Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
  • Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg (Cadeirydd sesiwn y bore)
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Cwricwlwm ac Asesu
  • [                    ], Cangen Data’r Gweithlu Addysg
  • Aled Roberts, Grŵp Cynghori CSGA
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)

Sesiwn y bore

Eitem 1 - Gair o groeso gan Bethan Webb

Croesawyd yr aelodau i’w hail gyfarfod fel aelodau o’r Cyngor Partneriaeth. Cyflwynodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Angharad Lloyd-Williams ac Owen Derbyshire. Rhoddodd gadarnhad o drefn newydd y cyfarfod sef cynnal trafodaeth yn ystod sesiwn y bore ac yna adrodd yn ôl i’r Gweinidog yn ystod sesiwn y prynhawn.

Eitem 2 - Diweddariad a chyflwyniad ar y gwaith ar Fil y Gymraeg – [ ] ac [ ] (Llywodraeth Cymru)

Trosglwyddodd Bethan yr awenau i [                    ] ac [                  ] o Is-adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar eu gwaith ar Fil y Gymraeg.

Roedd y diweddariad yn canolbwyntio ar ystyriaeth o’r:

  • cydbwysedd rhwng swyddogaethau’r Comisiwn
  • amserlen sefydlu’r Comisiwn
  • sut fydd sefydlu Comisiwn yn effeithio ar gyrff eraill sy’n gweithio ym maes y Gymraeg, yn arbennig y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • penodi Comisiynydd newydd ar gyfer y cyfnod trosiannol a phwysigrwydd y rôl honno.
  • prif nod y Comisiwn.

Yn dilyn y cyflwyniad rhoddodd aelodau adborth cychwynnol ynghylch yr opsiynau ar gyfer prif nod y Comisiwn.

Y prif bwyntiau a nodwyd gan yr aelodau oedd:

  • yr angen i swyddogaethau’r Comisiwn danio dychymyg pobl ar lawr gwlad ac i fod yn bwerdy iaith
  • bod angen cael datganiad bwriad sy’n bwerus, ac sy’n gosod cyfeiriad clir

bod angen ffocws clir ar gymunedau Cymraeg a hefyd ar dwf o ran defnydd y Gymraeg.

Eitem 3 - Diweddariad ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg – Aled Roberts (Grŵp Cynghori CSGA)

Cyflwynwyd Aled i’r Aelodau gan sôn am ei waith gyda’r Grŵp Cynghori CSGA. Soniwyd bod 20 allan o 22 o’r cynlluniau CSGA wedi eu derbyn gan awdurdodau lleol bellach a bod gwaith yn mynd rhagddi ar gynllun 2020.

Bu sôn am symud oddi ar gynllun tair blynedd i ddeng mlynedd er mwyn bod yn fwy strategol. Gwelir twf yn y cynlluniau presennol, ond ei fod yn werth nodi na welwyd llawer o dwf yn addysg Gymraeg ers datganoli.

Nodwyd mai’r anhawster mwyaf yw’r ddeddfwriaeth gynradd a’r ffaith nad oes modd ei newid. Serch hynny, nodwyd pwysigrwydd mynd i’r afael â’r gwendidau presennol. 

Trafodwyd hefyd bwriad arall o fewn y Cynlluniau, sef cael gwared â mesur y galw a gosod targedau i Awdurdodau Lleol i fesur y galw. Yn dilyn hyn, nodwyd hefyd pwysigrwydd categoreiddio ysgolion, a’r anawsterau gyda’r categorïau presennol.  Trafodwyd  cyflwyno model er mwyn ceisio symleiddio’r broses o gategoreiddio ieithyddol statudol ar gyfer y dyfodol.

Nodwyd bod y grŵp yn awyddus i greu deilliant cyn-ysgol. Pwysleisiwyd wedyn nad oes diffiniad  o beth yw addysg Gymraeg a beth yw addysg ddwyieithog. Gofynnwyd a fydd dosbarthiadau'r chweched yn y Gymraeg ymhen pum mlynedd oherwydd cryfder y sector addysg bellach yn Saesneg.

