Cyfarfod y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: 14 Gorffennaf 2021
Agenda a chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Agenda
Amser | Eitem | Papurau |
---|---|---|
16:00 |
Croeso Cofnodion a Chamau Gweithredu |
|
16:10 | Trafodaethau am argymhellion yr adroddiad |
|
17:25 | Trefniadau olynydd y Bwrdd a dyfodol SPGs | |
17:40 | Diweddariad ar gynlluniau peilot Cymraeg | |
17:50 |
Diweddariad Grwpiau Partneriaeth Strategol (SPG):
|
|
18:05 | Unrhyw faterion eraill | |
** Newid i zoom ar gyfer y Pwyllgor Pobl Ifanc ** | ||
18:15 | Cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Pobl Ifanc | |
19:00 | Cloi |
Yn Bresennol
Aelodau:
- Keith Towler (KT): Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
- Sharon Lovell (SL): Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)
- Eleri Thomas (ET): Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Simon Stewart (SS): Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Dusty Kennedy (DK): Trauma Recovery Model Academy
- Efa Gruffudd Jones: Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Llywodraeth Cymru (LlC):
- Hayley Jones (HJ): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
- Gemma Roche-Clarke (GRC): Pennaeth y Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid
- Dareth Edwards (DE): Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid
- Donna Lemin (DL): Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid
Gwesteion:
- Rhys Jones (RJ): Awdur adroddiad, Prifysgol Aberystwyth
- Catrin James (CJ): Urdd
- Aelodau’r Pwyllgor Pobl Ifanc
Ymddiheuriadau
- Jo Sims: Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
Croeso a chofnodion
Cytunwyd cofnodion cyfarfod 6 Gorffennaf fel cofnod cywir.
Roedd pwyntiau gweithredu a drafodwyd yn benodol yn cynnwys y dyddiad ar gyfer trafodaeth am yr argymhelliad ariannu. Mae dyddiad yn cael ei drefnu gan HJ.
Trafodaethau am argymhellion yr adroddiad
Argymhelliad 7: fframwaith arloesedd a chanlyniadau
Trafododd y Bwrdd yr argymhelliad gan gynnwys manteision cael fframwaith eglur a thryloyw sy’n helpu i wella arfer gorau ac ansawdd gwasanaethau. Nodwyd ganddynt y gall arolygiad greu baich i sefydliadau ac na ddylai unrhyw fframwaith newydd fod yn rhy fiwrocrataidd, mae’n rhaid iddo fod yn benodol i waith ieuenctid a byddai angen i staff priodol gael ei recriwtio gan unrhyw arolygiaeth.
Cam gweithredu: Bydd KT yn olrhain newidiadau ar yr argymhellion ac yn eu hanfon i’r Bwrdd ac at RJ.
Argymhelliad 4: model ariannu newydd
Trafododd y Bwrdd yr argymhelliad gan gynnwys geiriad penodol, trefn y camau gweithredu, mecaneg y Grant Cynnal Refeniw a manteisio i’r eithaf ar y cyfle i ariannu gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru o’r gwahanol ffrydiau cyllido.
Cam gweithredu: Bydd KT yn trefnu trafodaeth ar wahân gyda Jo yr wythnos nesaf i gael ei safbwyntiau ar y geiriad ac yn rhoi adborth i RJ. Bydd RJ yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i’r argymhelliad.
Hysbysodd GRC y grŵp bod testun yr argymhelliad hwn wedi cael ei rannu gyda chydweithwyr yn adran Cyllid Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru i’w ystyried.
Argymhelliad 5: Corff Cenedlaethol
Trafododd y Bwrdd a oedd angen deddfwriaeth er mwyn ffurfio Corff Cenedlaethol. Codwyd pryderon y byddai proses ddeddfwriaethol yn achosi oediadau i sefydlu Corff. Ystyriwyd yr angen am ddeddfwriaeth fel sylfaen i agweddau gweithredol Corff.
Roedd y Bwrdd yn gytûn am bwysigrwydd yr argymhelliad hwn o ran sefydlu Corff, ond nid oedd unrhyw safbwyntiau cryf bod yn rhaid cyflawni hyn trwy ddeddfwriaeth.
