Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS
  • Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • Peter McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Prosiectau’r Prif Weinidog
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder a Materion Cyfansoddiadol
  • Karin Phillips,  Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
  • Gary Haggaty,  Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
  • Jonathan Jones, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
  • Bethan Phillips, Polisi Cyfiawnder
  • Merisha Hunt, Polisi Cyfiawnder
  • Andrew Felton, Polisi Cyfiawnder
  • Angharad Thomas Richards, Democratiaeth Llywodraeth Leol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitchell Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet 
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Cylch Gorchwyl a ffyrdd arfaethedig o weithio

1.1 Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y rhai a oedd yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder y chweched Senedd.

1.2 Sefydlwyd yr Is-bwyllgor yn ystod y bumed Senedd i ymateb i argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd mewn perthynas â materion cyfiawnder.

1.3 Prif ffocws yr Is-bwyllgor oedd symud ymlaen â’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, a hyrwyddo'r agenda drwy drafod â Llywodraeth y DU. Roedd y Cylch Gorchwyl yn adlewyrchu'r cylch gwaith hwn.

1.4 Y Prif Weinidog, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, fel Cadeirydd, yw’r aelodaeth sefydlog. Nodwyd y byddai Gweinidogion eraill yn cael eu gwahodd i gyfrannu at eitemau ar yr agenda lle’r oedd buddiannau polisi penodol a oedd yn ymwneud â’u portffolios, gan adlewyrchu'r cysylltiad agos rhwng cyfiawnder ac amcanion polisi eraill.

1.5 Byddai gweithredu dull cydgysylltiedig ar gyfer ystyried materion cyfiawnder, ochr yn ochr â meysydd polisi eraill megis gofal iechyd, addysg a llywodraeth leol ymysg eraill, yn allweddol i sicrhau llwyddiant y cylch gwaith.

1.6 Cytunwyd y dylai'r pwyllgor hefyd ystyried safbwynt y Llywodraeth ar faterion ehangach sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder, yn hytrach na chanolbwyntio ar Adroddiad Thomas yn unig, gan ei bod yn hanfodol cynnal dull unedig ar draws adrannau.

1.7 Hefyd, cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol gwahodd pobl berthnasol o’r tu allan i fod yn bresennol ar gyfer trafod materion penodol, sef pobl o’r system gyfiawnder, megis Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Ffederasiwn yr Heddlu, erlynwyr, a chynrychiolwyr o'r llysoedd, y gwasanaethau carchardai, a’r gwasanaethau prawf.

1.8 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y Cylch Gorchwyl a'r ffyrdd arfaethedig o weithio.

Eitem 2: Materion byw – yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

2.1 Nododd y Cwnsler Cyffredinol fod y materion y dylai'r Pwyllgor hwn eu hystyried yn barhaus yn ymwneud yn bennaf â'r gwahanol Filiau ac adolygiadau sy'n cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth y DU. Byddai papurau a thrafodaeth bellach ar bob un ohonynt yn codi yn ôl yr angen er mwyn i'r Is-bwyllgor wneud penderfyniadau.

2.2 Y Bil cyntaf i'w ystyried oedd yr un ar Adolygiadau Barnwrol, a oedd i fod i gael ei gyflwyno cyn gwyliau’r haf.

2.3 Roedd disgwyl i Fil a fyddai’n cynnwys darpariaethau ar gyfer gweithredu oedran ymddeol gorfodol i farnwyr gael ei gyflwyno cyn gwyliau’r haf, a byddai'n cynnwys barnwyr sy’n eistedd mewn tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

2.4 Y Bil olaf, ond y mwyaf cymhleth, o’r tri bil uniongyrchol i'w nodi oedd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Roedd y Bil wedi mynd drwy Dŷ'r Cyffredin a byddai'n cael ei ystyried nesaf gan Dŷ'r Arglwyddi.

2.5 Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrthi'n adolygu'r system cymorth cyfreithiol troseddol a'r prawf modd ar gyfer pob math arall o gymorth cyfreithiol, a dylai'r gwaith hwn arwain at rywfaint o gynnydd mewn cyllid.

2.6 Roedd adolygiad o'r Ddeddf Hawliau Dynol hefyd yn parhau, ac yn ddiweddar cyhoeddodd yr Arglwydd Ganghellor ei fwriad i adolygu Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, a greodd y Goruchaf Lys a'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol, ymhlith pethau eraill, felly roedd llawer o waith i'r Is-bwyllgor ei fonitro.

2.7 Nododd yr Is-bwyllgor bod un maes nad oedd Llywodraeth y DU yn symud ymlaen ag ef, sef ei chynlluniau ar gyfer Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol.

