Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Catrin Sully, Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Carys Williams, Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
  • Mutale Merrill, Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
  • Aled Edwards, Y Prif Swyddog Ymchwil ar gyfer Ymchwil a Dadansoddi Corfforaethol
  • Mike Usher
  • Tim Moss
  • Sioned Evans
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • Dom Houlihan
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Amelia John, Ysgrifenyddiaeth
  • Judith Paget, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • David Richards, Cyfarwyddwr - Llywodraethu a Moeseg
  • Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol

Ymddiheuriadau

  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol y Bwrdd

1. Croeso / materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cytunwyd ar nodiadau drafft 10 Mai yn amodol ar fân gywiriadau.

1.2 Nododd y Cadeirydd y bleidlais hyder yn y Senedd ar 5 Mehefin.

1.3 Nododd y Cadeirydd gyhoeddiad Etholiad Seneddol y DU ar 4 Gorffennaf, a bod swyddogion wedi cael canllawiau ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad.

1.4 Nododd y Cadeirydd fod digwyddiad y Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar 25 Mehefin, ond gan ei fod yn digwydd o fewn y cyfnod cyn yr etholiad, bu'n rhaid gwneud rhai newidiadau i'r agenda ac ni fydd cyfranogiad gwleidyddol. Nododd y Cadeirydd bryderon y Bwrdd Cysgodol ynghylch peidio â chynnwys digwyddiadau Rhwydwaith Staff yn nigwyddiad y Gwasanaeth Sifil yn Fyw eleni gan fod Gwasanaeth Sifil y DU wedi penderfynu gwrthod pob sesiwn a gynhelir gan Rwydweithiau Staff ac ni fyddem fel arall yn cael bod yn rhan o'r digwyddiad. Nododd Amelia John y cyfraniad y mae Rhwydweithiau Staff yn ei wneud i Lywodraeth Cymru, drwy gynnig amser ac arbenigedd sy'n bwydo i mewn i'r gwaith o greu polisïau, yn ôl yr angen. Cytunodd y Cadeirydd i godi'r mater gyda chydweithwyr Gwasanaeth Sifil y DU.

1.5 Nododd y Cadeirydd gyfarfod ynglŷn ag Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2025 a gynhaliwyd ar 06 Mehefin, gan ddiolch i Gyfarwyddwyr Anweithredol am eu presenoldeb. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth ar draws Cymru i annog enwebiadau ar gyfer anrhydeddau i gydnabod cyfraniad rhagorol pobl i'n bywyd cenedlaethol.

1.6 Nododd y Cadeirydd fod ExCo, yn ei gyfarfod ar 06 Mehefin, wedi ystyried casgliadau'r gwerthusiad blwyddyn lawn o'r cynllun peilot Gweithio Hybrid, gan ystyried y goblygiadau ar gyfer Ffrwd Waith ReSpace WG2025 a'r strategaeth ar gyfer gweithle'r sefydliad yn y dyfodol, gan gynnwys cyfleoedd yn y tymor byr a chanolig. Bydd trafodaeth ar y strategaeth ar gyfer gweithle'r dyfodol yn cael ei chynnal mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.

1.7 Croesawodd y Cadeirydd Catrin Sully i'r Bwrdd a'i gwahodd i roi diweddariad i'r Bwrdd ar ymarfer y Cabinet i nodi set fach o flaenoriaethau'r Llywodraeth gyfan ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2026. Mae'r Cabinet wedi ystyried parhau â'r moratoriwm ar ddogfennau sy'n gwneud ymrwymiadau, gan ddatblygu set fach o brif flaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth gyfan, a nodi meysydd y gallai'r Cabinet ystyried eu hatal. Bydd Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.

1.8 Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau aelodau'r Bwrdd. Holodd Tim Moss a oes eglurder ynghylch beth yn union yw'r rhwystrau sy'n atal cyflawni, a beth yw gofyn cyfunol y gwasanaeth sifil.

