Cyfarfod o'r Cyngor Partneriaeth y Gymraeg: 15 Ionawr 2018
Cofnod o gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ar 15 Ionawr 2018.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
- Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- Glyn Jones, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- [ ], Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- [ ], Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- Helen Prosser, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
- [ ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)
Eitem 1 - Gair o groeso gan y Gweinidog a chyflwyniadau
Croesawodd y Gweinidog yr aelodau i’w chyfarfod cyntaf gyda’r Cyngor Partneriaeth, a chyflwyno’i hun cyn mynd o gwmpas y bwrdd a gofyn i bawb gyflwyno’u hunain.
Nododd y Gweinidog fod miliwn o siaradwyr Cymraeg yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, a bod blynyddoedd cyntaf y strategaeth yn hanfodol.
Eitem 2 - Cyflwyniad ystadegol am y taflwybr at filiwn o siaradwyr – [ ] a Glyn Jones (Llywodraeth Cymru)
Trosglwyddodd y Gweinidog yr awenau i [ ] a Glyn Jones o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.
Wedi’r cyflwyniad, cadarnhawyd mai’r cyfrifiad nesaf yn 2021 fyddai’r olaf o’i fath, ond nad oedd penderfyniad swyddogol wedi’i wneud. Byddai argymhellion yn cael eu gwneud ar ôl 2021 o ran sut i weithredu yn y dyfodol.
Wrth sôn am y cwymp yn nifer y siaradwyr ar ôl 16 oed, y cyfeiriwyd ato yn y cyflwyniad, nododd Aelod fod diffyg pwyslais ar ddatblygu dwyieithrwydd pobl ifanc ar lefel Byrddau Uchelgais, bod dylanwad y Byrddau hyn am gynyddu, a’i bod yn allweddol bod eu haelodau’n deall pwysigrwydd parhad y Gymraeg wrth i bobl ifanc adael addysg statudol. Dywedodd y Gweinidog fod angen cynyddu’r pwyslais ar addysg bellach i ymdrin â’r broblem, ac y byddai ehangu cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gam tuag at fynd i’r afael â’r Gymraeg yn y sector.
Nododd un Aelod, os bydd pobl ifanc yn cael dewis cyfrwng iaith mewn colegau, ei bod yn bwysig i staff y colegau hynny roi negeseuon cryf iddynt o ran yr iaith. Wrth gyfeirio at y cyflwyniad ystadegol, ychwanegodd swyddog petai dilyniant ôl-16 o ran y Gymraeg yn gwella, y byddai miliwn o siaradwyr yn gyraeddadwy iawn.
Nododd Aelod ei fod yn ymwybodol o bobl oedd heb nodi yn y Cyfrifiad eu bod yn siarad Cymraeg am eu bod yn ofni y byddai ffurflenni uniaith Gymraeg yn dod atyn nhw o ganlyniad i hynny. Ychwanegodd fod cyd-destun a seicoleg y cwestiwn yn bwysig iawn. O ran sgiliau, nododd ei bod yn hanfodol bod pob adran yn Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan i greu dilyniant rhwng yr ysgol ac Addysg Bellach a phrentisiaethau. Dywedodd y Gweinidog mai un peth sydd wedi gwneud argraff arni yw bod gofyn i bob adran yn y Llywodraeth bellach esbonio sut mae penderfyniadau yn effeithio ar y Gymraeg a’r targed o filiwn o siaradwyr.
Holodd Aelod arall i ba raddau y byddai modd rhaeadru data i ardaloedd gwahanol o Gymru, am fod pob ardal yn wahanol a data lleol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn. Atebodd un o swyddogion y llywodraeth fod gwaith i segmenteiddio data yn ddaearyddol eto i’w wneud.
Wrth drafod addysg ar lefel Awdurdodau Lleol, nododd y Gweinidog fod swyddogion y llywodraeth yn craffu ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac yn gofyn i bob Awdurdod Lleol wella’u cynlluniau. Mynegodd un Aelod mai her arall yw cynyddu nifer yr athrawon i addysgu’r Gymraeg a thrwy’r Gymraeg. Ychwanegodd nad oedd manylder ar gael o ran defnydd iaith athrawon. Pryder arall oedd y nifer sy’n dilyn cyrsiau Lefel A. Atebodd y Gweinidog fod y gweithlu addysg yn bwysig fel man cychwyn i’r Gymraeg yn y system addysg. Pwysig hefyd oedd newid agweddau plant cyfrwng Saesneg fel eu bod hwythau’n fwy tebygol o anfon eu plant hwy i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Eitem 3 - Trosglwyddo iaith yn y teulu – [ ] a [ ] (Llywodraeth Cymru)
Rhoddodd [ ] gyd-destun i ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfraddau trosglwyddo iaith, cyn i [ ] roi cyflwyniad ac arwain trafodaeth ar y pwnc, gan nodi bod potensial sylweddol i gynyddu cyfraddau trosglwyddo.
