Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod 
Kate Watkins, Aelod 
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dianne Bevan, Aelod
Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, Ysgrifenyddiaeth 

Rhanddeiliaid allanol oedd yn bresennol yn y cyfarfod

Roger Ashton-Winter, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru  
Y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Abertawe
Chris Stevens, Swyddog Polisi yn Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (‘y Panel’) ddydd Mawrth 14 Mai 2024. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • trafod pontio o’r Panel i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ym mis Mawrth 2025
  • adolygu nodiadau cyfarfod mis Ebrill 2024 (y nodiadau llawn a’r crynodeb), a chytuno arnynt, gan nodi’r camau gweithredu, y gyllideb a Diweddariad yr Ysgrifenyddiaeth
  • trafod taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, gan gytuno ar y camau nesaf 
  • trafod Unrhyw fater arall

Y diweddaraf am y trefniadau pontio 

Adroddodd y Cadeirydd fod Cyfnod 1 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi'i gwblhau, gan nodi y bydd y Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2 a bod y gwrandawiad pwyllgor nesaf i’w gynnal ddydd Iau 16 Mai. Dilynir hyn gan ddadleuon Cyfnod 3 a Chyfnod 4 ar 18 a 24 Mehefin.

Bydd y Cadeirydd yn gweithio gyda Roger Ashton-Winter (RAW) a Bev Smith (BS) i ddatblygu Cynllun Pontio, gan nodi’r camau gweithredu ac amlygu’r materion er mwyn sicrhau bod gwaith yn cael ei gynllunio a'i gwblhau cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben ym mis Ebrill 2025. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y trefniadau pontio ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ym mis Ebrill 2025 yn mynd rhagddynt yn ddi-rwystr.

Cyllideb

Trafododd y Panel y gyllideb ar gyfer 2024 i 2025 a nodwyd y gyllideb a osodwyd ar gyfer cyfathrebu/ymgysylltu ac ar gyfer ymchwil.

Camau gweithredu a diweddariad yr ysgrifenyddiaeth

Cytunodd y Panel ar y cofnodion llawn a’r crynodeb ar gyfer ei gyfarfod ym mis Ebrill 2024.

Adolygodd y Panel yr ohebiaeth oddi wrth ddau Brif Gyngor a’i thrafod.

Cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

Nid yw’r Panel wedi ystyried yn fanwl cyn hyn y cwestiwn o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (‘y Cyd-bwyllgorau’) sydd newydd eu sefydlu, ar ôl gwneud y penderfyniad yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022 i aros i’r cyrff newydd hyn gael eu datblygu cyn trafod hyn.

Ystyriodd y Panel bapur penderfyniad, a luniwyd ar y cyd gan yr Ysgrifenyddiaeth a’r arweinydd polisi yn Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cyd-bwyllgorau. Roedd y papur yn darparu gwybodaeth er mwyn i’r Panel ystyried a ddylai aelodau’r Cyd-bwyllgorau gael tâl cydnabyddiaeth drwy nodi Pwerau a Dyletswyddau, Aelodaeth a Strwythur, Llywodraethiant, Safonau a Chraffu.

Croesawodd y Panel hefyd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i roi trosolwg ar y cynnydd hyd yma o ran datblygu’r Cyd-bwyllgorau, eu rolau a’u cyfrifoldebau ac i gyfrannu at y drafodaeth ar daliadau cydnabyddiaeth ar gyfer yr aelodau. 

Cytunodd y Panel, fel blaenoriaeth, y dylid cyhoeddi Adroddiad Atodol, i fod yn destun ymgynghoriad, er mwyn cynllunio Penderfyniad Drafft ar daliadau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau lleyg cyfetholedig y Cyd-bwyllgorau. Byddai hyn yn dilyn yn fras yr egwyddorion y cytunwyd arnynt eisoes ar gyfer aelodau cyfetholedig y Prif Gynghorau, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a’r Awdurdodau Tân ac Achub. Nododd y Panel eu bod wedi cytuno yn flaenorol y dylid talu hawliadau costau teithio a chynhaliaeth a chostau lwfansau gofal i holl aelodau’r Cyd-bwyllgorau. 

Unrhyw fater arall

Gwrthododd y Panel wahoddiad i fod yn bresennol yng Nghynhadledd CLlLC 2024, oherwydd ymrwymiadau eraill a oedd yn y dyddiadur eisoes.

Trafododd y Panel y trefniadau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid (i baratoi ar gyfer cyhoeddi adroddiad drafft).

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar 25 Mehefin 2024. 

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, a fyddech cystal â chysylltu â’r Ysgrifenyddiaeth drwy anfon e-bost i IRPMailbox@llyw.cymru.