Argymhelliad 11: cydraddoldeb ac amrywiaeth
Mae’r Bwrdd yn cytuno bod hwn wedi cael ei ddrafftio fel argymhelliad cadarn.
Roedd y Bwrdd yn cytuno ei bod yn anodd cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig a thrafodwyd pob anghydraddoldeb yn unol â dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael ag adfer yn sgil Covid.
Roedd y Bwrdd yn cytuno bod angen i unrhyw gynllun gweithredu ganolbwyntio ar gamau gweithredu, ac nid bod yn gynllun gweithredu strategol arall yn unig. Awgrymwyd y dylid mabwysiadu dull gwaith ieuenctid o ymdrin â hyn gyda’r iaith, ‘rhywun sy’n wahanol i mi’ a’i bod yn bwysig hyrwyddo y dylai fod gan bawb hawl i fynegi ac archwilio eu teimladau/meddyliau yn agored.
Cam gweithredu: Mae’r Bwrdd yn cytuno i gael gwared ar y rhestr o nodweddion o’r drafft er mwyn peidio â gadael unrhyw un allan yn anfwriadol.
Trefniadau olynydd y Bwrdd a dyfodol SPGs
Mae wedi bod yn eglur bod y sector eisiau cynnal y momentwm ac i’r SPGs barhau.
Mae’r SPG Datblygu’r Gweithlu yn cyflawni ei ymarfer mapio yn ogystal â gwaith arall ac angen bwrw ymlaen, felly bydd yn parhau â’i waith drwy’r cyfnod hwn.
Yn yr un modd, nododd y grŵp yng nghyfarfod diwethaf y grŵp Digidol ei fod yn dymuno parhau â’i waith.
Mae gwaith yr SPG Pobl Ifanc yn Ffynnu wedi cyd-fynd yn llwyr â gwaith y Bwrdd a byddai’r grŵp yn gwerthfawrogi rhywfaint o barhad ar ôl i’r Bwrdd ddod i ben. Mae’r syniad o ddigwyddiad ar gyfer pobl ifanc yn rhan o’r gynhadledd i arddangos eu gwaith yn un a groesewir gan yr SPG.
Cytunodd y Bwrdd i beidio â rhannu’r adroddiad drafft cyfan gyda’r SPGs/sector. Drafftiwyd yr adroddiad yn gydweithredol iawn a mater i’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg fydd ei ystyried nesaf.
Cynlluniau peilot Cymraeg
Rhoddodd Donna yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y ddau brosiect peilot a gymeradwywyd.
Croesawyd y diweddariad a newyddion am y prosiectau peilot gan aelodau’r Bwrdd a’r hyn y bydd yn ei olygu i ddyfodol darpariaeth Gymraeg.
Diweddariadau Grwpiau Partneriaeth Strategol (SPG)
SPG Hygyrch a Chynhwysol
Mae’r SPG Hygyrch a Chynhwysol wedi datblygu diffiniad drafft o’r hyn y mae hygyrch a chynhwysol yn ei olygu yng nghyd-destun gwasanaethau gwaith ieuenctid a bydd y diffiniad terfynol yn cael ei rannu gyda’r grŵp i’w gadarnhau yn fuan.
Mae’r swyddog cyfathrebu a marchnata wedi datblygu cynllun cyfathrebu ar gyfer cael adborth ar y diffiniad drafft gan y sector a phobl ifanc.
Diweddariad Marchnata
Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer cynhadledd 2021 yn canolbwyntio ar adroddiad terfynol y Bwrdd; Mae’r SPG Marchnata wedi awgrymu gofyn i aelodau’r Bwrdd hwyluso gweithdai ar argymhellion yr adroddiad terfynol. Mae angen eglurder ynghylch diben y trafodaethau hynny yng ngoleuni amseriad y gynhadledd, a fydd cyn ymateb y Gweinidog i’r argymhellion.
Gofynnodd yr SPG Marchnata a allai aelodau’r Bwrdd enwi eu chwe phrif argymhelliad yn nhrefn eu blaenoriaeth. Cytunodd y Bwrdd na fyddai blaenoriaethu’r argymhellion yn briodol gan fod pob argymhelliad yn bwysig ynddo’i hun. Fodd bynnag, mae’n hawdd grwpio argymhellion yn feysydd thematig.
