Cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl: 17 Mai 2022
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr 17 Mai 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mynychwyr
- Rhiannon Ivens, Cadeirydd Dros Dro, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol, Llywodraeth Cymru.
- Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
- Pennie Muir, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
- Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Claire Morgan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
- Simon Hatch, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
- Johanna Davies, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.
- Jenny Oliver, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
- Kate Young, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
- Jason Crowl, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
- Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
- Dr Diane Seddon, Prifysgol Bangor.
- Alwyn Jones, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS), Cyngor Wrecsam.
- Natasha James, Cyngor Bro Morgannwg.
- Dr Catrin Edwards, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
- Kathy Proudfoot, Is-Gadeirydd COLIN, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
- Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
- Rachel Lewis, Pennaeth Cangen UCOPRE, Llywodraeth Cymru.
- Ceri Griffiths, Uwch-reolwr Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
- Ben O’Halloran, Swyddog Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
Ymddiheuriadau
- Kim Dolphin, Cadeirydd COLIN, Cyngor Sir Fynwy.
- Sean O’Neill, Plant yng Nghymru.
- Dr Vanessa Webb, Prifysgol Abertawe.
- Jane Tremlett, Cyngor Sir Caerfyrddin.
- Anna Bird, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Cyflwyniadau
Cyflwynodd Rhiannon Ivens ei hun fel cadeirydd dros dro tra bod y broses ymgeisio ar gyfer y cadeirydd annibynnol newydd yn parhau. Mae swyddogion wedi derbyn un enwebiad hyd yn hyn.
Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Anfonwyd papur at yr aelodau yn amlinellu rhai o'r enghreifftiau o arferion da o'r Cyllid Seibiant o £3 miliwn ar gyfer 2021/22. Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at rai o’r prosiectau.
- Rhoddodd prosiect “Rhowch gynnig ar Rywbeth Newydd” Pen-y-bont ar Ogwr gyfle i 50 o ofalwyr di-dâl roi cynnig ar hobïau a sgiliau newydd.
- Rhoddodd Caerffili aelodaeth campfa i dros 100 o ofalwyr di-dâl a roddodd fanteision ychwanegol o wella llesiant corfforol a meddyliol trwy ymarfer corff.
Dywedodd gofalwr di-dâl ym Mro Morgannwg fod ei atgyfeiriad wedi rhoi caniatâd iddi “fynd allan a bod yn fi”. Tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at hyn fel rhywbeth hanfodol i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt gael bywyd ochr yn ochr â gofalu ac i fod yn nhw eu hunain.
Roedd y Dirprwy Weinidog yn falch o gyhoeddi cyllid o £9 miliwn dros y dair blynedd nesaf ar gyfer cynllun seibiannau byr a fydd yn cael ei gydlynu gan sefydliad trydydd sector sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Mae’r prosiect cerdyn adnabod gofalwyr ifanc bellach yn cwmpasu Cymru gyfan sy’n golygu y gall unrhyw ofalwr ifanc hyd at 18 oed wneud cais am gerdyn o fewn eu hawdurdod lleol. Mae’r prosiect hwn wedi’i gydgynhyrchu’n effeithiol rhwng awdurdodau lleol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru. Roedd y Dirprwy Weinidog yn falch o glywed bod awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn gwneud cais am gyllid yn 2022/23 i barhau â’r gwaith cadarnhaol.
Yng nghyfarfod rhithwir y Dirprwy Weinidog gyda gofalwyr ifanc o Sir Benfro yr wythnos diwethaf, canfu fod y gofalwyr ifanc yn falch iawn o’u cardiau adnabod a dywedodd wrthi pa mor bwysig oedd y cerdyn iddynt. Dywedodd y gofalwyr ifanc hefyd gymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi’r gweithgareddau a’r cymorth a ddarparwyd gan Gweithredu dros Blant (darparwr gwasanaeth a gomisiynwyd yr awdurdod lleol) yn eu hardal.
Cynhaliodd y Dirprwy Weinidog gyfarfod cynhyrchiol gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles. Roedd yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd y gwaith trawsbynciol o ran cefnogi gofalwyr ifanc mewn addysg a hyfforddiant. Roedd mater absenoldeb hefyd yn bwnc allweddol yn y trafodaethau. Bydd swyddogion o'r tîm gofalwyr a'r tîm addysg yn trafod gweithredu wrth symud ymlaen.
Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Gofalwyr Ifanc
Mae llawer o awdurdodau lleol yn amlygu, yn eu hadroddiadau hawlio cyllid diwedd blwyddyn, sut y maent yn edrych ar ddarparu buddion ychwanegol gyda’r cerdyn cenedlaethol. Nid yw hyn wedi’i ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r prosiect, ond mae wedi sbarduno gweithgarwch yn y meysydd hyn. Mae'r cerdyn cenedlaethol yn arf ar gyfer gofalwyr ifanc ac i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol. Mae rhwydweithio lleol y prosiect yn dechrau dangos rhywfaint o gynnydd sylweddol. Mae swyddogion yn SSID yn creu cysylltiadau â chydweithwyr yn adrannau Llywodraeth Cymru i ystyried datblygiadau posibl yn y dyfodol ar gyfer y cerdyn adnabod gan gynnwys addysg, chwaraeon ac iechyd, codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.
Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar sut i hyrwyddo ymhellach y cynllun cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn eu hardaloedd.
Ym Mwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg mae cynllun cerdyn adnabod oedolion a ariennir. Y cynllun yw cynnwys buddion tebyg i'r rhai a ychwanegwyd yn lleol i'r cerdyn gofalwr ifanc. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai gofalwyr ifanc am gael y cerdyn adnabod felly mae'n bwysig cael eu hadborth ar y rhesymau dros wrthod y cerdyn, sy'n wirfoddol.
Tynnodd yr Aelodau sylw at bwysigrwydd y cerdyn o ran darparu cymorth i ofalwyr di-dâl ar y pwynt pontio rhwng bod yn ofalwr ifanc a gofalwr sy’n oedolyn – 18 oed. Gellid ei ystyried hefyd fel arf ategol rhwng y cymorth addysg sydd ar gael ar hyn o bryd a chymorth Gofalwyr Cymru i gyflogwyr.
Cam gweithredu – bydd papur ar enghreifftiau o arferion da gan awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc cenedlaethol yn cael ei ddosbarthu i aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cofrestr Gofalwyr Arfaethedig a'r camau nesaf
Yn dilyn y cyfarfod diwethaf sefydlwyd gweithgor i archwilio'r potensial ar gyfer Cofrestr Gofalwyr. Rhannwyd nodyn o'r cyfarfod hwn gydag aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Mae swyddogion yn casglu enghreifftiau o sut mae meddygon teulu a byrddau iechyd yn casglu data. Ceir anawsterau o ran rhannu data o fewn byrddau iechyd wrth i wybodaeth am ofalwyr di-dâl gael ei storio ar draws sawl cod yn systemau TG y byrddau iechyd, felly mae datod pwythau hynny yn her fawr.
Cam gweithredu – Bydd Naheed yn rhannu'r ymchwil a wnaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar godau'r GIG â swyddogion.
Cynigiwyd hefyd cynnal cyfrifiad gofalwyr ochr yn ochr â'r gofrestr, a fyddai'n coladu gwybodaeth ac yna ei gwneud yn ddienw gan y rhai sydd ag asesiadau o anghenion gofalwyr. Byddai hon yn set ddata lai ond gellid ei defnyddio o hyd i lywio ymchwil a pholisi. Gellid datblygu'r ddwy elfen hyn ochr yn ochr ond byddai'n cymryd amser i'w datblygu.
Awgrymwyd y gellid dysgu gwersi o’r broses a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i dargedu grwpiau ar gyfer cyflwyno’r brechlyn, yn enwedig os bydd rhaglen frechu COVID-19 yn rheolaidd neu’n flynyddol. Gallai hyn gael ei gymhwyso i gronfa ddata ar gyfer gofalwyr di-dâl. Ceir materion yn ymwneud â diogelu data gyda’r dull hwn, efallai y byddai angen newid y ffurflenni cydsyniad i ganiatáu i’r data gael ei ddefnyddio ar gyfer cofrestr gofalwyr yn ogystal â chael ei farcio ar gyfer brechiadau dro ar ôl tro.
Mae swyddogion yn cyfarfod â chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru ynghylch sut y maent yn casglu data i weld p'un a allai hyn fod yn sail i gofrestr a/neu gyfrifiad gofalwyr.
