Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyfarfu Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid â David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Aeth y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ati i amlinellu’r blaenoriaethau i Gymru o ran y trafodaethau sydd i ddod, gan ganolbwyntio ar y mater hollbwysig o barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl o ran nwyddau a gwasanaethau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod yna “sbectrwm o bosibiliadau” yn dal i fod o ran y fargen derfynol, a bod mynediad i’r farchnad yn ganolog i’r ystyriaethau.

Trafodwyd nifer o faterion eraill, gan gynnwys rhyddid pobl i symud, amaethyddiaeth, y Bil Diddymu Mawr a’r angen i barchu blaenoriaethau a chymwyseddau datganoledig wrth negodi.

Bydd yna gyfarfod llawn o’r Cyd-Bwyllgor Gweinidogol yn San Steffan ddydd Llun, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â’r Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau’r fargen orau bosibl i Gymru.