Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Cynghorydd Proffesiynol – Datblygu’r Gymraeg mewn Addysg, yr Adran Addysg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg
  • [                    ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)

Ymddiheuriadau

Marian Thomas

Gwion Lewis

Eitem 1 - Croeso a chyflwyniadau

Croesawyd yr aelodaeth newydd, gan nodi y byddai sgyrsiau a chyflwyniadau’r bore yn ymdrin â newidiadau trawsnewidiol Rhaglen Waith 2017-21 strategaeth Cymraeg 2050.

Nodwyd mai’r her fwyaf i’r WESPs oedd symud ysgolion ar hyd y continwwm ac ailgategoreiddio ysgolion. Soniwyd yn fras am ddata addysg o safbwynt yr angen am ragor ohono am y cyfnod sylfaen a data gwell am arholiadau drwy’r Gymraeg.

Ychwanegwyd fod PCET (y corff a fydd yn cymryd lle Estyn) yn ffactor yng nghanol hyn i gyd, a bod angen sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o PCET. Rhybuddiodd un Aelod os nad oes rhywun o gwmpas y bwrdd o’r cychwyn cyntaf o ran PCET, y byddai hynny’n golygu colli cyfle i osod ‘mindset’.  Dyma sut mae cyrff yn cael y neges bod yn rhaid iddyn nhw newid i gefnogi’r Gymraeg.  

Holodd Aelod arall a yw sgiliau’n rhan o hyn. Atebwyd nad oedd y broses wedi mynd mor bell â hynny eto, ond bod polisi economaidd newydd ar sail ranbarthol am olygu rhanbartholi sgiliau, gyda rhanbarthau’n rhydd i flaenoriaethu sgiliau.

Eitem 2 - Cymraeg 2050 – strwythurau at y dyfodol

Holodd Aelod beth yw strwythurau mewnol Llywodraeth Cymru, am ei bod yn bwysig gwybod beth sy’n eistedd gyda’r llywodraeth a beth gyda’r Comisiynydd, a sut i herio a chefnogi Llywodraeth Cymru o ran capasiti cynllunio iaith. Nododd swyddog y Llywodraeth nad oedd Mesur y Gymraeg 2011 wedi pennu rolau’n ddigonol, ac nad oedd pobl yn gyffredinol yn deall pwy oedd yn gyfrifol am beth.

O safbwynt y £2m ychwanegol ar gyfer hybu’r Gymraeg yng nghyllideb 2016-17, ychwanegodd y swyddog ei bod yn bwysig peidio brysio, a bod y llywodraeth wedi camu’n ôl ac arwain wrth ymgynghori ar strwythurau’r dyfodol. 

Holodd Aelod a fyddai Uned y Gymraeg yn parhau’n rhan o’r is-adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (EPS). Atebwyd nad oedd sicrwydd, a bod yr Ysgrifennydd Parhaol newydd wrthi’n ystyried ailstrwythuro. Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod atebwyd bod gan Uned y Gymraeg tua 40 o staff, a bod angen gwneud mwy gyda’r adnodd hwn yn ogystal â 47 o staff y Comisiynydd er mwyn gwneud rhywfaint o “future proofing” gyda’r cyllid ychwanegol.

Holodd Aelod ynghylch perthynas is-adran y Gymraeg ag adrannau eraill, e.e. o safbwynt TAN 20. Atebodd swyddog y llywodraeth mai’r Adran Gynllunio sy’n arwain, bod Uned y Gymraeg wedi datblygu pecyn / toolkit i helpu gyda phenderfyniadau, ond bod statws hwn eto i’w benderfynu.  

Holodd Aelod beth yw rôl y Cyngor Partneriaeth o ran holi cwestiynau e.e. a ellid gwahodd yr Ysgrifennydd Parhaol i gyfarfod? Nodwyd mai rhan o gyfrifoldebau aelodau’r Cyngor Partneriaeth fyddai monitro’r Rhaglen Waith, a bod posibilrwydd, er enghraifft, cael 3 is-grŵp i gyfateb i’r 3 thema yn Cymraeg 2050.  

Pwynt Gweithredu:  rhannu’r fframwaith cynllunio a strwythur yr is-adran gyda'r aelodau er mwyn dangos sut mae’r is-adran yn prif-ffrydio.

Eitem 3 - Cyflwyniad ar y Gymraeg mewn Addysg – [ ]

Traddododd [                    ] o is-adran Addysg Llywodraeth Cymru gyflwyniad ar y Gymraeg mewn Addysg.