Trafodwyd gategorïau ieithyddol ysgolion yng Ngwynedd, gan dynnu sylw at y ffaith bod ysgolion yn diffinio eu hunain yn ddwyieithog ond nad yw hyn yn adlewyrchiad cywir o ddiffiniad ieithyddol yr ysgol, ac nad yw’r drefn gyfredol yn galluogi hyn i ddigwydd.

Bu Aelod yn sôn am sicrhau bod trochi mewn ysgolion dwyieithog/Saesneg yn llwyddiannus trwy ddechrau gyda chydbwysedd 90/10 ac wedyn yn cyrraedd 50/50 erbyn i’r plentyn adael yr ysgol yn hollol ddwyieithog yn y Gymraeg a Saesneg. Holodd Aelod arall effeithiolrwydd dysgu Saesneg mewn rhai ysgolion yng Ngwynedd a lefel sgiliau iaith Saesneg y plant. Cytunwyd gyda gwaith y Bwrdd a’r gallu o gael y dystiolaeth sy’n arwain at yr hyn sydd angen ei newid.

Eitem 4: Cyflwyniad ar Fwrdd Cynllunio Hybu’r Gymraeg – Rhian Huws-Williams (Aelod Cyngor Partneriaeth)

O ganlyniad i brinder amser, ni fu digon o amser i gynnal yr eitem hon, felly cafwyd diweddariad bras iawn gan Rhian cyn y sesiwn gyda’r Gweinidog. Diolchodd Rhian i Swyddogion y Llywodraeth am eu holl waith yn ymwneud â’r Bwrdd. Pwysleisiwyd flaenoriaeth amlwg y gwaith, sef trosglwyddo iaith a’r drafodaethau ar beth yn union yw ‘hybu a hyrwyddo’. Hefyd soniwyd am naratif gan holi a oedd naratif clir, cyson yn bodoli ynghylch y gwaith hybu. Bu sôn am waith y swyddogion ym maes seicoleg newid ymddygiad a’r anawsterau sy’n deillio o agwedd. Cytunwyd bod gofyn cryfhau cyfathrebu yn y maes hwn.

Sesiwn y prynhawn

Eitem 5: gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Diolchodd y Gweinidog i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am yr holl gymorth hyd yma er mwyn gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth. Ond, pwysleisiodd bod llawer iawn o waith i’w wneud yn y maes gwirioneddol ddiddorol hwn. Wrth edrych ar bwyntiau gweithredu'r cyfarfod diwethaf, cytunodd y byddai Gwion yn rhannu copi o’i ddarlith yn fuan.

Cam gweithredu : Gwion i rannu ei ddarlith gyda’r ysgrifenyddiaeth.

Cam gweithredu : Cynnal trafodaeth ynghylch cynyddu’r gweithlu addysg

Bu’r Gweinidog yn sôn am bwysigrwydd casglu data, ac o ran addysg gychwynnol athrawon bod angen bod yn realistig a chodi cymhelliant, a gwneud ymdrech i wthio’r maes. Soniwyd wedyn am dâl athrawon a’i fod yn faes sensitif iawn, ond bod gennym y pŵer i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru.

Ychwanegodd Swyddog bod data yn cael ei gyhoeddi bob mis Gorffennaf ynghylch niferoedd athrawon, ac y gall fod yn fan cychwyn da i edrych ar sut i symud tuag at dargedau. Nodwyd hefyd y bydd cyfrifiad newydd am athrawon a staff cymorth erbyn mis Tachwedd 2019. Wedyn bydd gennym well syniad o gyflog ac amodau athrawon a beth fydd hyn yn ei olygu o safbwynt y Gymraeg. Roedd Aelod hefyd yn croesawu gwybod mwy am ble mae’n bosib gweld cost a chamau recriwtio athrawon a’r math o fuddsoddiad i gyrraedd y nod.

O ran arolwg sgiliau iaith athrawon, gofynnodd Aelod am athrawon di-Gymraeg a dysgwyr. Atebodd Swyddog y bydd yr arolwg yn cynnwys athrawon ymhob ysgol. Nodwyd hefyd nad oes ganddynt ddealltwriaeth lawn o’r sgiliau sydd eisoes yn bodoli. Nododd Aelod ei fod yn pryderu bod ysgolion yn defnyddio hwn fel ymarfer ‘tick box’.