Argymhellwyd y dylai pwyslais y gweithdai fod ar sut y gall y sector ddechrau rhoi ysbryd yr argymhellion ar waith yn eu gwasanaethau eu hunain.
Y consensws oedd ei bod yn rhy gynnar cynllunio cynnwys y gynhadledd yn fanwl. Gallai swyddogion Llywodraeth Cymru awgrymu meysydd i’w hystyried ymhellach yn deillio o’u hystyriaeth gynnar o’r argymhellion dros yr haf.
Pwyllgor Pobl Ifanc
Ymunodd y Bwrdd â chyfarfod y Pwyllgor Pobl Ifanc wrth iddynt gyfarfod i ystyried yr argymhellion drafft.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar argymhellion 11 a 7 wrth i’r bobl ifanc a oedd yn bresennol drafod sut gallai gwasanaethau gwaith ieuenctid sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob person ifanc a gwerth arolygu o ran sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn gwasanaeth o ansawdd.
Roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn awyddus i bwysleisio y byddai pobl ifanc nad oeddent yn bresennol ar yr alwad angen y cyfle i gyfrannu at y ddadl; byddai hynny yn cael ei wneud drwy padlet a chrynodeb yn cael ei rannu wedi hynny gyda’r Bwrdd.
Pwyntiau allweddol a godwyd
Argymhelliad 11:
- Mynegwyd rhybudd ynghylch cyfyngiadau arolygon fel dull o wrando ar leisiau grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
- Yr angen am weithlu mwy amrywiol i adlewyrchu profiadau a hunaniaeth pobl ifanc eu hunain yn well (cydnabod croestoriadedd).
- Rhwymedigaeth ar sefydliadau gwaith ieuenctid i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc; angen bod yn bresennol lle mae pobl ifanc e.e. Minecraft neu ap Discord.
- Myfyrdodau ar resymau pam efallai nad yw pobl ifanc yn defnyddio darpariaeth gwaith ieuenctid, angen datblygu ymddiriedaeth gyda grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli; creu lleoedd croesawgar.
- Creu dewis a darpariaeth amrywiol, darganfod lle mae pobl ifanc e.e. ar-lein.
- Mae gwybodaeth ddibynadwy am yr hyn sydd ar gael yn hollbwysig, dylai fod yn hawdd i bobl ifanc ddarganfod am gyfleoedd.
- Mae angen creu gwybodaeth i bobl ifanc gyda phobl ifanc ac nid ar eu cyfer, mae angen cynnig cyfleoedd i bobl ifanc guradu eu cynnwys eu hunain.
- Dywedodd pobl ifanc bod gwasanaethau sy’n darparu bwyd i bobl ifanc yn aml yn boblogaidd, fodd bynnag, daw hyn gyda goblygiadau cyllid.
Argymhelliad 7:
- Mae’n bwysig sicrhau bod bob gwasanaeth yn atebol drwy system o gadw cydbwysedd gyda chwmpas eglur i bobl ifanc gyfrannu eu safbwyntiau ar ansawdd y gwasanaeth a phriodoldeb y ddarpariaeth o ran diwallu eu hanghenion ac adlewyrchu eu diddordebau.
- Mae angen i ddulliau i bobl ifanc werthuso ansawdd gwasanaeth fod yn arloesol ac yn ddynamig, gwneud defnydd o apiau digidol i asesu ansawdd sesiynau unigol.
- Roedd pobl ifanc yn teimlo ei bod yn bwysig sefydlu cyfres o safonau ar gyfer y ddarpariaeth o waith ieuenctid a brand y gellir ei adnabod, i roi sicrwydd bod ansawdd y gwasanaeth wedi cael ei sicrhau.
- Byddai cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y gwaith o recriwtio gweithwyr ieuenctid o fudd.
- Croesawyd argymhelliad y Bwrdd i greu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses o lywodraethu sefydliadau gan y Pwyllgor Pobl Ifanc fel dull allweddol i sicrhau mwy o atebolrwydd e.e. pwyllgorau craffu awdurdodau lleol, byrddau llywodraethwyr sector gwirfoddol, ac ati.
- Dylid sefydlu cyfleoedd ar gyfer achrediad i gyfranogiad gwirfoddolwyr ifanc.