Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru.

Roedd y Gweinidogion canlynol hefyd yn bresennol:

O Lywodraeth y DU:

  • Kemi Badenoch AS, Gweinidog Gwladol, Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau 
  • Y Gwir Anrhydeddus Conor Burns AS, Gweinidog Gwladol, Swyddfa Gogledd Iwerddon
  • Yr Arglwydd True CBE, Gweinidog Gwladol, Swyddfa’r Cabinet.

O Lywodraeth yr Alban:

  • George Adam ASA, y Gweinidog dros Fusnes Seneddol

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod, sef cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ers i Lywodraeth y DU gael ei had-drefnu’n ddiweddar.

Amlinellodd y Gweinidog Antoniw yr egwyddorion yr oedd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Diwygio Etholiadol yng Nghymru a rhannodd gynlluniau ar gyfer cynlluniau peilot yn yr etholiadau llywodraeth leol. Rhannodd y Gweinidog Adam wybodaeth am rywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth yr Alban i sicrhau bod etholiadau’n fwy hygyrch, er enghraifft i bleidleiswyr sydd wedi colli eu golwg. Arweiniodd y Gweinidog Badenoch drafodaeth ar y safbwyntiau ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU, gan gydnabod y gwahanol farn ar rai o’r pynciau sydd dan sylw yn y Bil, a bod ystyriaeth wedi’i rhoi i ddeddfwriaeth diwygio etholiadol ar wahân yng Nghymru a’r Alban. Pwysleisiodd pob Gweinidog pa mor bwysig yw cydweithio a pharhau i gynnal trafodaethau.

Cafodd gweinidogion drafodaeth fer ar Fil Diddymu a Galw Senedd y DU, a chadarnhaodd yr Arglwydd True bod ail ddarlleniad wedi’i drefnu yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 24 Tachwedd (cafodd ail ddarlleniad y Bil Diddymu a Galw Senedd y DU ei symud i 30 Tachwedd). Nododd y Gweinidog Antoniw a’r Gweinidog Adam er y gallai fod amgylchiadau lle na fyddai modd osgoi trefnu Etholiad Cyffredinol ar yr un dyddiad ag etholiad Senedd Cymru neu Senedd yr Alban, byddent yn hoffi cael sicrwydd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i osgoi sefyllfa o’r fath, yn rhannol oherwydd yr anawsterau a achosir mewn gorsafoedd pleidleisio, fel y nodir yn flaenorol. Cytunodd yr Arglwydd True y byddai’n cadarnhau wrth i’r Bil basio drwy Dŷ’r Arglwyddi, y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cof yr etholiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y deddfwrfeydd datganoledig wrth ystyried dyddiad ar gyfer Etholiad Senedd y DU.

Yn olaf, trafododd Gweinidogion y paratoadau ar gyfer etholiadau mis Mai 2022, a oedd yn cynnwys y sefyllfa o ran COVID-19 a ph’un a fyddai angen gwneud unrhyw addasiadau.