Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

Agenda ar gyfer 28 Mawrth 2022

Amser

Eitem

Papurau

14:00

Croeso

Cofnodion a Chamau Gweithredu

Cofnodion 31 Ionawr 2022

14:05

Diweddariad gan y Cadeirydd, Keith Towler (KT)

 

14:15

Diweddariad Llywodraeth Cymru (LlC)

 

14:25

Diffiniad o waith ieuenctid

 

15:00

Ysgolion Cymunedol: LlC

 

15:20

Cynlluniau peilot y Gymraeg: Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Caerffili

 

15:40

Hyfforddiant Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid: Safonau Hyfforddiant Addysg

 

16:00

Cynllunio trosglwyddo i’r Bwrdd Gweithredu

 

16:20

Datganiad ar waith ieuenctid hygyrch a chynhwysol: KT

 

16:30

Unrhyw fater arall

 

16:40

Diwedd

 

Yn bresennol

Aelodau’r Bwrdd:

  • Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
  • Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
  • Simon Stewart (SS): Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
  • Efa Gruffudd Jones (EGJ): Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Llywodraeth Cymru (LlC):

  • Hayley Jones (HJ): Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
  • Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
  • Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Gwahoddedigion:

  • Suzanne Sarjeant (SS): Cynghorwr Ysgolion Cymunedol, Llywodraeth Cymru
  • Paul O’Neil (PO): Prif Swyddog Ieuenctid, Cyngor Caerffili
  • Emma Chivers (EC): Ymgynghoriaeth EC
  • Steven Drowley (SD): Cadeirydd, Safonau Hyfforddiant Addysg

Apologies:

  • Jo Sims: Cyngor Sir Blaenau Gwent - Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid
  • Dusty Kennedy: Academi Model Adferiad o Drawma

Croeso a chofnodion

Cytunwyd bod cofnodion yr 31ain o Ionawr 2022 yn gofnod cywir a gwir.

Cam gweithredu: Gofynnodd EGJ am i’r cofnodion gael eu diweddaru i nodi ei chwestiwn i’r Gweinidog sut y gallem sicrhau y gellid cynnal y momentwm gyda golwg ar yr argymhelliad ynghylch y Gymraeg a sut y gallem sicrhau y byddai modd olrhain cynnydd yn absenoldeb, yn y tymor byr, Corff Cenedlaethol.

Diweddariad gan KT

Mae’r dasg o recriwtio am Gadeirydd i’r Bwrdd Gweithredu yn mynd rhagddi. Bydd y Pwyllgor Pobl Ifanc yn cwrdd â’r ymgeiswyr cyn y prif banel. Bydd y Gweinidog yn cwrdd â’r ymgeisydd a ffefrir cyn cadarnhau ei apwyntiad.

Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) wedi cyhoeddi dau apwyntiad allweddol: Kathryn Allan, Cyd-drefnydd Sector Ieuenctid Taith, a Branwen Nicols, cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu rhan-amser (yn gweithio gyda Ellie Parker).

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru: HJ a DR

Mae’r ymgynghoriad ynghylch cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC) yn cau ar 24 Mai.

Mae cynlluniau peilot y Gymraeg yn mynd ymlaen ar hyn o bryd gyda golwg ar gyllido cynlluniau peilot ychwanegol i roi prawf pellach ar ddulliau.   

Cadarnhawyd bod Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth (SPG) Hygyrch a Chynhwysol wedi ei ddiddymu ac y bydd y gwaith hygyrch a chynhwysol yn cael ei brif-ffrydio ar draws ffrydiau gwaith a Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth (SPGs) eraill.

Mae’r cwrs hyfforddi Arwain a Rheoli cychwynnol wrthi’n cael ei werthuso. Cyfrannodd aelodau’r Bwrdd eu sylwadau eu hunain ar y cwrs. Y consensws oedd bod angen gwahaniaethu efallai i ddarparu ar gyfer cyfranogwyr ar gamau amrywiol yn eu datblygiad. Teimlid bod galw clir am gyfle o'r math hwn ond y dylid ystyried modelau gwahanol hefyd, e.e. rhwydwaith arweinyddiaeth i’w gwneud yn bosibl ymgysylltu â chyfeillion beirniadol fel math o ddatblygiad parhaus.