1.9 Wrth sôn am y moratoriwm ar ddogfennau sy'n gwneud ymrwymiadau, dywedodd Tracey Burke fod y rhain yn aml yn ffordd o sbarduno gweithredu, a'u bod yn chwarae rhan bwysig mewn meysydd lle mae lefel uchel o reoleiddio, yn enwedig lle mae meysydd a reoleiddir ar y cyd.

2. Rheoli risgiau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Andy Fraser a Phennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol i'r cyfarfod. Roedd yr eitem ar reoli risgiau'n cynnwys Rhagolygon Cymru Gydnerth (Wales Resilience Outlook), trafodaeth ar adnewyddu datganiad Llywodraeth Cymru ar barodrwydd i dderbyn risg, ac adolygiad o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

2.2 Rhagolygon Cymru Gydnerth - Cafodd Andy ei wahodd gan y Cadeirydd i roi trosolwg o'r risgiau argyfyngau sifil mwyaf sylweddol sy'n wynebu Cymru, ac sy'n fwyaf tebygol o ddigwydd yn y dyfodol agos.

2.3 Gofynnodd Carys Williams sut mae Gweinidogion yn defnyddio'r wybodaeth i lywio eu proses gwneud penderfyniadau, a sut y gall y cyhoedd ymgysylltu â'r wybodaeth. Ymatebodd Andy drwy ddweud bod Rhagolygon Cymru Gydnerth yn sbarduno trafodaethau yn y Pwyllgor Risg a Pharodrwydd, a bod y Prif Weinidog a'r Gweinidogion yn cael diweddariadau rheolaidd gan y Pwyllgor. Nododd Andy fod Rhagolygon Cymru Gydnerth yn ddogfen gyfrinachol sydd wedi ei chynhyrchu ar gyfer y Llywodraeth ac ymatebwyr brys sy'n gyfrifol am baratoi ar gyfer risgiau a lliniaru eu heffeithiau, ac nad yw'n ddogfen ar gyfer y cyhoedd. Ychwanegodd Andy bod bwriad i lunio crynodeb i'r cyhoedd.

2.4 Pwysleisiodd Mutale Merrill bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd. Cytunodd Andy, gan nodi bod Llywodraeth y DU wedi lansio gwefan newydd sydd â'r nod o gefnogi'r gwaith paratoi cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymgysylltu â phob cymuned ledled Cymru er mwyn ddatblygu dull gweithredu wedi'i deilwra ar gyfer ymgysylltu.

2.5 Gofynnodd Tim Moss ynghylch ymgysylltu â sefydliadau partner. Ymatebodd Andy drwy ddweud bod Rhagolygon Cymru Gydnerth yn cael ei rhannu gyda'r holl ymatebwyr Categori 1 a 2.

2.6 Tynnodd Aled Edwards sylw at y rôl allweddol y mae'r trydydd sector yn ei chwarae wrth gefnogi'r ymateb i argyfwng, a'r effaith y gall amddifadedd ei chael ar wytnwch cymunedau. Holodd Aled a yw Llywodraeth Cymru wedi mapio capasiti'r trydydd sector i gefnogi ymateb strategol mewn sefyllfa o argyfwng. Cytunodd Andy fod hwn yn bwynt pwysig, gan nodi nad oes darlun llawn o gapasiti'r trydydd sector ar hyn o bryd.

2.7 Soniodd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol am faint yr Is-adran Cadernid a Diogelwch Gwladol a pa mor aml y mae'n ofynnol i'r tîm ymateb i faterion. Mynegodd y Bwrdd Cysgodol eu pryder am wytnwch y tîm.

2.8 Wrth sôn am y themâu a drafodir yn y briff, nododd Mike Usher yr effaith ar gadwyni cyflenwi, a phwysigrwydd mesurau wrth gefn i leihau'r effeithiau uniongyrchol.

2.9 Awgrymodd Amelia John y dylid gwahodd partneriaid dibynadwy yn y trydydd sector i herio cynlluniau cydnerthedd Llywodraeth Cymru, gan gynnig i helpu i drefnu hynny. Croesawodd Andy yr awgrym hwn.