Diolchodd y Gweinidog i [ ] a [ ] am yr eitem, gan gydnabod mai mater cymhleth yw creu polisi ar gyfer y maes, yn arbennig am fod ymyrryd mewn teuluoedd yn fater sensitif.
Cyfeiriodd Aelod at y ffigur yn y cyflwyniad mai’r gyfradd drosglwyddo ymysg teuluoedd pâr lle’r oedd y ddau riant yn siarad Cymraeg oedd 82% – pam nad oedd yr 18% arall yn trosglwyddo? Holodd Aelod arall a oedd canlyniadau ar gael fesul dosbarth cymdeithasol. Atebodd swyddog mai’r patrwm yn gyffredinol oedd po isaf yw’r dosbarth cymdeithasol, y lleiaf tebygol y mae pobl o drosglwyddo iaith, a bod cysylltiad felly rhwng cefndir sosio-economaidd a throsglwyddo.
Nododd Aelod arall bod hyder plant a hyder rhieni i anfon plant i ysgolion Cymraeg yn ffactor i lawer, yn arbennig o safbwynt dilyniant ôl-16. I lawer, dywedodd, cymhelliant economaidd sy’n peri iddynt anfon eu plant i addysg Gymraeg, a’r broblem yw sut i’w cael i barhau gyda’r iaith ar ôl gadael ysgol. Ychwanegodd fod pethau gwych yn digwydd ym maes technoleg i gynorthwyo rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant gyda gwaith cartref Cymraeg, a bod angen i rieni gael gwybod am y rhain cyn iddynt benderfynu a ddylid anfon eu plant i ysgol Gymraeg ai peidio.
Dywedodd Aelod arall bod angen yr un gefnogaeth ar rieni â phlant yn y blynyddoedd cynnar, a bod angen meddwl sut i roi seilwaith iaith cadarn i blant oedran meithrin, er enghraifft drwy hysbysebu’r ffyrdd hawdd o gyflwyno’r Gymraeg (e.e. Cyw).
Mynegodd y Gweinidog ei bod yn bwysig cadw at ddata a thystiolaeth er mwyn sicrhau’r impact gorau am arian ac ymdrech, a bod angen mynd ati i bennu blaenoriaethau. Nododd Aelod mai un peth y gall llywodraeth ei wneud yw creu’r amodau e.e. i helpu teuluoedd cymysg eu hiaith i drosglwyddo. Un ffordd o wneud hyn fyddai drwy hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle. Atebodd y Gweinidog fod gan y llywodraeth bŵer yn hyn o beth, ond bod cyrraedd busnesau llai, sy’n cyfrif am ganran uchel iawn o weithleoedd, yn anodd iawn.
Eitem 4: Y Gymraeg a’r Economi – Simon Brooks a Rhodri Llwyd Morgan (Aelodau’r Cyngor Partneriaeth)
Wrth gyflwyno Simon Brooks a Rhodri Llwyd Morgan, nododd y Gweinidog fod yr economi’n ffactor yn nirywiad yr iaith mewn ardaloedd Cymraeg dwysedd uwch. Yn ystod y cyflwyniad, gwnaed argymhellion mewn perthynas â Brexit, dyfodol amaeth, y dinas-ranbarthau, a lleoliad swyddi cyhoeddus.
Yn dilyn y cyflwyniad, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth economaidd ym mis Rhagfyr 2017, a oedd yn berthnasol i’r hyn a drafodwyd yn y cyflwyniad. Nododd un Aelod fod y Gymraeg yn cael ei chydnabod yn y ddogfen, yn ogystal â phwysigrwydd twf economaidd ledled Cymru, ond bod diffyg cig ar yr asgwrn o safbwynt y Gymraeg, a bod angen edrych ar Brexit yn benodol yn ngyd-destun y gogledd-orllewin a’r gorllewin.
