Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol:

  • Dawn Bowden AS Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Alwyn Jones Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
    Cymdeithasol (Cadeirydd).
  • Andy Lock Ysgrifennydd Preifat i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Mary Wimbury Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Andy Pithouse Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Taryn Stephens Llywodraeth Cymru.
  • Denise Moultrie Llywodraeth Cymru.
  • Mark Price Llywodraeth Cymru.
  • Bobbie-Jo Haarhoff Gofalwr di-dâl.
  • Jayne Newman Gofalwr di-dâl.
  • Rachel Clement Plant yng Nghymru.
  • Kim Dolphin Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr.
  • Rob Simkins Gofalwyr Cymru.
  • Kate Cubbage Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
  • Pennie Muir Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • David Watkins Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Naheed Ashraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
  • Naomi Harper Cyngor Sir y Fflint.
  • Natasha James Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
  • Alyson Hoskins Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
  • Valerie Billingham Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Suzanne Becquer-Moreno Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
  • Victoria Lloyd Cynghrair Henoed Cymru.
  • Vanessa Webb Prifysgol Abertawe.
  • Jon Antoniazzi Cynghrair Gofalwyr Cymru.

Ymddiheuriadau

  • Y Cynghorydd Jane Tremlett, Sir Gaerfyrddin.
  • Avril Bracey, Sir Gaerfyrddin.
  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Diane Seddon, Prifysgol Bangor.
  • Anna Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Ffion Johnson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Mico Zenati-Parsons, Gofalwr Ifanc.

1. Croeso gan y cadeirydd

Croesawodd y cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Croesawodd y gweinidog Kate Cubbage i'w chyfarfod cyntaf fel Is-gadeirydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Diolchodd hefyd i aelodau eraill y grŵp a oedd wedi mynegi diddordeb yn y rôl.

Dywedodd y gweinidog ei bod yn falch o ddysgu am y cynnydd a wnaed o ran yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc, gan gynnwys y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc.

Cyfeiriodd y gweinidog at yr ŵyl gofalwyr ifanc a gynhaliwyd yn Llanfair-ym-Muallt fis diwethaf. Bu'n llwyddiant mawr wrth ddod â gofalwyr ifanc at ei gilydd mewn amgylchedd hwyliog. Diolchodd i'r Grŵp Cynghori Gofalwyr Ifanc am ei gyfraniad i drafodaethau yn yr ŵyl.

Cyfeiriodd y gweinidog at y sesiynau ymgysylltu â gofalwyr di-dâl y mis hwn, fel rhan o waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyngor, Gwybodaeth a Chymorth ac Asesiadau Anghenion Gofalwyr. Roedd yn ddiolchgar i Ofalwyr Cymru am drefnu'r digwyddiadau hyn.

Gorffennodd y gweinidog drwy gydnabod y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud, a'n dyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt gyflawni rôl mor bwysig. Bydd yr adolygiad o'r strategaeth genedlaethol yn adnewyddu ein hymrwymiad i ofalwyr di-dâl.

3. Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf ar 4 Mehefin

Nodwyd bod yr holl gamau gweithredu wedi eu cwblhau.

4. Adolygiad o'r strategaeth gofalwyr di-dâl

Rhoddodd Denise Moultrie gyflwyniad yn cyfeirio at y pedair blaenoriaeth o fewn y strategaeth bresennol, gan gyflwyno cynigion i'w trafod ar gyfer blaenoriaethau diwygiedig.

Dywedodd yr aelodau bod angen cyfeirio at ddeddfwriaeth berthnasol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y strategaeth ddiwygiedig, gan gynnwys hawliau i gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth ac asesiadau anghenion gofalwyr. Roedd cefnogaeth gref ar gyfer canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant gofalwyr di-dâl, a'r angen i gyfeirio at strategaethau Llywodraeth Cymru o ran iechyd meddwl ac atal hunanladdiad. Nodwyd na fyddai pob gofalwr ifanc yn cydnabod y derminoleg 'gofalwr di-dâl', ac y dylid ystyried cyfeiriadau penodol at ofalwyr ifanc drwyddi draw.

