Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (rhan o’r cyfarfod)
  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS (rhan o’r cyfarfod)
  • Jane Hutt AS
  • Eluned Morgan AS (rhan o’r cyfarfod)
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS

Ymddiheuriadau

  • Lee Waters AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jeremy Miles AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru

  • Y Cyng. Ian Roberts, Sir y Fflint
  • Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
  • Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
  • Y Cyng. Ieuan Williams, Ynys Môn (yn dirprwyo)
  • Y Cyng. Dyfrig Siencyn, Gwynedd
  • Y Cyng. Julian Thompson-Hill, Sir Ddinbych (yn dirprwyo)

Mynychwyr allanol eraill

  • Peter Parry, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (eitem 1)
  • Manon Rees-O'brien, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Chwaraeon Gogledd Cymru (eitem 1)
  • Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Chefn Gwlad Cymru, Trafnidiaeth Cymru (eitem 2)
  • Chris Llewelyn – Prif Weithredwr, CLlLC
  • Stephen Jones, CLlLC

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, EPS
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher  Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Huw Llewellyn Davies, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Bryn Richards, Pennaeth Cynllunio Rhanbarthol, y Gogledd
  • Heledd Cressey, Uwch Swyddog Cynllunio Rhanbarthol, y Gogledd
  • Rob Kent-Smith, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth
  • Neil Welch, Pennaeth Chwaraeon a Hamdden

Item 1: Sport North WEitem 1: Chwaraeon Gogledd Cymru – sefydlu Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol Gogledd Cymruales – establishment of North Wales Regional Sport Partnerships

1.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru’r eitem, a oedd yn nodi nodau Chwaraeon Gogledd Cymru, partneriaeth o 13 o sefydliadau sydd â’r dasg o ymateb i'r anghydraddoldebau iechyd a'r heriau rhanbarthol a wynebir yn y Gogledd.

1.2 Gwahoddodd y Gweinidog Manon Rees-O'brien, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Chwaraeon Gogledd Cymru, a'r Cadeirydd, Peter Parry, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yn hyn a cham nesaf y gwaith.

1.3 Nodwyd mai hon oedd y bartneriaeth chwaraeon ranbarthol gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru, a fyddai'n gyfrifol am fuddsoddi mewn chwaraeon yn y rhanbarth, yn seiliedig ar amgylchiadau lleol ac anghenion cymunedau i fabwysiadu ffordd iach o fyw neu weithgarwch corfforol rheolaidd.

1.4 Byddai manteisio ar yr adnoddau naturiol sydd ar gael yn y Gogledd  yn rhan o'r cynlluniau, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth ddatblygu'r ddarpariaeth i'r cyhoedd, gan fod cerdded a bod yn yr awyr agored yn gysylltiedig â llesiant gwell. Roedd hyn wedi bod yn un peth cadarnhaol i ddeillio o’r pandemig wrth i fwy o bobl archwilio eu hamgylchedd lleol.


1.5 Byddai darparu cyfleoedd cost isel, cynhwysol a hygyrch i bawb yn ffocws cryf i'r bartneriaeth, gan ddod â gwahanol ymyriadau ynghyd i greu naratif newydd ynghylch chwaraeon, iechyd a llesiant.

1.6 Byddai ehangu mynediad ar gyfer pawb yn hanfodol a byddai'r cyfnod ymgysylltu presennol yn anelu at wrando ar yr holl bartneriaid, a chefnogi pobl i feddwl am ffyrdd newydd o ymgysylltu â'r rhai sydd lleiaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

1.7 Nododd yr Is-bwyllgor y buddsoddiad o £250,000 a sicrhawyd drwy raglen Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru ac fe nododd gynlluniau i fuddsoddi hyn mewn datblygu gwasanaethau a chyfleusterau a fyddai o fudd i bob defnyddiwr

1.8 Codwyd costau rhedeg clybiau a chyfleusterau fel rhwystr i barhau â chlybiau traddodiadol, megis y rhai sy'n darparu pêl-droed, rygbi a phaffio ac er y nodwyd y byddai'r rheini'n parhau i gael eu cefnogi, byddai'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfranogiad ehangach gan y gymuned.

1.9 Croesawyd y cyllid y cytunwyd arno gan Chwaraeon Cymru am gyfnod o dair blynedd, mewn egwyddor, a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r staff dan sylw.

1.10 Croesawodd yr Is-bwyllgor y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes gwaith arloesol hwn, ac roedd yn gwerthfawrogi ei gyfraniad parhaus at Gymru iachach.

Eitem 2: Trafnidiaeth Cymru - y newyddion diweddaraf

2.1 Cyflwynodd Gweinidog Gogledd Cymru'r eitem ac fe groesawodd Lee Robinson o Drafnidiaeth Cymru i'r cyfarfod.

2.2 Nodwyd bod Trafnidiaeth Cymru yn pennu manylion terfynol ei strategaeth gorfforaethol a'i bod yn ceisio adfer amserlenni cyn Covid ar rai llinellau yn dilyn difrod ar ôl stormydd. Roeddent yn gweithio i ehangu gwasanaethau trên dros y ddwy flynedd nesaf.

