Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
  • Alwyn Jones, Cadeirydd.
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru.
  • Michael Mitchell, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.
  • Kim Dolphin, Cadeirydd COLIN, Cyngor Sir Fynwy.
  • Dr Vanessa Webb, Prifysgol Abertawe.
  • Marie Davies, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Claire Morgan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
  • Dr Catrin Edwards, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
  • Jenny Oliver, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Kathy Proudfoot, Is-Gadeirydd COLIN, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr. 
  • Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
  • Rachel Lewis, Pennaeth Cangen UCOPRE, Llywodraeth Cymru.
  • Ceri Griffiths, Uwch-reolwr Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
  • Ben O'Halloran, Swyddog Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
  • Carol Mooney, Swyddfa'r Cabinet, Llywodraeth Cymru.
  • Jane Tremlett, Cyngor Sir Caerfyrddin.
  • Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint.
  • Dr Tim Banks, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Ymddiheuriadau

  • Dr Diane Seddon, Prifysgol Bangor.
  • Anna Bird, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
  • Pennie Muir, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
  • Simon Hatch, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
  • Rhiannon Ivens, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol, Llywodraeth Cymru.
  • Kate Young, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.

Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol

Canmolodd y Dirprwy Weinidog y grŵp am ei waith ar ehangu’r aelodaeth i gynnwys gofalwyr di-dâl ac edrychodd ymlaen at gwrdd â’r cynrychiolwyr pan fyddant wedi’u dewis.

Cynhaliwyd Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 24 Tachwedd, yn nodi adeg bwysig o'r flwyddyn i roi sylw i ofalwyr di-dâl. Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â gofalwyr di-dâl a mynychodd lansiad y deunyddiau hyrwyddo Cymraeg a Saesneg ar gyfer Ap Carers UK Jointly.

Amlygodd adroddiadau trydydd sector a gyhoeddwyd i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr y pwysau ariannol parhaus y mae gofalwyr di-dâl yn ei brofi a’r angen am seibiant oddi wrth eu rôl ofalu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’r Gronfa Seibiannau Byr ac mae’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr bellach ar agor – anogodd y Dirprwy Weinidog yr aelodau i godi ymwybyddiaeth o’r llwybr cymorth pwysig hwn.

Bydd y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn arf allweddol i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn deall eu hawliau. Yn y misoedd nesaf gofynnir i aelodau helpu i ledaenu'r ddogfen hon ymhlith eu rhwydweithiau. Mae gwaith codi ymwybyddiaeth gyda Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, arweinwyr y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a thimau ar draws Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau.

Mae cynlluniau ar y gweill ym Mhowys i gynnal ymchwil ar gydgynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl ar sut i weithredu'r siarter yn yr ardal.

Cam gweithredu – Bydd swyddogion yn cyfarfod â Marie Davies (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) i drafod ei chynnig ymchwil ar gydgynhyrchu a gweithredu siarter.

Profiadau gofalwyr di-dâl o Gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig – Dr Tim Banks

Rhannwyd adroddiad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar brofiadau gofalwyr di-dâl o Gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig cyn y cyfarfod.

Bydd cyfarfod bwrdd crwn ar 18 Ionawr. Bydd yn dod â gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd i ystyried ffyrdd ymarferol o fwrw ymlaen â’r argymhellion.

Adborth gan aelodau

Bydd Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn bwysig yn y gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl o leiafrifoedd ethnig wrth symud ymlaen.

Mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn aml yn treulio amser yn addysgu darparwr gwasanaeth am eu cefndir diwylliannol ac nid ydynt yn y pen draw yn trafod pa gymorth sydd ei angen arnynt a beth sydd ar gael.

Cytunodd y grŵp y dylid ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn yn y fersiwn wedi'i diweddaru o'r cynllun cyflawni.

Awgrymwyd bod Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn gwneud cysylltiadau â Thîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST) a gweithgor Llywodraeth Cymru i ystyried materion yn ymwneud â stigma.

Cam gweithredu – cynigiodd y Cadeirydd ysgrifennu at gadeirydd gweithgor Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cysylltiadau iechyd, darparu gwasanaethau a gofalwyr di-dâl.

Diweddariad ar Gynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a thrafodaeth

Anfonwyd templed y cynllun cyflawni, a fydd yn sail i'r adroddiad blynyddol, at yr aelodau cyn y cyfarfod. Mae'r fersiwn gyfredol yn dabl a ddefnyddir fel dogfen olrhain lefel uchel i asesu'r cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion y cynllun cyflawni.

Defnyddiwyd yr eitem hon ar yr agenda i gael arweiniad gan aelodau ar ble mae angen canolbwyntio’r gwaith ar ddatblygu’r adroddiad blynyddol i’w gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023 (yn dilyn cymeradwyaeth gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol).

