Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Fran Targett (Cadeirydd), Annibynnol
Amanda Main, CBS Caerffili
Anna Friend, Cyngor Sir y Fflint
Beatrice Orchard, The Trussell Trust
Claire Germain, Llywodraeth Cymru
Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
Joanna Goodwin, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Karen McFarlane, Plant yng Nghymru
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) 
Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Matthew Evans, Cymdeithas Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru
Nigel Griffiths, CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Nigel Oanea-Cram, The Trussell Trust
Rhian Davies,  Anabledd Cymru
Steffan Evans, Sefydliad Bevan
Victoria Lloyd, Age Cymru

Hwyluswyr

Paul Neave, Llywodraeth Cymru
Mel James, Llywodraeth Cymru
Sam Pidduck, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru

Croeso’r Cadeirydd a Chyflwyniadau

Agorwyd y sesiwn trwy wneud cyflwyniadau cryno a chafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd a oedd yn sefydlu diben y grŵp llywio, sef rhoi trosolwg strategol o’r gwaith sy’n cael ei wneud i symleiddio system Budd-daliadau Cymru ac i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn gwireddu ymrwymiadau Siarter Budd-daliadau Cymru. 

Bydd hyn yn gwella sut y gweinyddir budd-daliadau yng Nghymru, gan sicrhau y gall unigolion hawlio'r hyn y maen nhw’n gymwys i’w gael yn ogystal â lleddfu’r pwysau sydd ar y gwasanaethau hynny sy'n cefnogi pobl gyda’u hawliadau.

Pan fo camau gweithredu yn cael eu datblygu, mae’n hollbwysig bod diwylliant cadarnhaol a thosturiol yn cael ei gynnal o gwmpas Budd-daliadau Cymru, a bod unrhyw effeithiau anfwriadol ar unigolion yn cael eu hystyried cyn y cyflwynir unrhyw gamau i'w gweithredu. 

Yn ogystal â datblygu'r cynllun gweithredu, bydd y grŵp llywio yn gyfrifol am ddylunio mecanweithiau a mesurau priodol sy'n addas ar gyfer monitro effaith gweithredu'r Siarter. 

Cylch gorchwyl

Cytunodd y grŵp llywio i fabwysiadu'r cylch gorchwyl drafft. Nododd yr Aelodau fod y cylch gorchwyl yn ddogfen fyw a allai gael ei hadolygu wrth i waith y grŵp fynd rhagddo.

Penderfyniad: Mabwysiadu’r cylch gorchwyl

Rhagolwg: cwmpas, nod, canlyniadau

Cwmpas

Mae'r holl daliadau, grantiau a budd-daliadau sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru yn feysydd ffocws posibl. Fodd bynnag, gallai’r grŵp yn ei chael hi’n anoddach gweithio â rhai cynlluniau o gymharu ag eraill, Benthyciadau Cyllid Myfyrwyr er enghraifft. 

Trafodwyd mai nod y grŵp ar lefel uchel yw llywio a rhoi cyngor ar y system weinyddol orau y gellir ei rhoi ar waith o fewn paramedrau’r system bresennol ac, ar gyfer pob awgrym, sicrhau bod y canlyniadau o ran cynnwys/allgáu digidol yn cael eu hystyried yn llawn.

Ni ddylai'r gwaith o symleiddio System Budd-daliadau Cymru gael ei wneud mewn ffordd ynysig, ac mae'r grŵp llywio yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i gyfathrebu’n gyson â’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Tra bydd y gwaith ar weinyddu prosesau ymgeisio’r Budd-daliadau hynny sydd wedi’u cynnwys yng Ngham Un (Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Grant Hanfodion Ysgol a Phrydau Ysgol am Ddim) yn mynd rhagddo ar wib, bydd gwaith arall yn cael ei wneud a fydd yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd angen eu cymryd yn yr hirdymor er mwyn symleiddio System Budd-daliadau Cymru.

Nod

Cynhyrchu cynllun gweithredu erbyn haf 2024.  

Canlyniadau

Cytunwyd y bydd angen i’r grŵp llywio gael cyfarfod yn y dyfodol er mwyn ystyried sut y dylid gwerthuso faint o gynnydd a wneir. 

Nodwyd pa mor bwysig yw’r dewis o ganlyniadau - rhaid i'r canlyniadau fod yn briodol a rhaid gallu eu casglu yn fuan a/neu bydd angen ffigurau llinell sylfaen er mwyn cymharu.

Yn yr un modd, wrth asesu pa gyfran o’r bobl sy’n gymwys i’w derbyn sy’n manteisio ar Fudd-daliadau Cymru, trafodwyd yr angen i’r canlyniadau ystyried ffactorau allanol a all ddylanwadu ar y galw am gymorth ariannol. 

Nodwyd na fyddai gwireddu canlyniad yn arwydd fod y gwaith yn y maes hwnnw wedi’i orffen. Mae’n bwysig sicrhau bod canlyniadau’r holl grwpiau hawlwyr yn cael eu gwella, nid dim ond y mwyafrif helaeth. Er enghraifft, soniwyd bod y cynllun sy’n cynnig pàs bws am ddim i ffoaduriaid yn hygyrch iawn i bobl o Wcráin, ond nad ydyw’n hygyrch i’r un graddau i bobl o wledydd eraill. Soniwyd bod problemau tebyg gyda’r cynllun pàs bws am ddim i bobl anabl.