Ychwanegodd y Gweinidog iddi fod ynghlwm wrth gynllunio a datblygu economaidd ar lefel leol, a bod angen bod yn realistig am yr hyn y gellir dylanwadu arno. Nododd fod canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y byd amaeth, a phe bai’r sector yn colli mynediad at y farchnad Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol yn sgil Brexit, nad oedd budd-daliadau i ffermwyr am wneud unrhyw wahaniaeth. Dywedodd Aelod fod potensial i Brexit wneud niwed sylweddol i wead cymdeithasau Cymraeg drwy chwalu blociau amaethyddol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch a oedd Aberystwyth, Caerfyrddin a Bangor yn rhan o ddinas-ranbarthau, atebodd y Gweinidog nad oedd Powys a Cheredigion yn rhan o ddinas-ranbarth, a bod angen i’r strategaeth economaidd newydd ddatblygu’r canolbarth a’r gorllewin.
Crybwyllodd Aelod bwysigrwydd Cymreigio busnesau, hysbysebu manteision dwyieithrwydd, a rhoi’r cyfle i ardaloedd gymryd perchnogaeth yn hyn o beth. Nododd mai un ffordd o wneud hyn oedd drwy weithio gyda chynghorau tref / cymuned. Atebodd swyddog bod cynllun grant Cymraeg 2050, a oedd yn cynnig grantiau arloesi gwerth hyd at £20,000, ar gael i helpu gyda hyn. Ychwanegodd fod llinell gyswllt newydd yn cael ei ddatblygu, a bod rhwydwaith o 10 swyddog yn gweithio gyda busnesau bach.
Pwynt Gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i anfon gwybodaeth am wasanaethau cymorth busnes at glercod cynghorau tref / cymuned.
I ategu’r pwynt diwethaf, ychwanegodd Aelod arall bod cynllunio meicro ar lefel gymunedol wedi bod yn llwyddiannus yn y gogledd-orllewin, ond bod pen draw i beth ellid ei gyflawni drwy hyn, a bod angen gweithredu cenedlaethol ar lefel llywodraeth hefyd. Cynigiodd bod angen ymyrraeth Llywodraeth Cymru i wrth-bwyso (“counterweight”) buddsoddiad mewn ardaloedd poblog. Problem arall oedd bod ardaloedd Cymraeg yn aml yn colli arweinwyr oherwydd diffyg swyddi a mudo, a bod cyfuniad o hynny a’r crebachu yn sgil cyni ariannol yn golygu bod Awdurdodau Lleol yn colli arweinwyr a thalent. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn dueddol o gytuno â hynny.
Crybwyllodd Aelod bod haen ychwanegol o gynllunio’n digwydd yn Lloegr – Cynllunio Cymdogaeth (“Neighbourhood Planning”). Yng Nghymru, nododd fod llawer o gynlluniau datblygu lleol yn hen, a bod cynlluniau newydd yn Lloegr yn dueddol o ddod â rhagor o reolaeth a manteision cymunedol (e.e. ysgolion, canolfannau siopa ac ati) fel rhan o ddatblygiadau. Roedd o’r farn bod potensial i hyn yng Nghymru o safbwynt y Gymraeg, ac mai un ffordd ymlaen oedd annog ffurfio grwpiau cynllunio lleol i gymryd yr awenau eu hunain, a bod y rhain yn dueddol o wasgu mwy o fanteision gan ddatblygwyr na chynghorau. A fyddai lle felly i ystyried haen newydd o gynllunio yng Nghymru, gyda phwyslais ar y Gymraeg oddi mewn i hynny?
Nododd swyddog fod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol (“material consideration”) o dan Ddeddf Cynllunio 2015, ond nad oedd yn orfodol ac mai dim ond Gwynedd oedd wedi ei gynnwys fel ystyriaeth berthnasol. Ychwanegodd mai’r bwlch presennol yw cynllunio demograffi ardal ehangach ac effaith ieithyddol datblygiadau ar ardaloedd ehangach. Roedd Aelod yn tybio bod angen barn gyfreithiol annibynnol ar y Llywodraeth yn hyn o beth, a bod modd defnyddio’r system gynllunio i ysgogi datblygu economaidd ac ieithyddol.
