Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Andrew Goodall (Cadeirydd)
  • Carys Williams
  • Mutale Merrill
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • Judith Paget
  • Tim Moss
  • Dom Houlihan
  • David Richards
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Cynrychiolwyr y Bwrdd Cysgodol
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur

Yn mynychu

  • Sinead Gallagher

Ysgrifenyddiaeth 

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol 

Ymddiheuriadau 

  • Sioned Evans
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd
  • Cyd-gadeiryddion Arweiniol y Bwrdd Cysgodol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law. Cafodd cofnodion 13 Rhagfyr eu cymeradwyo yn amodol ar fân ddiwygiadau.

1.2 Nododd y Cadeirydd ganlyniadau Arolwg Pobl 2024, gan sôn am y flwyddyn heriol yr oedd y sefydliad wedi'i hwynebu yn y cyfnod cyn yr arolwg. Croesawodd Aled Edwards ganlyniadau'r arolwg, gan nodi pwysigrwydd dathlu llwyddiannau. Ategodd Mutale Merrill y sylwadau hyn.

1.3 Nododd y Bwrdd drafodaethau'r Bwrdd Cysgodol ar effaith gweithgareddau ar-lein diweddar a oedd wedi arwain at rannu enwau ymddiriedolwyr Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn gyhoeddus.

1.4 Nododd y Cadeirydd y byddai Des Clifford, cyn-aelod o'r Bwrdd, yn ymddeol o Lywodraeth Cymru cyn bo hir, ar ôl blynyddoedd lawer.

1.5 Nododd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymateb i adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19.

1.6 Cafodd Judith Paget ei gwahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y pwysau y mae'r GIG yn eu hwynebu dros fisoedd y gaeaf. Nododd Judith fod swyddogion yn adolygu'r nifer sy'n manteisio ar frechlyn y ffliw, yn enwedig yn y grŵp oedran 49 – 65.

1.7 Nododd Tracey Burke ymdrechion timau ar draws Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner i gefnogi'r rheini a oedd wedi dioddef effeithiau'r byrst mewn pibell ddŵr yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd.

2. Y newyddion diweddaraf am faterion allweddol gan Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth

2.1 Cafodd Andrew Slade ei wahodd gan y Cadeirydd i roi trosolwg i'r Bwrdd ar waith Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, gan amlinellu prif flaenoriaethau’r Grŵp hyd at ddiwedd tymor y Senedd. Roedd y cyflwyniad hefyd yn ystyried risgiau a chyfleoedd tymor hirach.

2.2 Gan sôn am gyfansoddiad rhywedd uwch dîm rheoli Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, cynigiodd Carys Williams gefnogi ymarferion recriwtio'r Grŵp gyda'r nod o annog ceisiadau gan amrywiaeth o ymgeiswyr. Fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth Ariannol, awgrymodd Carys hefyd y dylai'r Is-bwyllgor gynnal archwiliad manwl i ystyried a oes rhannau eraill o'r sefydliad lle mae rhai nodweddion yn fwy cyffredin ymhlith uwch dimau arweinyddiaeth.

2.3 Gofynnodd Mutale Merrill sut mae Cyrff Hyd Braich yn cael eu dwyn i gyfrif a sut mae'r Grŵp yn cydymffurfio â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Dywedodd Andrew fod y Grŵp yn cael cyngor arbenigol rheolaidd ar gyflawni'r
nodau a'r camau gweithredu yn y Cynllun. O ran Cyrff Hyd Braich, nododd
Andrew bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng lefel briodol o oruchwyliaeth ac ymreolaeth y Cyrff Hyd Braich.

2.4 Nododd Aled Edwards y cyd-destun byd-eang newidiol y mae swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru yn gweithredu ynddo; sicrhaodd Andrew y Bwrdd fod staff sydd wedi'u lleoli dramor yn cael eu cefnogi.

2.5 Gan nodi ehangder y gwaith a wneir gan Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, a sut mae'n darparu'r sylfeini ar gyfer gwaith meysydd polisi eraill, gofynnodd Mike Usher beth fyddai'r ffordd orau o sicrhau bod timau'n cydweithio'n effeithiol. Atebodd Andrew fod arweinwyr polisi yn gweithio'n agos, ac y byddent yn aml yn mynd i gyfarfodydd tîm ei gilydd i rannu gwybodaeth.

3. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Sinead Gallagher i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch monitro'r Rhaglen Lywodraethu. Hefyd, amlinellodd Sinead bedwar maes blaenoriaeth y Prif Weinidog.

3.2 Croesawodd Judith Paget y diweddariad, gan nodi bod y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar hefyd yn cyflawni mewn nifer o feysydd eraill yn ogystal â'r rhai a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, er enghraifft cyflawni ei swyddogaethau statudol. Ychwanegodd Judith fod trafodaethau'n parhau o ran diffinio'r pethau i'w cyflawni sy'n flaenoriaethau iechyd i'r Prif Weinidog. Pwysleisiodd Mutale Merrill bwysigrwydd cael eglurder o ran yr hyn y gellir ei gyflawni.

3.3 Holodd Mike Usher a fyddai'n bosibl nodi unrhyw feysydd gweithgarwch y gellid eu hatal er mwyn ryddhau capasiti i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth. Atebodd y Cadeirydd fod y Cyfarwyddwyr Cyffredinol wrthi'n adolygu eu meysydd.

3.4 Nododd Aled Edwards y cynnydd o ran cyflawni yn erbyn y Rhaglen Lywodraethu, a holodd sut y byddai'r cyhoedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir. Ymatebodd Sinead drwy ddweud y gallai ennyn diddordeb y cyfryngau ynghylch straeon cadarnhaol am gyflawni fod yn her. Yn fewnol, mae'r Prif Weinidog wedi cynnwys eitem ar agendâu'r Cabinet i dynnu sylw at gyflawniadau.

3.5 Cyfeiriodd Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Cysgodol at ymateb y Bwrdd Cysgodol i anerchiad y Prif Weinidog i staff ym mis Hydref, gan nodi’r trafodaethau yn eu cyfarfod ar system adrodd BIRT. Dywedodd Tim Moss fod yr is-bwyllgor Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn adolygu'r materion sy'n codi i rai timau wrth iddynt ddefnyddio BIRT, er mwyn gweithio tuag at ddefnyddio adnodd adrodd safonol.

3.6 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu hadborth, gan nodi y bydd y Bwrdd yn cael diweddariadau rheolaidd ar gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau'r Prif Weinidog.

4. Diweddariad ar Gyllid

4.1 Rhoddodd Dean Medcraft ddiweddariad ar y sefyllfa gyllid yn ystod y flwyddyn, a throsolwg o'r blaenoriaethau ar gyfer timau cyllid yn ystod chwarter olaf 2024-25.

4.2 Diolchodd Andrew Slade i'r timau cyllid ar draws Llywodraeth Cymru am eu hymdrechion. Nododd Andrew fod ei Grŵp yn rheoli pwysau o sawl cyfeiriad gwahanol. Ategodd Judith Paget y pwyntiau hyn.

5. Diwrnod Datblygu’r Bwrdd

5.1 Nododd y Cadeirydd Ddiwrnod Datblygu'r Bwrdd a fydd yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror, gan amlinellu nod ac amcanion y diwrnod. Bydd canfyddiadau Adolygiad Bwrdd 2024 yn cael eu rhannu ag aelodau'r Bwrdd cyn y diwrnod datblygu.

6. Unrhyw Fater Arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.