Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Agenda ar gyfer 31 Ionawr 2022
Amser Eitem

13:40

Croeso

Cofnodion a chamau gweithredu

13:50

Paratoi ar gyfer y drafodaeth gyda’r Gweinidog

14:00

Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg - yr ymateb cychwynnol i argymhellion y Bwrdd

14:30

Diweddariad Llywodraeth Cymru a map ffordd drafft (Hayley a Donna)

15:10

Trafodaeth ynghylch rôl y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro (IYWB) cyn y Bwrdd Gweithredu

15:40

Digwyddiad nesaf pob Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth (SPG): 2 Mawrth

15:55

Grŵp Cynrychioli Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd (JSG)

16:10

Cynllun cyfathrebu a marchnata (Dareth/Ellie)

16:20

Pwyllgor Pobl Ifanc: cynllun drafft ar gyfer 2022 (Catrin James)

16:40

Unrhyw fater arall

16:45

Diwedd

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Jo Sims: Cyngor Sir Blaenau Gwent, Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid
  • Dusty Kennedy (DK): Academi Model Adferiad o Drawma  

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Jeremy Miles MS: Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg
  • Hayley Jones (HJ): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Hannah Wharf (HW): Dirprwy Gyfarwyddwr Cymorth i Ddysgwyr
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Gwahoddedigion:

Catrin James: Yr Urdd, Pwyllgor Pobl Ifanc

Ymddiheuriadau:

Ellie Parker (EP): Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r Sector

Croeso a chofnodion

Cytunwyd bod cofnodion y 14eg o Ragfyr 2021 yn gofnod cywir a gwir.

Cam Gweithredu 1 a 2: nodwyd bod y drafodaeth ynglŷn ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth oedd wedi ei bwriadu ar gyfer y cyfarfod hwn wedi ei gohirio tan y cyfarfod nesaf. At hynny byddai Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei wahodd i'r cyfarfod nesaf i’w gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth gryfach o waith ieuenctid a dulliau gwaith ieuenctid yng nghyd-destun mynd i'r afael ag annhegwch mewn addysg, presenoldeb yn yr ysgol ac addysg yn y cartref.

Cam gweithredu 3: Roedd Ellie Parker wedi cael ei gwahodd i ymuno â Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth, Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu.

Paratoi ar gyfer y drafodaeth gyda’r Gweinidog

Cafodd y Bwrdd drafodaeth ynghylch blaenoriaeth eitemau i’w codi gyda’r Gweinidog, oedd yn cynnwys eu meddyliau cychwynnol ar y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2021.

Y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg

Cyflwynodd aelodau'r Bwrdd eu hunain i’r Gweinidog. Diolchodd y Gweinidog i’r Bwrdd am eu holl waith hyd yma. Cydnabu lythyr a anfonwyd gan KT yn tynnu sylw at rai pryderon ynghylch diffyg manylder yn y Datganiad Ysgrifenedig. Eglurodd y Gweinidog nad oedd newid yn lefel yr ymrwymiad clir ers dechrau’r gwaith hwn. Bwriad y diffyg manylder oedd ei gwneud yn bosibl paratoi ateb sydyn cyn y Nadolig, yr oedd ef wedi ymrwymo iddo cyn hynny. Eglurodd ymhellach na ellid yn realistig ymateb i holl gymhlethdodau’r materion yn y cyfnod hwnnw o amser, ac mai cyfle oedd y Datganiad Ysgrifenedig i fod yn agored gyda’r Bwrdd a'r sector ynglŷn â’r syniadau cychwynnol. Eglurodd hefyd y caiff yr ymrwymiad i'r gwaith hwn ei gefnogi gan £11.4 miliwn o arian newydd dros y tair blynedd nesaf.

Tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith y byddai recriwtio ar gyfer y Bwrdd Gweithredu yn dechrau mor fuan ag yr oedd modd, ac y byddent yn cael y cylch gorchwyl i yrru’r argymhellion yn eu blaen a nodi pa waith pellach oedd angen ei wneud i alluogi i hynny ddigwydd.  Esboniodd y Gweinidog nad oedd bwriad i dynnu’n ôl oddi wrth yr ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraethu o ran deddfwriaeth, ond bod angen gwaith trylwyr cyn y gellid symud ymlaen.

Gofynnodd EGJ i’r Gweinidog sut y gallem sicrhau y gellid cadw’r momentwm gyda golwg ar yr argymhelliad ynghylch y Gymraeg ac olrhain cynnydd yn absenoldeb, yn y tymor byr, Corff Cenedlaethol.  Atebodd y Gweinidog fod arnom eisiau gweithio gyda’r Bwrdd Gweithredu i sicrhau cynnal momentwm ac arweinyddiaeth dda.  Nododd bwysigrwydd cryfhau gwasanaethau Cymraeg ar draws y sector addysg yn ei gyfanrwydd.