Diolchwyd i [                    ] am ei chyflwyniad. Dywedodd un Aelod ei bod yn ymddangos fod pethau’n symud i’r cyfeiriad iawn. Dywedodd os nad oedd ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael eu hailgategoreiddio na fyddent yn symud tir, a bod angen gwneud hyn fel mater brys. Ychwanegodd hefyd, mewn perthynas â chael “naratif cytûn” ar ddwyieithrwydd, bod dwyieithrwydd yn gymhleth ac yn ‘fluid’ iawn, a bod angen i athrawon allu bod yn hyblyg. Roedd angen esbonio i ysgolion sut i weithio fel hyn, a bod yr anghenion yn amrywio o ddosbarth i ddosbarth, ysgol i ysgol.

Croesawodd Aelod arall y cyflwyniad, gan ofyn sut byddai’r Llywodraeth yn mynd ati i gynyddu nifer yr athrawon i addysgu drwy’r Gymraeg heblaw drwy’r Cynllun Sabothol? Atebwyd bod cynlluniau i gynnig cymhellion ariannol i athrawon, ac i ddenu pobl yn ôl o broffesiynau eraill. Roedd yna ymwybyddiaeth, dywedodd, bod angen ffyrdd i mewn ac yn ôl i mewn i’r proffesiwn addysgu.

Nodwyd fod y Llywodraeth hefyd yn gweithio drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gan esbonio bod gan yr Alban, er enghraifft, heriau tebyg i Gymru, a’u bod hwythau wedi creu e-ysgol (e-Sgoil) er mwyn llenwi bylchau a chael athrawon i fod ar gael mewn gwahanol leoliadau. Dywedwyd fod Gweinidogion yng Nghymru yn awyddus i beilota’r dull hwn yn y wlad hon, gan roi disgrifiad o egwyddorion y prosiect yn yr Alban. Holodd Aelod a fyddai perthynas rhwng ysgolion a phrifysgolion yn opsiwn yn hyn o beth o ystyried bod y gweithlu eisoes gan y Prifysgolion, ac felly’r capasiti i gael pobl i rannu’u hamser ag ysgolion.

Gofynnodd Aelod arall pa ymateb fu hyd yn hyn gan y cyrff rheoleiddio, er enghraifft Cyngor y Gweithlu Addysg, a pha drafodaethau a gafwyd gydag ysgolion di-Gymraeg?  Atebodd swyddog y llywodraeth fod y llywodraeth wedi mynd â’r naratif allan i gyrff, a bod grŵp o benaethiaid am roi adborth; bod yr adborth a gafwyd hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol; ei bod yn bosib nad oedd rhai o’r penaethiaid unigol wedi’u hargyhoeddi am nad oeddent wedi bod yn rhan o’r diwygio hyd yn hyn – roedd bwriad i gynnal sesiynau yn hyn o beth. Roedd hefyd yn bwysig cofio bod y system gyfan yn cael ei diwygio, nid y Gymraeg yn unig.

Holodd Aelod sut fyddai Estyn yn delio â hyn y dyfodol, a holodd a fyddai modd cael cyflwyniad i’r aelodau yn hyn o beth. O ran y system asesu, holodd sut oedd priodi PISA ag anghenion y gyfundrefn addysg newydd. Atebwyd bod PISA yn bwysig i gael hyder pobl yn ôl yn y system addysg, ond nad oedd yn gwneud synnwyr addysgu yn unswydd er mwyn llwyddo ym mhrofion PISA.

O safbwynt Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, nododd Aelod fod cyfres o argymhellion wedi eu datblygu yn adroddiad Aled Roberts, a bod y llywodraeth wedi derbyn y rhain. Ei gwestiwn ef oedd sut y byddai’r gwaith o’u rhoi ar waith yn cael ei fonitro.  Atebodd swyddog bod datganiad i ddod yn fuan, a bod bwriad i adolygu’r rheoliadau yn hyn o beth erbyn 2019. Ychwanegodd fod y Gweinidog wedi dweud na fyddai’n derbyn Cynlluniau Strategol yr oedd yn anfodlon â nhw, ac y byddai’r Llywodraeth yn mynd ati i weithredu’r argymhellion dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Pwynt Gweithredu:  trefnu cyflwyniad i’r aelodau mewn cyfarfod i ddod ynghylch rôl Estyn mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd.

Eitem 4: Hybu a’r Gymraeg – [ ]

Yn dilyn cyflwyniad [                    ] o Is-adran y Gymraeg ar Hybu a’r Gymraeg, disgrifiodd Aelod sut oedd gan gyngor tref Cricieth stondin ar sut i ddatblygu’r dref nad oedd yn sôn mewn unrhyw ffordd am hyrwyddo’r Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, holodd sut mae symud pethau ymlaen o safbwynt hybu a hyrwyddo. Atebodd swyddog fod modd mynd at gyrff ymbarél, Siambrau Masnach ac ati, a bod gwaith ar fin dechrau yn hyn o beth o dan strategaeth Cymraeg 2050.

Ychwanegodd swyddog arall fod cynghorau cymuned, cynghorau tref ac ati yn hollbwysig, a bod modd i’r Mentrau Iaith helpu a chynnig cyngor ar y lefel hon.