Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Arweinwyr awdurdodau lleol Gogledd Cymru

  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
  • Y Cyng. Gary Pritchard, Ynys Môn
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
  • Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd

Mynychwyr allanol eraill

  • Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Dyfed Edwards, Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau y Gogledd-ddwyrain, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Keith Davies, Prif Gynghorydd i'r Rhaglen Tirweddau Dynodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Alwen Williams, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru / Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru
  • John Parkin, Comisiynydd, Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru
  • Chris Llywelyn, Prif Swyddog Gweithredol CLlLC

Swyddogion

  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillippa Mawdsley, Cynghorydd Arbennig
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Rhys Morris, Prif Swyddog Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd, y Canolbarth a'r De-orllewin
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd
  • Heledd Cressey, Uwch-swyddog Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd
  • Carys Roberts, Swyddog Gweithredol Busnes a Gweithrediadau'r Llywodraeth
  • Ceri Christian-Mullineux, Uwch-reolwr Partneriaethau Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd
  • Olivia Shorrocks, Perfformiad GIG Cymru
  • Chris Stevens, Pennaeth Perfformiad a Llywodraethiant Llywodraeth Leol
  • Rhidian Jones, Uwch-ysgrifennydd Preifat Gweinidog yr Economi
  • Lea Beckerleg, Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Simon Pickering, Pennaeth Tirweddau a Hamdden Awyr Agored
  • Tom Cosson, Uwch-gynghorydd Tirweddau a Hamdden Awyr Agored

Ymddiheuriadau

  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS

Eitem 1: Diweddariad ar Iechyd yn y Gogledd – Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

1.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr eitem, gan groesawu Cadeirydd Dros Dro a Phrif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r cyfarfod.

1.2 Nododd y Pwyllgor fod saith mis ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi yn ôl o dan fesurau arbennig. Ystyriwyd yn ofalus iawn cyn gwneud y penderfyniad hwn, ond roedd yn angenrheidiol oherwydd y pryderon gwirioneddol a oedd wedi codi ynghylch llywodraethiant, ansawdd a diogelwch, arferion ariannol a chyfrifyddu, a pherfformiad, ymhlith materion eraill.

1.3 Roedd y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf yn nodi'r adroddiad chwarterol cyntaf ar drefniadau'r mesurau arbennig. At hynny, rhoddodd ddatganiad llafar i'r Senedd ym mis Medi, ynghyd â chyhoeddi'r ail adroddiad chwarterol a'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer y 90 diwrnod nesaf, sef ail gylch y 'cyfnod sefydlogi'.

1.4 Nid oedd amheuaeth bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r bwrdd iechyd, ond roedd arwyddion gwirioneddol bod y sefyllfa yn newid er gwell erbyn hyn. Fodd bynnag, byddai cryn dipyn o waith i'w wneud eto cyn y gellid adfer hyder yn llawn mewn gwasanaethau iechyd ar draws y Gogledd.

1.5 Mynegodd y Gweinidog ar gofnod ei diolch i bawb sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd am eu gwaith caled mewn amgylchiadau anodd, a oedd yn cynnwys cryn ddamcaniaethu gwleidyddol ac yn y wasg.

1.6 O ran effeithiau mesuradwy, cafodd bron i 59% o bobl ar restrau aros yn y Gogledd eu trin o fewn 26 wythnos ym mis Gorffennaf, sef y nifer uchaf i gael eu trin mewn 6 mis ers mis Mehefin 2020.

1.7 Ers mis Chwefror 2023, roedd gostyngiad o 22% wedi bod yn nifer y cleifion allanol sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf, ac roedd gostyngiad o 38% wedi bod yn nifer y rhai sy'n aros dros 14 wythnos am therapi. Yn olaf, roedd gostyngiad o 38% wedi bod yn nifer y llwybrau orthopedig dros 104 wythnos — i 1,526 — gan olygu bod y nifer hwn bellach ar ei lefel isaf ers mis Mehefin 2021.