Bydd hefyd yn trafod drafftio ail fersiwn y cynllun cyflawni a fydd yn adnewyddu'r rhestr bresennol o gamau gweithredu o dan y blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd yn rhaid i weinidogion gytuno ar y cynllun cyflawni wedi’i adnewyddu ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu newydd sy’n ymwneud â meysydd polisi penodol ac unrhyw ymrwymiadau ariannol cyn cyhoeddi’r cynllun cyflawni diwygiedig ar gyfer Gofalwyr. 

Y gynulleidfa allweddol fydd gweinidogion, aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat ond rhaid i’r ddogfen hefyd gael ei chyflwyno mewn ffordd y gall gofalwyr di-dâl ei darllen a’i deall.

Mae fformat y tabl yn dda, fodd bynnag, cynigiwyd y gellid cyhoeddi fersiwn gryno hefyd i dynnu sylw at y cynnydd neu egluro'r camau gweithredu sydd wedi'u cyflawni.

Cytunwyd gan yr aelodau y dylid trafod y gwaith hwn yn fanylach mewn grŵp gorchwyl a gorffen yn y flwyddyn newydd.

Cam gweithredu – Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn pennu dyddiad ar gyfer cyfarfod grŵp gorchwyl a gorffen i drafod templed y cynllun cyflawni ym mis Ionawr.

Pwynt penodol a nodwyd oedd bod gofalwyr ifanc yn cael trafferth dod o hyd i amser i wneud y gwaith gwirfoddol sy'n ofynnol fel rhan o Fagloriaeth Cymru. Awgrymwyd efallai y dylid ehangu'r meini prawf gwirfoddoli i ganiatáu i ofal gael ei gyfrif fel gwaith gwirfoddol.

Cam gweithredu – Y Gweinidog Addysg sy'n gyfrifol am Fagloriaeth Cymru. Cadarnhaodd CG y byddai'n trosglwyddo barn yr aelodau i swyddogion.

Diweddariad ar y Fframwaith Ymgysylltu â Gofalwyr – Dr Catrin Edwards

Cynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgysylltu ers cyfarfod diwethaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog. Mae'r adroddiad chwarterol yn cael ei ysgrifennu ar hyn o bryd a fydd yn cael ei rannu ag aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Roedd y digwyddiadau'n cynnwys digwyddiad ar-lein i ofalwyr sy'n oedolion ac un yn yr Wyddgrug ar gyfer gofalwyr gwrywaidd. Roedd y rhain i gyd yn canolbwyntio ar Flaenoriaeth 3 – cefnogi gofalwyr i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu fel seibiant.

 Adborth cyffredin o'r digwyddiadau:

  • nid oes unrhyw gyd-ddealltwriaeth o beth yw seibiant
  • cyfeirir at gael seibiant fel “loteri cod post”
  • mae cael asesiad o anghenion gofalwyr yn bwysig
  • materion yn ymwneud â seibiannau ac argaeledd gweithlu cyflogedig

Pwysleisiodd gofalwyr gwrywaidd bwysigrwydd cymorth gan gymheiriaid, cyd-ddibyniaeth gofal ffurfiol a chymorth i deuluoedd, a'r angen am wybodaeth am y seibiannau sydd ar gael.

Cynhaliwyd digwyddiad ar-lein i ofalwyr ifanc a chynhaliwyd dau wyneb yn wyneb yn Llandrindod a Merthyr Tudful.

Nodwyd mai cymorth iechyd meddwl a llesiant mewn ysgolion oedd y pwynt a oedd yn achosi mwyaf o bryder i ofalwyr ifanc. Dywedodd y rhai a fynychodd eu bod eisiau:

  • swyddogion arweiniol pwrpasol ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion
  • addunedau ysgolion neu systemau dyfarnu
  • amser a lle i ofalwyr ifanc yn yr ysgol
  • hyfforddiant ymwybyddiaeth gorfodol i athrawon
  • gwelliant o ran eu hadnabod

Yn rhanbarth Aneurin Bevan (De Ddwyrain Cymru), mae’r rhaglen gofalwyr ifanc mewn ysgolion a ddarperir gan y Gydweithfa Gofal yn llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, nid yw hyfforddiant ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc gorfodol wedi'i gynnwys wrth addysgu astudiaethau israddedig neu ofynion cymhwyster athrawon newydd.

Cadarnhaodd swyddogion fod hyfforddiant cychwynnol athrawon yn dod o dan y portffolio addysg. Bydd angen mynd at swyddogion perthnasol yn Llywodraeth Cymru i gael trafodaeth. Nid yw’n bosibl ychwanegu camau gweithredu sy’n ymwneud ag addysg at gynllun cyflawni ar gyfer gofalwyr Llywodraeth Cymru heb gytundeb ffurfiol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

Rhestrir hyfforddiant yn fframwaith Estyn ar gyfer cyn-arolygiad felly efallai y gellid ei atgyfnerthu ymhellach. Cadarnhaodd CG y bydd hi'n cyfarfod â swyddog Estyn yr wythnos nesaf i drafod y dull a fabwysiadwyd mewn perthynas â gofalwyr ifanc.