2.10 Gwahoddodd y Cadeirydd Andy i wneud unrhyw sylwadau terfynol. Dywedodd Andy, er bod Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn rhannu gwybodaeth ac yn defnyddio dull cyffredin ar gyfer nodi risgiau a meithrin gallu, mae yna bob amser mwy y gellid ei wneud.

2.11
Parodrwydd i dderbyn risg – Nododd Tim Moss fod datganiad Llywodraeth Cymru ar Barodrwydd i dderbyn Risg yn cael ei adnewyddu, a bydd y Bwrdd yn cynnig eu sylwadau o ran a yw parodrwydd presennol y sefydliad i dderbyn risg yn dal i fod yn briodol ac yn gymesur, a syniadau cychwynnol o ran lle y dylai'r parodrwydd fod ar gyfer categorïau penodol o risg.

2.12 Awgrymodd Carys Williams y gellid bod yn fwy agored o ran parodrwydd i dderbyn risg ac ymwreiddio'r dull gweithredu ar hyd a lled y sefydliad.

2.13 Croesawodd Sioned Evan y dull gweithredu thematig yn hytrach na dull gweithredu'n seiliedig ar un sefydliad, gan awgrymu y gallai lefel uwch o barodrwydd i dderbyn risg, wedi ei hategu gan strwythurau llywodraethu effeithiol, annog a galluogi arloesedd. Cytunodd Tracey Burke, gan ychwanegu bod angen i'r sefydliad allu cymryd risgiau y gellir eu hamddiffyn ac sy'n cael eu rheoli'n effeithiol. Ategodd David Richards y sylwadau hyn gan nodi y gallai'r cyd-destun gwleidyddol a'r cyfryngau, y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ynddo, arwain at ddiwylliant allanol o fwrw bai, er nad oes diwylliant mewnol o'r fath.

2.14 Awgrymodd Mike Usher y dylid defnyddio dull gweithredu gwahanol, gan gynnig dechrau gyda pharodrwydd agored i dderbyn risg, ei adolygu'n rheolaidd, a’i addasu dim ond lle a phan fo angen gwneud hynny.

2.15 Dywedodd Mutale Merrill fod holl staff Llywodraeth Cymru yn ddeiliaid risg, gan argymell y dylid galluogi staff i nodi a rheoli risg mewn modd mwy effeithiol.

2.16 Awgrymodd Dom Houlihan y dylid cynnwys thema sy'n ymwneud â'r gweithlu a diwylliant, gan bwysleisio pwysigrwydd helpu staff i deimlo eu bod wedi eu grymuso i wneud penderfyniadau.

2.17 Holodd Aled Edwards a yw'r gymuned archwilio yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau heriol y mae'n ofynnol i'r sector cyhoeddus a sefydliadau partner weithredu ynddynt a chyflawni'n gyflym.

2.18 Roedd Dean Medcraft yn cefnogi'r dull gweithredu thematig arfaethedig, gan awgrymu bod angen gwneud mwy i sicrhau bod staff yn ymwybodol o barodrwydd y sefydliad i dderbyn risg. Cytunodd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol, gan ddweud y dylid symud tuag at ddiwylliant dysgu a datblygu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i arloesi.

2.19 Cytunodd Nia James fod sicrhau bod trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith yn allweddol ar gyfer rheoli risg. Nododd Nia, gan siarad o safbwynt cyfreithiol, y gallai parodrwydd i dderbyn risg ddechrau o bersbectif sy'n osgoi risg, ond y gallai hynny newid fel y mae mwy yn dod i'r amlwg o ran natur a chyd-destun y risg.

2.20 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau. Bydd y gwaith ar ddiwygio'r datganiad ar barodrwydd i dderbyn risg yn parhau dros yr haf gyda thrafodaeth bellach yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi.

2.21 Y Gofrestr Risgiau Corfforaethol – Adolygodd y Bwrdd yr iteriad diweddaraf o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Nododd Mike Usher sgôr y targed ar gyfer y risg newid hinsawdd (Risg 6.1), gan ofyn a oes modd ei gyflawni. Awgrymodd perchennog y risg, Tracey Burke, y dylid cael trafodaeth fanwl yn ExCo ynglŷn â'r risg hwn.

