Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad yn dilyn cyfarfod rhwng Prif Weinidog a Prif Ysgrifennydd Gwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuodd y Prif Weinidog y cyfarfod drwy fynegi ei gefnogaeth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ei beirniadaeth o’r Arlywydd Trump. Roedd cytundeb ymysg pawb oedd yn bresennol nad oedd dim lle i oddef lledaenu propaganda casineb o unrhyw fath. 

O ran Brexit, roedd y ddwy ochr yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud ers y cyfarfod diwethaf. Cafwyd trafodaeth fanwl a chadarnhaol am fframweithiau’r dyfodol, ac roedd hyn yn dangos bod ymgais wirioneddol ar y gweill i geisio datrys gwahaniaethau barn. 

Yn amlwg, mae rhwystrau i'w goresgyn o hyd cyn y gall Llywodraeth Cymru argymell cefnogi’r Bil i ymadael â’r UE ac roedd cydnabyddiaeth bod cyfleoedd i Lywodraeth y DU wneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth arfaethedig wrth iddi basio drwy’r Senedd. 

Ailadroddodd y Prif Weinidog ei neges ganolog nad llesteirio Brexit oedd ei fwriad, a'i fod yn cydnabod pwysigrwydd parchu canlyniad y refferendwm. Fodd bynnag, rhaid i’r fargen derfynol a’r ddeddfwriaeth sy'n deillio o hynny adlewyrchu blaenoriaethau economaidd a chyfansoddiadol Cymru.