Cyfarfod y Bwrdd Llywodraeth Cymru: 28 Ebrill 2023
Cofnodion o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Agenda
1. Croeso / Materion presennol
Llafar
Gweld cofnod.
2. Adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
[Papur Eitem 2]
3. Y diweddaraf am waith y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
[Papur Eitem 3]
4. Rhagolwg y Bwrdd
[Papur Eitem 4]
5. Unrhyw Fater Arall
Yn bresennol
- Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
- Meena Upadhyaya
- Gareth Lynn
- Carys Williams
- Aled Edwards
- Jo-Anne Daniels
- Tracey Burke
- Judith Paget
- Andrew Slade
- Reg Kilpatrick
- Tim Moss
- Peter Kennedy
- Sharon Bounds
- Helen Lentle
- Des Clifford
- David Richards
- Amelia John
- Natalie Pearson
- Zakhyia Begum
Yn mynychu
- Yr Athro Laura McAllister
- Piers Bisson
- Gareth Morgan
- Sophie Brighouse
- James Gerrard
- Polina Cowley
- Geraint Walsh
- Ben Henriques
Ymddiheuriadau
- Gawain Evans
Ysgrifenyddiaeth
- Alison Rees
1. Croeso/ Materion Presennol
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 03 Mawrth.
1.2 Nododd y Cadeirydd y streic gan aelodau'r PCS a oedd yn digwydd ar 28 Ebrill.
1.3 Nododd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn i David Richards bwyso a mesur y canfyddiadau yn dilyn Adolygiad Tolley ac ystyried a oes angen diweddaru Cod y Gweinidogion.
2. Adroddiad Interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Laura McAllister, Cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i'r cyfarfod a gwahodd yr Athro McAllister i roi cyflwyniad i'r Bwrdd ar waith y comisiwn a'r canfyddiadau a nodir yn ei adroddiad interim.
2.2 Diolchodd y Cadeirydd i'r Athro McAllister am ei chyflwyniad a gwahodd aelodau'r Bwrdd i gyflwyno sylwadau. Gofynnodd David Richards i'r Athro McAllister am ei barn am unrhyw faterion a oedd wedi codi yn ystod gwaith y comisiwn a oedd wedi ei synnu. Atebodd yr Athro McAllister fod y diffyg dealltwriaeth barhaus o rôl Llywodraeth Cymru a'i meysydd cyfrifoldeb wedi peri syndod iddi. Ychwanegodd yr Athro McAllister fod gwaith y comisiwn wedi'i wreiddio mewn set o werthoedd yn seiliedig ar atebolrwydd, sybsidiaredd a chydraddoldeb a chynhwysiant a thynnodd sylw at bwysigrwydd datgan bod gwella gwasanaethau i bobl yng Nghymru wrth wraidd y galwadau am newidiadau i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Diolchodd Aled Edwards i'r Athro McAllister am ei chyflwyniad rhagorol a nododd, fel aelod o Gonfensiwn Cymru Gyfan, ei fod wedi meddwl am ddiffyg gwybodaeth tebyg ymhlith y cyhoedd ar gylch gwaith Llywodraeth Cymru o'i chymharu â Llywodraeth y DU.
2.3 Nododd Gareth Lynn, fel Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Llywodraeth Cymru, ei fod ef a'r pwyllgor wedi dechrau ystyried y risgiau tymor hwy a'r materion y bydd Cymru'n eu hwynebu a gofynnodd sut yr oedd y comisiwn yn ymgorffori sut y bydd Cymru'n newid dros yr wyth i ddeng mlynedd nesaf yn ei syniadau. Ymatebodd yr Athro McAlister fod amcanestyniadau wedi'u cynnwys yng ngwaith y comisiwn cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn aml trwy waith yr is-grwpiau.
2.4 Gofynnodd Meena Upadhyaya sut y gellir diwygio peirianwaith cysylltiadau rhynglywodraethol i warchod rhag i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau unochrog sy'n effeithio ar Lywodraeth Cymru. Cytunodd yr Athro McAllister fod hwn yn faes lle mae angen gwelliannau a phwysleisiodd yr angen am ymroddiad gan bob partner er mwyn i gysylltiadau weithio'n effeithiol.
2.5 Nododd Piers Bisson y gall cysylltiadau rhynglywodraethol fod yn heriol ac ychwanegodd fod yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn darparu strwythur a allai weithio'n effeithiol, ond bod angen cyfres o ymddygiadau ynghlwm wrtho er mwyn i hynny ddigwydd.
2.6 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i nodi barn y Bwrdd Cysgodol. Nododd Zakhyia fod y Bwrdd Cysgodol wedi holi a oedd y comisiwn wedi deall safbwyntiau pobl fyddar a defnyddwyr BSL yn ddigonol a daeth i'r casgliad bod angen i ddatganoli pellach fod yn gydlynol, gydag adnoddau digonol o ran niferoedd, sgiliau a phwerau cydategol i fod yn effeithiol.
2.7 Gwahoddodd y Cadeirydd yr Athro McAllister i wneud unrhyw sylwadau terfynol. Nododd yr Athro McAllister fod sawl sylwebydd wedi tynnu sylw at sut mae ‘ymylon garw’ polisi fel y'u gelwir - dyna le mae polisïau datganoledig a heb eu datganoli yn cydberthyn – yn cael effaith ar gyflawni. Er enghraifft, y gydberthynas rhwng trosedd, cyfiawnder a phlismona ac iechyd meddwl a thai. Gall yr 'ymylon garw' rhwng y meysydd hyn fod yn heriol i Gymru ac mae’n bosibl mai cydlyniaeth well rhwng polisïau yw’r ddadl gryfaf dros newid.
