Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones, Phil Coates & Sarah Bound (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd & Rachel Mulholland (Cefas), Mike Frost (Wood Group UK Ltd), Lucie Skates, Karen Perrow, Helen Bloomfield & Lee Murray (CNC), Emma Harrison (Ystadau’r Goron), Emily Williams & Claire Stephenson (RSPB), Kam Tang (Prifysgol Abertawe), Jetske Germing (PCF), Alys Morris, Katie Havard-Smith & Emma McKinley (Severn Estuary Partnership), Clare Trotman (MCS), Alex Curd (MMO), Dr Julian Whitewright (RCAHMW), Jim Evans (WFA), John Wrottesley (ESCA), Sarah Canning & Thomas Fey (JNCC), David Jones (Blue Gem Wind), Richard Hill (RYA), Mark Russell (Mineral Products Association).

1. Contract ar gyfer datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAs) – Hysbysiad Preifatrwydd

Cawsom gan Sarah drosolwg lefel uchel o’r gofyn gan Lywodraeth Cymru bod angen caniatâd llafar neu ysgrifenedig aelodau i gael rhannu eu gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad e-bost a sefydliad) â’r cwmni sy’n ennill y contract i ddatblygu SRAs. Rhoddodd yr aelodau eu caniatâd llafar i rannu eu gwybodaeth bersonol trwy ddefnyddio erfyn rhith-law y cyfarfod Teams.

2. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) / Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) o Hysbysiadau Cynllunio Morol (MPN) ar gyfer Datblygu SRA

Ym mis Medi 2021, cafodd Wood Group UK Ltd (Wood Group) eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal HRA ac SEA o’r Hysbysiad Cynllunio Morol ar gyfer SRA.

Cafwyd cyflwyniad gan Mike Frost, Cyfarwyddwr Technegol Wood Group ar y gwaith hwn.  Siaradodd am nodweddion MPN ar gyfer Ardal Adnoddau Strategol ac esbonio bod adolygiad cychwynnol Wood Group yn awgrymu y byddai’n rhesymol dod i’r casgliad “na fyddai effeithiau arwyddocaol”. Dyma’r rhesymau:

  • nodweddion sylfaenol MPN
  • bod SRA yn ddynodiad ‘diogelu’ niwtral
  • profiad o gynnal HRAs mewn sectorau eraill (e.e. diogelu mwynau)

Cymeradwywyd cyflwyniad Mike gan nifer o’r aelodau.  Cadarnhaodd Eluned rôl yr SRAs, pe baent yn cael eu cyflwyno a sut y dylid eu rhoi ar waith.  Dywedodd hefyd y caiff canllawiau ar roi SRAs ar waith eu paratoi gyda chymorth aelodau. Gofynnodd i aelodau gyflwyno unrhyw ymholiadau trwy flwch e-bost Cynllunio Morol.

3. Cyflwyniad gan Lee Murray ar fapiau CNC o ystyriaethau amgylcheddol

Mae Lee yn parhau i:

  • gydweithio ag arbenigwyr technegol i chwilio am dystiolaeth berthnasol ac i ddatblygu a defnyddio methodolegau mapio;
  • datblygu a chynnal modelau GIS i gynhyrchu mapiau o ystyriaethau amgylcheddol;
  • nodi “llwybr effeithiau” ar gyfer sectorau a derbynyddion;
  • ymgorffori setiau data newydd yn y mapiau;
  • chwilio am astudiaethau achos sy’n ymdrin â chanlyniadau Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol Morol (SMMNR);
  • diweddaru’r sgoriau addasu “llwybrau effeithiau” ar gyfer pob sector; a
  • rhoi cyngor ar ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer agregau, tyrbinau gwynt arnofiol yn y môr a morlynnoedd llanw (adroddiad a mapiau).

Dywedodd Lee ei fod yn gobeithio cael trafod mapiau a setiau data GIS gydag aelodau a chlywed rhagor o’u hadborth yng nghyfarfod nesa’r SRG ar 17 Chwefror 2022.

4. Monitro ac Adrodd ar effeithiolrwydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC

Dywedodd Eluned y caiff yr adroddiad ffurfiol cyntaf yn adolygu effeithiolrwydd yr CMCC, ac yn ystyried hefyd cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau morol ymhellach, ei roi gerbron Senedd Cymru erbyn Tachwedd 2022.  Mae Tîm Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru wrthi’n dechrau ystyried sut i fynd ati i gynnal yr adolygiad.

Rhestrodd Eluned y gwaith sy’n cael ei wneud, sy’n rhoi cyd-destun i’r ystyriaethau hyn, ac yn cynnwys:

  • Datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol – caiff contract i wneud y gwaith hwn ei roi ym mis Rhagfyr 2021;
  • Canllawiau Lleoliadol ar gyfer Sectorau (SLG). Mae fersiwn derfynol o SLG Tonnau a Llanw wrthi’n cael ei baratoi. Mae SLG Dyframaeth wrthi’n cael ei ddrafftio;
  • Gwaith CNC ar fapio ystyriaethau amgylcheddol, i adeiladu ar brosiect yr SMMNR;
  • Mae’r amcanion a ddisgrifir yn CMCC yn rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a defnyddwyr y môr;
  • Astudiaeth Ddofn y Gweinidog o Ynni Adnewyddadwy; a
  • Gwaith gan Defra i ystyried sut i bennu blaenoriaethau’r sector morol

Cawsom drosolwg gan Lucie o waith y 3-4 blynedd diwethaf ar ddatblygu dangosyddion. Esboniodd hefyd fod ail Arolwg o Ddefnyddwyr ar fin cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2022.

Gofynnodd Lucie i’r aelodau am unrhyw ganllawiau y mae eu sefydliad wedi’u paratoi neu y maent wedi’u cael, ynghyd ag unrhyw adborth ynghylch defnyddio polisïau CMCC.

Cafwyd trafodaethau am:

  • asesiad amgylcheddol sy’n rhoi ystyriaeth ddigonol i bwnc adleoli
  • gweithio gyda chymunedau i wireddu amcanion CMCC;
  • cynyddu’r defnydd o wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi e.e. atlas RYA ar fynediad i’r arfordir a
  • cyhoeddi rhagor o wybodaeth.

Awgrymodd fod trafodaeth fanwl am Fonitro ac Adrodd yn cael ei hychwanegu fel eitem at agenda cyfarfod nesa’r SRG.

5. Unrhyw fater arall

CNC: Gallwch danysgrifio i daflen newyddion i randdeiliaid trwyddedau morol CNC ar WLBMRA@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dywedodd y Dr Julian Whitewright wrth aelodau fod Deddf Pysgodfeydd 2020 yn cynnwys agweddau ar warchod treftadaeth.  Mae’n gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i greu diffiniad, a charai glywed barn aelodau trwy flwch e-bost Cynllunio Morol.

Cyfarfod nesaf: 17 Chwefror 2022 @ 2pm.

Ymholiadau at: marineplanning@gov.wales