Fframwaith Ymgysylltu â Gofalwyr, Catrin Edwards
Diddymwyd y grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr yn gynharach eleni gyda’r bwriad o greu fframwaith ymgysylltu sy’n cyrraedd ystod ehangach o ofalwyr di-dâl.
Cytunwyd bod angen y fframwaith i gyrraedd gofalwyr di-dâl o gymunedau amrywiol mewn fformat sy'n annog ymgysylltu llai ffurfiol. Cynhelir pedwar cyfarfod cenedlaethol i edrych ar bedair blaenoriaeth strategol y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Cynhelir pedwar digwyddiad mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n gweithio gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd cofnodion gweledol, adroddiadau ysgrifenedig chwarterol ac eitem agenda ym mhob cyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Cam gweithredu – Cynigiodd aelodau awdurdodau lleol a byrddau iechyd rannu eu cysylltiadau ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar gyfer grwpiau lleol sy'n gweithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn eu hardaloedd.
Bydd gweithgarwch wedi'i gynllunio yn ystod Wythnos Gofalwyr sy'n cychwyn ar 6 Mehefin yn cynnwys y cyfarfod cyntaf o dan y fframwaith newydd yn canolbwyntio ar adnabod gofalwyr. Bydd digwyddiad i glywed yn uniongyrchol gan grwpiau lleiafrifol ar 9 Mehefin a bydd digwyddiad nesaf yn ddiweddarach yr haf hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, cyngor a chymorth, ac yna digwyddiad i ofalwyr Cymraeg eu hiaith.
Bydd y cyfarfodydd a'r digwyddiadau yn gymysgedd o rai rhithwir ac wyneb yn wyneb. Codwyd y pwynt y byddai'n ddefnyddiol cael cyfweliadau un i un i gasglu gwybodaeth gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig oherwydd rhesymau diwylliannol, neu am nad ydynt yn dymuno rhannu gwybodaeth bersonol mewn fforwm grŵp.
Cam gweithredu – Bydd gwahoddiadau Eventbrite yn cael eu rhannu â swyddogion i'w dosbarthu ymhlith aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Yn ddiweddar iawn, cytunwyd ar gyllid ar gyfer fframwaith ymgysylltu â gofalwyr ifanc y bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn ei ddatblygu. Cytunodd yr aelodau y byddai'n dda cael rhai gofalwyr ifanc i gyd-gyflwyno eitem agenda mewn cyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn y dyfodol.
Cynyddu amrywiaeth aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog
Roedd yr aelodau'n hapus i gytuno i wahodd gofalwyr di-dâl i ymuno fel aelodau'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Cam gweithredu – Bydd aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn anfon awgrymiadau ar sut y gellir amrywio aelodaeth y grŵp a'i gwneud yn fwy cynrychioliadol.
Mae angen rheoli maint y grŵp i'w atal rhag mynd yn rhy anhylaw. Dylid cynnull grwpiau gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â gwahanol rannau o'r cynllun cyflawni. Gellid gwahodd arbenigwyr i siarad mewn cyfarfodydd penodol yn hytrach na chynyddu aelodaeth gyfan y Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Dylai cyfarfodydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog fod yn fwy cydnaws â'r Cynllun Cyflawni.
Y Camau Nesaf ar gyfer Grŵp Cynghori'r Gweinidog
Cam gweithredu – Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ar gyfer trafodaeth bellach ar gynllun gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog yng nghyd-destun y cynllun Cyflawni cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr, ac aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Unrhyw Fater Arall
Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae'n bwysig cynnal cysylltiadau ag arweinwyr polisi sy'n cefnogi plant mewn tlodi gan fod y rhan fwyaf o ofalwyr ifanc mewn mwy o berygl o galedi ariannol. Mae Sefydliad Bevan yn casglu gwybodaeth am y ffactorau sy'n effeithio ar dlodi yng Nghymru.
Cam gweithredu – Bydd Kate Young yn rhannu'r wybodaeth oddi wrth Sefydliad Bevan a fydd yn cael ei chasglu cyn cyfarfod nesaf Grŵp Cynghori'r Gweinidog.
Mae'r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn cael ei chwblhau gyda'r bwriad i'w gyhoeddi yn ystod Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin.
Cam gweithredu – Gofynnodd Claire Morgan am newid i gofnod cyfarfod blaenorol Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Bydd yn anfon e-bost at yr ysgrifenyddiaeth.