Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC – Prif Weinidog Cymru (Cadeirydd)
  • Mark Drakeford AC
  • Lesley Griffiths AC
  • Ken Skates AC
  • Kirsty Williams AC
  • Alun Davies AC
  • Syr Derek Jones KCB – yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford – Cyfarwyddwr, Swyddfa'r Prif Weinidog a Swyddfa'r Cabinet
  • Peter Greening – Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Piers Bisson – Dirprwy Gyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd
  • Matt Greenough – Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley – Cynghorydd Arbennig
  • Andrew Johnson – Cynghorydd Arbennig
  • Alex Rawlin – Cynghorydd Arbennig
  • Gareth Williams – Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward – Cynghorydd Arbennig
  • Damian Roche – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau (cofnodion)
  • Jonathan Price – Prif Economegydd
  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, y Trysorlys
  • Toby Mason – Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Eitem 1: Cyflwyniad a chylch gorchwyl

1.1. Croesawodd Prif Weinidog Cymru yr aelodau i gyfarfod cyntaf Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd a chyfeiriodd at y Cylch Gorchwyl, a oedd yn datgan y byddai'r Is-bwyllgor yn rhoi cyfeiriad strategol i waith Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o gael y canlyniad gorau posibl i bobl Cymru.

1.2. Byddai'r Is-bwyllgor yn sicrhau bod strategaeth Llywodraeth Cymru ar y trefniadau pontio Ewropeaidd yn cael ei datblygu a'i gweithredu mewn modd ystyrlon. Byddai hefyd yn darparu dadansoddiad cadarn o'r heriau a'r cyfleoedd a wynebir gan Gymru, yn ogystal â nodi blaenoriaethau a chanlyniadau. Byddai'r Is-bwyllgor yn ceisio cynyddu i'r eithaf ei ddylanwad mewn trafodaethau ar lefel y DU a'r UE er mwyn cael y canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru. Byddai hefyd yn creu cyfleoedd i gyfathrebu ac ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt, i helpu i arwain y ddadl ar berthynas Cymru ag Ewrop a gweddill y byd yn y dyfodol.

1.3. Cytunodd yr Is-Bwyllgor ar y Cylch Gorchwyl.

Eitem 2: Archwilio'r sefyllfa bresennol

2.1 Cyflwynodd Prif Weinidog Cymru y papur, a oedd yn darparu'r diweddaraf am y datblygiadau yng Nghymru a ledled y DU yn dilyn refferendwm yr UE.

2.2 Roedd Prif Weinidog Cymru eisoes wedi cyflwyno amryw o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Trefniadau Pontio Ewropeaidd yn syth wedi'r refferendwm. Ategwyd y rhain gan ddatganiadau wedi hynny gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion eraill ac roedd y blaenoriaethau wedi cael eu hadlewyrchu mewn gohebiaeth at Brif Weinidog y DU.

2.3 Roedd Prif Weinidog Cymru hefyd wedi cymeradwyo sefydlu Grŵp Cynghori ar Ewrop, wedi'i gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a fyddai'n manteisio ar yr arbenigedd helaeth ar yr UE yng Nghymru.

2.4 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y papur.

Eitem 3: Blaenoriaethau a materion polisi allweddol

3.1 Cyflwynodd Prif Weinidog Cymru y papur, a oedd yn ystyried y blaenoriaethau, y materion allweddol, y cyfleoedd a'r risgiau i Lywodraeth Cymru yn deillio o ymadawiad y DU o'r UE. Byddai'r dadansoddiad cychwynnol hwn a gynhaliwyd ar draws Llywodraeth Cymru o gymorth i drafodaethau cynnar Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU yn dilyn refferendwm yr UE.

3.2 Cymeradwywyd y papur gan yr Is-bwyllgor.

Eitem 4: Heriau ariannol yn ystod cyfnod pontio'r UE

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn ystyried y prif heriau ariannol i Lywodraeth Cymru yn deillio o ymadawiad y DU o'r UE.

4.2 Roedd dwy brif her i Lywodraeth Cymru: yn gyntaf, rheoli'r ansicrwydd dros ddyfodol rhaglenni a ariennir gan yr UE; ac yn ail, yr effaith gyffredinol y byddai gadael yr UE yn ei chael ar economi'r DU a'r goblygiadau dilynol i gyllid cyhoeddus.

4.3 Mewn perthynas â'r her gyntaf, roedd y rhaglenni a ariennir gan yr UE presennol werth oddeutu £650m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru. Roedd Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi datgan yn gwbl glir wrth Lywodraeth y DU na ddylai Cymru golli ceiniog o'r cyllid y mae'n ei gael ar hyn o bryd. Fel ymateb, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai contractau ar gyfer rhai rhaglenni penodol a ariennir gan yr UE (ee Cronfeydd Strwythurol) a oedd wedi cael eu cymeradwyo cyn Datganiad yr Hydref ar 23 Tachwedd yn cael eu hariannu'n llawn.

4.4 At hynny, roedd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddai Trysorlys EM yn rhoi gwarant y byddai'r sector amaethyddol yng Nghymru yn cael yr un lefel o gyllid ar gyfer taliadau uniongyrchol tan 2020 ac y byddai dyfarniadau o dan gronfeydd a reolir gan y Comisiwn, ee Horizon 2020, yn parhau i gael eu talu.

4.5 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y papur.

Eitem 5: Cyfathrebu

5.1 Cyflwynodd Prif Weinidog Cymru y papur, a oedd yn amlinellu naratif drafft a negeseuon lefel uchel ar faterion yn codi o refferendwm yr UE.

5.2 Cymeradwywyd y papur gan yr Is-bwyllgor.

Eitem 6: Blaenraglen waith

6.1 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y Blaenraglen Waith a nodwyd y byddai'r Grŵp Addysg Uwch, a sefydlwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau
Medi 2016