Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd ar gyfer Eitemau 1 a 2) 
  • Carys Williams 
  • Mutale Merrill 
  • Aled Edwards 
  • Mike Usher 
  • Tim Moss (Cadeirydd ar gyfer Eitem 3) 
  • Sioned Evans 
  • Tracey Burke 
  • Andrew Slade 
  • Dom Houlihan 
  • Nia James 
  • Gawain Evans 
  • Rhiannon Lloyd-Williams 

Yn mynychu 

  • Kath Jenkins (Eitem 1) 
  • Simon Brindle (Eitem 2) 
  • Andrew Charles (Eitem 2) 
  • Angharad Reakes (Eitem 3)
  • Elizabeth Fernandez Navarta 

Ysgrifenyddiaeth 

  • Alison Rees 

Ymddiheuriadau 

  • Jessica Ward 
  • Amelia John 
  • Judith Paget 
  • David Richards 

1. Croeso/Materion cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau. Cymeradwywyd cofnodion 08 Mawrth.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Mutale Merrill i'w chyfarfod Bwrdd cyntaf ers ymuno â'r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

1.3 Digwyddiad seiberddiogelwch Rhoes Kath Jenkins y newyddion diweddaraf i'r bwrdd am ddigwyddiad seiber yn ddiweddar ar rwydwaith Llywodraeth Cymru. Roedd y digwyddiad yn deillio o wendid byd-eang er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gosodiadau a argymhellwyd gan y gwneuthurwr ar waith. Aeth timau fforensig annibynnol ati i ymchwilio i'r digwyddiad ac fe gadarnhawyd nad oes tystiolaeth bod unrhyw wybodaeth a ddelir ar rwydwaith Llywodraeth Cymru wedi'i pheryglu. Diolchodd Rhiannon Lloyd-Williams i Kath am fynychu'r Bwrdd Cysgodol ar 08 Mai ac am roi sicrwydd i'r aelodau nad oedd unrhyw ddata personol wedi ei golli. Diolchodd Tim Moss i gydweithwyr yn yr Is-adran Gwasanaethau TG am eu hymdrechion rhagorol wrth ymateb i'r digwyddiad. Tynnodd Tim sylw at yr angen am gynllun tymor canolig i hir ar gyfer buddsoddi mewn seiberddiogelwch. Roedd y Cadeirydd yn cytuno ac fe nododd y byddai ExCo yn trafod ymhellach.

1.4 Diwrnod Rhwydweithiau 2024 Nododd y Cadeirydd y digwyddiad i bob aelod o staff a gynhaliwyd ar 09 Mai i drafod llesiant, creu cysylltiadau, a meithrin cymunedau mewn amgylchedd hybrid a diolch i bawb a fu'n ymwneud â threfnu a chynnal y digwyddiad. Croesawodd Aled Edwards a Mutale Merrill y digwyddiad ac awgrymu y dylid hyrwyddo gwaith y rhwydweithiau staff y tu allan i Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o Lywodraeth Cymru fel cyflogwr.

1.5 WG2025 Cam 2 - Newid Maint Rhoes Dom Houlihan y newyddion diweddaraf ar ganlyniadau'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol a throsolwg o nodweddion yr ymgeiswyr. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymadael â’r sefydliad erbyn 31 Awst a diolchodd Dom i'r Bwrdd Cysgodol am eu hawgrymiadau ar gynnal cyfweliadau ymadael. Mae adroddiad Gwersi a Ddysgwyd yn cael ei baratoi gan gydweithwyr AD a bydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Pobl a Thâl o fewn 6 mis. Nododd y Cadeirydd y broses asesu gadarn a oruchwyliwyd gan y Grŵp a'r paneli Corfforaethol a oedd wedi cynorthwyo ExCo i ddod i benderfyniad a chynnig ei ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r paneli asesu ac i Carys Williams am gadeirio'r panel corfforaethol. Nododd Aled Edwards yr angen i fonitro effaith VES ar faterion cydraddoldeb a galluoedd Cymraeg o fewn y sefydliad. Tynnodd Mutale Merrill sylw at yr angen i sicrhau bod staff na chawsant mo'u derbyn ar gyfer VES yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt rôl bwysig i'w chwarae yn y sefydliad o hyd.

