Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Jeremy Miles AC (Cadeirydd)
  • Ken Skates AC
  • Eluned Morgan AC
  • Vaughan Gething AC
  • Rebecca Evans AC
  • Kirsty Williams AC
  • Julie James AC
  • Jane Hutt AC
  • Dafydd Elis-Thomas AC
  • Lee Waters AC
  • Hannah Blythyn AC
  • Des Clifford – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Piers BissonvCyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Simon Brindle – Cyfarwyddwr, Strategaeth Brexit
  • Carys Evans – Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Gareth Williams – Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward – Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson – Cynghorydd Arbennig
  • Jane Runeckles – Cynghorydd Arbennig
  • Paul Griffiths – Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau (cofnodion)
  • Sophie Jones – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Reg Kilpatrick – Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol
  • Huw Morris – Cyfarwyddwr Grŵp, SHELL
  • Steve Davies – SHELL
  • Jason Thomas – Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Liz Lalley,  – Dirprwy Gyfarwyddwr Parodrwydd
  • Mari Stevens – Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata
  • Tom Smithson – ESNR
  • Ifan Evans – Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd
  • Toby Mason – Cyfarwyddwr Cyfathrebu
  • Peredur John – Pontio Ewropeaidd

Ymddiheur iadau

  • Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC
  • Lesley Griffiths AC

Eitem 1: Yr wybodaeth ddiweddaraf – ar lafar

1.1 Cytunwyd y byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yn cael ei rhoi ar ddiwedd y cyfarfod ar sail eithriadau’n unig.

Eitem 2: Parodrwydd ar gyfer Ymadael heb Gytundeb – Cysylltiadau Rhyngwladol

2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol y papur, a oedd yn nodi’r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb, fel y’u disgrifir ym mhapur Polisi Masnach Llywodraeth Cymru a Strategaeth Ryngwladol ddrafft, gan gynnwys y gwaith a wneir ar y cyd â’r tîm marchnata.

2.2 Byddai’n hanfodol cynnal proffil rhyngwladol Cymru mewn amgylchedd ar ôl Brexit, ac roedd masnach ryngwladol a denu mewnfuddsoddiad yn hollbwysig i economi Cymru. Y peth allweddol o ran llwyddo i gyflawni hyn oedd ail gadarnhau ein cysylltiadau â’n partneriaid byd-eang, ynghyd â gwledydd a rhanbarthau ym mhob rhan o’r byd, yn seiliedig ar weithgarwch marchnata a dargedir.

2.3 Roedd y Strategaeth Ryngwladol ddrafft, sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, yn disgrifio’r dull gweithredu arfaethedig.

2.4 Er mwyn paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, roedd yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach wedi datblygu polisi masnach cydlynol i Gymru, a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Roedd mwy o gymorth a chyngor i’r rheini sy’n allforio o Gymru, ac roedd y gwaith gyda’r tîm marchnata yn yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn parhau i fynd rhagddo er mwyn sicrhau bod sail addas ar gyfer cynnal brand unedig a chryf, a fyddai’n marchnata Cymru yn rhyngwladol fel lle da ar gyfer buddsoddi, ymweld a gweithio.

Eitem 3: Parodrwydd ar gyfer Ymadael heb Gytundeb – Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y papur, a oedd yn canolbwyntio ar y paratoadau a oedd yn digwydd ar draws yr Adran Iechyd.

3.2 Roedd cynnal parhad cyflenwadau’n fater allweddol, er enghraifft drwy drefniadau canolog megis y warws ar gyfer cyfarpar meddygol a nwyddau clinigol traul yng Nghymru, a’r trefniadau ar gyfer meddyginiaethau a oedd ar waith ar draws y DU. Roedd y rhain wedi cael eu hadolygu a’u sicrhau dros yr haf, ac roeddent yn cael eu monitro’n barhaus.

3.3 Roedd gwaith sylweddol wedi cael ei wneud yn y sector gofal cymdeithasol drwy weithio’n uniongyrchol gydag Awdurdodau Lleol, sefydliadau annibynnol, a sefydliadau yn y trydydd sector. Roedd gan Awdurdodau Lleol gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran bodloni anghenion gofal a chymorth pobl yn eu cymunedau.

3.4 Nododd yr Is-bwyllgor y papur.

Eitem 4: Parodrwydd ar gyfer Ymadael Heb Gytundeb – Llywodraeth leol

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn nodi’r prif risgiau i Lywodraeth Leol pe baem yn ymadael â’r UE heb gytundeb, gan gynnwys y pwysau ym meysydd tai a chyllid a fyddai ar Awdurdodau Lleol pan fyddai cynnydd yn y galw ar wasanaethau a oedd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi, a’r effaith y byddai cynnydd mewn prisiau’n ei chael ar gymunedau sy’n agored i niwed.

4.2 Adroddwyd bod gwaith sylweddol wedi ei gyflawni gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol a CLlLC er mwyn sicrhau bod y sector mor barod ag y gallai fod ar gyfer y posibilrwydd o ymadael â’r UE heb gytundeb. Fodd bynnag, ni fyddai’n bosibl paratoi’n llawn ar gyfer yr effeithiau y gallai Brexit heb gytundeb eu cael ar Awdurdodau Lleol nac ychwaith leddfu’r effeithiau hynny, o ystyried rôl yr awdurdodau o ran darparu’r fath amrywiaeth a nifer o wasanaethau allweddol i Gymru.

4.3 Nododd yr Is-bwyllgor fod trefniadau cyllid, strwythurau, a dulliau cyfathrebu ar waith rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i gryfhau parodrwydd, gan sicrhau ei fod yn fwy cyson, cynyddu capasiti, a lleihau dyblygu.

4.4 Hefyd roedd yr holl awdurdodau’n cynnal cofrestrau risgiau wrth gynllunio ar gyfer Brexit, yn ogystal â threfniadau craffu, ac roeddent wedi penodi cydgysylltydd Brexit.

4.5 Nododd yr Is-bwyllgor y papur.

Eitem 5: Parodrwydd ar gyfer Ymadael heb Gytundeb - Addysg

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Addysg y papur, a oedd yn nodi mai’r disgwyliad oedd na ragwelid y byddai unrhyw broblemau i Addysg Uwch/Addysg Bellach a sgiliau ar y diwrnod cyntaf ar ôl Brexit, ar wahân i’r materion hynny a fyddai’n wynebu’r sector cyhoeddus yn gyffredinol.

5.2 O ran parodrwydd sefydliadau unigol, roedd sicrwydd yn cael ei geisio drwy’r fforwm rhanddeiliaid ar gyfer Brexit, cyrff ambarél, a thrafodaethau dwyochrog ar lefel uwch.

5.3 Nododd Is-bwyllgor y Cabinet y papur.

Eitem 6: Parodrwydd ar gyfer Ymadael heb Gytundeb – Diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth

6.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y papur, a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r effaith y byddai ymadael heb gytundeb yn ei chael ar staffio, recriwtio, a chyllid ym maes twristiaeth, y celfyddydau, diwylliant, a’r diwydiannau creadigol, ochr yn ochr â’r diweddaraf am hynt y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a oedd yn digwydd yng Nghymru a’r DU i ystyried y goblygiadau i ymwelwyr ar ôl Brexit.

6.2 Nododd yr Is-bwyllgor y papur.

Eitem 7: Parodrwydd ar gyfer Ymadael heb Gytundeb – Cynllun gweithredu

7.1 Nododd yr Is-bwyllgor y Cynllun Gweithredu sydd wedi ei ddiweddaru.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2019

Rhannu’r dudalen hon