhain yn ei chael ar gynaliadwyedd y sector. Gofynnodd Meena hefyd am wybodaeth bellach am effaith y cwricwlwm newydd ar gyrhaeddiad. O ran mater cyllid i'r sector Addysg Uwch, dywedodd Jo-Anne fod y sector ar y cyfan yn cael y rhan fwyaf o'i gyllid gan ffioedd myfyrwyr (myfyrwyr cartref a rhyngwladol) ac incwm ymchwil. Mae pob un o'r meysydd hyn o dan bwysau ariannol. Er nad oes achos dros bryderu ar hyn o bryd, ychwanegodd Jo-Anne fod y sector yn gorfod cyfaddawdu oherwydd pwysau ariannol. O ran y cwricwlwm newydd, atebodd Jo-Anne mai un o amcanion y cwricwlwm newydd yw lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, er ei bod yn rhy fuan i fesur effaith y cwricwlwm newydd.

3.4 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia i wneud sylwadau ar ran y Bwrdd Cysgodol. Diolchodd Zakhyia i Jo-Anne am gyflwyniad ardderchog. Nododd y Bwrdd Cysgodol pa mor angerddol yw cydweithwyr sy'n gweithio yn y Grŵp am eu gwaith a nododd yr heriau sy'n eu hwynebu. Wrth fyfyrio ar ddiwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol, nododd y Bwrdd Cysgodol yr heriau parhaus y mae'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu hwynebu o fewn addysg ac yn eu bywydau bob dydd.

3.5 Daeth y Cadeirydd â’r drafodaeth i ben gan ddiolch i Jo-Anne am ei chyflwyniad, a chan nodi gwerth y drafodaeth hon i ddealltwriaeth y Bwrdd o gymhlethdod a gallu'r sefydliad.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Catrin Sully i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyflwyno'r Rhaglen Lywodraethu.

4.2 Gofynnodd Gareth Lynn am eglurhad ar y materion a amlinellwyd ym mharagraff 2.6 o'r papur cysylltiedig. Atebodd Catrin fod y Prif Weinidog wedi gofyn bod y meysydd cyflawni allweddol a gofnodwyd ar BIRT yn nodi'n glir y llwybr hanfodol i gyflawni'r ymrwymiad erbyn mis Mai 2026. Nifer bach iawn o ymrwymiadau yn unig sy'n gwneud hynny. Nododd Catrin fod hyn yn gallu peri problem ar gyfer rhai meysydd, yn enwedig y rhai sy'n cael eu harwain gan y galw.

4.3 Nododd Meena Upadhyaya fod nifer o'r ymrwymiadau hynny sydd â sgôr RAG o 'goch' yn dangos bod adnoddau yn achosi pwysau a gofynnodd a ddisgwylir adnoddau ychwanegol. Atgoffodd Jo-Anne Daniels y Bwrdd o'r pwysau adnoddau a brofir gan feysydd nad ydynt yn feysydd y Rhaglen Lywodraethu; cytunodd Reg Kilpatrick â'r sylw hwn. Ychwanegodd Tim Moss fod meysydd cyflawni clir ar gyfer y Rhaglen Lywodraethu ac ymrwymiadau eraill yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu'r sefydliad i fynd i'r afael â'i allu i gyflawni. Cytunodd Judith Paget â'r sylw hwn. Nododd y Cadeirydd fod pwysau adnoddau yn cael eu teimlo ar draws y sefydliad a bod camau yn cael eu cymryd drwy amrywiaeth o lwybrau.

4.4 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i roi safbwyntiau ar ran y Bwrdd Cysgodol. Nododd Zakhyia fod fformat diwygiedig yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn i'r Bwrdd Cysgodol wrth ddeall cynnydd yn erbyn ymrwymiadau. Gan nodi'r pwysau, holodd y Bwrdd Cysgodol a oes cyfle i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu o gofio'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael iddi.

4.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nodi'r awgrymiadau a wnaed.

5. Unrhyw Fater Arall

5.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Bwrdd a daeth â'r cyfarfod i ben. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 14 Gorffennaf.