Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Fran Targett, Cadeirydd
Emma Willis, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Joanna Goodwin, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
Jen Griffiths, Cadeirydd Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) cyfarfod olaf fel Cadeirydd
Amanda Main, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Miranda Evans, Anabledd Cymru
Nigel Griffiths, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
Steffan Evans, Sefydliad Bevan
Claire Germain, Llywodraeth Cymru

Hefyd yn bresennol

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Prif Chwip
Adrian Devereux, Hwylusydd Llif Gwaith
Angela Endicott, Hwylusydd Llif Gwaith
Ben Gibbs, Hwylusydd Llif Gwaith
Glyn Jones, Hwylusydd Llif Gwaith 
Emma Morales, CDPS
Harriet Green, CDPS
David Willis, Llywodraeth Cymru
Launa Anderson, Llywodraeth Cymru
Mel James, Llywodraeth Cymru
Paul Neave, Llywodraeth Cymru
Joanna Leek, Llywodraeth Cymru
Caroline Shaw, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Helal Uddin (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), Lisa Hayward (CLlLC), Victoria Lloyd (Age Cymru), Leah Whitty (Hwylusydd Llif Gwaith)

Croeso gan y Cadeirydd

Croesawodd y cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan fynegi tristwch dros farwolaeth Karen McFarlane o Plant yng Nghymru a chydnabod cyfraniad gwerthfawr Plant yng Nghymru i waith y Grŵp Llywio. Cysylltwyd â Plant yng Nghymru i sicrhau y byddant yn parhau i gyfrannu at y gwaith wrth symud ymlaen. 

Cafwyd cynnig i wahodd aelodaeth gan y Comisiynydd Pobl Hŷn a'r Comisiynydd Plant ar gyfer cam nesaf y gwaith.

Cam gweithredu 1: gwahodd y Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Comisiynydd Plant i ddod i gyfarfodydd y Grŵp Llywio.

Adborth gan y Cyngor Partneriaeth

Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip (Ysgrifennydd y Cabinet) ailddatgan ei hymrwymiad i’r rhaglen, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau’r incwm mwyaf posibl a’r mynediad mwyaf posibl at fudd-daliadau Cymru. Pwysleisiodd yr angen i wneud y broses mor syml â phosibl i bobl hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw at rôl y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn gan nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn cyfrannu at y rhaglen.

Mae’r gwaith hwn yn elfen allweddol o’r strategaeth tlodi plant a lansiwyd yn gynharach yn y flwyddyn, strategaeth y bu i Ysgrifennydd y Cabinet nodi ei bod yn ysgogydd allweddol i fynd i’r afael â thlodi plant, yn sicrhau’r incwm mwyaf posibl i deuluoedd, gan ailddatgan bod budd-daliadau Cymru yn achubiaeth i lawer o bobl yng Nghymru.

Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod Map Ffordd Cam Un, sy’n anelu at symleiddio’r broses ar gyfer hawlio tri budd-dal allweddol erbyn mis Ebrill 2026. Pwysleisiodd bwysigrwydd arweinyddiaeth a chydweithio gan lywodraeth leol i gyflawni'r nod hwn. Amlygwyd rôl y Cynghorydd Anthony Hunt a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wrth yrru’r fenter hon.

Cyflwynwyd Map Ffordd Cam Un i gyfarfod y Cyngor Partneriaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet, lle cafodd ymatebion calonogol a chymeradwyaeth gan arweinwyr llywodraeth leol. Roeddent yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol ond yn nodi eu ffocws ar y fenter.

Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet gymhlethdod gweithredu Map Ffordd Cam Un, yn enwedig o ran mecanweithiau a meini prawf cymhwysedd. Pwysleisiwyd yr angen i rannu arfer da a deall yr heriau sy'n wynebu gwahanol bartneriaid cyflenwi.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fuddsoddiad o dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cynllun peilot 12 mis ar gofrestru am fudd-daliadau i archwilio cymhlethdodau rhannu a dadansoddi data. Nod y cynllun peilot yw helpu awdurdodau lleol i nodi preswylwyr sy'n colli allan ar arian y mae ganddynt hawl iddo.

