Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Agenda
Amser Eitem Papurau

13:00

Croeso

Cofnodion a chamau gweithredu o gyfarfod mis Rhagfyr

  1. Cofnodion

 

13:10

Rôl Estyn o ran cefnogi gwaith ieuenctid (Gareth Kiff)

 

13:30

Diweddariad LlC

 

13:40

Diweddariad Keith

 

13:50

Diweddariad y GCS gan gynnwys:

  • Diweddariad y Pwyllgor Pobl Ifanc
  • Peilot y Gymraeg

 

  1. Cynllun Gweithredu'r Pwyllgor Pobl Ifanc

14:10

Cyfarfod nesaf yr holl GCSau - Chwefror

  1. Cynllun Rhyng-gysylltu

14:45

Map ffordd tuag at yr adroddiad terfynol a thu hwnt

 

  1. Manylion e-bost
  2. Adborth Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol 

15:15

Gwaith ieuenctid rhyngwladol

(Howard Williamson)

 

15:40

Profiad Asiantaeth Ieuenctid Cymru

(Howard Williamson)

 

16:00

Unrhyw Fater Arall

 

16:15

Cloi

 

Attendees

Aelodau:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Jo Sims (JS): Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Declan Burns (DB): Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
  • Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Drwy wahoddiad:

  • Gareth Kiff (GK): Estyn
  • Howard Williamson (HW): Prifysgol De Cymru

Ymddiheuriadau

Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.

Cofnodion a phwyntiau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.

Rhoddodd KT y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd am ei waith yn gysylltiedig â'r adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae. Dywedodd fod Chwarae Cymru yn croesawu adroddiad y Bwrdd, ac mae KT yn edrych ymlaen i wneud gwaith ar hyn yn y dyfodol, ac i nodi agweddau sy'n gorgyffwrdd rhwng y ddau faes polisi.

Estyn: Gareth Kiff

Roedd Gareth yn croesawu adroddiad y Bwrdd a'r cyfeiriadau at y gwaith y mae Estyn wedi'i gyflawni yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid hyd yma. Dywedodd eu bod yn croesawu'r cyfle i ymgysylltu mwy â'r sector a'u bod yn dechrau casglu gwybodaeth fanwl am yr hyn sy'n digwydd. Dywedodd Gareth fod Estyn yn cynnal fforwm i randdeiliaid ar 8 Mawrth 2021, a'i fod yn bwriadu gweithio'n agos gyda'r sector wrth ddatblygu unrhyw fframwaith arolygu yn y dyfodol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Roedd y Bwrdd yn croesawu ymgysylltiad Gareth, a'r modd y mae Estyn yn ymgysylltu â'r sector gwaith ieuenctid. Mae adroddiad cychwynnol y Bwrdd (argymhelliad 7) yn trafod yr angen i sefydlu fframwaith arloesi a chanlyniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Diweddariad Llywodraeth Cymru

Rhoddodd GRC y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd am staffio yn y Gangen Ymgysylltu Ieuenctid. Tynnodd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru y parhau i gynnal trafodaethau ynghylch Erasmus + a'r effaith ar bobl ifanc a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn sgil colli'r rhaglen hon. Dywedodd hefyd fod y tîm wedi derbyn ceisiadau i roi ystyriaeth bellach i ganllawiau Covid 19, ac y bydd y tîm yn gwneud hynny i sicrhau na chaiff cyfleoedd eu colli.

Diweddariad Keith Towler

Dywedodd KT ei fod wedi cwrdd â Sara Faye ar ôl y Nadolig i roi'r newyddion diweddaraf iddi yn dilyn adroddiad y Bwrdd. Dywedodd fod Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol wedi cynnal digwyddiad hystings buddiol, gyda nifer dda'n bresennol, a bod llawer o'r gwleidyddion a oedd yno wedi darllen adroddiad y Bwrdd a rhoi sylwadau arno. Dywedodd KT hefyd ei fod wedi cyfarfod â Jane Hutt yn ddiweddar yng nghyswllt cyfiawnder ieuenctid i drafod gwell rheolaeth ar achosion a chynigion ar gyfer sefydliadau diogel. Mae'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid yn canolbwyntio ar atal, sydd hefyd o ddiddordeb o safbwynt gwaith ieuenctid.