Pwynt Gweithredu 1: Ystyried sut fyddai orau i werthuso cynnydd yn un o gyfarfodydd y grŵp llywio yn y dyfodol.

Trafodaeth agored: cynigion o ran ffrydiau gwaith a materion perthnasol

Digidol/data

Gan fod yr ystyriaethau sy'n berthnasol i feysydd digidol a data yn perthyn i’w gilydd, penderfynwyd y dylid cael ffrwd waith sy’n canolbwyntio arnynt ar y cyd.

Cytunwyd y dylid newid enw’r ffrwd waith hon i Dylunio/Data. Bydd hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod angen i’r datrysiadau fod ar gael mewn fformatau ar wahân i rai digidol yn unig. Dylai cynigion fod â ffocws clir ar wella profiad defnyddwyr y gwasanaeth ac ar ddefnyddio’r arferion gorau o ran cynnwys/allgáu digidol.

O ystyried yr uchod, awgrymwyd y dylid newid disgrifiad y ffrwd waith Dylunio/Data er mwyn adlewyrchu'r newid mewn enw a’r ffocws cryfach ar anghenion defnyddwyr.

Ymchwil

Penderfynwyd y byddai’r gwaith o werthuso Siarter Budd-daliadau Cymru a gweithredoedd y grŵp llywio yn cael ei gynnwys yn bennaf o fewn y ffrwd waith ymchwil.

Cyfathrebu strategol

Trafodwyd a allai'r ffrwd waith hon hefyd ganolbwyntio ar wella ymwybyddiaeth a hyrwyddo yn ogystal â rheoli cyfathrebu â rhanddeiliaid.

Dywedwyd bod angen bod yn ofalus wrth osod paramedrau’r grŵp, a hynny er mwyn osgoi dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, megis gwaith y Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm sydd yn cynnwys ymgyrch i hyrwyddo pob budd-dal gan gynnwys rhai Cymru. Bydd angen i bob ffrwd waith alinio â’r gwaith arall sy’n cael ei wneud o fewn Llywodraeth Cymru. 

Trafodaeth ehangach

Hefyd, cafodd y ffrydiau gwaith canlynol eu cadarnhau: i) Cam 1 (symleiddio sut y gweinyddir Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, Grant Hanfodion Ysgol a Phrydau Ysgol am Ddim), ii) Cymhwysedd a iii) Dysgu a Datblygu ar gyfer Awdurdodau Lleol.

Rhoddwyd sylw i’r angen i rai materion gael eu hystyried gan ddwy ffrwd waith neu fwy, a chytunwyd felly ei bod yn bwysig i’r ffrydiau gwaith roi adborth i'r grŵp llywio.

Penderfyniad: Bydd ffrydiau gwaith sy'n canolbwyntio ar y materion canlynol yn cael eu sefydlu: 

  • dylunio/data
  • ymchwil
  • cyfathrebu strategol
  • cam 1
  • dysgu a datblygu a chymhwysedd

Cynigion o ran ffrydiau gwaith: arweinyddion, aelodaeth a blaenoriaethau

Yn y rhan hon, gofynnwyd i aelodau'r grŵp llywio ystyried pa ffrydiau gwaith y gallant hwy (neu aelodau o'u sefydliadau) gymryd rhan ynddynt. 

Ochr yn ochr â hyn, gofynnwyd i'r aelodau ystyried blaenoriaethau allweddol pob ffrwd waith.

Cafodd y posibilrwydd o geisio cyllid ar gyfer gwaith y grŵp llywio ei grybwyll. Trafodwyd mai blaenoriaeth y grŵp llywio yw nodi rhwystrau presennol a chynnig ffyrdd o’u goresgyn. Os bydd angen cyllid ar y datrysiadau hyn, bydd cyfleoedd i gyflwyno achosion dros hynny. Hefyd, cynigiwyd na fyddai angen rhagor o gyllid ar y rhan fwyaf o’r newidiadau, dim ond dyfeisgarwch a pharodrwydd i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio.

Pwynt Gweithredu 2: Aelodau i ystyried pa ffrydiau gwaith y maen nhw’n awyddus i ymuno â hwy, ac i roi adborth i hwyluswyr Llywodraeth Cymru erbyn 23 Chwefror.

Pwynt Gweithredu 3: Aelodau i ystyried pa ddwy flaenoriaeth y dylai pob ffrwd waith unigol ganolbwyntio arnynt, ac i roi adborth i hwyluswyr Llywodraeth Cymru erbyn 23 Chwefror.

Trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf

Cadarnhawyd y bydd cyfarfod nesaf y grŵp llywio yn cael ei gynnal ar y we ym mis Mawrth, a bydd y grŵp yn cyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Ebrill.

Unrhyw fater arall

Ni chodwyd unrhyw fater arall.