2.3 Roedd gwasanaethau bws dim allyriadau wedi’u lansio yn Rhuthun, a byddai gwasanaethau bws pellach gan gynnwys Fflecsi Llyn a Sherpa'r Wyddfa yn cael eu lansio ym mis Ebrill. Roedd Bws Cymru i fod i gael ei lansio ym mis Ebrill/Mai a byddai’r gwasanaeth T2 rhwng Bangor ac Aberystwyth allan am dendr ym mis Hydref. Byddai Trafnidiaeth Cymru yn darparu data ar lefelau boddhad cwsmeriaid â'r gwasanaeth Fflecsi unwaith y bydd ar gael.

2.4 Darparwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen Metro Gogledd Cymru a theithio llesol, gan gynnwys cynnydd ar drafnidiaeth gyhoeddus integredig

2.5 Codwyd materion yn ymwneud â'r cynnydd o ran trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru a'r ddarpariaeth o gerbydau. Roedd pryderon ynghylch cymariaethau anffafriol wrth gyfnewid o lwybrau sydd eisoes wedi'u trydaneiddio ac o ran cyflymder a phroses adnewyddu cerbydau. Codwyd yr angen am gerbydau pellach i atal lleihau gwasanaethau oherwydd dargyfeirio cerbydau ar gyfer digwyddiadau mewn mannau eraill.

2.6 Gofynnwyd sut y byddai gwerth cymdeithasol llwybrau teithio lleol a chysylltiadau â Chanolbarth Cymru yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau yn y dyfodol.

2.7 Croesawyd cynnydd o ran teithio llesol ond gofynnwyd a oedd y rhesymau dros ddefnyddio mwy o geir ar draws y rhanbarth yn cael ei ddeall yn llawn. Nodwyd bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith pellach gyda Chyngor Gwynedd mewn perthynas â Llanbedr, yn dilyn y cyhoeddiad o’r adolygiad ffyrdd.

Eitem 3: Materion Allweddol gan Arweinwyr ALlau

3.1 Gofynnodd Gweinidog Gogledd Cymru i’r Arweinwyr am unrhyw eitemau sy'n peri pryder arbennig ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd.

3.2 Roedd anawsterau gydag amseroedd aros ym Maelor Wrecsam, gyda'r gwasanaeth ambiwlans o dan straen arbennig. Nodwyd bod y pandemig ymhell o fod drosodd, gyda chyfraddau achosion ar eu huchaf erioed a chyda'r potensial i gynyddu ymhellach. Er bod y gwaith rhagorol sydd wedi’i wneud gan yr holl bartneriaid o ran cyflwyno'r brechlyn wedi lleihau difrifoldeb salwch i lawer o bobl, ynghyd â'r ffaith bod y straen diweddaraf yn llai difrifol, roedd effaith o hyd ar wasanaethau o ran rheoli haint.

3.3 Cydnabuwyd y problemau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal ac anogwyd pob partner i weithio gyda'i gilydd i unioni'r sefyllfa. Roedd y sefyllfa gyda gwasanaethau fasgwlaidd a chymorth iechyd meddwl a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn cael eu monitro'n agos.

3.4 Gofynnwyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ar y Cynllun Datblygu Lleol yn Wrecsam a phrosiectau ffyrdd eraill ledled y Gogledd, gan gynnwys Porth Wrecsam yr A483, a byddai hyn yn cael ei ddarparu'n ysgrifenedig.

3.5 Croesawodd yr Arweinwyr y ffaith bod Wrecsam wedi’i rhoi ar y rhestr fer am fod yn  Ddinas Diwylliant 2025.

3.6 Croesawyd cyhoeddiad Gweinidog yr Economi mewn perthynas â Strategaeth Ofod Cymru, yn enwedig yr amlygrwydd sy’n cael ei roi i faes awyr Llanbedr. Serch hynny, mae mynediad i'r safle yn parhau i beri pryder a gofynnwyd am ymateb ysgrifenedig i adroddiad Gwynedd. Byddai hyn yn cael ei ddilyn i fyny.

3.7 Codwyd y gwaith ar sefydlu Safle Rheoli Ffiniau yng Nghaergybi a nodwyd bod y Llywodraeth wrthi’n gofyn i Defra am ateb pendant ynghylch a fyddai angen cynnal gwiriadau mewnforio llawn o 1 Gorffennaf 2022. Roedd yr amserlen hon yn arbennig o heriol o gofio cymhlethdod y gwaith yr oedd  angen iddo fod yn barod erbyn y dyddiad hwn.

3.8 Daeth Gweinidog Gogledd Cymru â'r cyfarfod i ben drwy ddiolch i'r holl Arweinwyr Awdurdodau Lleol sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd am eu cyfraniadau rhagorol yn ystod y pandemig.

3.9 Byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ym mis Gorffennaf.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2022