2.22 Croesawodd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol gynlluniau i wahanu risgiau a phroblemau.

3. Adrodd ar Gylch 2023-2024 Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru

3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Tim Moss a chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i roi trosolwg i'r Bwrdd o bedwerydd cylch adrodd Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru, sy'n ymwneud â pherfformiad y sefydliad ar gyfer 2023-24. Nododd Tim hefyd fod gwaith ar y gweill i ddatblygu Cerdyn Sgôr Gytbwys newydd.

3.2 Nododd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol fod y Bwrdd Cysgodol wedi mynegi pryder ynghylch y lleihad mewn gweithio mewn partneriaeth fel yr oedd wedi ei adrodd, ac awgrymodd y dylid sicrhau bod adnoddau a chanllawiau ar gael i gefnogi cydweithio a chyd-gynhyrchu. Holodd y Bwrdd Cysgodol sut y gellid ymwreiddio cydnabyddiaeth o ddysgu a datblygu a chymwysterau ffurfiol yn y broses recriwtio, gan ystyried manteision sefydlu matrics sgiliau gwirfoddol canolog, gyda'r nod o baru sgiliau â rolau lle bo hynny'n briodol.

3.3 Nododd Dom Houlihan fod sgôr perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu a datblygu yn cyd-fynd â'r cyfartaledd ar gyfer y Gwasanaeth Sifil cyfan. O ran rheoli perfformiad, nododd Dom fod angen gwneud gwaith i ddeall y ffordd orau o helpu rheolwyr llinell i gael sgyrsiau o ansawdd uchel gyda'u timau.

3.4 Dywedodd Mike Usher fod yr adroddiad yn awgrymu bod angen gwella sgiliau llywodraethu a rheoli prosiectau. Nododd Tim Moss fod y materion hyn wedi cael eu hamlygu mewn adroddiadau diweddar gan archwiliad mewnol. Ychwanegodd Sioned Evans fod sgiliau sy'n ymwneud â rheoli a gweithredu rhaglenni yn sgiliau craidd y dylai pob aelod o staff feddu arnynt, ac y dylent fod yn sgiliau allweddol ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa. Cytunodd Dean Medcraft â'r sylwadau hyn.

3.5 Holodd Mutale Merrill a yw'r mesurau yn y fframwaith perfformiad ar lefel briodol i roi sicrwydd i'r Bwrdd, gan awgrymu y dylid cynnwys naratif i egluro gorberffformio a thanberfformio.

3.6 Pwysleisiodd Carys Williams bwysigrwydd defnyddio'r Cerdyn Sgôr Gytbwys i yrru cynnydd ar draws y sefydliad ac awgrymodd nodi sawl maes allweddol i ganolbwyntio ymdrechion arnynt i wneud gwelliannau diriaethol.

3.7 Nododd Aled Edwards fod materion yn ymwneud ag anabledd wedi ymddangos mewn sawl papur yn ddiweddar, gan ofyn a yw hwn yn faes y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Awgrymodd Dom Houlihan y dylai is-bwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol y Bwrdd gynnal trafodaeth drylwyr ar y pwnc.

3.8 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan nodi bod y Pwyllgor Gweithredol wedi dweud mai'r Cerdyn Sgôr Gytbwys newydd yw'r dull gweithredu y mae'n dymuno ei ddefnyddio. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gyfarfod â Tim Moss a chydweithwyr i drafod ymhellach.

4. Diweddariad ar WG 2025: ReSize

4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i roi diweddariad i'r Bwrdd ar gam cyntaf y gwaith o ailfeintio'r sefydliad. Rhoddodd Dom drosolwg o ganlyniadau'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol (VES), ond nododd fod rhagolygon 2025/2026 yn parhau i fod yn heriol.

4.2 Nododd Cadeirydd y Bwrdd Cysgodol bwysigrwydd deall pam fod cydweithwyr wedi dewis gwneud cais i ymuno â'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol.

5. Unrhyw fater arall

5.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.