Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith, Aelod
  • Kate Watkins, Aelod
  • Dianne Bevan, Aelod
  • Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
  • Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

Cynrychiolwyr o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru:

  • Roger Ashton-Winter
  • Rhydian Fitter 

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 18 Chwefror. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Ionawr a chytuno arnynt, nodi diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025
  • nodi dyddiadau cyhoeddi'r adroddiad blynyddol terfynol a'r adroddiad etifeddiaeth
  • nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo data i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • adolygu a darparu unrhyw sylwadau ar wefan Comisiwn Ffiniau Cymru ynghyd â negeseuon o fis Ebrill 2025 ymlaen
  • adolygu gohebiaeth a darparu ymateb i ddau awdurdod lleol 

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Camau gweithredu, diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Ionawr, gan nodi'r diweddariad ar y gyllideb.

Fe wnaeth y Panel adolygu a thrafod yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth ddau brif awdurdod, a'i ymateb arfaethedig i bob un. 

Dyddiad cyhoeddi ar gyfer yr adroddiad blynyddol terfynol a'r adroddiad etifeddiaeth

Rhoddwyd diweddariad i'r Panel ynghylch cyhoeddi'r adroddiad blynyddol terfynol a'r adroddiad etifeddiaeth. Byddai'r ddau yn cael eu cyhoeddi ar 24 Chwefror 2025 a gellir eu gweld yma.

Trosglwyddo data i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru 

Cyflwynwyd wybodaeth i'r Panel am hynt y gwaith o drosglwyddo'r holl ffeiliau perthnasol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Mae'r maes hwn yn rhan o'r gwaith pontio wrth i swyddogaethau'r Panel drosglwyddo i'r Comisiwn o 1 Ebrill 2025.

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: gwefan a chyfathrebu

Rhoddodd swyddogion o'r Comisiwn drosolwg a diweddariad ar y gwaith o drosglwyddo'r wefan, ynghyd â chynigion ar sut y bydd trosglwyddo swyddogaethau i'r Comisiwn yn cael ei gyfathrebu i'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Cytunodd y Panel i gyfathrebu â'i randdeiliaid, i esbonio'r newid a’r ffaith y bydd unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol gyda Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Unrhyw faterion eraill

Trafododd y Panel yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth ddau brif awdurdod. Darparwyd ymateb arfaethedig ar gyfer pob eitem o ohebiaeth.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar 12 Mawrth 2025. 

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.