Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

 
Amser Eitem Papurau
10:00

Croeso

Cofnodion a chamau gweithredu

Cofnodion 15 Medi

10:05

Diweddariad gan Keith Towler

 
10:15

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

 

10:25

Diweddariad cyfathrebu a marchnata:

  • myfyrdodau ar y gynhadledd gwaith ieuenctid
  • diweddariad ar y gwobrau rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid

 

10:40

Hygyrchedd polisïau ar gyfer pobl ifanc fyddar

 
10:50

Trefniadau olynydd y Bwrdd a chynllunio trosglwyddiad

  1. Papur
11:35

Cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol a dyddiadau cyfarfodydd Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

 
11:45 Diweddariad ar grantiau  
11:55

Grŵp rhanddeiliaid y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu

 
12:05

Argymhelliad 2: cryfhau neu greu sail ddeddfwriaethol newydd

 
12:45

Unrhyw faterion eraill

 
12:50 Cloi  

 

Yn bresennol

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Ymddiheuriadau

Sharon Lovell: Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)

Cofnodion a chamau gweithredu

Cytunwyd cofnodion cyfarfod mis Medi fel cofnod cywir a gwir gydag un mân ddiwygiad.

Tynnodd ET sylw’r Bwrdd at yr adolygiad Estyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg y disgwylir iddo adrodd ym mis Rhagfyr.

Cam gweithredu: KT i gysylltu ag Estyn am drafodaeth gynnar ar swyddogaeth hanfodol gwaith ieuenctid o ran darparu cymorth yn y maes hwn  .

Diweddariad gan Keith

Rhoddodd KT ddiweddariad ar gyfarfodydd diweddar yr oedd wedi bod iddynt:

  • Cyfarfod gweithredol CWVYS: cafodd ei gyflwyno i Gadeirydd newydd CWVYS, Eluned Parrot. Yn gyffredinol roedd yn gefnogol o argymhellion y Bwrdd a bydd yn ysgrifennu at y Gweinidog maes o law i amlinellu unrhyw bryderon neu ystyriaethau o’u safbwynt nhw.
  • Cyfarfod rhanbarthol CWVYS: adroddwyd bod y berthynas a phartneriaid awdurdod lleol yn drafferthus mewn rhai ardaloedd.
  • Aeth i gyflwyniad a sesiwn Cwestiwn ac Ateb a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar ganlyniadau’r arolwg gweithlu.
  • Aeth i gyfarfod a drefnwyd gan Chwarae Cymru a roddodd ddiweddariad ar adroddiad yr adolygiad chwarae: mae’r adroddiad yn agos at ei ddrafft terfynol. Ail-bwysleisiodd KT y cysylltiad rhwng chwarae a gwaith ieuenctid a phwysigrwydd sicrhau cysylltedd ar lefelau Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

Rhoddodd HJ yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am adnoddau presennol y gangen.

Mae trafodaethau am ddyfodol y Pwyllgor Pobl Ifanc ar y gweill gan gynnwys ystyriaeth o’i swyddogaeth o ran cynllunio gweithrediad.

Mae ymateb y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg i adroddiad y Bwrdd wedi’i drefnu yn rhagarweiniol ar gyfer 16 Rhagfyr. Gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried a ddylid oedi’r ymateb i adlewyrchu dyraniad y gyllideb. Y consensws ymhlith aelodau’r Bwrdd oedd ei bod yn bosibl y gallai oedi cyn cyhoeddi greu’r perygl o golli’r momentwm a gynhyrchwyd.

Diweddariad cyfathrebu a marchnata

Cynhadledd Gwaith Ieuenctid

Roedd 258 o gynadleddwyr yn bresennol a chafwyd cynrychiolaeth dda o bob rhan o’r sector. Gellid priodoli llawer o’r anawsterau a gafwyd ar y diwrnod i amser cynllunio a chapasiti adnoddau cyfyngedig ond lluniwyd cofnod ‘gwersi a ddysgwyd’ i hysbysu digwyddiadau yn y dyfodol. Mae diffyg cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn adlewyrchu prinder cenedlaethol na ellid ei oresgyn ar y diwrnod.

