Dylai Llywodraeth y DU roi heibio eu cynlluniau i wneud toriadau pellach gwerth £3.5bn yn 2019-20

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: 

Yn y llythyr, mae'r gweinidogion hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi'r Gyllideb yn gynharach yn yr hydref. Byddai hynny'n rhoi mwy o amser i'r gweinyddiaethau datganoledig ystyried yr effaith ar eu cyllidebau hwy mewn da bryd cyn dechrau'r flwyddyn ariannol. Maent hefyd yn gofyn am ymrwymiad i beidio a gwneud unrhyw doriadau pellach i gyllidebau datganoledig, sydd eisoes yn wynebu toriadau mewn termau real.
Mae gweinidogion cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynglŷn â materion cyllid allweddol cyn i Gyllideb y DU gael ei chyhoeddi ym mis Mawrth.
“Oherwydd bod Llywodraeth y DU yn parhau i osod mesurau cyni, ac oherwydd yr ansicrwydd yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, mae ein Cyllidebau'n wynebu pwysau a heriau economaidd heb eu tebyg o'r blaen.  Dyna pam mae'n hynod bwysig fod Llywodraeth y DU yn trafod y materion ariannol pwysig rydyn ni'n eu hwynebu gyda'r Gweinyddiaethau Datganoledig ac yn ymgynghori gyda ni yn eu cylch.
"Gallai effaith y £3.5 biliwn o doriadau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu gwneud yn 2019-20 arwain at doriadau difrifol i bob un o'r cyllidebau datganoledig. Mae hyn yn creu rhagor o ansicrwydd ar adeg pan fo'n bwysicach nag erioed ein bod yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd. Drwy ymdrechu’n unfrydol, rydyn ni'n gobeithio y gall Llywodraeth y DU roi eglurder inni ynghylch sut y mae'n bwriadu dod o hyd i'r arbedion hyn ac ynghylch yr effaith ar ein Cyllideb."

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, Derek Mackay:  
"Mae'n amlwg fod economïau yr Alban a'r Deyrnas Unedig yn wynebu amgylchiadau economaidd anodd.  Fwy nag erioed, mae angen i Lywodraeth y DU gynnal trafodaethau ystyrlon gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch goblygiadau economaidd ac ariannol canlyniad y bleidlais ar Brexit. Mae araith Prif Weinidog y DU yr wythnos hon, yn cadarnhau bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gadael y farchnad sengl a'r Undeb Tollau, yn destun pryder mawr o ystyried y peryglon i'n heconomi sy'n codi yn sgil hynny. 
"Mae effaith bosib y toriadau pellach i wariant cyhoeddus y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu gwneud yn 2019-20 hefyd yn destun pryder inni. Rydyn ni'n gofyn am sicrhad na fydd yn gosod unrhyw fesurau cyni pellach arnom nac yn gwneud toriadau pellach i gyllidebau datganoledig, sydd eisoes yn profi toriadau mewn termau real. 
"Mae'r penderfyniad i symud dyddiad y Gyllideb fel ei bod yn cael ei chyhoeddi unwaith y flwyddyn, yn yr hydref, yn effeithio ar gylchoedd cyllidebau'r gweinyddiaethau datganoledig.  Bydden ni'n croesawu ymrwymiad i gynnal trafodaethau gyda ni wrth ddatblygu'r dull gweithredu ar gyfer amserlen newydd y gyllideb ac i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gefnogi yn hytrach na thanseilio prosesau cyllidebau datganoledig. Mae hyn yn berthnasol iawn o ganlyniad i ddatganoli cyfrifoldebau treth a nawdd cymdeithasol ymhellach."

Dywedodd Gweinidog Cyllid Stormont, Máirtín Ó Muilleoir:  
"Dydy’r agenda o gyni y mae’r llywodraeth Geidwadol yn parhau i’w dilyn ddim yn gweithio. Mae eisoes yn gosod baich anferth ar gyllidebau datganoledig a byddai toriadau pellach yn 2019-20 yn annerbyniol.”