Dywedwyd hefyd y dylai'r strategaeth ddiwygiedig gynnwys cyfeiriadau at waith atal parhaus byrddau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau nad oes unrhyw datgysylltu, ac y dylai gyfeirio at 'y daith ofalu yn ei chyfanrwydd' a 'bywyd ochr yn ochr â bod yn ofalwr'. Hefyd trafodwyd bywyd ar ôl gofalu, lle y gallai anghenion gofalwyr fod yn ehangach na phrofedigaeth, gan gynnwys ystyriaethau cymorth pan fydd y person sy'n derbyn gofal yn symud i gartref gofal.

Bydd yr holl sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod yn cael eu hystyried yn llawn ar gyfer camau nesaf y gwaith hwn, sef llunio dogfen i'w chylchredeg ymhlith aelodau'r grŵp. Rhagwelir y bydd gofyn i'r aelodau gylchredeg y ddogfen yn anffurfiol o fewn eu grwpiau a'u rhwydweithiau eu hunain er mwyn cael sylwadau cyn cyfarfod nesaf y grŵp cynghori ym mis Rhagfyr. Cynhelir proses ymgynghori ffurfiol maes o law.

5. Diweddariad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Rhoddodd Denise Moultrie ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed ers cyfarfod diwethaf y grŵp cynghori. Mae'r arolwg ar gyfer byrddau iechyd am yr wybodaeth a'r cyngor a roddir i ofalwyr di-dâl yn ceisio nodi enghreifftiau o arferion da. Mae mor debyg â phosibl i'r arolwg blaenorol ar gyfer awdurdodau lleol. Ochr yn ochr â hynny, mae Gofalwyr Cymru wedi trefnu dau ddigwyddiad ar-lein, a dau ddigwyddiad lle mae pobl yn dod ynghyd, ar gyfer gofalwyr di-dâl. Pwrpas y digwyddiadau hyn yw i ofalwyr di-dâl gadarnhau pa fath o wybodaeth, cyngor a chymorth ac asesiadau anghenion gofalwyr sy'n fuddiol i'r gofalwyr eu hunain.

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chasglu a'i chymeradwyo gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Yna bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gydag uwch arweinwyr mewn awdurdodau lleol ynghylch y camau nesaf i ysgogi gwelliannau cenedlaethol.

6. Y diweddaraf am gardiau adnabod i ofalwyr ifanc, a thrafodaeth: Mark Price

Cadarnhaodd Mark Price fod astudiaethau achos, posteri ac adnoddau ar-lein yn cael eu datblygu, ac y gellid eu defnyddio i hyrwyddo cardiau adnabod gofalwyr ifanc. Bydd yr adnoddau'n cael eu cynnig i awdurdodau lleol, a byddai'n bosibl eu cynnwys mewn adnoddau ar gyfer ysgolion.

Byddwn ni wedyn yn ystyried camau eraill y gellir eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc mewn ysgolion a cholegau yn fwy cyffredinol.

Cafwyd cyfradd ymateb isel i arolwg a anfonwyd i bob fferyllfa yng Nghymru ynghylch eu gwybodaeth bresennol am ofalwyr ifanc. Rydym yn edrych ar hyn eto i benderfynu ar y ffordd orau o ymgysylltu â fferyllfeydd.

7. Aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl

Cynhaliwyd ymarfer i adolygu deiliadaeth yr aelodaeth bresennol. Diwygiwyd y cylch gorchwyl i hwyluso trefn sy'n cylchdroi aelodau ar ôl tair blynedd. Mae'r aelodau perthnasol o'r grŵp wedi cael llythyrau, ac mae eu hymatebion bellach yn cael eu hystyried. Y bwriad fyddai cylchdroi traean o'r aelodaeth bob blwyddyn. Cytunwyd ar drefn sy’n golygu pan fo dim ond un cynrychiolydd gofalwyr di-dâl mewn sefydliad, yna bydd y person hwnnw'n parhau'n aelod o'r grŵp. Gall aelodau presennol y grwpiau gorchwyl a gorffen aros.

8. Unrhyw faterion eraill a dyddiad y cyfarfod nesaf

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill gan yr aelodau.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 9 Rhagfyr 2024 am 13:30.