Cam gweithredu: Tynnu sylw tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru at anawsterau yn dod o hyd i ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain.

Cyflwynodd aelodau’r Bwrdd eu myfyrdodau eu hunain ar y digwyddiad, gan gydnabod rhai o’r anawsterau ond gan dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd dod ag ymarferwyr ynghyd. Argymhellodd SS y dylid archwilio’r potensial ar gyfer digwyddiadau hybrid yn y dyfodol.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid

Mae ffilmio’r rhai sydd yn y rownd derfynol wedi cychwyn; bydd y rhith-seremoni wobrwyo yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar 9 Rhagfyr am 3:30pm.

Bydd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yn cychwyn ar 22 Tachwedd i godi ymwybyddiaeth y rhai yn y rownd derfynol ac i ennyn brwdfrydedd cyn y seremoni.

Cynllun Peilot Marchnata a Chyfathrebu

Bydd cynllun peilot blwyddyn o hyd yn dod i ben ym mis Mawrth 2022. Cyn hynny, bydd gwerthusiad anffurfiol yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr i asesu effeithiolrwydd y dull hwn ac i hysbysu’r camau nesaf yn unol â chod ymarfer y trydydd sector.   

Hygyrchedd polisïau ar gyfer pobl ifanc fyddar

Dywedodd KT y gwnaed cais yn y Gynhadledd i aelodau’r Bwrdd gyfarfod â grŵp pobl ifanc fyddar ac i archwilio’r ffordd orau o sicrhau bod gwaith y grŵp a’i is-grwpiau yn hygyrch i’r grŵp.

Cam gweithredu: KT i drefnu cyfarfod.

Trefniadau olynydd y Bwrdd a chynllunio trosglwyddiad

Trafododd aelodau’r Bwrdd drefniadau olynydd posibl ar gyfer y Bwrdd presennol. Roedd yr aelodau yn gytûn y dylai’r broses fod yn broses penodiad cyhoeddus i sicrhau sefyllfa agored a thryloyw. Tynnodd KT sylw at fyfyrdodau gan randdeiliaid yn y sector y dylai fod dull ffurfiol y gellid ei ddefnyddio i gynnwys rhanddeiliaid allweddol mewn unrhyw drefniadau yn y dyfodol.

Awgrymwyd y dylai trefniadau ar gyfer y dyfodol hefyd gynnwys gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth presennol i barhau ymgysylltiad â’r sector cyfan. Pwysleisiodd y Bwrdd bod angen cael cylch gwaith eglur ar gyfer unrhyw Fwrdd newydd, ac y dylai hwnnw ddangos y newid o gylch gwaith y Bwrdd presennol i gylch gwaith Bwrdd gweithredu.

Awgrymwyd hefyd y dylai aelodau Bwrdd newydd ddisgwyl bod yn aelodau o’r is-grwpiau yn rhan o’r cylch gwaith hwnnw, ac y dylai fod pwyslais eglur ar natur gyfranogol y gwaith hwn.

Cyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol a dyddiadau cyfarfodydd SPG

Cytunodd y Bwrdd eu bod yn fodlon aros yn swyddogaeth tan i Fwrdd newydd gael ei sefydlu, ac y dylai’r Pwyllgor Pobl Ifanc barhau tan fydd gan y Bwrdd newydd gyfle i gytuno sut maent yn dymuno ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y dylai gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth barhau hefyd gan fod y dull hwn wedi bod o gymorth mawr o ran helpu i ddatblygu gwaith y Bwrdd a sicrhau y gellid cymryd pob safbwynt i ystyriaeth.

Cytunwyd y dylai’r Bwrdd gyfarfod bob 8 wythnos, gyda bwlch dros yr haf ac y dylid amseru i alluogi trafodaethau gyda’r Pwyllgor Pobl Ifanc os yw’n bosibl. Nodwyd bod angen nodi meysydd eglur o waith os bydd y Pwyllgor yn parhau, er mwyn cynorthwyo eu gwaith.

Cam gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i ganfasio ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer 2022 i 2023.

Diweddariad grantiau

Rhoddodd DL ddiweddariad ar gyllid grant, gan gynnwys y cyllid iechyd a llesiant meddwl emosiynol newydd o £2.5 miliwn ac ail-ganolbwyntio’r Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol a fydd yn cynnwys pwyslais ar gyflawni rhai o’r uchelgeisiau amrywiaeth, gan gysoni’r cyllid grant gydag argymhellion y Bwrdd.

Tynnodd aelodau’r Bwrdd sylw at adborth gan y sector bod hwn yn cael ei ystyried fel toriad i gyllid ar gyfer sefydliadau cenedlaethol.

Canmolwyd gan JS y penderfyniad i gynnwys yn y canllawiau ariannu i’r grant Llesiant fynnu ar gydweithio gyda’r sector gwirfoddol. Mae angen mwy o amser i ddatblygu’r partneriaethau hyn.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y potensial i ariannu am gyfnodau hwy yn unol ag adolygiad o wariant tair blynedd, i roi sefydlogrwydd ychwanegol yn y sector i alluogi gwell cynllunio o wasanaethau a sicrwydd gwell o ran contractau cyflogaeth.    

Awgrymwyd hefyd bod angen cryfhau cydweithrediad â’r sector gwirfoddol hefyd, gyda sefydliadau mwy yn cynorthwyo grwpiau llai ar lefel leol.

Grŵp rhanddeiliaid y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu

Amlinellodd DE y gwaith a oedd yn cael ei wneud ym Mhrifysgol Caerdydd fel darparwyr y rhaglen, gan nodi bod Kirsty Williams wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd ei Fwrdd Cynghori. Nodwyd bod gan faes gwaith ieuenctid ddwy sedd wrth y bwrdd, ond roedd rhywfaint o bryder na ellid anfon rhywun yn lle’r cynrychiolydd a enwyd pe na bai’n gallu bod yn bresennol.

Nododd DE ymhellach rai pryderon a godwyd gan y sector o ran y ffaith nad oedd safonau’r Gymraeg yn cael eu dilyn yn briodol, ac nad oedd y broses benodi ar gyfer y Cyfarwyddwr Gweithredol yn agored i weithwyr ieuenctid ar y cychwyn. Cododd y Bwrdd bryderon am y strwythur a’r gweithgarwch presennol sy’n bodoli o ran y gwaith hwn, a’r diffyg cyfle tybiedig i’r sector gwaith ieuenctid lunio’r gwaith hwn yn weithredol.

Awgrymwyd hefyd, er y bu angen i’r grŵp rhanddeiliaid godi ei bryderon gyda Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd, roedd angen hefyd iddo sicrhau ei fod yn gweithio i egluro yn eglur sut dylid datblygu’r rhaglen hon i helpu i lywio gwaith yn y dyfodol.

Argymhelliad 2: cryfhau neu greu sail ddeddfwriaethol newydd

Yn dilyn ymlaen o adroddiad y Bwrdd, gofynnwyd i’r aelodau ystyried cwestiynau ychwanegol er mwyn helpu i ddiffinio yn eglur y rhesymau am yr angen am newidiadau i’r sail ddeddfwriaethol bresennol.

Roedd trafodaethau ynghylch y canlyniad polisi dymunol, diffinio gwaith ieuenctid, atebolrwydd am wasanaethau gwaith ieuenctid, osgoi a rheoli canlyniadau anfwriadol, ehangu cwmpas y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg, asesiadau digonolrwydd, diogelu llwybrau i waith ieuenctid a swyddogaeth y corff cenedlaethol arfaethedig.