Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Fran Targett, Cadeirydd
Amanda Main, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Caerffili
Anna Friend, Cyngor Sir y Fflin
Claire Germain, Llywodraeth Cymru
Joanna Goodwin, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Karen McFarlane, Plant yng Nghymru
Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Matthew Evans, Grŵp Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru
Miranda Evans, Anabledd Cymru
Nigel Griffiths, CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
Steffan Evans, Sefydliad Bevan
Victoria Lloyd, Age Cymru

Hwyluswyr    

Adrian Devereux, Hwylusydd Llif Gwaith
Ben Gibbs, Hwylusydd Llif Gwaith
David Willis, Llywodraeth Cymru
Emma Morales, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Josh Parry, Hwylusydd Llif Gwaith
Mel James, Llywodraeth Cymru
Paul Neave, Llywodraeth Cymru 
Sam Pidduck, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Helal Uddin (Tîm Cefnogi Pobl Ifanc a Lleiafrifoedd Ethnig), Glyn Jones (Hwylusydd Ffrwd Waith), Leah Whitty (Hwylusydd Ffrwd Waith), Kevin Griffiths (Hwylusydd Ffrwd Waith)
 

Diweddariad gan y Cadeirydd

Diweddariadau ynghylch aelodaeth ac adnoddau

Dechreuodd y Cadeirydd y sesiwn drwy groesawu aelodau newydd y grŵp llywio a’r tîm cefnogi. Roedd KT yn ymuno â’r grŵp llywio fel cynrychiolydd Ymddiriedolaeth Trussell, yn lle Beatrice Orchard. Yn y cyfamser, bydd MR yn gweithredu fel cynrychiolydd amser llawn Anabledd Cymru.

Yn ymuno â’r “Siarter - Tîm Polisi Hybrid” yr oedd EM o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a fyddai’n cefnogi datblygiad y cynllun gweithredu a DW o Lywodraeth Cymru a fyddai’n canolbwyntio ar lywodraethu prosiectau. 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Ers y cyfarfod diwethaf, mae newidiadau o ran y gweinidogion yn golygu bod y darn hwn o waith bellach yn gyfrifoldeb i Lesley Griffiths, a gafodd ei hapwyntio yn ddiweddar yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Fel Cadeirydd, mae FT wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd newydd y Cabinet i ofyn am gyfarfod rhagarweiniol i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer y grŵp llywio.

Cyfarfod rhwng y Cadeirydd a Phrif Weithredwr ar y cyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

Ym mis Ebrill, cafodd y Cadeirydd gyfarfod gyda Harriet Green, Prif Weithredwr ar y cyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Cafwyd trafodaeth eang, a chytunwyd i gadw mewn cysylltiad wrth i’n prosiect fynd rhagddo.

Sicrhau ymrwymiad yr awdurdodau lleol

Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp llywio, cytunwyd y byddai CLlLC yn gweithio i sicrhau a ffurfioli ymgysylltiad ehangach gan yr Awdurdodau Lleol. 

Ym mis Ebrill 2024, ysgrifennodd y Cynghorydd Hunt at Brif Weithredwyr yr holl Awdurdodau Lleol i ddarparu trosolwg o’r prosiect a gofyn iddynt enwebu Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) a fydd yn llywio ymgysylltiad eu cyngor â’r grŵp llywio ac yn cyfranogi yn y Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol sydd newydd ei sefydlu.

Bwriedir i’r Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol gynnal cyfarfod o leiaf unwaith cyn y cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth Cymru yng Ngorffennaf 2024.

Cyfarfodydd gyda’r Cynghorydd Hunt

Yn Ebrill 2024, cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol gyfarfod rhagarweiniol gyda’r Cynghorydd Hunt a’i swyddogion. Cafwyd ar ddeall y cytunwyd y byddent yn cyd-annerch Cyngor Partneriaeth Cymru yng Ngorffennaf 2024.

Bydd Cadeirydd y grŵp llywio hefyd yn cael cyfarfod gyda’r Cynghorydd Hunt ar ddechrau Mai.

Diweddariad ynghylch cynnydd gweithredol

Cychwynnodd PN yr eitem hon trwy gynnig diweddariad ynghylch datblygiad y chwe ffrwd waith. Ers y cyfarfod diwethaf, mae Hwyluswyr Ffrydiau Gwaith bellach wedi diwygio’r camau gweithredu blaenoriaethol a’r aelodaeth, a rhannwyd y rhain yn ystod y cyfarfod.

