Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)

Ymddiheuriadau

Marian Thomas

Gwion Lewis

Gair o groeso gan y Gweinidog a chyflwyniadau

Croesawodd y Gweinidog aelodau newydd y Cyngor Partneriaeth, gan nodi ei fod yn gwerthfawrogi eu profiad yn ogystal ag her i waith y Llywodraeth.

Dywedodd mai ffocws gwaith yn y maes ar hyn o bryd yw’r Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg, ei fod eisoes wedi cynnal sesiynau ar y pwnc yn Llandudno, Abertawe a Merthyr Tudful, a’i fod yn awyddus i wrando ar y drafodaeth heddiw.

Eitem 1 - Rheolau Sefydlog y Cyngor Partneriaeth

Holodd y Gweinidog a oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau am Reolau Sefydlog y Cyngor Partneriaeth.

Gwnaeth un Aelod gais i ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf gael eu pennu cyn gynted â phosibl. Ychwanegodd swyddog y byddai modd hefyd cynnal cyfarfodydd “deep dive” ad hoc yn ychwanegol at y 3 chyfarfod statudol.   

Cam gweithredu: trefnu ac anfon dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf at yr aelodau.

Eitem 2 - Papur gwyn Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Dywedodd y Gweinidog mai’r bwriad o’r cychwyn cyntaf oedd i’r Papur Gwyn ddilyn cyhoeddi strategaeth Cymraeg 2050 – gyda’r weledigaeth yn gyntaf, a phopeth wedyn yn gweithredu’r strategaeth.

O safbwynt cwynion ac ymchwiliadau, nododd fod yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnig y gallai ef ymgymryd â’r gwaith, ac er nad oedd hyn yn un o’r opsiynau gwreiddiol yn y papur gwyn bod dyletswydd arno i ystyried gwahanol opsiynau.  Byddai’n ystyried yr achos i ymgynghori ymhellach ar y cynnig hwn.

Cyflwynodd y Gweinidog [                    ] o Is-adran y Gymraeg i ymhelaethu ymhellach ar y papur gwyn a’r ymateb iddo.

Wrth ymgynghori yn ystod Chwefror / Mawrth â’r chyrff sy’n destun y safonau, nodwyd bod yna unfrydiaeth bod y broses bresennol yn gostus i gyrff a’r Comisiynydd, ac nad oedd o reidrwydd yn cywiro’r diffygion yr oedd angen eu cywiro nac yn arwain at ddysgu gwersi. Ond yn gyffredinol, nododd fod yna gefnogaeth i’r Safonau, a bod cyrff yn hoff o’r ffaith eu bod yn benodol.

Ychwanegwyd mai’r ail beth a godwyd gan y cyrff oedd eu bod yn gweld eisiau gweithgaredd hybu a hyrwyddo, gyda bwlch canfyddedig ar ôl diddymu Bwrdd yr Iaith.  Nodwyd fod pobl yn gyffredinol yn hapus i Lywodraeth Cymru wneud a gosod safonau, a bod cefnogaeth eang i ddod â safonau creu hawliau a dyletswyddau cynllunio ieithyddol ynghyd.

Nododd Aelod ei fod yn cytuno’n fras â’r gefnogaeth i’r safonau, gan adleisio canfyddiadau swyddogion a’r Gweinidog.  

O ran dyfodol y Comisiynydd / Comisiwn, nododd y Gweinidog fod annibyniaeth yn hollbwysig o ran ei swyddogaethau rheoleiddio ac nad oedd am i’r Llywodraeth fod yn agored i newid sut mae’r Comisiynydd / Comisiwn yn gweithredu.

Dywedodd Aelod ei fod wedi cynhesu at y syniad o Gomisiwn oherwydd ei symlrwydd, gan gwestiynu a fyddai rhoi dyletswyddau rheoleiddio i’r Ombwdsmon yn gam yn ôl i’r cymhlethdod presennol.  

Mynegodd Aelod arall fod y derminoleg a ddefnyddir, er enghraifft “rheoleiddio”, “hybu” ac ati, yn hynod bwysig. Nododd hefyd fod angen rheoleiddio ar gyfer llwyddiant, gan gwestiynu a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu gwneud hyn. Ychwanegodd y Gweinidog fod angen rheoleiddio er mwyn gwella gwasanaethau a newid diwylliant.

Dywedodd Aelod fod polisi iaith wedi methu dros y degawd diwethaf, ac nad oedd pobl yn meddwl bod cynllunio ieithyddol wedi bod yn digwydd ers dyddiau’r Bwrdd. Nododd ei fod yn awyddus i newid o gael Comisiynydd, ond mai’r cwestiwn gydag Ombwdsmon yw pwy fyddai’n hyrwyddo? Ei ddewis ef fyddai cael y Comisiwn i fod yn gyfrifol am hyrwyddo, ac y dylai cynllunio a hybu fod yng nghanol y darlun gyda’r papur gwyn.  