Diweddariad y GCS

Dywedodd SL y byddai canlyniad y tendr ar gyfer y Pwyllgor Pobl Ifanc yn cau ar 8 Chwefror, ac y gwelwyd lefelau da o ddiddordeb hyd yma. Trafododd y Bwrdd a fyddent yn ymuno â'r Pwyllgor yn ei gyfarfod, a chytunwyd y gallai pob un aelod gymryd tro i ymuno â'r Pwyllgor er mwyn i'r bobl ifanc ddod i'w hadnabod. Cytunwyd hefyd y gallai'r Pwyllgor ddechrau drwy edrych ar ymagwedd at waith ieuenctid sy’n seiliedig ar hawliau pobl ifanc. Dywedodd SL ei bod yn cyfarfod â'r Urdd i drafod cynnydd ar 3 Chwefror.

Gofynnodd SL a oedd bellach angen rhoi'r Siarter Gwaith Ieuenctid yn ei gwely, ac awgrymwyd nad oedd unrhyw broblemau'n gysylltiedig ag ystyriaethau'r siarter flaenorol, a'u bod wedi'u cynnwys mewn dogfennau eraill. Fodd bynnag, teimlwyd pe bai Siarter newydd yn cael ei hystyried yn angenrheidiol, y gallai'r Siarter honno gael ei datblygu gan bobl ifanc.

Gofynnodd EGJ am y newyddion ddiweddaraf am drafodaethau Peilot y Gymraeg a dywedodd DL y byddai'n darparu'r wybodaeth honno erbyn 1 Chwefror.

Cyfarfod nesaf yr holl GCSau

Aeth DB drwy'r cynllun rhyng-gysylltiad a groesawyd gan y Bwrdd. Dywedodd y gallai'r cynllun gael ei ddiweddaru, ac y gallai cysylltiadau gael eu creu rhwng yr argymhellion yn adroddiad y Bwrdd a chynlluniau'r GCSau. Cytunwyd ar fformat cyfarfod nesaf y GCSau.

Map ffordd i'r adroddiad terfynol

Dywedodd KT y bu'r adborth ar yr adroddiad hyd yma yn fuddiol. Dywedodd y byddai'n hoffi cael awdur i gydweithio â'r Bwrdd ar yr adroddiad terfynol. Cytunodd DL i ymchwilio i gaffael y gwasanaeth hwn a llunio manyleb ar gyfer y gwaith.

Cytunodd y Bwrdd ei fod am gael diwrnod llawn arall, neu ddau hanner diwrnod, i drafod beth i'w wneud nesaf o ran yr adroddiad a'r camau gweithredu. LlC i gynnig rhestr o ddyddiadau cyfarfod.

Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol: Howard Williamson

Rhoddodd HW drosolwg o'r gwaith y mae'n ei wneud ar sail ryngwladol yn amlygu pwysigrwydd y manteision a ddaw i bobl ifanc yn sgil gwaith rhyngwladol/Erasmus +. Cyfeiriodd at yr ymgyrch i gysylltu gwaith ieuenctid â chyflogaeth a'r ffocws cryf ar gysylltiadau a iechyd meddwl.

Asiantaeth Ieuenctid Cymru gynt: Howard Williamson

Yn rhan o waith y Bwrdd i ystyried Bwrdd neu Gorff cenedlaethol yn y dyfodol, gofynnwyd i HW roi trosolwg o'i amser gydag Asiantaeth Ieuenctid Cymru. Esboniodd HW sut y cafodd yr Asiantaeth ei sefydlu, a beth oedd ei phrif ddiben. Rhoddodd HW drosolwg o'r hyn a oedd wedi gweithio, ac enghreifftiau o'r hyn fu'n llai llwyddiannus. Gofynnodd SL a oedd yr Asiantaeth yn cael ei harwain gan bobl ifanc, a dywedodd HW fod rhai o'u telerau ac amodau wedi'u datblygu gan fforwm pobl ifanc, ond cynghorodd fod angen eglurder ynghylch ymglymiad pobl ifanc mewn unrhyw gorff yn y dyfodol. Nododd fod gwahaniaeth rhwng yr angen i glywed lleisiau pobl ifanc, a'r gwaith strategol ar faterion gwaith ieuenctid - ac nad oedd y naill a'r llall yr un peth o reidrwydd.

Diolchodd KT i HW am ei amser.

Y Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd am 09:00 ar 30 Mawrth 2021 ar Microsoft Teams.