Cytunwyd y byddai dogfen ynghylch aelodaeth, nodau a chamau gweithredu blaenoriaethol y ffrydiau gwaith yn cael ei chyflwyno i’r Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol er mwyn cael adborth ac awgrymiadau. Cyn hyn, cytunodd LH i wirio’r iaith a ddefnyddiwyd a sicrhau ei bod yn briodol i’r gynulleidfa a’r cyd-destun. 

Cyfeiriodd CG at bwysigrwydd sicrhau y caiff camau gweithredu’r ffrydiau gwaith eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag anghenion y grŵp llywio o ran parhau â’i waith ar y cynllun gweithredu. Yn yr un modd, nododd JG y dylent ystyried pennu amserlenni ar gyfer eu gweithgareddau wrth i’r ffrydiau gwaith fynd rhagddynt.

Ynghylch aelodaeth y ffrydiau gwaith, cadarnhaodd SH y bydd Cyngor ar Bopeth yn bwriadu cefnogi’r ffrydiau gwaith ac yn anfon enwebiadau at hwyluswyr Llywodraeth Cymru.  Yn y cyfamser, awgrymodd VL y gallai Age Cymru enwebu cynrychiolydd ar gyfer y ffrwd gwaith cyfathrebu. Yn olaf, cytunodd ME y byddai Anabledd Cymru yn ystyried sut y gallent gefnogi’r ffrydiau gwaith.

Cytunwyd y gellid gwneud rhagor i gynyddu cynrychiolaeth o’r Awdurdodau Lleol yn yr holl ffrydiau gwaith. Cytunodd LH i fwrw ymlaen â hynny a nododd y byddai’n fuddiol cael cynrychiolydd sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau ar y cyd.

Ynghylch cyfranogiad Awdurdodau Lleol, nodwyd y byddai Grŵp y Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau yn fforwm da i gynnal ei ddiddordeb. Bydd gan y grŵp gyfarfod wyneb yn wyneb ar 3 Gorffennaf, cyn cyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru, a chytunwyd y dylai'r grŵp llywio ofyn am slot ar yr agenda. 

Dywedodd SE wrth y grŵp bod gan Sefydliad Bevan slot yng nghynhadledd ymylol CLlLC a bydd yn sicrhau fod y negeseuon yn gyson â’r grwpiau llywio. 

Nododd PN y bydd angen ystyried sut mae’r ffrydiau gwaith yn cael eu dwyn ynghyd naill ai i weithio ar y cyd ynghylch materion o ddiddordeb a rennir neu i gael gwybod am waith/cynnydd eraill. Awgrymodd JG y gellid cynnwys eitem sefydlog yn agenda cyfarfod pob grŵp llywio lle gall hwyluswyr ffrydiau gwaith roi diweddariad cryno.

Awgrymodd LP y gallai'r grŵp llywio ystyried sefydlu rhywfaint o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a llunio rhywbeth sy'n esbonio gweledigaeth y grŵp llywio. Nododd FT fod Siarter Budd-daliadau Cymru yn nodi gweledigaeth ac egwyddorion arweiniol y gwaith y mae'r grŵp llywio yn ceisio'i gyflawni, fodd bynnag, gellid ei gwtogi i fod yn debycach i ddatganiad  o weledigaeth, a chynnwys hynny fel rhagair i'r cynllun gweithredu. 

Wrth ddirwyn yr eitem hon i ben, dywedodd LP ei bod wedi bod yn gweithio i lunio dogfen un dudalen sy'n nodi amcanion y prosiect i Symleiddio Budd-daliadau Cymru. Cytunodd y grŵp llywio fod hynny’n syniad da a gofynnodd i'r ffrwd waith Cyfathrebu addasu'r ddogfen yn rhywbeth addas ar gyfer cynulleidfa ehangach. Wedyn gallai pob aelod o’r grŵp llywio ddefnyddio’r ddogfen hon llywio i godi ymwybyddiaeth o nodau a dull y prosiect. 

Pwynt gweithredu 1: bydd LH yn adolygu dogfen nodau a chamau gweithredu blaenoriaethol y ffrydiau gwaith i sicrhau ei bod yn addas i’w rhannu gyda’r Awdurdodau Lleol. 