1.8 At hynny, roedd y Bwrdd newydd gymeradwyo achos busnes ar gyfer canolfan orthopedig bwrpasol yn Ysbyty Llandudno ac, yn y cyfamser, roedd Ysbyty Abergele yn cael ei ddefnyddio fel canolfan orthopedig ranbarthol o ddechrau mis Medi ymlaen. Roedd yr wythnosau cyntaf wedi bod yn gadarnhaol gyda bron i hanner cant o gleifion yn cael llawdriniaethau. Roedd wardiau rhithiol wedi bod ar waith ac roedd y driniaeth arthroplasti gyntaf erioed i gael ei chynnal fel achos dydd wedi'i chynnal. 

1.9 Roedd timau llawfeddygol orthopedig yn Ysbyty Gwynedd wedi ymgymryd â 100 o lawdriniaethau i osod pen-glin newydd drwy gymorth robot gan ddefnyddio technoleg robotig arloesol. Ysbyty Gwynedd oedd yr ysbyty cyntaf yn GIG Cymru i gynnal llawdriniaethau i osod pen-glin newydd drwy gymorth robot, ac, yr wythnos ddiwethaf, cafodd y llawdriniaeth robotig gyntaf fel achos dydd ei chynnal.

1.10 Roedd newidiadau ar lefel y Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd Dros Dro newydd, ac aelodau annibynnol dros dro newydd. Roedd arweinyddiaeth gweithrediaeth y Bwrdd Iechyd hefyd wedi newid yn sylweddol, gan gynnwys penodi Prif Weithredwr Dros Dro newydd, Cyfarwyddwr Cyllid Dros Dro newydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro ar gyfer Gweithrediadau. Gwnaed newidiadau hefyd i swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd i gefnogi'r Bwrdd.

1.11 Roedd cyfweliadau ar gyfer yr Is-gadeirydd newydd a dau aelod annibynnol wedi cael eu cynnal yr wythnos honno, cyn i'r ymgyrch ar gyfer recriwtio Cadeirydd parhaol a rhagor o aelodau annibynnol ddechrau. Roedd y broses ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr parhaol hefyd ar y gweill.

1.12 Roedd y penodiadau hyn yn rhan o broses hirdymor, a'r bwriad oedd sicrhau bod y bobl gywir wrth eu gwaith i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer y sefydliad.

1.13 Comisiynwyd asesiad annibynnol o faterion diogelwch cleifion, mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Grwneriaid Ei Fawrhydi ac aelodau'r bwrdd sy'n gadael. Roedd y materion hyn bellach yn nwylo'r Bwrdd Iechyd i weithredu yn eu cylch a byddai Gweithrediaeth y GIG yn gweithio gyda'r Bwrdd i sicrhau bod systemau a gweithdrefnau llywodraethu ansawdd a diogelwch yn ymateb i'r materion yn unol ag amserlen benodol.

1.14 Roedd pryderon yn parhau ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y Gogledd ac roedd asesiad o'r cyfleusterau i gleifion mewnol iechyd meddwl wedi cael ei gomisiynu i sicrhau bod yr holl risgiau rhesymol yn cael eu nodi a'u rheoli. Roedd yr asesiad wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda rhai pryderon yn dod i'r amlwg — pryderon yr oedd y Bwrdd Iechyd yn mynd i'r afael â nhw.

1.15 Roedd gwasanaethau fasgwlaidd wedi bod yn faes pryder allweddol arall. Fodd bynnag, er bod penderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i isgyfeirio gwasanaethau fasgwlaidd o fod yn wasanaeth oedd angen ei wella'n sylweddol yn gynharach eleni yn galonogol, roedd pryderon yn parhau, a byddai Gweithrediaeth y GIG yn gwneud rhagor o waith gyda'r Bwrdd Iechyd dros y misoedd nesaf. 