Fel rhan o’r ymdrechion cyson i godi proffil gwaith ieuenctid, mae swyddogion ar hyn o bryd yn trafod gyda Thîm Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru i gynllunio adnoddau ar gyfer ysgolion. Diolchodd swyddogion i aelodau’r Bwrdd am eu cynrychiolaeth ar fwrdd y prosiect Adnewyddu a Diwygio ar gyfer dysgwyr agored i niwed a than anfantais, bydd gwaith ieuenctid yn parhau i gael ei ystyried gan y Bwrdd, ac ym mha waith bynnag fydd yn dilyn pan ddaw y Bwrdd i ben.

Mae swyddogion wrthi’n gweithio ar lwybr cydlynol at gymwysterau ar gyfer gwaith ieuenctid mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru (AC), mae tystiolaeth nad yw gwasanaethau gwaith ieuenctid ar hyn o bryd yn defnyddio’r wefan, sy’n rhywbeth y mae angen ymdrin ag ef.  

Mae swyddogion yn dechrau trafod gyda thîm cyfathrebu canolog Llywodraeth Cymru i edrych ar ba gefnogaeth a all fod ar gael fyddai o gymorth i annog pobl i ddod i mewn i broffesiwn gwaith ieuenctid. Anogodd aelodau’r Bwrdd y dylid ystyried y duedd i’r llwybr i mewn i waith ieuenctid fod drwy’r gwaith ieuenctid ei hun. Mynegwyd pryder ynghylch yr angen i fynd i’r afael â’r diffyg cyfleoedd yn y sector cyn cynnal unrhyw ymgyrchoedd recriwtio, codwyd pwynt penodol ynghylch pwysigrwydd annog mentrau cymunedol Llywodraeth Cymru i gynnwys gofyniad i gyflogi gweithwyr ieuenctid.

Bydd Pennaeth Cangen newydd yn ymuno â’r Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid yn fuan.  

Diffiniad o waith ieuenctid

Teimlai aelodau'r Bwrdd fod yn rhaid i'r ddogfen Egwyddorion a Dibenion fod yn fan cychwyn ar gyfer diffinio gwaith ieuenctid mewn deddfwriaeth. Yr uchelgais bennaf yw amddiffyn y proffesiwn gwaith ieuenctid a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Rhannodd aelodau’r Bwrdd bwysigrwydd canolbwyntio ar hawliau a haeddiannau pobl ifanc, gan osod dyletswydd i ddarparu gwasanaeth i bob person ifanc (yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion y boblogaeth) mewn partneriaeth â’r trydydd sector.

Mae aelodau'r Bwrdd yn ystyried bod angen deddfwriaeth newydd, yn hytrach nag addasu deddfwriaeth bresennol. Cyfeiriwyd at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i dull system gyfan, e.e. sut gallwn ni greu “meddylfryd system gyfan” ynglŷn â’r hyn y mae ar berson ifanc ei angen yn yr ysgol a thu allan iddi.

Ysgolion cymunedol

Cyflwynodd Suzanne Sarjeant wybodaeth i’r Bwrdd am ddatblygu fframwaith ysgolion cymunedol, fydd yn ceisio helpu i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Amlinellodd SS y byddai hyn yn canolbwyntio ar ddwyn ynghyd y gwahanol feysydd dylanwad ym mywydau plant a phobl ifanc gan gynnwys eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Pwysleisiai y byddai hwn yn ddull ysgol gyfan gyda chyfleoedd i annog arweinyddiaeth o deuluoedd ac o gymunedau er mwyn cefnogi pobl ifanc yn y ffordd orau. Amlinellodd y byddai'r fframwaith yn seiliedig o gwmpas tair elfen allweddol, sef ymgysylltu â theuluoedd, canolbwynt cymunedol a chanolfan amlasiantaethol, gan adeiladu ar y strwythurau presennol. At hynny, nododd y ceid rolau newydd ar gyfer swyddog ymgysylltu â theuluoedd a rheolwr ysgolion cymunedol i oruchwylio'r gwaith hwn.

Gofynnodd aelodau’r Bwrdd sut y câi’r swyddi eu disgrifio ac a fyddai cymwysterau ieuenctid a chymuned y JNC yn berthnasol a chynigiwyd enghraifft o rôl debyg y tiwtor ieuenctid yng Ngogledd Iwerddon. Gofynnwyd hefyd am sicrhau, wrth ddatblygu'r fframwaith, y câi ystyriaeth ei rhoi i'r rhai sydd â phrofiad o ofal ac i rôl y rhiant corfforaethol.

Cam gweithredu: rhannu manylion cyswllt Suzanne gyda’r Bwrdd ac anfon copïau i’r cyflwyniad.