Pwynt gweithredu 2: bydd dogfen y ffrydiau gwaith yn cael ei rhannu yng nghyfarfod Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol a rhoddir adborth i’r grŵp llywio. 

Pwynt gweithredu 3: bydd SH, VL a ME yn ystyried cyfranogiad eu sefydliad yn y ffrydiau gwaith a hysbysu SP a MJ am unrhyw enwebiadau.

Pwynt gweithredu 4: bydd LH yn gweithio i gynyddu aelodaeth o’r Awdurdodau Lleol yn y ffrydiau gwaith.

Pwynt gweithredu 5: bydd LH a hwyluswyr Llywodraeth Cymru yn ystyried annerch y Grŵp Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau yn ystod eu cyfarfod ar 3 Gorffennaf.

Pwynt gweithredu 6: bydd y ffrwd gwaith cyfathrebu yn addasu’r ddogfen un ddalen a luniwyd gan LP ar gyfer cynulleidfa ehangach.

Sicrhau Adnoddau ar gyfer Datblygu’r Cynllun Gweithredu

Wrth gyflwyno'r eitem hon, disgrifiodd CG yr angen am adnoddau ar gyfer datblygu'r cynllun gweithredu er mwyn sicrhau'r cydbwysedd priodol rhwng bod yn strwythuredig a chael yr hyblygrwydd gofynnol. 

Parhaodd CG i esbonio bod gan y grŵp llywio “Dîm Craidd” o swyddogion Llywodraeth Cymru ond bod angen cymorth ychwanegol, “Tîm Polisi Hybrid - Siarter” o fath, i ddarparu’r cymorth angenrheidiol o ddydd i ddydd.

Yn ymuno â’r “Tîm Polisi Hybrid - Siarter” hwn i ddechrau mae EM, Uwch Reolwr Cyflawni o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu’r cynllun gweithredu a DW, Pennaeth Trechu Tlodi (Llywodraeth Cymru) a fydd yn ystyried beth yn union yw llywodraeth iantcymesur yn achos prosiect fel hwn. 

Dywedodd CG y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â CLlLC i ystyried sut y gallent gefnogi’r “Tîm Polisi Hybrid” hwn, ond fe wnaeth hefyd ehangu’r gwahoddiad i sefydliadau eraill ar y grŵp llywio os ydynt yn teimlo bod ganddynt adnoddau yr hoffent eu cynnig. Gan nodi hyn, dywedodd JG, os nodir unrhyw ddiffyg sgiliau penodol neu fylchau, gallai'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ystyried eu llenwi.

Yn fwy eang, holodd KT a gytunwyd ar ddyddiad penodedig fel terfyn amser i orffen datblygu’r cynllun gweithredu. Dywedodd FT mai diwedd yr haf yw’r nod, ond mae’n debyg mai fersiwn drafft yn unig fydd hwn oherwydd bydd yn cymryd amser i ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach.

Gan gytuno, nododd JG y gellir bod yn hyblyg o ran cynnwys y cynllun gweithredu, ond bydd angen deilliannau arfaethedig cytunedig ynddo. Roedd y grŵp yn cefnogi’r farn hon, gan gyfeirio at gyd-destun cyfnewidiol nawdd cymdeithasol a’r amgylchedd ehangach y mae’r grŵp llywio’n gweithredu ynddo fel rhesymau am yr angen i fod yn hyblyg.

Trafodaeth agored: templed Cynllun Gweithredu

Wrth gyflwyno'r eitem hon, dywedodd FT y byddai'n hoffi, o ganlyniad i’r drafodaeth hon, i'r grŵp ddod i ddealltwriaeth gliriach o ran sut gynllun gweithredu yn union y maent yn ei ddymuno, pwy yw'r gynulleidfa darged, a beth y dylai ei gynnwys.

Wrth drafod strwythur y cynllun, awgrymwyd y gellid ei rannu'n gamau (gan nodi pwy fydd yn gwneud beth ac erbyn pryd) ac y gellid cynnwys manylion ynghylch sut caiff pob un ei fesur. I gynorthwyo â hyn, bydd angen ystyried y cyfnod y bydd y cynllun yn ei gwmpasu yn ogystal â pha un ai a ddylai ganolbwyntio ar gyfnod yn unig neu efallai ar gam.