1.16 Roedd y materion mewn perthynas â llywodraethiant a chyfrifyddu ariannol a nodwyd gan y Bwrdd ac a amlygwyd gan Ernst and Young ac Archwilio Cymru yn heriol. Fodd bynnag, roedd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr yn gweithio'n galed i ddeall beth ddigwyddodd, ac i sicrhau nad oedd unrhyw faterion pellach a oedd eto i ddod yn hysbys ac i ymgorffori prosesau newydd o fewn y Bwrdd Iechyd i'w hatal rhag digwydd eto.

1.17 Roedd llawer o wasanaethau gofal a gynlluniwyd yn parhau i wynebu heriau ac roedd Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio wrth y Bwrdd Iechyd y dylid datblygu cynlluniau cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg, wroleg, oncoleg, dermatoleg, orthodonteg a phlastig yn y cam nesaf hwn o fesurau arbennig, ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer sicrhau bod cleifion sydd wedi bod yn aros yn hir iawn yn cael eu trin.

1.18 Roedd gwelliannau wedi bod ym mherfformiad gofal brys a gofal mewn argyfwng, er bod cydnabyddiaeth hefyd fod cryn waith i'w wneud eto, a hynny gyda chefnogaeth Gweithrediaeth y GIG a rhaglen genedlaethol y chwe nod. 

1.19 Nododd y Pwyllgor fod sefydlogrwydd i gyflawni fel sefydliad yn allweddol i'w lwyddiant yn y dyfodol, ac roedd cytundeb wedi bod ar raglen waith glir gyda dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Roedd rhaglen o newid diwylliant ar y gweill yn y Bwrdd Iechyd a byddai'n cael ei hategu gan negeseuon cyson, ac atebolrwydd ac ymgysylltu cryfach. Byddai hyn i gyd yn digwydd gan ganolbwyntio hefyd ar y materion uniongyrchol sy'n wynebu gwasanaethau iechyd yn y Gogledd.

1.20 Gwnaed y pwynt bod gan yr awdurdodau lleol rôl i'w chwarae hefyd ar gyfer sicrhau bod ymgysylltu cryfach â chymunedau ynghylch sut yn union yr oedd buddsoddiadau yn cael eu defnyddio ac roedd angen gwneud mwy i weithio mewn partneriaeth gyda'r Bwrdd Iechyd. I'r perwyl hwn, roedd cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol i'w cael eisoes ar y Bwrdd Iechyd, a byddai'r Cadeirydd yn bresennol mewn cyfarfodydd craffu cyhoeddus yn yr awdurdodau lleol yn y dyfodol.

1.21 Trafododd y Pwyllgor y gwersi a ddysgwyd o'r cyfnodau blaenorol a dreuliwyd o dan fesurau arbennig ac er y cydnabuwyd nad oedd un ateb syml pam y canfu'r Bwrdd Iechyd ei hun yn yr un sefyllfa eto, roedd ymrwymiad gan bob parti i ddwyn ei gilydd i gyfrif wrth symud ymlaen ac i gydweithio er budd pobl y Gogledd.

1.22 Diolchodd y Cadeirydd i Gadeirydd Dros Dro a Phrif Weithredwr Dros Dro y Bwrdd Iechyd am eu cyflwyniad a nododd fod iechyd yn eitem sefydlog ar gyfer y Pwyllgor ac y dychwelir iddo o bryd i'w gilydd wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Eitem 2: Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru

2.1 Nododd y Cadeirydd uchelgais Llywodraeth Cymru i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a oedd yn ymgymeriad sylweddol. Roedd yn hanfodol bod holl safbwyntiau'r rhai y gellid effeithio arnynt yn cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith datblygu.

2.2 I'r perwyl hwnnw, roedd y Llywodraeth wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno rhaglen a oedd yn cynnwys asesiad manwl, ystyried y dystiolaeth, ymgysylltu ac ymgynghori. Byddai hyn yn llywio penderfyniad terfynol ar unrhyw ddynodiad.

2.3 Nododd y Pwyllgor bod y pwyslais ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ond roedd ardal o dirwedd ehangach yn cael ei hystyried. Nodwyd hefyd fod angen tystiolaeth ddigonol o harddwch naturiol a chyfleoedd hamdden awyr agored cyn gallu penderfynu ar ddynodiad.