Dywedodd Aelod arall fod gan bolisi a chyfraith o ran y Gymraeg lawer i’w ddysgu o bolisi a chyfraith yr amgylchedd e.e. y “trefi eco” yn Lloegr, a oedd yn llwyddo i newid ymddygiad pobl, a bod modd creu amodau ffafriol, e.e. i fusnesau bach Cymraeg, heb unrhyw broblemau cyfreithiol.
Pwynt gweithredu: Gofyn i’r Aelod ysgrifennu at y Gweinidog i amlinellu ei syniadau (yng nghyswllt “Trefi Eco” ac ati)
Nododd Aelod mai ffactor hollbwysig yw pa mor glir yw’r disgwyliadau o safbwynt y Gymraeg mewn unrhyw ddatblygiadau newydd. Ychwanegodd Aelod arall mai’r her i unrhyw arweinydd (ee arweinydd cyngor) yw gwneud gwahaniaeth go iawn, a bod angen iddyn nhw ofyn i’w hunain “a ydw i wedi gwneud gwahaniaeth o ran y Gymraeg”.
Eitem 5: Cyflwyniad ar gynllun paru “Siarad” – Helen Prosser (Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol)
Diolchodd y Gweinidog i Helen Prosser am ei chyflwyniad ar gynllun “Siarad”, a ysbrydolwyd gan gynllun Voluntariat per la Llengua yng Nghatalwnia.
Esboniodd Helen ymhellach y byddai gofyn i’r sawl sy’n gwirfoddoli ar gyfer y cynllun peilot ymrwymo 10 awr o’u hamser dros 2-3 mis, ond nad oeddent am fod yn rhy ‘prescriptive’ yn hynny o beth. Nododd fod pobl yn ymateb i’r dull hwn o weithio, a bod ewyllys da i helpu dysgwyr yn gyffredinol ond nad oedd pobl yn gwybod sut i helpu. Roedd y prosiect newydd hwn yn fodd o sianelu’r ewyllys.
Holodd Aelod a fyddai modd, er enghraifft, defnyddio technoleg fel Skype ar gyfer y cynllun. Atebodd Helen mai’r syniad oedd bod hwn yn brosiect cymunedol. Holodd Aelod arall sut oedd prosiect ‘Siarad’ yn wahanol i gynllun ‘CYD’. Atebodd Helen mai’r prif wahaniaeth oedd yr ymrwymiad o 10 awr, a bod corff cenedlaethol y tu ôl iddo. Petai’r cynllun yn tyfu’n fawr, byddai angen llawer o fonitro arno, felly bydd angen penderfynu pa mor eang y bydd angen i’r cynllunio fynd.
Holodd Aelod beth fyddai llwyddiant yng nghyd-destun y cynllun. Atebodd Helen y byddai hynny’n dibynnu ar yr ardal. Ychwanegodd swyddog bod yr ymrwymiad o 10 awr yng Nghatalwnia yn rhywbeth seicolegol, a bod yr ymrwymiad gwirioneddol yn aml yn mynd y tu hwnt i hynny. Nododd swyddog arall ei fod yn ffordd o ddod â phobl i mewn i ddiwylliant a’u cymhathu, ac yn fodd o atgyfnerthu dysgu.
Awgrymodd Aelod fod y system drethu i fod i wobrwyo ymddygiad da e.e. drwy eithriadau trethiant. Holodd a oedd sgôp felly i wobrwyo pobl ar sail cyfraniadau cymunedol tebyg i’r Gymraeg? Atebodd y Gweinidog ei bod yn hoffi’r syniad o greu cymuned i ehangu’r Gymraeg, a bod y cynllun i weld yn gwneud hynny. Ychwanegodd fod y cymhelliannau sector preifat (e.e. cardiau teyrngarwch gan siopau coffi a oedd yn rhoi stamp am bob sesiwn ‘Siarad’) yn gwneud llawer o synnwyr. Dywedodd un Aelod fod y cynllun yn fwy tebygol nag eraill o gael dysgwyr i symud o un lefel i’r llall.
Diolchodd y Gweinidog am y cyfraniad, gan nodi bod ganddi ddiddordeb mewn clywed rhagor am ganlyniadau’r cynllun peilot. Rhoddodd Helen Prosser wybod y byddai adroddiad am y peilot ar gael tua’r hydref.
Eitem 6: Unrhyw fater arall
Nid oedd gan unrhyw aelod unrhyw fater arall i’w godi.
Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb, gan nodi y byddai swyddogion mewn cysylltiad yn fuan i drefnu dyddiad y cyfarfod nesaf.