Cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder: 7 Hydref 2021
Cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ar 7 Hydref 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol (drwy Teams)
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS
- Julie Morgan AS
Swyddogion
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
- Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
- James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder a Materion Cyfansoddiadol
- Gary Haggaty, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
- Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
- Natalie Avery, Pennaeth Cyfiawnder Teuluol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
- Bethan Phillips, Polisi Cyfiawnder
- Chris James, Pennaeth Cyfiawnder Sifil a Gweinyddol
- David Slade, Uwch-reolwr Polisi Cyfiawnder
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Mitchell Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
Eitem 1: Materion byw – eitem lafar
1.1 Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol ddiweddariad llafar i'r Is-bwyllgor ar y materion diweddaraf mewn perthynas â’r agenda cyfiawnder yng Nghymru.
1.2 Roedd ymgysylltu diweddar â’r Senedd yn cynnwys datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi, a oedd yn cyflwyno’r diweddaraf i’r Aelodau.
1.3 Nododd yr Is-bwyllgor, o ganlyniad i ad-drefnu Cabinet Llywodraeth y DU, fod Arglwydd Ganghellor newydd wedi ei benodi ac y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod Adroddiad Comisiwn Thomas cyn gynted â phosibl.
1.4 Byddai cyfarfod gyda Syr Christopher Bellamy ynghylch adolygu cymorth cyfreithiol troseddol yn cael ei ad-drefnu.
Eitem 2: Hygyrchedd Cyfraith Cymru
2.1 Nododd y Cwnsler Cyffredinol gamau gweithredu diweddar ar yr agenda hon, a oedd yn cynnwys gosod rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru gerbron y Senedd ddiwedd mis Medi. Roedd y Cabinet eisoes wedi cytuno ar raglen weithredu gynhwysfawr ar gyfer tymor y Senedd hon i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch.
2.2 Cydnabuwyd bod cryn orgyffwrdd, o ran adnoddau, â gwaith y Pwyllgor Sefydlog ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol, a oedd wedi ystyried cynnwys y rhaglen yn ddiweddar. Nododd hefyd, yn y cyd-destun hwn, y byddai'r gwaith hwn, dros y tymor hir, yn dod ag enillion effeithlonrwydd ar draws sector cyhoeddus Cymru gan gynnwys o fewn Llywodraeth Cymru lle y byddai, ymhlith pethau eraill, yn gwneud y gyfraith yn haws i'w deall ac felly i’w diwygio pan fo angen.
2.3 Nododd yr Is-bwyllgor fod y gwaith hwn yn bwysig nid yn unig i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch i ddinasyddion, ond hefyd oherwydd, wrth beri i gyfraith Cymru a chyfraith Lloegr ymwahanu yn gyflymach, roedd yn cefnogi'r achos dros greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru ac, yn ei dro, ddatganoli cyfiawnder.
2.4 Nododd yr Is-bwyllgor bwysigrwydd gwella hygyrchedd cyfraith Cymru a'i gyfraniad at ddatblygu system gyfreithiol neilltuol i Gymru.
Eitem 3: Prosiect Comisiwn y Gyfraith: “Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru”
3.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Comisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ac am y gofyniad am ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer rhoi effaith i’r argymhellion.
3.2 Roedd y papur yn crynhoi'r cynigion a oedd yn deillio o'r prosiect ac yn argymell y safbwyntiau i'w mabwysiadu mewn perthynas â hwy.
3.3 Cymeradwyodd yr Is-bwyllgor yr argymhellion yn y papur a chytuno arnynt.
Eitem 4: Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol
4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn gofyn i'r Is-bwyllgor nodi cynnydd y Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol peilot ac, yn amodol ar gael gwerthusiad cadarnhaol o'r peilot, i gytuno bod swyddogion yn ymchwilio i drefniadau ar gyfer cyflwyno'r Llysoedd hyn yn ehangach ledled Cymru.
4.2 Argymhellodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ym mis Hydref 2019 y dylid treialu Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol peilot yng Nghymru. Yn dilyn cryn dipyn o waith paratoi gan bartneriaid gan gynnwys y farnwriaeth, awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd a'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol lleol, roedd cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol bellach yn barod i ddechrau gweithredu a chlywed ei achosion cyntaf ym mis Tachwedd.
4.3 Nodwyd mai diben Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol oedd darparu dewis amgen i'r llys teulu ar gyfer achosion sy’n ymwneud â gofal plant. Byddent yn cael eu cynllunio'n benodol i weithio gyda rhieni sy'n ymgodymu â phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Byddai'r llys yn mynd ati i gymryd agwedd datrys problemau wrth gynnal achosion – achosion y gallai rhieni ddewis eu cychwyn yn hytrach na mynd drwy achosion gofal arferol.
4.4 Diben y llys oedd galluogi rhieni i gael triniaeth a chymorth dwys, gan adolygu cynnydd yn rheolaidd, a'r nod yn y pen draw oedd helpu rhieni i roi’r gorau i gamddefnyddio sylweddau fel y gallent barhau i ofalu am eu plant neu gael eu haduno’n ddiogel â’u plant a oedd mewn gofal.
4.5 Un o fanteision mawr dull y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol oedd mai’r un barnwr fyddai’n gwrando ar achos yn gyfan. Gallai'r barnwr barhau i ysgogi'r rhieni ac adolygu eu cynnydd yn ogystal â dyfarnu'r achos ar ôl i'r rhieni ddechrau ar eu cynllun ymyrraeth, gan weithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol. Awgrymai’r dystiolaeth fod y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn ffordd fwy effeithiol a thecach o wrando ar achosion gofal pan oedd rhieni yn camddefnyddio sylweddau.
4.6 Byddai'r peilot yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2023 ac roedd disgwyl iddo wrando ar 30 o achosion y flwyddyn. Roedd y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei chomisiynu i werthuso’r peilot, a byddai'r gwerthusiad yn asesu canlyniadau'r peilot ac yn ystyried a fyddai’n bosibl iddo dyfu i ddiwallu anghenion ardaloedd eraill ar draws Cymru.
4.7 Croesawodd yr Is-bwyllgor gyflwyniad y peilot ac roedd yn edrych ymlaen at ystyried y gwaith gwerthuso a fyddai'n cael ei gyflwyno. Cydnabuwyd y byddai cysylltiadau â llawer o bolisïau presennol Llywodraeth Cymru yn cael eu gwneud â'r gwaith hwn, gan gynnwys: Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid; Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; polisïau camddefnyddio sylweddau; a llety diogel.
4.8 At hynny, cydnabu'r Is-bwyllgor pa mor allweddol bwysig oedd rôl y tîm amlddisgyblaethol, a oedd yn cynnwys: rheolwr tîm; gweithiwr cymdeithasol sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant a diogelu plant; gweithiwr camddefnyddio sylweddau; gweithiwr iechyd meddwl; seicolegydd a gweithiwr cymorth busnes.
4.9 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Hydref 2021