Pwysleisiodd y Bwrdd y bu llawer o flynyddoedd o erydu gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru a’u bod yn gweld hwn fel yr amser i ddal i symud yn gyflym i ailfywiogi gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc. Hefyd mae’r Bwrdd yn gweld angen cryf i sicrhau bod yr holl elfennau cymorth sydd ar gael i bobl ifanc, gan cynnwys ar draws y cwricwlwm, yn cael eu cydgysylltu. 

Tynnodd SL sylw at y ffaith fod yr argymhellion i gyd yn gydgysylltiedig ac yn cynnig jig-so megis er mwyn datblygu gwasanaeth ieuenctid cynhwysol, seiliedig ar hawliau, sydd ar gael i bob person ifanc. Eglurodd KT mai un o elfennau anoddaf y gwaith oedd sefydlu gwaith ieuenctid fel rhan werthfawr o’r broses addysg. Fodd bynnag, mae gwaith ieuenctid hefyd yn torri ar draws llawer o feysydd polisi eraill a dylai gael ei weld fel gweithlu proffesiynol sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc, ac roedd argymhelliad y ddeddfwriaeth wedi ei fwriadu i wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Dywedodd y Gweinidog ei fod yn deall bod angen negeseuon pellach i roi sicrwydd i’r sector ynghylch ei ymrwymiad i’r gwaith hwn, ac y byddai ef yn myfyrio ar y drafodaeth a gafwyd.

Nododd ET y byddai hi’n croesawu gwaith pellach ar yr adolygiad cyllid i sicrhau bod y cyllid oedd yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynnal gwaith ieuenctid yn ddigonol i weithredu fel ysgogiad i ddenu cyllid arall a chynyddu ei effaith bosibl.

Diolchodd KT i’r Gweinidog am ei amser. Diolchodd y Gweinidog i'r bwrdd am eu gwaith a’r gonestrwydd yr oeddent yn ei gyfrannu iddo.

Diweddariad Llywodraeth Cymru a’r map ffordd drafft

  • Buasai’r Gangen Ymgysylltu â Ieuenctid yn brysur yn symud gwaith ymlaen ar yr argymhellion; roedd cynllun cyflawni drafft wedi cael ei gylchredeg ar gyfer sylwadau gan aelodau’r Bwrdd.
  • Daw grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) i ben ym mis Mawrth a bydd y Sefydliad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol newydd yn cychwyn ym mis Ebrill, mae’r holl ymgeiswyr wedi cael eu hysbysu am ganlyniad y nithio.
  • Caiff y meini prawf ar gyfer y Grant Cefnogi Ieuenctid eu hadolygu cyn bo hir a bydd swyddogion yn edrych i weld sut y gallant ddeall yn well y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sut y gellid cynorthwyo awdurdodau lleol i ddod yn fwy cynhwysol yn eu gwasanaethau gwaith ieuenctid a gweithio gyda’r sector gwirfoddol yn hyn o beth.
  • Mae’r tîm ehangach yn gweithio tuag at orffen y Fframwaith diwygiedig, Ymgysylltu ag Ieuenctid a Dilyniant, disgwylir dyddiad cyhoeddi oddeutu diwedd tymor y gwanwyn/dechrau tymor yr haf.
  • Mae gan Is-adran y Gymraeg gyllid ychwanegol drwy gynllun lles y gaeaf ac mae swyddogion yn bwriadu ehangu’r cynlluniau peilot presennol yng Ngheredigion a Chaerffili hefyd, a’i ymestyn i Sir y Fflint.  Mae’r holl arian i gael ei wario o fewn y flwyddyn ariannol hon.
  • Mae swyddogion yn dal i edrych ar yr adroddiad mapio, ac yn disgwyl i’r data a’r ddogfen ddiwygiedig gael eu hanfon at y gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i gael ei hystyried.

Cynllun Gwaith

  • Aeth HJ ag aelodau’r Bwrdd drwy’r cynllun gwaith drafft; wedi ei drefnu ar gyfer 6 mis, 12 mis, a’r tymor hwy. Bydd angen blaenoriaethu gan fod y cynllun gweithredu yn uchelgeisiol.
  • Rhoddodd swyddogion fwy o fanylion am bob un o'r argymhellion.
  • Cwestiynau allweddol a sylwadau gan aelodau’r Bwrdd (cyffredinol):
    • Angen sicrwydd ar gyfer y sector fod y dyraniad o £11.4 miliwn yn arian newydd. Awgrymwyd bod angen i'r gweinidog gyfleu'r neges hon droeon i’r sector.