Cynlluniau peilot y Gymraeg: PO

Rhoddodd Paul O’Neill ddiweddariad ar gynnydd cynlluniau peilot y Gymraeg. Dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio gyda Cheredigion i ystyried y dysgu a rennir. Amlinellodd y gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd ym mhob ardal, un gyda gweithlu Cymraeg cryf ac un gydag ychydig iawn o staff oedd yn siarad Cymraeg. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad oedd y cynllun peilot yng Nghaerffili wedi gallu rhedeg yn unol â’r bwriad oherwydd problemau yn ymwneud â Covid.

Amlinellodd PO eu bod wedi cynnal nifer o ymgynghoriadau i ddysgu mwy am eu staff o ran eu defnydd o’r Gymraeg, a dymuniadau/anghenion pobl ifanc o ran gwasanaethau Cymraeg. Dywedodd fod y ffordd yr oeddent yn gofyn y cwestiynau wedi newid er mwyn deall yn well y ffordd yr oedd pobl yn defnyddio eu sgiliau iaith yn hytrach na graddfa syml o ran a ydynt yn siarad Cymraeg. At hynny, credid ar y cychwyn nad oedd ar bobl ifanc eisiau siarad Cymraeg y tu allan i'r ysgol ond wedyn eu bod yn canfod bod arnynt eisiau. Fodd bynnag, nid ydynt yn gwybod sut i gael mynediad at wasanaethau Cymraeg, neu nid yw'r gwasanaethau ar gael ar eu cyfer.

Amlinellodd PO eu bod, drwy’r dadansoddiad manwl, yn deall bod rhai pobl ifanc yn colli diddordeb oherwydd natur ffurfiol dysgu Cymraeg mewn ysgolion, a bu peth trafodaeth ynghylch y newidiadau i’r cwricwlwm newydd ac a allai methodolegau addysgu llai ffurfiol helpu gyda hyn.

Diolchodd EGJ, sy'n cadeirio'r grŵp Iaith Gymraeg, i PO am y gwaith y mae wedi'i wneud ar hyn, a dywedodd ei bod yn croesawu ei sylwadau.

Hyfforddiant arwain a rheoli: SD ac EC

Rhoddodd Steve Drowley drosolwg ar y broses o ddatblygu'r hyfforddiant Arwain a Rheoli gan dynnu sylw at y ffaith y bydd y cwrs yn cael ei gymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL). Amlinellodd SD y bu gwerthusiad gan gyfranogwyr y cwrs a bod yr adborth ar y cyfan wedi bod yn gadarnhaol, gydag adborth da i helpu unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Tynnodd Emma Chivers sylw at y ffaith y byddai hi hefyd, o safbwynt y tiwtor, yn gwneud newidiadau er mwyn cael deall yn well y man cychwyn a'r nodau sydd gan y rhai sy'n dilyn yr hyfforddiant hwn mewn golwg cyn iddo ddechrau.

Dywedodd SD eu bod ar hyn o bryd yn gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i neilltuo 20 credyd ar lefel meistr i'r cwrs, a'u bod yn edrych i weld sut y gall yr hyfforddiant hwn fod yn rhan annatod o'r fframwaith. Efallai y ceir cymeradwyaeth gan NAEL erbyn mis Mehefin.

Amlinellodd SD ymhellach fod galw am y cwrs, bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol a gofynnodd i'r Bwrdd gefnogi iteriadau pellach o'r cwrs.

Dywedodd DR y byddai angen gwerthuso'r cwrs ac y byddai angen i Lywodraeth Cymru ystyried canlyniadau'r gwerthusiad hwnnw cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ariannu i’r dyfodol.

Cynllunio trosglwyddo i’r Bwrdd Gweithredu

Awgrymodd KT y byddai cyfarfod nesaf y Bwrdd yn rhoi cyfle da i gyfarfod a chael trafodaeth ynghylch trosglwyddo i Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu newydd, pe bai’r broses benodi wedi cael ei chwblhau erbyn hynny.

Datganiad ar waith ieuenctid hygyrch a chynhwysol: KT

Gofynnodd KT i aelodau'r Bwrdd a oeddent yn fodlon cymeradwyo'r datganiad ar waith ieuenctid hygyrch a chynhwysol, iddo gael ei rannu â'r sector.  

Cytunodd aelodau'r Bwrdd i'r datganiad gael ei rannu gan holi a oedd modd i’r datganiad fod ar gael mewn fformatau gwahanol, gan gynnwys fersiwn Pobl Ifanc.

Cam gweithredu: y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid i ddosbarthu’r datganiad a gymeradwywyd i’r sector.