Eitem 3: Rhaglen yr Is-bwyllgor

3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn gofyn i'r aelodau gytuno ar flaenraglen waith a oedd yn cynnwys meysydd i'w datblygu o dan y setliad datganoli presennol.

3.2 Trafododd yr Is-bwyllgor yr egwyddor gyffredinol a nodwyd gan Gomisiwn Thomas, sef y dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Gymru.

3.3 Cytunodd yr Is-bwyllgor â'r argymhellion a nodwyd yn y papur, gan nodi’r rhagolwg.

Eitem 4: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Glasbrintiau – Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Benywaidd

4.1 Gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Benywaidd.

4.2 Dywedwyd bod y Glasbrintiau wedi'u cyhoeddi ym mis Mai 2019 a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn berchen arnynt ar y cyd. Fe’u gweithredwyd drwy bartneriaeth â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru.

4.3 Byddai’n hanfodol sicrhau bod ymgysylltu rheolaidd yn digwydd rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ddau Lasbrint. I'r perwyl hwn, roedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cynnal cyfarfod cadarnhaol yn ddiweddar gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Alex Chalk AS.

4.4 Trafododd yr Is-bwyllgor faterion ariannu, gan nodi bod cyfanswm cyllideb ganolog Llywodraeth Cymru ar gyfer Glasbrintiau yn ystod 2020-21 ychydig dros £1 miliwn. Fodd bynnag, roedd rhai elfennau yn cael eu darparu drwy gyllidebau adrannol eraill hefyd.

4.5 Cydnabuwyd bod y Glasbrintiau wedi gwneud cynnydd sylweddol ers eu cyhoeddi.

4.6 Ystyriodd yr Is-bwyllgor y ddogfen grynhoi lefel uchel a oedd wedi ei chynhyrchu ar gyfer y ddau Lasbrint, ac a oedd yn amlygu’r cyflawniadau allweddol hyd yma, yn ogystal â’r hyn y bwriedir ei gyflawni yn ystod y tri mis nesaf. Byddai'r ddogfen hon yn cael ei hadolygu'n ffurfiol bob chwarter a disgwylir i’r adolygiad cyntaf gael ei gynnal ddiwedd mis Medi 2021. 

4.7 Croesawodd yr Is-bwyllgor y cynnydd a wnaed hyd yma, a oedd yn cynnwys cynhyrchu Dadansoddiad o Broffil Troseddu Benywaidd, a oedd yn ystyried anghenion a’r hyn sy’n gwneud menywod yn agored i niwed yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, ynghyd â ffeithluniau perthnasol.

4.8 Hefyd gwnaed buddsoddiad sylweddol yn y prosiect Mamau sy'n Ymweld (Visiting Mums), a fyddai'n helpu i gryfhau a chynnal cysylltiadau teuluol i fenywod o Gymru a gedwir mewn sefydliadau diogel.

4.9 Roedd y Ganolfan Breswyl arfaethedig i Fenywod yn elfen graidd o'r Glasbrint ar gyfer Troseddu Benywaidd.

4.10 Ym mis Ionawr 2021, cytunodd y Cabinet ar weledigaeth ar gyfer dyfodol y ddarpariaeth ddiogel i ieuenctid yng Nghymru, a chyfeiriodd y trafodaethau diweddar â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol at y rhyngwyneb rhwng llesiant a chyfiawnder mewn darpariaeth ddiogel, mewn perthynas â’r elfen sy’n ymwneud â chadw yn y ddalfa yn y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid.

4.11 Er na chyfeiriwyd yn benodol at y Glasbrintiau yn y Rhaglen Lywodraethu, roeddent yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a byddent yn helpu i gyflawni llawer o ymrwymiadau trawsbynciol.

4.12 Roedd llawer o’r cynnydd a gafwyd gyda’r Glasbrintiau hyd yma wedi bod yn bosibl oherwydd y dull partneriaeth cadarn a oedd ar waith a’r cydweithio â’n partneriaid cyfiawnder, gan gynnwys Llywodraeth y DU.

4.13 Cytunodd yr Is-bwyllgor, wrth i'r rhaglen waith fynd rhagddi ac wrth i argymhellion y comisiwn cyfiawnder ddatblygu, y byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymgysylltu a'r cysylltiadau parhaus sy'n ofynnol o dan y setliad datganoli presennol.

4.14 Cytunodd yr Is-bwyllgor â’r papur.

Eitem 5: Unrhyw fater arall

6.1 Byddai cyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor yn cael ei gadarnhau maes o law, ond yn unol â'r Cylch Gorchwyl, byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob deufis yn gyffredinol gyda'r hyblygrwydd i gyfarfod yn amlach i ymateb i faterion cyfiawnder sy'n dod i'r amlwg.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2021