Argymhelliad 1

  • Beth yw rôl y Comisiynydd Plant/Plant yng Nghymru? Mae angen meddwl yn greadigol y tu hwnt i waith y Pwyllgor Pobl Ifanc fel bod pobl ifanc eraill y tu allan i’r Pwyllgor yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Sut y bydd pobl ifanc yn derbyn tâl ddigonol am gyfranogi?
  • Pa adnodd fydd yn tanategu cyfranogiad pobl ifanc? Gofynnodd aelodau'r Bwrdd am eglurder ynghylch y ffordd y caiff yr adnodd (£11.4 miliwn) ychwanegol ei wario/ei ddyrannu (blaenoriaethau a dilyniannu).
  • Gwerthuso’r dewisiadau ar gyfer strwythur llywodraethu ac atebolrwydd i’r dyfodol yn cynnwys pobl ifanc.

Argymhelliad 2

  • Ymrwymiad y Rhaglen ar gyfer Llywodraethu, angen negeseuon clir fod hyn yn cael ei symud ymlaen. Sicrhau nad yw’r argymhelliad hwn yn cael ei leihau i ddim ond mater cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC). Y nod mewn golwg yw sefydlu sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, fel y bydd eglurder i bobl ifanc ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl oddi wrth waith ieuenctid yng Nghymru.
  • Ble mae sail ddeddfwriaethol dda yn bodoli yn y DU neu yn rhyngwladol, i’w defnyddio fel man cychwyn, e.e. Yr Alban, Seland Newydd.
  • Awgrymwyd y gallai'r bwrdd roi diffiniad o waith ieuenctid ar gyfer deddfwriaeth.

Argymhelliad 5

  • Does dim eglurder a yw'r argymhelliad i greu corff cenedlaethol wedi cael ei dderbyn. Efallai na fydd creu corff cenedlaethol yn dibynnu ar ddeddfwriaeth. Sefydlodd y Comisiwn Cam-drin Domestig gorff tra’n disgwyl am ddatblygu sail ddeddfwriaethol iddo; sefydlu diwylliant o newid.
  • Gall corff cenedlaethol ei hun ddatblygu ei strwythurau ei hun: edrych ar Asiantaeth Ieuenctid Cymru fel man cychwyn.

Argymhelliad 6

  • Mae consortia addysgol rhanbarthol yn canolbwyntio ar ysgolion (yr eithriad yw gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol) a byddai gwaith ieuenctid yn mynd ar goll o fewn y consortia. Edrych ar y Grŵp Cynrychiolaeth Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd a modelau rhanbarthol eraill, e.e. mae fforymau rhanbarthol o fewn gwaith eiriol (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, NYAS). yn gweithio’n wirioneddol dda.

Argymhelliad 9

  • Egwyddorion cynllunio gwasanaeth fel egwyddor sylfaenol; y cam cychwynnol (cyn manyleb) yn edrych yn greadigol ar yr hyn ddylai’r canlyniad fod.

Argymhelliad 10

  • Cerdyn Hawliau Ieuenctid: disgrifiodd swyddogion gyfarfod diweddar gyda Siaradwyr ar gyfer Ysgolion ynghylch eu Cerdyn Ieuenctid.  Teimlai DK yn ansicr a fyddai'r cerdyn yn bodloni bwriadau cynllun Hawliau Ieuenctid Cymru.

Pwyllgor Pobl Ifanc

Ymunodd Catrin James â’r alwad i siarad drwy ei phapur ar y camau nesaf ar gyfer y Pwyllgor Pobl Ifanc:

  • Angen adnewyddu/ychwanegu at yr aelodaeth. Bylchau a ganfuwyd:
    • siaradwyr Cymraeg
    • ardaloedd gwledig
    • anableddau cudd neu gorfforol
    • gofalwyr a rhai yn gadael gofal
  • Bydd y Pwyllgor Pobl Ifanc yn cymryd rhan mewn recriwtio Cadeirydd ar gyfer y Bwrdd Gweithredu newydd.
  • Angen arweiniad ynghylch y cyfnod trosglwyddo.
  • Mae’n well gan y Pwyllgor Pobl Ifanc arweiniad clir manwl i gynorthwyo eu trafodaethau.

Digwyddiad pob SPG nesaf: 2 Mawrth

Trafodwyd pwysigrwydd cyfleu negeseuon ynghylch statws adroddiad y Bwrdd ac eglurder ynghylch y dyraniad cyllid newydd.

Cam gweithredu: cyfarfod pellach o’r Bwrdd i’w drefnu i gynllunio’r digwyddiad pob Grŵp Cyfranogi’r Strategaeth (Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid).

Cynllun cyfathrebu a marchnata

Roedd EP yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod ond byddai’n croesawu adborth ar y cynllun cyfathrebu a marchnata drafft.

Cam gweithredu: cyfarfod pellach o’r Bwrdd i’w drefnu i gynllunio’r digwyddiad pob Grŵp Cyfranogi’r Strategaeth (Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid).

Grŵp Cynrychiolaeth Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd

Cadarnhaodd KT y byddai ef yn ymuno â’r Grŵp Strategol ar y cyd nesaf ar y 4ydd o Fai.