Noder: Crynodeb o'r cytundeb cam un yw hwn. Yr Adroddiad ar y Cyd (Atodiad 1) a'r nodyn technegol ategol (Atodiad 2) yw'r testunau swyddogol.

Y materion dan sylw

  1. Yn Uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2017, daeth 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i'r casgliad fod cynnydd digonol wedi cael ei wneud ar gam un o'r negodiadau ymadael a chytunwyd i symud i ail gam y negodiadau ar y cyfnod pontio a'r berthynas yn y dyfodol.
  2. Roedd y cytundeb cam un fel sy'n cael ei amlinellu yn yr Adroddiad ar y Cyd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd ar 8 Rhagfyr (Yn Atodiad 1) yn cwmpasu hawliau dinasyddion, yn nodi methodoleg ar gyfer setliad ariannol ac yn sefydlu egwyddorion sy'n anelu at sicrhau nad oes ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
  3. Mabwysiadodd y Cyngor Ewropeaidd hefyd ganllawiau a oedd yn nodi trywydd clir arfaethedig ar gyfer y negodiadau o safbwynt y 27 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, gan agor ail gam y trafodaethau ar y cyfnod pontio a sgyrsiau archwiliadol am bartneriaeth agos rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU ar fasnach, cydweithredu ar derfysgaeth, troseddau rhyngwladol, diogelwch, amddiffyn a pholisi tramor. Mae Erthygl 50 y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn datgan bod yn rhaid i'r Undeb Ewropeaidd drafod 'yng ngoleuni'r' canllawiau hyn.

Cytundeb Cam Un

  1. Bydd yr Adroddiad ar y Cyd yn ffurfio sail y Cytundeb Ymadael o dan erthygl 50 o dan y cafeat nad oes dim wedi'i gytuno nes bod popeth wedi'i gytuno.
  2. Mae'n cwmpasu cytundeb mewn egwyddor ar draws y tri phrif faes dan sylw yn ystod cam cyntaf y negodiadau, sef:
    1. Diogelu hawliau dinasyddion yr Undeb yn y DU a dinasyddion y DU yn yr Undeb
    2. Y fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r amgylchiadau unigryw yng Ngogledd Iwerddon
    3. Y setliad ariannol.

