Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Kathryn Watkins, Aelod
Dianne Bevan, Aelod
Sara Rees (Ysgrifenyddiaeth)

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 20 Mehefin. 

Nod y cyfarfod oedd cymeradwyo'r gofrestr risg chwarterol, trafod taliadau i aelodau cyfetholedig prif gynghorau, ac adolygu'r Cynllun Cyfathrebu. Bu'r Panel hefyd yn ystyried ymholiadau a oedd wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.   

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel:

Y Gofrestr Risg 

Cytunodd y Panel fod llawer o'r risgiau yn rhai cynhenid ac y dylent fod yn seiliedig ar fusnes fel arfer gan ystyried cyfraniadau tuag at drosglwyddo'r Panel i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.

Cymeradwyodd y Panel y gofrestr risg ddiwygiedig. Caiff y gofrestr ei hadolygu a’i diweddaru bob chwarter. 

Taliadau i Aelodau Cyfetholedig Prif Gynghorau

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol drafft 2023 ym mis Hydref 2022, cafodd y Panel ymatebion i'r ymgynghoriad gan Gyngor Sir Ceredigion ac aelod cyfetholedig ar Gyngor Abertawe o ran sut mae aelodau cyfetholedig yn cael eu talu. Hefyd codwyd y mater gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Cynghorau Sir Penfro a Cheredigion. Felly, cytunodd y Panel i ystyried y materion a oedd wedi eu codi.

Ymunodd Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Cynghorau Sir Penfro ac Abertawe â chyfarfod y Panel i ystyried hyn. Roedd Cadeirydd y Panel wedi cyfarfod â Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Sir Ceredigion cyn cyfarfod y Panel.

Cytunodd y Panel fod 3 mater i'w hystyried:

  • Newidiadau yn yr amgylchedd gwaith, yn aml, cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd ar-lein ac maent yn fyrrach.
  • Mae gweithio hybrid yn caniatáu mwy o hyblygrwydd, lle bydd unigolion yn defnyddio eu hamser, yn hytrach na llenwi diwrnodau llawn gyda gwaith pwyllgor.
  • Newidiadau yn Neddf 2021.

Dywedodd y Panel mai cyfrifoldeb pob cyngor sir yw pennu'r cap ar nifer y diwrnodau sy'n cael eu gweithio er mwyn sicrhau bod sefyllfaoedd lleol yn cael eu hystyried, ond mai rôl y Panel yw ystyried materion sy'n ymwneud â chydbwysedd a sicrhau cysondeb mewn methodoleg cyn cytuno ar unrhyw benderfyniadau.

Dywedodd y Panel y byddai angen ystyried unrhyw newidiadau i daliadau i aelodau cyfetholedig yn ystod y cylch etholiadol, fel y gellid adolygu unrhyw anghysondebau. 

Byddai'r Panel hefyd yn ceisio sylwadau ar Deithio Gwyrdd cyn cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol nesaf. Mae gweithio hybrid yn faes y byddai'r Panel yn ymchwilio iddo.

Dylai Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd roi syniad o nifer y diwrnodau ac oriau a ddisgwylir gan aelodau cyfetholedig. Yna byddai'r panel yn ailedrych ar y mater yng nghyfarfod mis Medi. 

Y Strategaeth Gyfathrebu

Cytunodd y Panel i ddiweddaru a diwygio'r Strategaeth Gyfathrebu. Ar ôl ei chwblhau, byddai'r strategaeth yn cael ei chyfieithu a'i chyhoeddi ar y wefan. 

Y Cynllun Cyfathrebu 

Cymeradwyodd y Panel ei Gynllun Cyfathrebu.

Ymgysylltu

Cynhelir y Diwrnod Ymgysylltu yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 neu 27 Tachwedd. Byddai'r aelodau'n cytuno ar y dyddiad yn y cyfarfod nesaf.

Unrhyw Fusnes Arall

Trafododd y Panel ymholiadau a oedd wedi dod i law gan ddau Gyngor Sir drwy'r Ysgrifenyddiaeth, gan gytuno arnynt. Roedd yr ymholiadau hynny'n gofyn i'r Panel roi cyngor ac eglurhad mewn perthynas â phrosesu taliadau i Gynghorwyr. 

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 8 Medi, lle bydd y Panel yn cwblhau ei gynllun cyfathrebu ac ymgysylltu, ac yn trafod ei Gynllun Ymchwil a Thystiolaeth. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.