Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Yn bresennol

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Bev Smith, Aelod
  • Kate Watkins, Aelod
  • Dianne Bevan, Aelod
  • Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
  • Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth

Llywodraeth Cymru

  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol a Chynllunio
  • Elaina Chamberlain, Pennaeth Amrywiaeth, Democratiaeth a Chydnabyddiaeth Ariannol, Llywodraeth Leol (arsylwi)

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mercher 12 Mawrth. 

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu'r cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Chwefror a chytuno arnynt, nodi diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025
  • nodi'r diweddariadau a wnaed i'r gofrestr risgiau
  • adolygu a thrafod y materion i'w hystyried gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • nodi'r ohebiaeth a anfonwyd mewn perthynas â chydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a Thref
  • adolygu gohebiaeth a darparu ymatebion i ddau awdurdod lleol 

Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Camau gweithredu, diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Chwefror, gan nodi'r diweddariad ar y gyllideb.

Fe wnaeth y Panel adolygu a thrafod yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth ddau brif awdurdod, a'i ymateb arfaethedig i bob un.

Cofrestr risgiau

Rhoddwyd diweddariad ar y gofrestr risgiau i'r Panel, a gymeradwyodd y fersiwn derfynol.

Materion i'w hystyried gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru 

Cyflwynwyd nifer o faterion i'r Panel eu trafod (a amlygwyd yn yr Adroddiad Etifeddiaeth a'r ymatebion i Adroddiad Blynyddol 2025) i'w hystyried gan y Comisiwn yn y dyfodol.

Cydymffurfiaeth Cynghorau Tref a Chymuned

Trafododd y Panel ohebiaeth a anfonwyd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn â chydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a Thref â phenderfyniadau'r Panel.

Effaith cydnabyddiaeth ariannol ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol

Nododd a thrafododd y Panel ohebiaeth a anfonwyd at, ac a anfonwyd oddi wrth, Lywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith cydnabyddiaeth ariannol ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

Unrhyw faterion eraill

Nododd y Panel gysylltiadau â deddfwriaeth ar ddiddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Croesawodd y Cadeirydd aelodau blaenorol y Panel i'r cyfarfod (Julie May, Greg Owens, Ruth Glazzard, a Gareth Newton), gan ddiolch iddyn nhw, yr aelodau presennol, a staff yr Ysgrifenyddiaeth am eu cyfraniad i waith y Panel dros y blynyddoedd. Hefyd, cafodd fideo byr o ddiolch gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ei ddangos i'r aelodau presennol a'r cyn-aelodau.

Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.