Hawliau dinasyddion

  1. Mae'r cytundeb yn cwmpasu Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a'u teuluoedd sy'n preswylio'n gyfreithlon yn y DU ar 'ddyddiad penodedig'. Gallai hwn fod yn ddyddiad ymadael (29 Mawrth 2019) ond gallai fod ar ddiwedd unrhyw gyfnod pontio y cytunir arno (mae'n ymddangos bod gwahaniaeth barn rhwng Llywodraeth y DU a 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ar hyn).
  2. Ailuno teuluoedd, aelodau'r teulu yn y dyfodol a phartneriaid Bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y DU yn cadw eu hawliau ailuno teuluol, gan ganiatáu iddynt ddod ag aelodau o'r teulu neu bartneriaid i'r DU heb fod yn destun gofynion yn ymwneud ag isafswm incwm neu brofion iaith Saesneg (fel sy'n berthnasol i berthnasau dinasyddion y DU).
  3. Cais am statws newydd Bydd y cytundeb yn caniatáu i'r DU ac Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd ofyn i bersonau gael statws sy'n rhoi iddynt yr hawliau preswyl sydd yn y Cytundeb Ymadael. Yn y DU, mae'r Llywodraeth wedi nodi y bydd yn cyflwyno system symlach newydd, a fydd yn lleihau'r baich prawf ar ymgeiswyr ac yn cynnig cyfle iddynt ddarparu tystiolaeth atodol.
  4. Deiliaid preswyl parhaol presennol Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ar wahân y bydd angen i bob deiliad preswyl parhaol wneud cais am y statws preswylydd sefydlog newydd, ond bydd hyn ar ffurf proses gyfnewid symlach.
  5. Cymwysterau proffesiynol Bydd cymwysterau proffesiynol dinasyddion yn parhau i gael eu cydnabod.
  6. Gweithredu'r cytundeb ymadael mewn deddfwriaeth Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cadarnhau y bydd y cytundeb ymadael yn cael ei ymgorffori yn neddf gwlad y DU drwy Ddeddf Seneddol.
  7. Rôl Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) Bydd angen i Lysoedd y DU ystyried dyfarniadau'r CJEU a gyhoeddir ar ôl Brexit, os ydynt yn ymwneud â hawliau dinasyddion mewn perthynas â dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd cyn y dyddiad penodedig: nid oes terfyn amser i'r gofyniad hwn. Os yw llysoedd y DU eisiau eglurder neu gyngor ar faterion yn ymwneud â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd, byddant yn gallu gofyn cwestiynau'n ymwneud â dehongli i'r CJEU.
  8. Dehongli'r gyfraith Fel un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, gall y DU ymyrryd ar hyn o bryd cyn y CJEU, hyd yn oed os nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r achos cyfreithiol sylfaenol (er enghraifft, lle mae cwestiynau wedi'u cyfeirio o lys Aelod-wladwriaeth arall, neu os yw'r Comisiwn yn troseddu yn erbyn Aelod-wladwriaeth arall). Mae'r cytundeb hwn yn cadw'r hawl honno ar gyfer materion sy'n berthnasol i hawliau dinasyddion. Mae hefyd yn awgrymu y dylai'r Comisiwn Ewropeaidd gael yr hawl i ymyrryd yn achosion y DU.
  9. Bydd y Comisiwn yn monitro gweithrediad y cytundeb a'r ffordd y bydd yn cael ei ddefnyddio gan y 27 o wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â dinasyddion y DU sy'n byw yn yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwna yn awr gyda chyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn y DU.
  10. Nid yw'r Adroddiad ar y cyd yn cwmpasu'r rhai sy'n symud rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl y dyddiad penodedig ac nid yw'n mynd i'r afael â'r cwestiwn ynghylch a fydd eu cymwysterau yn cael eu cydnabod mewn gwladwriaethau eraill ar ôl Brexit ai peidio.
  11. Nid yw ychwaith yn mynd i'r afael â symud ymlaen - hawliau i ddinasyddion y DU sydd eisoes yn byw yn un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd i breswylio mewn un arall.
  12. Fodd bynnag, mae'r Adroddiad ar y Cyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r DU dderbyn y gall dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n breswylwyr cyfreithlon ar y dyddiad penodedig fyw y tu allan i'r DU am gyfnod parhaus o hyd at bum mlynedd heb golli eu hawl i fyw yn y DU: mae hyn yn cymharu â chyfnod o ddwy flynedd ar hyn o bryd.

Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon

  1. Yn yr Adroddiad ar y Cyd, mae'r ddwy ochr yn cadarnhau pa mor hanfodol bwysig yw'r broses heddwch ac yn cytuno y dylid diogelu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith. Mae'r DU yn ymrwymo i ddiogelu cydweithrediad rhwng y Gogledd a'r De i osgoi ffin galed gan gynnwys seilwaith ffisegol, gwiriadau a rheolaethau.
  2. Mae'r Adroddiad ar y Cyd hefyd yn derbyn parhad yr Ardal Deithio Gyffredin sy'n golygu y gall dinasyddion deithio rhwng ynys Iwerddon a Phrydain Fawr heb fo dyn destun gwiriadau mewnfudo (sydd, yn ei hanfod, yn golygu y bydd Iwerddon yn parhau i fod y tu allan i ardal Schengen).
  3. Mae'r Adroddiad ar y Cyd hefyd yn cytuno i gynnal yr 'egwyddor o gydsyniad' yng Nghytundeb Dydd Gwener y Groglith (h.y. byddai'n rhaid i bobl Gogledd Iwerddon bleidleisio o blaid uno gydag Iwerddon er mwyn i hyn ddigwydd), ac mae'n cefnogi sicrhau bod Gogledd Iwerddon yn aros yn rhan o'r DU yn absenoldeb cydsyniad o'r fath. Mae'r DU yn parchu dewis clir Gweriniaeth Iwerddon i aros yn rhan o farchnad fewnol ac undebau tollau yr Undeb Ewropeaidd a phwysigrwydd sicrhau bod Gogledd Iwerddon yn parhau i gael mynediad dirwystr i farchnad fewnol y DU. Cydnabyddir y gall fod yn anodd cysoni hyn â phenderfyniad datganedig y DU i adael y farchnad fewnol a'r Undeb Tollau ac osgoi ffin galed ar ynys Iwerddon.
  4. Mae'r cytundeb yn amlinellu tair ffordd bosibl y gall y DU gyflawni'r amcanion hyn:
    1. Drwy'r berthynas gyffredinol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU, hynny yw drwy sicrhau nad oes angen unrhyw fath o wiriadau ar nwyddau wrth groesi'r ffin o ran y berthynas yn y dyfodol rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r DU. Dyma'r opsiwn y mae Llywodraeth y DU yn ei ffafrio
    2. Os na fydd yr opsiwn cyntaf yn bosibl bydd y DU yn cynnig atebion penodol i fynd i'r afael ag amgylchiadau unigryw ynys Iwerddon (yn ôl pob tebyg ar hyd y llinellau a gyflwynwyd ym mhapur sefyllfa "Northern Ireland and Ireland" a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017 ac a feirniadwyd yn hallt) ond mae'r Adroddiad yn cydnabod bod yn rhaid i'r rhain fod yn dderbyniol i'r 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, neu
    3. Os na chytunir ar y rhain, bydd y DU yn parhau i gydymffurfio'n llawn â'r rheolau hynny yn y Farchnad Fewnol a'r Undebau Tollau sydd, nawr neu yn y dyfodol, yn cefnogi cydweithrediad rhwng y Gogledd a'r De, economi'r ynys gyfan a gwarchod cytundeb 1998. Yr opsiwn hwn fyddai'r opsiwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, oherwydd, yn ein barn ni, byddai'n gofyn am y berthynas agosaf bosibl rhwng y DU gyfan a'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau.
  5. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ymrwymo yn y cytundeb i beidio â chyflwyno unrhyw rwystrau rheoleiddiol newydd rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU oni bai bod Cynulliad a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cydsynio i hyn.