Yn y flwyddyn newydd, yn dilyn trafodaeth a chytundeb gyda swyddogion cangen cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru, bydd ffocws ar godi ymwybyddiaeth o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a chymorth ariannol arall sydd ar gael i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy'n gofalu.

Bydd y Dirprwy Weinidog yn mynychu digwyddiad Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc mewn lleoliad ym Mae Caerdydd.  Cytunir ar fanylion pellach gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn nes at y dyddiad ym mis Mawrth.  Y pynciau i'w trafod fydd yr LCA a'r Warant Person Ifanc.

Diweddariad gan y Grŵp Tasg a Gorffen ar ehangu aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog i drafod a chytuno ar y cynnig

Cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar y camau i ehangu'r aelodaeth, a gytunwyd mewn cyfarfod grŵp Gorchwyl a Gorffen diweddar a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd. Gofynnir i gynrychiolwyr y trydydd sector ddosbarthu’r disgrifiad rôl cytûn i ofalwyr di-dâl ac i gefnogi’r cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl ar ôl iddynt gael eu dewis. Bydd uchafswm o 2-3 gofalwr di-dâl yn cael eu dewis i ymuno â’r grŵp. Os oes mwy na thri chais bydd meini prawf asesu yn cael eu datblygu. Ni fydd disgwyl i'r gofalwyr di-dâl sy'n eistedd ar y grŵp hwn gynrychioli barn yr holl ofalwyr. Mae hyn yn dilyn y templed a sefydlwyd ar gyfer y cynrychiolwyr gofalwyr ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

Cytunodd yr Aelodau ar y disgrifiad rôl a'r camau nesaf.

Cynrychiolwyr awdurdodau lleol

Cytunwyd gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog y byddai'r saith aelod COLIN ychwanegol arfaethedig yn ormod i ymuno ag aelodau presennol. Ni fyddai'r cynrychiolwyr hyn yn gallu cynrychioli'r lefel strategol angenrheidiol o ymgysylltu ar gyfer y grŵp.

Cafwyd adborth gan KD ar gyfarfod diweddar y COLIN lle trafodwyd aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Yr adborth allweddol oedd yr angen am gynrychiolaeth y Gymraeg ar Grŵp Cynghori'r Gweinidog.

Cytunodd yr aelodau y dylid cysylltu â chynrychiolwyr awdurdodau lleol ar lefel uwch-reolwyr a gofyn iddynt ymuno. Roedd yr awgrymiadau ar gyfer awdurdodau lleol Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Gallai cynrychiolwyr o'r ardaloedd hyn ddarparu gwell ymwybyddiaeth o'r Gymraeg ac adborth i'r grŵp.

Cam gweithredu – Bydd swyddogion yn llunio opsiynau ar gyfer cysylltu â'r awdurdodau lleol uchod a gofyn am aelodau ychwanegol ohonynt. Bydd y rhain yn cael eu hanfon at aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog i gael adborth.

Trafodwyd pe bai'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn egluro ei rôl a'i weithred ac yn cyfleu hynny i'r gwahanol rwydweithiau y mae'r aelodau'n eu cynrychioli, y gall hyn alluogi bwydo i mewn, yn hytrach nag ychwanegu at aelodaeth bresennol y Grŵp Cynghori'r Gweinidog.

Cofrestr ar gyfer gofalwyr di-dâl

Cyfarfu swyddogion â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i drafod dichonoldeb cofrestr gofalwyr. Fel y trafodwyd yn flaenorol, mae gofalwyr yn rhannu eu data at ddiben penodol e.e. brechu.  Mae mwy o ofalwyr wedi cofrestru eu statws gyda'u meddyg teulu.  Fodd bynnag, byddai'n rhaid cysylltu â phob gofalwr i ofyn am eu caniatâd i rannu eu data personol er mwyn iddo gael ei gadw ar gofrestr gofalwyr. Anfonwyd ateb gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar at gadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd sydd wedi gofyn am gofrestr.

O ystyried yr argyfwng costau byw parhaus a phwysau gofal cymdeithasol, mae'r tîm Gofalwyr Di-dâl wedi canolbwyntio ar gymorth ariannol – y gweithgarwch talu gofalwyr o £500, a'r cymorth seibiannau byr newydd i ofalwyr di-dâl.  Byddai angen adnoddau cyllid sylweddol ar gyfer cofrestr ac nid oes cyllid ar gael i symud cofrestr yn ei blaen ar hyn o bryd. Bydd swyddogion yn parhau i archwilio opsiynau yn y dyfodol.

Atodiad A: dolenni wedi'u rhannu mewn sgwrs ar-lein

Fideo hyrwyddo Ap Jointly – Jointly – care together from anywhere – YouTube
Fideos hyrwyddo Ap Jointly yn Gymraeg
Cronfa Cefnogi Gofalwyr – Rhaglen Cronfa Cefnogi Gofalwyr Cymru – Ymddiriedolaeth y Gofalwyr