Cytunodd y Gweinidog fod angen creu corff annibynnol i yrru polisi a datblygu cynllunio ieithyddol - math o “bwerdy” iaith i yrru’r fframwaith polisi y tu allan i’r Llywodraeth, ond gyda’r Llywodraeth i osod yr amcanion polisi. Ychwanegodd Aelod bod annibyniaeth Comisiwn yn ganolog i’r drafodaeth, a nododd Aelod arall fod pryder ynghylch amwysedd y ffin rhwng y Llywodraeth ac unrhyw gorff newydd.  

Dywedodd y Gweinidog ei fod am gael Comisiwn sy’n gryfach na Bwrdd yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg, ac mai’r bwriad yw ehangu’r ddeddfwriaeth er mwyn dod a chwmnïau mawr dan y Safonau. Roedd am weld y corff newydd yn cydweithio gydag, er enghraifft, cwmnïau mawr byd-eang er mwyn eu cael i gynnig gwasanaethau Cymraeg yn ddigidol, a bod felly angen corff â grym deallusol ac arbenigedd i weithio gyda sefydliadau mawr.

Barn Aelod arall oedd bod dirfawr angen ymgyrch bositif i fframio’r iaith i fusnesau, yn hytrach na bod yn ymatebol ac ar y droed gefn o hyd. Byddai cael Comisiwn yn gyfle i bwysleisio’r negeseuon positif hyn.  Ychwanegodd fod angen profi’r achos busnes dros y Gymraeg er mwyn newid sut rydym yn fframio’r Gymraeg. Ategodd Aelod arall ei bod yn anodd symud ymlaen heb dystiolaeth o werth y Gymraeg.

Esboniodd swyddog fod cynllunio systemig effeithiol yng Ngwlad y Basg, gyda sgyrsiau aeddfed rhwng asiantaethau. Nododd mai gwirfoddol yw defnydd busnesau o’r Fasgeg am eu bod wedi llwyddo i greu bri proffesiynol drwy e.e. y Tecnicas, a bod gwaith i’w wneud i greu’r naratif hwnnw yng Nghymru.

Dywedodd Aelod ei fod yn cynhesu at y syniad o Gomisiwn, ond ei fod yn pryderu am y sylwadau ar hybu yn y Papur Gwyn. Nododd mai yn y Llywodraeth y mae’r rôl bwysicaf o ran symud tua’r miliwn am mai dyna lle mae’r grym. Atebodd y Gweinidog nad oedd yn cynnig bod y Llywodraeth yn colli’r rôl o yrru polisïau, am mai dyma’r corff etholedig.

Crybwyllodd Aelod bod agwedd y Colegau at y Gymraeg yn amrywio, bod cyrff heb brynu mewn bob tro, a bod hybu’n hollbwysig i newid hynny.

Eitem 3 - Rhaglen Waith strategaeth Cymraeg 2050

Rhoddodd [                    ] o Is-adran y Gymraeg gyflwyniad byr am y Rhaglen Waith, gan ofyn sut allai’r Llywodraeth wneud y gorau allan o syniadau’r grŵp ac ar beth y dylid canolbwyntio mewn cyfarfodydd i ddod.

Cynigiodd swyddog arall gyfarfod gyda ffocws ar y blynyddoedd cynnar. Nododd un Aelod bod angen pwyslais ar yr elfen gymunedol. 

Cynigiodd Aelod arall bod diffyg ffocws ar rieni, a bod angen gwneud pethau newydd er mwyn creu’r cysylltiad rhwng yr ystafell ddosbarth a rhieni.  Crybwyllodd Aelod botensial prosiect “family signatures” ym Mangor yn hyn o beth, ac y gellid o bosib addasu’r ymyrraeth i’r Gymraeg.  Nododd swyddog bod ymchwil ganddo yn awgrymu’r math hwn o beth.

Cam gweithredu: anfon copi o’r adroddiad ar drosglwyddo at yr aelodau.

Dywedodd Aelod ei fod yn falch o’r sylw yn y Rhaglen Waith i addysg, yn arbennig y gweithlu ac adnoddau, ond nad oedd y bennod ar y gymuned a’r economi mor gryf, ac felly bod angen rhagor o sylw i gynllunio economaidd rhanbarthol. Cytunodd y Gweinidog fod angen polisi economaidd ac iaith.

Cyfeiriodd Aelod at y TAN 20 newydd a gyhoeddwyd yn gynharach yn y dydd, ac nad oedd yn cynnig cyfarpar ystyrlon i ystyried materion y Gymraeg.

Cyfeiriodd Aelod at dabl perthynas polisïau [                    ], a gyflwynwyd i’r grŵp yn ystod sesiwn y bore, gan ofyn a oedd potensial i wneud rhywbeth tebyg o safbwynt Cymunedau.  Nododd y Gweinidog bod y Cyngor Partneriaeth wedi gofyn am hyn erbyn y cyfarfod nesaf – er mwyn cael mwy o wybodaeth am sut mae creu polisi economaidd gymunedol.

Cam gweithredu: creu tabl perthynas polisïau o safbwynt Cymunedau.

Eitem 4: Unrhyw fater arall

Nid oedd gan unrhyw aelod unrhyw fater arall i’w godi.

Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb, gan nodi y byddai’r cyfarfodydd nesaf yn cael eu cynnal yn Ionawr a Mai 2018, ac y byddai’r dyddiadau’n cael eu hanfon at aelodau cyn gynted â phosib.