2. Diweddariad cynnydd ar Gynllun Dysgu a Gwella Parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2023-2025 (WFG CLIP)

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Simon Brindle ac Andrew Charles i'r cyfarfod a'u gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am Gynllun Dysgu a Gwella Parhaus Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru 2023-2025 (WFG CLIP).

2.2 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Bwrdd gyflwyno sylwadau ar y cyflwyniad.

2.3 Gofynnodd Tim Moss a yw strategaeth ‘Cymru Can’ yn adlewyrchu barn Comisiynydd presennol Cenedlaethau'r Dyfodol yn ddigonol. Gwnaeth Tim gnoi cil ar yr her o gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar fyrder.

2.4 Gofynnodd Tracey Burke a allai Cyfarwyddwyr Cyffredinol gymryd camau pellach i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar draws eu Grwpiau.

2.5 Croesawodd Aled Edwards y cysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu creu gyda'r trydydd sector ond nododd natur wenwynig y sgyrsiau ynghylch cynaliadwyedd a'r effaith y gallai hyn ei chael ar y rhai sy'n gweithio ar lawr gwlad gyda rhanddeiliaid.

2.6 Croesawodd Mike Usher fanylder y diweddariad a chynnig sylwadau ar gyflwyniad graddfeydd RAG. Nododd Mike y cymell tawel y mae Llywodraeth Cymru yn ei ymarfer wrth ddylanwadu ar y sefydliadau hynny nad ydynt yn dod o dan y ddeddf. Awgrymodd Mike ddatblygu pecyn cymorth i helpu sefydliadau i ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

2.7 Atgoffodd Mutale Merrill y Bwrdd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn arwain y byd a nododd y cyfrifoldebau y mae'r Ddeddf yn eu rhoi ar bawb. Er y gellir ystyried bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn hyn o beth, fe nododd nad yw hyn yn lleihau cyfrifoldeb pobl eraill. Ategodd Sioned Evans ac Andrew Slade y pwyntiau hyn a nodi'r tebygrwydd â chyfrifoldebau trawslywodraethol eraill.

2.8 Nododd Dom Houlihan y nifer o gamau gweithredu ac awgrymodd nad yw pob un o'r rhain yn gydradd â'i gilydd. Nododd Dom yr her sydd ynghlwm wrth ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol os yw'r gofyniad am arweinyddiaeth yn ehangu'n barhaus. Holodd Dom a ellid gwneud mwy i ledaenu buddion y Ddeddf a chodi ymwybyddiaeth o ganlyniadau peidio â chydymffurfio.

2.9 Ar ran Bwrdd y Bwrdd Cysgodol nododd Rhiannon Lloyd-Williams y brwdfrydedd dros Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhlith cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru ond awgrymodd y byddai
canllawiau ar ffyrdd o weithio ac astudiaethau achos yn dangos ffyrdd arloesol a llwyddiannus o roi'r ddeddf ar waith i'w croesawu. Nododd y Bwrdd Cysgodol yr her o ymwreiddio llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn cynllunio tymor hir o gofio'r pwysau ar gyllidebau.

2.10 Ategodd Carys Williams y sylwadau a wnaed gan aelodau'r Bwrdd a holodd sut orau i fesur i ba raddau y mae'r ddeddf yn cael ei hymwreiddio.

2.11 Gwahoddodd y Cadeirydd Andrew a Simon i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. O ran mesur yr effaith, er nad oes unrhyw un metrig, nododd Andrew y bydd yr Arolwg Pobl ac arolygon staff eraill yn cynnwys cwestiynau i fesur ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ychwanegodd Andrew fod y comisiynydd newydd yn hapus ar y cyfan gyda'r diweddariad ar gynnydd.

