Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Dianne Bevan, Aelod 
Kate Watkins, Aelod
Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth
Ymddiheuriadau, Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Shereen Williams (sylwedydd)
Roger Ashton Winter
Cher Cooke (sylwedydd)
Rhydian Fitter (eitem ar yr agenda ar gyfer y Cynllun Cyfathrebu)
Y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (un eitem ar yr agenda)
Y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (un eitem ar yr agenda)

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 23 Gorffennaf. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Mehefin a chytuno ar y rhain, nodi diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025
  • ystyried yr ymatebion diweddaraf i'r adroddiad atodol drafft ar gydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cyd-bwyllgorau corfforedig, a chytuno ar gynnwys yr adroddiad atodol terfynol
  • ystyried tystiolaeth gan y cynrychiolwyr o'r Awdurdod Parc Cenedlaethol a'r Awdurdod Tân ac Achub mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol a llwyth gwaith Aelodau
  • ystyried yr amserlen a'r cyfarfodydd ymgysylltu arfaethedig ar gyfer adroddiad blynyddol drafft 2025, a chytuno ar y rhain
  • adolygu'r cynllun cyfathrebu wedi'i ddiweddaru
  • adolygu a diweddaru'r gofrestr risgiau

Isod, ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Camau gweithredu a diweddariadau'r ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Mehefin, gan nodi'r diweddariad cyllidebol.

Adolygodd a thrafododd y Panel yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth ddau Gyngor Cymuned a Thref, ac un Prif Gyngor, a'i ymateb i bob un. 

Cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cyd-bwyllgorau corfforedig 

Trafododd y Panel yr ymatebion diweddaraf a gafwyd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad atodol drafft a oedd yn ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cyd-bwyllgorau corfforedig.

Cytunodd y Panel i gwblhau'r adroddiad atodol unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd yr adroddiad atodol terfynol yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis Awst.

Awdurdod parc cenedlaethol 

Croesawodd y Panel y Cynghorydd Di Clements i drafod cydnabyddiaeth ariannol a llwyth gwaith Aelodau'r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Bydd y drafodaeth hon yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth pan fydd y Panel yn ystyried cydnabyddiaeth ariannol ac ymrwymiad amser Aelodau'r Awdurdod Parc Cenedlaethol. 

Awdurdod tân ac achub 

Croesawodd y Panel y Cynghorydd Dylan Rees i drafod cydnabyddiaeth ariannol a llwyth gwaith Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub. Bydd y drafodaeth hon yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth pan fydd y Panel yn ystyried cydnabyddiaeth ariannol ac ymrwymiad amser Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub. 

Adroddiad blynyddol drafft ac ymchwil

Trafododd y Panel yr amserlen ar gyfer cyhoeddi adroddiad blynyddol drafft 2025, gan gytuno arni. Bydd yr adroddiad blynyddol drafft yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis Hydref.

Cytunodd y Panel ar y digwyddiadau ymgysylltu a gynlluniwyd a fydd yn cael eu cynnal fel rhan o'r ymgynghoriad.

Y cynllun cyfathrebu

Ystyriodd y Panel y cynllun cyfathrebu wedi'i ddiweddaru a gyflwynwyd gan Rhydian Fitter o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Y gofrestr risgiau

Adolygodd y Panel y gofrestr risgiau, gan gytuno i wneud rhai diwygiadau iddi. 

Unrhyw fater arall

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 ar 9 Gorffennaf 2024 ac mae'r Bil bellach wedi symud i'r cyfnod 'Ar ôl Cyfnod 4'.

Bu'r Panel hefyd yn ystyried yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i ymestyn trefniadau rhannu swydd ar gyfer aelodau etholedig mewn prif gynghorau i gynnwys rolau nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth. Bydd y Panel yn darparu ymateb i'r ymgynghoriad hwn ym mis Medi.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 3 Medi 2024. 

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.