2.8 Gwahoddodd y Cadeirydd Piers Bisson i wneud unrhyw sylwadau terfynol. Nododd Piers y bydd swyddogion yn cynnal sesiwn gyda Bwrdd Prosiect LlC 2025 i drafod goblygiadau i Gymru yn sgil datganoli pwerau pellach i Gymru.
3. Y diweddaraf am waith y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i gyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd ar waith y Grŵp. Yn ei chyflwyniad, tynnodd Tracey sylw at brif flaenoriaethau'r Grŵp yn y cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2023 a soniodd am adborth gan Ddirprwy Gyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr ar draws y grŵp ar yr heriau y maent yn eu hwynebu ac atebion posibl.
3.2 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Bwrdd wneud sylwadau ar y cyflwyniad. Nododd Carys Williams fod yr adborth oddi wrth y Dirprwy Gyfarwyddwyr a'r Cyfarwyddwyr yn arbennig o rymus a gofynnodd a allai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol gynnig cefnogaeth a chyngor i swyddogion i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Diolchodd Tracey i Carys am ei chynnig o gefnogaeth gan ychwanegu y gallai rhannu profiadau o wahanol ffyrdd o weithio fod o fudd ac awgrymodd drafod ymhellach y tu allan i'r cyfarfod.
3.3 Diolchodd David Richards i Tracey am ei chyflwyniad rhagorol a gofynnodd a oes gan Lywodraeth Cymru arbenigedd digon dwfn ac eang i fynd i'r afael â rhai o'r heriau technegol sy'n ymwneud â'r agenda newid hinsawdd. Ymatebodd Tracey, er bod dyfnder arbenigedd o fewn y Grŵp, fod rhai bylchau mewn arbenigedd technegol ynghylch newid yn yr hinsawdd y mae'r Grŵp yn bwriadu mynd i'r afael â hwy.
3.4 Croesawodd Gareth Lynn y cyflwyniad, yn enwedig y cyfle i ddod i ddeall y sefyllfa o ran y cyfrifiad, blaenoriaethau cystadleuol a phwysau'r gyllideb a wynebir gan y Grŵp. Nododd Gareth y sefyllfa o ran Llinellau Craidd y Cymoedd.
3.5 Gofynnodd Meena Upadhyaya i ba raddau y mae modd meithrin partneriaethau gwaith tymor hir gydag arbenigwyr i gydweithio ar feysydd technegol. Nododd Tracey fod hyn yn rhywbeth yr hoffai'r Grŵp ei wneud yn fawr.
3.6 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i roi safbwyntiau'r Bwrdd Cysgodol. Nododd Zakhyia fod y Bwrdd Cysgodol yn croesawu'r cyfle i ystyried ehangder y gwaith a gwmpesir gan Grŵp CCRA a thynnodd sylw at nifer yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu y mae'r Grŵp yn gyfrifol am eu cyflawni. Roedd y Bwrdd cysgodol wedi ystyried yr effaith y gallai'r gwaith sylweddol ei chael ar staff.
3.7 Diolchodd y Cadeirydd i Tracey am ei chyflwyniad rhagorol a daeth â'r drafodaeth i ben.
4. Rhagolwg y Bwrdd
4.1 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i gyflwyno sylwadau ar y blaengynllun drafft ymlaen o eitemau'r Bwrdd a gafodd ei gylchredeg cyn y cyfarfod.
4.2 Agorodd Carys Williams y drafodaeth a holi a oes meysydd lle byddai mewnbwn gan y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn ychwanegu gwerth ac yn dod â phersbectif newydd i'r drafodaeth. Ymatebodd y Cadeirydd y byddai goruchwylio rhaglen newid LlC 2025 yn arbennig o fuddiol; cytunodd Tim Moss â'r awgrym hwn.
4.3 Nododd Gareth Lynn fod y Cyfarwyddwyr Anweithredol wedi trafod y rhagolwg fel grŵp ac y byddent yn rhoi adborth ar y trafodaethau i'r ysgrifenyddiaeth.
4.4 Croesawodd Amelia John y ffocws ar amrywiaeth a chynhwysiant yn y rhagolwg.
4.5 Awgrymodd Meena Upadhyaya y gallai'r Bwrdd fod yn fwy rhagweithiol o bosibl wrth ddathlu llwyddiannau ar draws Llywodraeth Cymru.
4.6 Gofynnodd y Cadeirydd i Zakhyia Begum am farn y Bwrdd Cysgodol ac ymatebodd y byddai'r Bwrdd Cysgodol yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gymraeg 2050 a datblygiadau o ran amrywiaeth a chynhwysiant. Byddai'r Bwrdd Cysgodol hefyd yn croesawu trafodaeth ar sut y gellid gwella'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant o ran cynhwysiant. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol hefyd fod cyflwyniad gan Brif Swyddog Gwyddonol Llywodraeth Cymru ar wneud y defnydd gorau posibl o ymchwil a datblygu wrth lunio polisïau.
4.7 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau a nodi'r awgrymiadau a wnaed.
5. Unrhyw Fater Arall
5.1 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i godi unrhyw eitemau o dan unrhyw fusnes arall.
5.2 Nododd Zakhyia Begum fod aelodau'r Bwrdd Cysgodol wedi cymryd rhan yn y gweithdy effeithlonrwydd sylfaen costau yn ddiweddar a gynhaliwyd gan Tim Moss. Roedd llawer o synergeddau rhwng y pwyntiau a godwyd yn y gweithdy a thrafodaethau'r Bwrdd Cysgodol.
5.3 Nododd Des Clifford y cytunwyd y bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â phrosiect ar y cyd i ddeall anghysondebau rhwng adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg yn y Cyfrifiad a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Croesawodd Aled Edwards y cynnig hwn.
5.4 Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Bwrdd a daeth â'r cyfarfod i ben. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 09 Mehefin.