Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Cadeirydd: Rebecca Evans AC, Gweinidog Cyllid a’r Trefydd
  • Andrew Evans - Geldards LLP
  • Frank Haskew – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • David Phillips - Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Y Cyng. Anthony Hunt – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Leighton Jenkins - CBI Cymru (yn dirprwyo ar gyfer Ian Price)
  • Josh Miles – Y Ffederasiwn Busnesau Bach (yn dirprwyo ar gyfer Ben Francis)
  • Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Dr Victoria Winckler - Sefydliad Bevan

Ymddiheuriadau

  • Ben Francis – Y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Martin Mansfield - TUC Cymru
  • Ruth Marks – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Ian Price - CBI Cymru
  • Leighton Reed – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr

Swyddogion

  • Andrew Jeffreys - Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Dyfed Alsop – Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Andy Fraser – Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • David Matthews – Pennaeth Polisi, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Chris Stevens – Pennaeth Gweinyddu Treth a Phartneriaethau Strategol
  • Ceri James – Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu (cymryd nodiadau)

Sylwedyddion

  • Clare Blake – Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Ben Crudge – Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Rod Hough – Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Robin Jones – Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Ruth Leggett – Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Lizzie Thomas – Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu

Croeso

  1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd y cynrychiolwyr i’w chyfarfod cyntaf fel Cadeirydd y Grŵp Cynghorol ar Drethi. Nododd bwysigrwydd cyfraniad y grŵp at y gwaith o ddatblygu a gweithredu trethi Cymru, yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
  2. Byddai cyflwyno cyfraddau treth incwm yng Nghymru, ar 6 Ebrill, yn ben llanw’r rhaglen waith a oedd wedi dechrau gyda chyflwyno Bil Cymru ym mis Mawrth 2014, rhaglen yr oedd y Grŵp Cynghorol ar Drethi wedi cael ei sefydlu i’w gweithredu. Yng ngoleuni ymatebion yr aelodau i’r adolygiad o ddiben y grŵp, a gynhaliwyd y llynedd, byddai’r Gweinidog yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer ymgysylltu ynghylch polisi trethi a chael cyngor i helpu i ymateb i heriau’r dyfodol, yn benodol y materion pwysig a nodir yn y Cynllun Gwaith ar gyfer Polisi Trethi.

Nodiadau o’r cyfarfod blaenorol a materion sy’n codi

  1. Roedd nodiadau’r cyfarfod blaenorol (5 Tachwedd 2018) wedi eu hanfon at yr aelodau cyn y cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw faterion.

Diben a chynllun corfforaethol Awdurdod Cyllid Cymru

  1. Amlinellodd Dyfed Alsop y gwaith sy’n cael ei wneud ynglŷn â diben Awdurdod Cyllid Cymru, a’i gynllun corfforaethol newydd tair blynedd ar gyfer 2019-22. Disgrifiodd y syniadaeth y tu ôl i’w bedwar amcan strategol presennol: Haws; Teg; Effeithlon; a Gallu. Hefyd eglurodd y ddau amcan newydd ar gyfer manteisio i’r eithaf ar asedau data trethdalwyr Cymru, a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ehangach i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio gwasanaethau refeniw cenedlaethol i Gymru, lle bo hynny’n briodol.
  2. Roedd yr aelodau’n cefnogi dull gweithredu arfaethedig Awdurdod Cyllid Cymru, gan groesawu’r cyfle i wella data a nodi’r potensial i gyfuno setiau data mewn modd a allai ddod â rhagor o fanteision. Cafwyd trafodaeth ynghylch costau a’r posibiliadau o ran meincnodi rhyngwladol, a hefyd bwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth, sicrhau bod trethdalwyr yn gallu talu’r dreth gywir y tro cyntaf, a chadw’r gost o gydymffurfio mor isel â phosibl i fusnesau.

Syniadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi gweinyddu treth ar draws y tair treth ddatganoledig a’r ddwy dreth leol

  1. Rhoddodd Chris Stevens grynodeb o syniadau cychwynnol Trysorlys Cymru o ran y cyfleoedd i ddefnyddio dull gweithredu mwy strategol a chydgysylltiedig ar gyfer gweinyddu trethi yng Nghymru, yn unol â’r ymrwymiad yn y Cynllun Gwaith ar gyfer Trethi 2019. Y nod fyddai ystyried cydlyniaeth gyffredinol y system, gan edrych ar drethi Cymru; cyfradd treth incwm Cymru, y trethi datganoledig (y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi) a’r ddwy dreth leol (y dreth gyngor ac ardrethi annomestig). O wneud hynny, byddai’n bosibl gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus, darparu mwy o gymorth i fusnesau, a thyfu’r gymuned dreth yng Nghymru.
  2. Trafododd yr aelodau'r cyfleoedd i awdurdodau treth gydweithio, y goblygiadau ar gyfer busnesau, mynediad at ddata, a chyrff eraill y Llywodraeth y byddai angen iddynt gyfranogi fel rhan o’r gymuned dreth (megis Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r Adran Gwaith a Phensiynau). Hefyd ystyriwyd y llinellau atebolrwydd rhwng cyrff y Llywodraeth.
  3. Awgrymodd y Gweinidog y dylai un o gyfarfodydd y Grŵp Cynghorol ar Drethi yn y dyfodol gynnwys trafodaeth am y dreth gyngor.

Ymchwil y Ffederasiwn Busnesau Bach i agweddau a phrofiadau cwsmeriaid mewn perthynas â busnesau yng Nghymru ac ar y ffin

  1. Cyflwynodd Joshua Miles brif gasgliadau adroddiad newydd sydd i’w lansio ar 19 Mawrth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, gyda chymorth Prifysgol Bangor. Mae 'Funding Prosperity: Creating a New Tax System in Wales', yn crynhoi casgliadau arolwg o aelodau’r Ffederasiwn Busnesau Bach a chyfweliadau â chyfreithwyr eiddo a thrawsgludwyr ynghylch ymwybyddiaeth a phrofiadau busnesau o’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, a rôl Awdurdod Cyllid Cymru ('Funding prosperity: creating a new tax system in Wales').
  2. Er iddo nodi bod lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd am drethi datganoledig Cymru yn isel, roedd yn cynnwys adborth cadarnhaol iawn am brofiadau busnesau mewn perthynas ag Awdurdod Cyllid Cymru.
  3. Trafododd yr aelodau'r casgliadau, a oedd yn gyffredinol debyg i’w profiadau a’u dealltwriaeth hwy eu hunain. Tynnodd y Gweinidog sylw at adroddiad ar ymwybyddiaeth llinell sylfaen gan Lywodraeth Cymru, a fyddai’n cael ei gyhoeddi’r diwrnod hwnnw, ac a oedd hefyd yn dangos lefel isel o ddealltwriaeth o drethi datganoledig (Dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi: adroddiad sylfaenol). Byddai Llywodraeth Cymru yn dysgu o gasgliadau’r ddau adroddiad hyn, gan ei bod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd, er y cydnabuwyd y byddai hynny’n heriol.

Unrhyw fater arall

  1. Yn sgil llwyddiant y gynhadledd fach a gynhaliwyd i drafod trethi ym mis Gorffennaf, a gafodd ei chynnal o ganlyniad i gyfarfod haf y Grŵp Cynghorol ar Drethi, roedd y Gweinidog yn awyddus i gynnal digwyddiad tebyg eleni. Gwahoddodd y Gweinidog yr aelodau i gysylltu â hi, neu ei swyddogion, i awgrymu pynciau neu themâu ar gyfer y gynhadledd neu gyfarfodydd y Grŵp Cynghorol ar Drethi yn y dyfodol.
  2. Hefyd cynigiodd y Gweinidog gyfarfod ag aelodau os oeddent yn awyddus i drafod agweddau eraill ar drethi Cymru neu drethi lleol, neu faterion a oedd yn ymwneud â chyllid Llywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol.
  3. Diolchodd y Gweinidog i’r rheini a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau.