Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Cadeirydd: Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  • Andrew Evans, Geldards LLP
  • Ben Francis, Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Frank Haskew, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Leighton Jenkins, CBI Cymru, (yn dirprwyo ar gyfer Ian Price)
  • David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Leighton Reed, yn cynrychioli ICAEW

Eraill yn bresennol

  • Jonathan Price, Prif Economegydd

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Trysorlys Cymru
  • Rod Hough, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Dyfed Alsop - Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Becca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth, Awdurdod Cyllid Cymru

Sylwedyddion

  • Sarah Carter, Pennaeth Datblygu Trysorlys Cymru

Ymddiheuriadau

  • Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Martin Mansfield, TUC
  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Ian Price, CBI Cymru (Leighton Jenkins yn dirprwyo)
  • Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Croeso

  1. Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bawb a oedd yn bresennol.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi

  1. Roedd cofnodion y cyfarfod blaenorol (15 Mawrth 2018) wedi cael eu hanfon at yr aelodau cyn y cyfarfod. Cadarnhaodd y grŵp fod y cofnodion yn grynodeb cywir o'r hyn a drafodwyd.

Yr economi yng Nghymru a'r heriau i'r sylfaen drethu Gymreig yn y dyfodol

  1. Agorwyd y cyfarfod gyda thrafodaeth am y cyhoeddiadau yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU, yn benodol y goblygiadau posibl ar gyfer trethi Cymru.
  2. Rhoddodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru, gyflwyniad ar gyd-destun economaidd a chyllidol Cymru a'r DU, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer y sylfaen drethu Gymreig yn y dyfodol, gan dynnu ar y gwaith a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol). Trafododd y grŵp y prif dueddiadau a chasgliadau, gan ystyried y risgiau a'r cyfleoedd ehangach a allai ddod i Gymru yn eu sgil.
  3. Ystyriodd y grŵp a fyddai set o ddangosyddion arweiniol ar gyfer y sylfaen drethu yn gallu helpu i nodi'r datblygiadau arwyddocaol a fyddai'n debygol o effeithio ar y refeniw dreth, y perfformiad economaidd, a blaenoriaethau eraill.

Heriau i drethi Cymru yn y dyfodol

  1. Wrth gyhoeddi cynllun gwaith y polisi trethi ar gyfer 2019, atgoffodd Georgina Haarhoff y grŵp o'r egwyddorion a'r dull gweithredu a nodwyd yn fframwaith y polisi trethi.  Roedd hynny'n cynnwys edrych ar y set gyfan o'r pum treth a osodir neu a weinyddir yng Nghymru, ynghyd â syniadau newydd ar gyfer trethi, gan ystyried dulliau o weinyddu trethi, a'r gallu a'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â nhw.
  2. Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cyfathrebu, er mwyn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau, gan drafod yr ymgyrch ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol. Ystyriwyd y cyfleoedd mwy tymor hir ar gyfer adolygu'r ystod o drethi sy'n ymwneud ag eiddo sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Unrhyw fater arall

  1. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fater arall.
  2. Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i'r rai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau, a chadarnhaodd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Chwefror 2019.