2.12 Diolchodd y Cadeirydd i Simon ac Andrew am y papur a'r cyflwyniad. Nododd y Bwrdd y diweddariad blynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan WFG CLIP ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024.

3. Trafodaeth ar ganfyddiadau Adolygiad y Bwrdd 2023 ac adnewyddu'r Cylch Gorchwyl

3.1 Cadeiriodd Tim Moss Eitem 4 ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol.

3.2 Croesawodd y Cadeirydd Angharad Reakes i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi trosolwg o ganfyddiadau Adolygiad Bwrdd Llywodraeth Cymru 2023. Mae'r Adolygiad yn casglu barn pawb a oedd yn gwasanaethu ar y Bwrdd yn y cyfnod 12 Rhagfyr 2022 – 26 Ionawr 2023. Ar y cyfan, roedd aelodau'r Bwrdd yn gadarnhaol am eu rôl ar y Bwrdd, a'u profiad ohono, a oedd yn gyffredinol yn ategu teimladau adolygiad 2022. Dangosodd yr adolygiad sawl maes i'w gwella gan gynnwys lleihau gorgyffwrdd a dyblygu rhwng eitemau sy'n cael eu cyflwyno i'r Bwrdd ac ExCo a chysoni agendâu'r Bwrdd yn well â heriau gweithredol allweddol a risgiau strategol i sicrhau bod y Bwrdd yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth uchel.

3.3 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau'r bwrdd i roi sylwadau ar ganfyddiadau'r adolygiad.

3.4 Awgrymodd Dom Houlihan gynnwys amser myfyrio ar ddiwedd cyfarfodydd y Bwrdd i gefnogi dysgu a datblygu parhaus.

3.5 Croesawodd Sioned Evans ganfyddiadau'r adroddiad gan dynnu sylw at bwysigrwydd parhau gyda chyfarfodydd hybrid. Calondid i Sioned oedd y defnydd mynych o Gymraeg achlysurol yng nghyfarfodydd y Bwrdd ac roedd hi'n edrych ymlaen at gael y cyfle i gyfrannu yn Gymraeg at y drafodaeth ar eitemau sylweddol.

3.6 Nododd Aled Edwards y cyfraniad y mae'r Bwrdd Cysgodol yn ei wneud at waith y Bwrdd a gofynnodd a oes rhagor y gallai'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ei wneud i gefnogi'r Bwrdd Cysgodol. Ategodd y Cadeirydd yr adborth ar gyfraniad y Bwrdd Cysgodol.

3.7 Croesawodd Rhiannon Lloyd-Williams yr adborth cadarnhaol ar ran y Bwrdd Cysgodol ac awgrymodd edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o'r Bwrdd a'i waith ar draws Llywodraeth Cymru.

3.8 Nododd Mutale Merrill fod pob aelod yn dod â'u profiadau bywyd unigol eu hunain i'r Bwrdd.

3.9 Awgrymodd Carys Williams ddefnyddio ymagwedd seminar at gyfarfodydd y Bwrdd i ganolbwyntio trafodaethau ar faterion strategol allweddol a manteisio ar yr amser sydd gan y Bwrdd gyda'i gilydd. Gofynnodd Carys i flaengynllun ar gyfer agendâu'r Bwrdd gael ei ddosbarthu gyda phapurau'r Bwrdd ar gyfer pob cyfarfod.

3.10 Awgrymodd Mike Usher wella eglurder tasg y Bwrdd ym mhapurau'r Bwrdd a gofynnodd sut y gallai Cyfarwyddwyr Anweithredol gefnogi gwaith y Bwrdd y tu allan i gyfarfodydd wedi'u hamserlennu.

3.11 Oherwydd pwysau amser gwahoddir aelodau'r Bwrdd i anfon sylwadau ymlaen ar gylch gorchwyl yr ysgrifenyddiaeth yn dilyn y cyfarfod.

4. Unrhyw Fater Arall a Chloi

4.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 07 Mehefin.