Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones (Cadeirydd) (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd & Rachel Mulholland (Cefas), Helen Bloomfield, Lee Murray & Lucie Skates (CNC), Mark Russell (BMAPA), Jetske Germing (PCF), Katie Havard-Smith (Severn Estuary Partnership), Emily Williams, Tessa Coledale ( Claire Stephenson (RSPB), John Wrottesley (ESCA), Julian Whitewright (CBHC), Richard Hill & Mike Butterfield (RYA), Gareth Cunningham (MCS), Thomas Fey (JNCC), Jennifer Godwin (SUDG), David Jones (Blue Gem Wind),  Mark Simmonds (British Ports), Joe Smithyman (Ystâd y Goron), Lily Anna Stokes & Rachel Thirlwall (MMO), Chloe Wenman (MCS), Eunice Pinn (Seafish), Stephen Jay (Prifysgol Lerpwl).

1. Datblygu'r Ardal Adnoddau Strategol (SRA) – diweddariad

Rhoddodd Adrian yr wybodaeth ddiweddaraf am waith datblygu'r SRA. Mae SRAau yn darparu gweithrediad gofodol o'r polisi diogelu SAF_02 o fewn Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).

Comisiynwyd Wood Group UK Ltd i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) ac Ymarfer Sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) a gyflwynwyd ganddynt i'r grŵp hwn yn y cyfarfod diwethaf. Ein nod yw dosbarthu allbynnau'r rhain ym mis Mawrth, a bydd y rhain hefyd yn cael eu hadolygu'n barhaus wrth i waith mapio'r SRA fynd rhagddo.

Comisiynwyd ABPMer i ddatblygu gwaith mapio'r SRA, gan gynnwys cynnal arfarniad cynaliadwyedd. Cynhelir y digwyddiad cyntaf i randdeiliaid ar 15 Mawrth, a fydd yn trafod y fethodoleg a'r broses ddatblygu. Fe'i dilynir gan gyfres o weithdai sy'n benodol i'r sector.

2. Cyfoeth Naturiol Cymru yn mapio ystyriaethau amgylcheddol

Cyflwynodd Lee i'r aelodau, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch mapio ystyriaethau amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y rhaglen Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy (SMMNR) sy'n ceisio mireinio'r dull yn ogystal ag ehangu'r ystyriaeth i gynnwys sectorau eraill. Bydd yr allbynnau cychwynnol yn becynnau o dystiolaeth i'w bwydo i mewn i fapio'r SRA.

Cyflwynodd Lee y setiau data ychwanegol a oedd yn cael eu hychwanegu at adar, cynefinoedd arfordirol, cynefinoedd morol, pysgod a mamaliaid môr. Ei nod yw cynhyrchu papur manylach i'w ystyried yng nghyfarfod nesaf MPSRG.

Codwyd ymholiad ynghylch perthynas y gwaith hwn â'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sy'n cael eu datblygu fel rhan o'r Ddeddf Pysgodfeydd newydd.  Tynnodd Emily sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr RSPB a Cefas yn edrych ar dir silio a meithrinfeydd ar gyfer rhywogaethau pysgod a gofynnodd am y sgorio pwysigrwydd a ddefnyddir ar gyfer adar.  Rhoddodd Lee drosolwg o'r sgorio pwysigrwydd.

3. Trafodaeth ar fonitro ac adrodd ar y Cynllun

Disgwylir i'r adolygiad a'r adroddiad 3 blynedd cyntaf ar effeithiolrwydd y WNMP gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Tachwedd. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn casglu tystiolaeth i gyfrannu at yr adolygiad ac mae'n anelu at gynnal ail arolwg defnyddwyr WNMP ym mis Ebrill.  Ar gyfer y cyfarfod heddiw, y nod yw cael sesiwn drafod agored i wahodd adborth gan aelodau'r grŵp.

Nododd Stephen fod Defra wedi dechrau gweithio ar raglen blaenoriaethu gofodol morol, a nododd fod Cymru eisoes yn symud i'r cyfeiriad hwnnw gyda gwaith yr SRA.  Nododd Eluned fod Llywodraeth Cymru yn trafod y gwaith hwn gyda Defra.

Nododd Mike fod angen bod yn ofalus nad yw symud tuag at fwy o amodau gofodol ar gyfer rhai sectorau yn cael effaith negyddol ar y sectorau hynny.

Nododd Claire fod angen edrych ar gynllun datblygu morol.  Tynnodd Gareth sylw at yr angen i feddwl am gapasiti cario'r môr.

Nododd Emily y byddai dull cyfannol sy'n edrych ar draws pob sector yn gyfle i sicrhau bod pob sector yn rhan o'r sgwrs.  Nododd Eluned y bydd Llywodraeth Cymru yn gwahodd rhanddeiliaid o bob sector i gymryd rhan ym mhroses fapio'r SRA. Mae meini prawf dylunio'r SRA yn ystyried rhyngweithio â sectorau eraill.

Nododd Jennifer ei bod yn ddiddorol clywed y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal.  Nododd y byddai diwydiant yn croesawu unrhyw lefel o sicrwydd a phroses symlach gan y llywodraeth.

Tynnodd Stephen sylw at yr anawsterau o benderfynu beth i'w flaenoriaethu, gan ddweud bod ymgysylltu'n gyffredinol yn hanfodol.  Gofynnodd a fyddai'r Datganiad Polisi Morol (MPS) presennol yn parhau i fod yn addas i'r diben.  Cytunodd John, a nododd hefyd bwysigrwydd dulliau cydlynol ar draws ffiniau i ddiwydiant.

Nododd Mark R nad yw dull cydsynio 'cyntaf i'r felin' o reidrwydd yn sicrhau'r canlyniad mwyaf cynaliadwy. Nododd y bydd angen i unrhyw flaenoriaethu gofodol ystyried canlyniadau ac effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol penderfyniadau.

Nododd Emily bwysigrwydd cynllunio ar gyfer defnyddio gofod yn y dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithiol ac ystyried effeithiau cronnol a chapasiti cario.  Nododd y potensial i ddysgu o ddulliau cynllunio daearol o flaenoriaethu gofodol.

4. Cyflwyniad ar y prosiect Bioddiogelwch am Oes (RSPB)

Cyflwynodd Tessa Coledale (RSPB) i'r grŵp bioddiogelwch am Oes, prosiect sy'n cael ei ddarparu ar y cyd gan yr RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban. Mae'r prosiect hwn yn rhedeg rhwng 2018 a 2023 gyda'r nod o leihau'r risg o gyflwyno a lledaenu Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) i leoliadau newydd ledled y DU. Mae'r prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar y 42 o ynysoedd SPA yn y DU sydd wedi'u dynodi ar gyfer adar môr sy'n bridio. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys Ynys Seiriol, Y Moelrhoniaid, Ynys Enlli, Gwales, Sgomer, a Sgogwm. Mae'n ymdrin â mesurau bioddiogelwch y gellir eu cymryd i leihau'r risg o gyflwyno INNS, gyda'r nod o gadw ysglyfaethwyr mamaliaid INNS oddi ar ynysoedd adar môr lle nad ydynt eisoes yn bresennol.

5. A.O.B.

Cododd yr Aelodau ymholiadau am Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Parth Cadwraeth Morol a'r gollyngiad olew ym Mae Lerpwl.

Cyfarfod nesaf – dyddiad i'w gadarnhau, ar hyn o bryd yn wythnos olaf mis Ebrill.

Ymholiadau i: marineplanning@gov.cymru