2.4 Roedd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal ddiwedd 2023, gydag ymgynghoriad statudol i ddilyn yn 2024.

2.5 Roedd trefniadau ymgysylltu cynnar â Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol, Parc Cenedlaethol Eryri a'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ymhlith eraill wedi cael eu cynnal, ac roedd y themâu a ddaeth i'r amlwg yn ymwneud â thai fforddiadwy, polisi amaethyddol, cyllid a rhyngwynebau ynni.

2.6 Croesawodd y Pwyllgor y cynigion a nodwyd y blaenraglen waith.

Eitem 3: Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru

3.1 Croesawodd y Cadeirydd John Parkin o Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a gofynnodd i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno'r eitem.

3.2 Nododd y Pwyllgor fod disgwyl i adroddiad terfynol yr Arglwydd Burns gael ei gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf, yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad interim yn gynharach yn y flwyddyn.

3.3 Nodwyd nad oedd y penawdau diweddar ynghylch trydaneiddio prif reilffordd y Gogledd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys unrhyw amserlen benodol. Roedd yn debygol y byddai'n cymryd dros ddeng mlynedd i gyflawni'r gwaith ac y byddai'r gost yn llawer mwy na'r £1bn o gyllid yr adroddwyd amdano. Byddai disgwyliadau yn cael eu codi a'r hyn a gyflawnid yn annigonol a'r unig ffordd ystyrlon ymlaen ar gyfer y Rhanbarth oedd drwy adroddiad Burns.

3.4 Adroddwyd y byddai angen gwaith sylweddol i uwchraddio Gorsaf Caer cyn cynnal unrhyw waith i drydaneiddio prif reilffordd y Gogledd, gan gynnwys rhaglen i'w chwblhau fesul cam o waith ar y signalau a'r trac.

3.5 Diolchodd y Cadeirydd i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru am y cyflwyniad.

Eitem 4: Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Alwen Williams, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a Chyfarwyddwr Portffolio ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru, i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y datblygiadau.

4.2 Nododd y Pwyllgor fod hanes hir o gydweithio rhwng rhanbarthau’r Gogledd dros y degawd blaenorol, ac roedd y Bwrdd Uchelgais Economaidd, sydd bellach yn cael ei frandio fel 'Uchelgais Gogledd Cymru', yn enghraifft dda o'r potensial ar gyfer cydweithio.

4.3 Symud trefniadau llywodraethiant Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i fod yn rhan o'r Cyd-bwllygor Corfforaethol oedd y bwriad, ac roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y gellid brandio'r Cyd-bwyllgor fel parhad o'r Bwrdd Uchelgais Economaidd a'i waith da, yng nghyd-destun fframwaith corfforaethol cryfach.

4.4 Roedd cryn botensial ar gyfer defnyddio’r pwerau cryfach a ddarperir i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i gyflawni mwy ar gyfer y Gogledd.

4.5 O ran y manylion ymarferol, roedd y Cadeirydd, Dyfrig Siencyn, o Wynedd a'r Is-gadeirydd, Mark Pritchard, o Wrecsam eisoes yn eu rolau. Roedd cyllideb y Cyd-bwyllgor wedi'i gosod ac roedd wedi cyfarfod wyth gwaith, ac roedd y Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro yn ymgymryd â'i rôl ddau ddiwrnod yr wythnos ar hyn o bryd.

4.6 Roedd nifer o is-bwyllgorau wedi cael eu sefydlu, ac roedd Safonau'r Gymraeg wedi cael eu mabwysiadu gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Gwynedd, ynghyd â'r gronfa bensiwn o'r awdurdodau lleol.

4.7 Roedd rhai anawsterau cychwynnol wedi codi mewn perthynas â chadw staff, ond byddai'r rhain yn cael eu datrys yn fuan.

4.8 Diolchodd y Pwyllgor i'r Prif Weithredwr Dros Dro am y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2023