Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Panel ar 2 Rhagfyr 2024 gydag Alice Teague, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth yn Cadeirio. 

Trafodwyd amrywiaeth o bynciau yn ystod y cyfarfod er mwyn cyflwyno cynigion y Bil o ran yr Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth, yn ogystal â'r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma ar ddatblygu targedau. 

Cylch Gorchwyl

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Panel, a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Cyflwyniad ar y Bil

Rhoddodd Llywodraeth Cymru drosolwg o'r cynigion o ran bioamrywiaeth yn y Bil arfaethedig. Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o'r ymgynghoriad ar yr Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth: Papur Gwyn sydd bellach wedi dod i ben.

Mathau o dargedau a llinellau amser

Mae angen sawl cam i ddatblygu targedau, gan gynnwys datblygu polisi, datblygu is-ddeddfwriaeth ac ymgynghori arni, a'r camau gweithdrefnol yn y Senedd. Bydd y llinell amser ar gyfer datblygu polisi yn dibynnu'n rhannol ar y math o darged sy'n cael ei ddatblygu - p'un ai'n seiliedig ar weithredu neu ar ganlyniadau - o ystyried y gwaith modelu sydd ei angen.

Cytunodd y Panel y dylai'r targedau barhau i gael eu datblygu gan ystyried targedau sy'n seiliedig ar ganlyniadau a thargedau sy'n seiliedig ar weithredu lle mae'n briodol. Dylai swyddogion hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae deddfwrfeydd eraill yn datblygu targedau.

Blaenoriaethu targedau'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang

Ni all Cymru osod 23 o dargedau statudol; felly ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cynnal ymarfer blaenoriaethu targedau'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang ar sail hyfywedd, dichonoldeb, pwysigrwydd, mesuradwyedd, a rhyngddibyniaeth y targedau. Cafodd y dull blaenoriaethu ei gyflwyno a'i drafod. Roedd defnyddio'r dull wedi arwain at restr o dargedau'r Fframwaith yn ôl blaenoriaeth, gan helpu i nodi pa dargedau i'w cynnwys yn y 'gyfran' gyntaf o Reoliadau. Bydd y rhestr wedi ei blaenoriaethu yn sylfaen ar gyfer datblygu targedau i Gymru. 

Cymeradwyodd y Panel y dull blaenoriaethu a ddefnyddiwyd. Gofynnwyd i swyddogion ymgysylltu â Grŵp Trafod Pridd Cymru.

Cadeirydd ar gyfer y Panel

Nodwyd mai'r bwriad yw penodi Cadeirydd annibynnol ar gyfer y Panel. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hysbysebu ar Blatfform yr Amgylchedd Cymru.

Ymgysylltu â sefydliadau eraill

Nododd Llywodraeth Cymru fod gwaith ymgysylltu â Cyswllt Amgylchedd Cymru a'i Weithgor Bioamrywiaeth yn cael ei gynnal ar yr un pryd â gwaith y Panel hwn. Bydd swyddogion yn hwyluso ymgysylltu rhwng y ddau grŵp.