Bydd y cynllun peilot yn golygu bod awdurdodau lleol yn cael mynediad at offeryn dadansoddi data. Bydd yr offeryn hwn yn eu helpu i dargedu preswylwyr bregus sy'n colli allan ar arian y mae ganddynt hawl iddo yn uniongyrchol, yn seiliedig ar ddadansoddi data. Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan hyd at 12 awdurdod lleol i gymryd rhan yn y cynllun peilot, gan ddechrau ym mis Ionawr gydag ymrwymiad i gymryd rhan lawn yn y gwerthusiad terfynol.

Tynnodd Ysgrifennydd y Cabinet sylw at y canlyniadau cadarnhaol a welwyd yn sgil dulliau tebyg wedi’u targedu yng Nghymru, gan fynegi gobaith y byddai’r cynllun peilot yn rhoi golwg fanwl ddefnyddiol ac yn cefnogi’r nod ehangach o symleiddio’r broses o ddarparu budd-daliadau. 

Cam gweithredu 2: nodyn yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cynllun peilot 12 mis i gofrestru am fudd-daliadau i gael ei ddosbarthu i Arweinwyr Awdurdodau Lleol.

Adborth gan y Grŵp SRO

Rhoddodd Cadeirydd y Grŵp SRO adborth gan y Grŵp SRO, gan amlygu heriau ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, pwysigrwydd cyfeiriad clir, a’r angen am gyllid ac adnoddau i gyflawni canlyniadau.

Tynnodd y Cadeirydd sylw at heriau cynnwys awdurdodau lleol yn y ffrydiau gwaith cychwynnol. Nododd fod gan rai ardaloedd ymgysylltiad da, ond nad oedd hynny’n wir am eraill, a phwysleisiodd yr angen am gyfeiriad clir i annog cyfranogiad.

Cyfeiriwyd at yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu, gan gynnwys adnoddau cyfyngedig a'r angen i ryddhau arbedion effeithlonrwydd i gyflawni canlyniadau'r Siarter Budd-daliadau. Tynnwyd sylw at y baich o ychwanegu at Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) fel risg ariannol sylweddol.

Pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen am gyfeiriad clir a Map Ffordd wedi'i ddiffinio'n dda i arwain gwaith y Grŵp SRO a chydnabu fod hyn bellach wedi'i gyflawni a'i fod yn gam cadarnhaol i ddarparu'r cyfeiriad hwn.

Tynnwyd sylw gan y Cadeirydd at ymrwymiad y Grŵp SRO i’r Siarter Budd-daliadau, eu gwaith i annog aelodaeth awdurdodau lleol ar y ffrydiau gwaith a phwysigrwydd ymrwymiad awdurdodau lleol i gyflawni nodau’r Siarter.

Pwysleisiodd y Cadeirydd y gwahaniaethau yn strwythurau a blaenoriaethau awdurdodau lleol, gan nodi ei bod yn bosibl na fydd un dull sy'n addas i bawb yn gweithio. Pwysleisiodd yr angen i barchu'r gwahaniaethau hyn wrth weithio tuag at nodau cyffredin.

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid defnyddio dull wedi'i dargedu'n well i fynd i'r afael â'r bylchau yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau a phwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio data i nodi lle mae'r bylchau a chanolbwyntio adnoddau ar yr ardaloedd hynny i sicrhau'r effaith fwyaf posibl. Croesewir hefyd y buddsoddiad yn y cynllun peilot 12 mis gan ddefnyddio offeryn dadansoddi data.

Cam gweithredu 3: Cadeirydd y Grŵp Llywio i gwrdd â Chadeirydd newydd y grŵp SRO.

Cofrestr risg

Cafwyd trafodaeth am y gofrestr risg, gan dynnu sylw at gynnwys risgiau capasiti a chyllid a godwyd gan y grŵp SRO. Cytunwyd y byddai'r risgiau a nodwyd gan y grŵp SRO yn cael eu cadw ar y gofrestr ganolog a byddai'n cael ei diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu risgiau sy'n dod i'r amlwg a newidiadau.

Mae R7 ac R8 ar y gofrestr risg bresennol yn sôn am risgiau capasiti a chyllid, ond mae'n hanfodol sicrhau bod hyn yn adlewyrchu capasiti a chyllid yr Awdurdodau Lleol. Ar hyn o bryd mae risgiau ariannol yn oren ac mae angen eu huwchraddio i goch a'u monitro'n agos.

Soniwyd am bwysigrwydd ymgysylltu gwleidyddol wrth fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd yn y gofrestr risg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ymgysylltu ag arweinwyr awdurdodau lleol i drafod y risgiau hyn a dod o hyd i atebion.