Gofynnodd Aelod ble fydd yr arfer da yn cael ei rannu, a’r angen i ddod â phedwar arweinydd consortia at ei gilydd i drafod gyda llawer o arfer da yn datblygu er mwyn gobeithio troi hwn yn fforwm strategol da.

Nododd y Gweinidog ei bod yn deall bod yna brinder athrawon iaith Gymraeg yn cael eu hyfforddi, a bod angen ymdrin â hyn heb oedi neu fe all fod yn anodd iawn cyrraedd yr holl dargedau eraill sydd wedi’u gosod. Ychwanegodd Aelod bod yna lefel uchel iawn o barch at y proffesiwn dysgu yn y Ffindir a bod rhaid i bob athro gael gradd meistr er mwyn ennill ei gymhwyster dysgu.

Nodwyd bod trwytho yn gweithio, a gofynnwyd a oes ffordd o sefydlu cynllun peilot ble byddai myfyrwyr prifysgol yn mynd i mewn i ysgolion ac yn cael cyfle i ddysgu am fis ar ddiwedd blwyddyn academaidd. Nodwyd y byddai hyn yn rhoi profiad iddynt o ddysgu ac yn rhoi blas iddynt o’r proffesiwn. Nododd Swyddog bod rhywbeth tebyg wedi ei dreialu yn y gorffennol ond nad oedd yn boblogaidd iawn gan fod gan nifer o fyfyrwyr arholiadau neu gyfweliadau ar ddiwedd eu blwyddyn astudio. Gofynnodd y Gweinidog i’r Swyddogion ystyried hyn, a nodwyd bod cwrs haf dysgu Cymraeg i oedolion wedi bod yn llwyddiannus iawn. 

CAM GWEITHREDU: Swyddogion i ystyried cwrs blasu mis o hyd.

Eitem 6: Bil y Gymraeg – A yw’r cydbwysedd yn iawn?

Dywedodd y Gweinidog ei bod wedi cael syndod o weld pa mor gymhleth yw’r safonau ac y gall fod yn anodd gwybod beth yw eich hawliau ar y diwedd. Soniodd am y syniad o greu Comisiwn, gyda’r weledigaeth o weld hyn yn dod i fodolaeth tua Ebrill 2021. Nododd hefyd bwysigrwydd peidio colli momentwm.

Rhoddwyd trosolwg bras gan Swyddogion o’r drafodaeth a chyflwyniad yn sesiwn y bore.

Soniodd Aelodau nad oedd trafod wedi bod am ddyfodol rheoleiddio. Nododd y Gweinidog nad yw hyn wedi cael ei ddatrys eto, ond nododd bwysigrwydd cael annibyniaeth o’r Llywodraeth.

Soniodd Aelod bod y Comisiynydd presennol wedi rhoi llawer o sylw i ambell faes gyda meysydd eraill wedi cael llai o sylw, gyda bylchau polisi sydd angen eu llenwi.

Eitem 7: Rhian Huws-Williams yn bwydo’n ôl i’r Gweinidog ffrwyth trafodaethau’r bore ar y Bwrdd Cynllunio

Cyflwynodd Rhian ragor o fanylion am waith y Grŵp gan holi sut mae disgrifio neu ddiffinio hybu a hyrwyddo.

Ychwanegodd Aelod bod cael rhieni i drosglwyddo iaith ar yr aelwyd yn hynod bwysig. Gofynnodd y Gweinidog i ba raddau y dylid targedu ardaloedd lle dylai ffigurau trosglwyddo fod yn well nag ydynt. Nododd Aelod arall bod rhieni sydd yn ddysgwyr yn teimlo nad ydynt yn gallu bod yn nhw eu hunain wrth siarad Cymraeg gyda’u plant, ac yn ofni y bydd hyn yn effeithio ar eu perthynas. Pwysleisiodd Swyddog bwysigrwydd treialu pethau heb bwysau bod rhaid i bopeth fod yn llwyddiant.

Eitem 8: Unrhyw fater arall

Nid oedd gan unrhyw aelod unrhyw fater arall i’w godi. Gwnaed cais i drafod Estyn a’r Bil eto yn y cyfarfod nesaf.

Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb, gan nodi y byddai swyddogion mewn cysylltiad yn fuan i drefnu dyddiad y cyfarfod nesaf.