O ran cynulleidfa darged y cynllun, cytunwyd y bydd angen iddo fod ar gael i’r cyhoedd oherwydd y lefel uchel o ddiddordeb ymhlith rhanddeiliaid a’r cyhoedd pan fydd y camau gweithredu’n dechrau cael eu rhoi ar waith. Awgrymwyd y gallai fersiwn Hawdd ei Ddarllen fod yn well ar gyfer cynulleidfa ehangach. 

Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd y dylai’r cynllun gweithredu fod ar gael mewn dau fformat:

  1. Trosolwg lefel uchel sy’n cychwyn â Siarter Budd-daliadau Cymru ac yn cysylltu’n ôl â hi ac yn cynnwys manylion y camau gweithredu cyffredinol sy’n ofynnol ac erbyn pryd. 
  2. Cynllun manylach sy’n ddilyniant i’r trosolwg lefel uchel, a all gynnwys mwy o fanylion ond sydd hefyd yn ddigon ystwyth i ganiatáu newidiadau fel y bo’n briodol, er enghraifft, i adlewyrchu gwersi a ddysgir.

Ar gyfer y ddau fersiwn o'r cynllun gweithredu, cytunwyd bod yn rhaid nodi deilliannau a dulliau o'u mesur. Dywedodd JP wrth y grŵp fod Llywodraeth Cymru yn fewnol eisoes yn ystyried sut y gellir gwneud hyn, ac y bydd y ffrwd waith Monitro, Ymchwil a Gwerthuso hefyd yn ei ystyried, pan fydd wedi’i sefydlu. 

O ran arddull y cynllun, cytunwyd y dylai fod yn ddigon syml i’w ddeall a gallai’r Strategaeth Tlodi Plant gynnig ysbrydoliaeth dda at y diben hwnnw. Dywedodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol fod ganddynt ddylunwyr cynnwys a allai gynorthwyo â hynny.

Cafwyd trafodaeth ynghylch sut y bydd y cynllun yn adlewyrchu cynnydd sydd wedi digwydd. Awgrymwyd y gallai’r rhagair adlewyrchu’r cynnydd da sydd eisoes wedi digwydd a’i gydnabod. 

Ar nodyn tebyg, dywedodd FT os cytunir ar ddull ystwyth o weithredu'r cynllun gweithredu, bydd angen i'r grŵp ystyried sut y bydd yn adrodd am gynnydd. A wneir hynny o fewn y cynllun ei hun neu a ddylai'r grŵp adrodd am gynnydd y cynllun yn rheolaidd?

Gan nodi bod cytundeb i gyhoeddi cofnodion a chyhoeddiadau’r grŵp llywio, gofynnodd LP ble ddylent gael eu lleoli / pwy ddylai eu ‘lletya’ ac awgrymodd y gellid eu ‘lletya’ ar wefan CLlLC. 

O ran cyhoeddi’r cynllun gweithredu, dywedodd AD y byddai diddordeb ymhlith y cyhoedd yn cynyddu dros amser, a lle bo hynny’n briodol, gallai’r ffrwd gwaith Cyfathrebu gynorthwyo â’r gwaith o ymgysylltu â’r cyfryngau – gan gynnwys datblygu asedau ategol. Gan ehangu ar hynny, nododd SH pa mor bwysig oedd cofnodi a rhannu “straeon” am y gwaith hwn.

Pwysleisiodd LP a FT fod angen ymgysylltu â Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol ynghylch y cynllun cyn gynted ag y bo modd a’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu.

Cytunwyd y byddai’r “Tîm Polisi Hybrid - Siarter” yn gyfrifol am ddrafft cyntaf y cynllun gweithredu ond y byddai’n cael ei gyflwyno ger bron y grŵp llywio i’w adolygu. Dywedodd CG y byddai’n fuddiol gallu cyflwyno rhywbeth yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru yng Ngorffennaf. 

Pwynt gweithredu 7: bydd LP a Llywodraeth Cymru yn trafod cyhoeddi a chynnal allbynnau’r grŵp llywio.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cymeradwyodd y grŵp gofnodion drafft y cyfarfod diwethaf (21.03.24).

Unrhyw faterion eraill a'r cyfarfod nesaf

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill, a chadarnhawyd y cynhelir y cyfarfod rhithiol nesaf ar 25 Mehefin 10.00 i 12.00.