Trafododd y grŵp eiriad R2 yn ymwneud ag effaith bosibl diwygiadau lles y DU ar system fudd-daliadau Cymru. Cytunwyd bod angen i hyn aros ar y gofrestr risg gan fod angen i'r grŵp gadw golwg ar y diwygiadau hyn a'u goblygiadau ar gyfer rhaglen Symleiddio Budd-daliadau Cymru (SWB). 

Cam Gweithredu 4: diweddaru’r cofnod risg fel a ganlyn: 

  • diwygiwyd R2 i nodi bod angen bod yn ymwybodol o sefyllfa Llywodraeth y DU ac effaith y dirwedd ar y gwaith hwn
  • R7 i gynnwys mwy ar Gapasiti Awdurdodau Lleol
  • R8 Y risg ariannol i gael ei huwchraddio i Goch
  • risgiau ychwanegol i'w hychwanegu, R9, Diffyg dealltwriaeth o gymhlethdod a gwahaniaethau Awdurdodau Lleol
  • R10 gallai adnoddau peilot amharu ar waith ehangach y rhaglen

Dull o gyflawni gwaith Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn y dyfodol

Trafododd y Grŵp Llywio gynnig ar y cyd am ddull cyflwyno newydd ar gyfer rhaglen Symleiddio Budd-daliadau Cymru a gyflwynwyd gan CDPS. Er mwyn cael dull cyflawni mwy deinamig ac ystwyth gan fod Map Ffordd Cam Un ar waith, trafodwyd opsiynau gan y tîm polisi craidd ac arweinwyr ffrydiau gwaith a arweiniodd at argymhelliad nad yw'r dull ffrydiau gwaith yn ddigon hyblyg wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Yn lle hynny, cynigiwyd dull gorchwyl a gorffen, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol a chynnwys y bobl iawn ar yr adeg iawn. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer aelodaeth hyblyg, a chydnabuwyd bod y dull ffrydiau gwaith wedi gweithio'n dda i ddatblygu'r Map Ffordd, ond roedd angen newid y dull gweithredu yn awr gan fod y pwyslais ar gyflawni er mwyn cadw pethau’n symud yn dda. 

Cytunodd y grŵp i drafod amlder cyfarfodydd yn y dyfodol, gan ystyried y dull ystwyth newydd a’r angen am lywodraethu a gwneud penderfyniadau effeithiol.

Awgrymwyd peidio â glynu'n gaeth at y 5 grŵp a awgrymwyd yn y papur a chaniatáu i grwpiau ad hoc gael eu sefydlu i gyflawni tasgau lle bo angen i hyrwyddo gweithio mwy hyblyg. 

Roedd cynrychiolwyr y trydydd sector yn gefnogol i’r dull gweithredu arfaethedig gan y byddai’n sicrhau gallu bwydo profiadau byw i mewn lle bo angen yn hytrach na cheisio eistedd ar draws bob ffrwd waith, a oedd yn anodd yn ymarferol. 

Felly cytunodd y grŵp i'r dull gweithredu arfaethedig ac i'w gychwyn ar unwaith wedi i neges gael ei hanfon at y Grŵp SRO.

Cafwyd trafodaeth ar sut mae’r prosiect peilot sy’n dechrau ym mis Ionawr 2025 yn bwydo i mewn i’r gwaith ac a fyddai’r Grŵp Llywio yn goruchwylio’r gwaith hwnnw. Cytunwyd y byddai diweddariadau ar y cynllun peilot yn cael eu darparu i'r Grŵp Llywio wrth i'r cynllun peilot ddatblygu gan ddarparu golwg ddefnyddiol ar elfen rhannu data'r gwaith hwn. 

Pwynt gweithredu 5: y Tîm Craidd i weithio gyda'r Grŵp SRO ar gyfer cynrychiolaeth briodol ar grwpiau Gorchwyl a Gorffen.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Adolygwyd cywirdeb y cofnodion (23/09/2024) a’u cadarnhau.

Unrhyw faterion eraill a’r cyfarfod nesaf

Bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod nesaf ar 29 Ionawr 2025 trwy Microsoft Teams. Cafodd dyfodol sut a phryd y bydd y grŵp yn cyfarfod eu cynnig fel eitem ar yr agenda.