Setliad ariannol

  1. Nid yw'r Adroddiad ar y cyd yn pennu swm o arian y mae'r DU yn ymrwymo i'w dalu i'r Undeb Ewropeaidd ond yn hytrach mae'n cytuno ar fethodoleg i'w gyfrifo sy'n cynnwys pedair elfen: rhestr o gydrannau ynghylch yr hyn sy'n ddyledus; egwyddorion ar gyfer cyfrifo gwerth y setliad; trefniadau i'r DU barhau i gymryd rhan yn rhaglenni'r fframwaith ariannol presennol (nes y daw i ben yn 2020); a threfniadau ar gyfer Cyrff a chronfeydd yr Undeb yn gysylltiedig â pholisïau'r Undeb Ewropeaidd.
  2. Elfennau Bydd y DU yn cyfrannu at weithredu'r cyllidebau blynyddol ac yn cymryd rhan ynddynt yn 2019 a 2020 er gwaethaf y ffaith y bydd yn gadael ym mis Mawrth 2019. Ni fydd y diwygiadau a fabwysiedir ar ôl y dyddiad ymadael sy'n effeithio ar rwymedigaeth ariannol y DU yn berthnasol (a bydd hyn yn gwarchod rhag newidiadau i ad-daliad y DU neu rhag gorfod talu cyfran o unrhyw wariant cynyddol yn yr Undeb Ewropeaidd). O bwys mawr, mae'r DU yn cytuno i dalu ei chyfran o'r holl ymrwymiadau cyllideb sydd heb eu talu ar ddiwedd 2020 (RAL): bydd llawer o'r ymrwymiadau hyn e.e. i brosiectau Cronfeydd Strwythurol, prosiectau seilwaith, neu bensiynau staff yr Undeb Ewropeaidd, ond yn dod yn ddyledus ymhen nifer o flynyddoedd (ac mewn rhai achosion, ymhen degawdau). Mae'r cytundeb yn cynnwys manylion am gyfrifo rhwymedigaethau, rhwymedigaethau amodol ac asedau cyfatebol.
  3. Egwyddorion ar gyfer cyfrifo gwerth y setliad Mae'r cytundeb yn manylu ar y fethodoleg ar gyfer cyfrifo cyfran y DU o wariant yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn cael ei dalu mewn Ewros - anfantais i'r DU yn sgil y gostyngiad yng ngwerth sterling ers y refferendwm.
  4. Cymryd rhan mewn rhaglenni'r Fframwaith Ariannol Amlflwydd 2014-2020 Mae'r DU yn parhau i fod yn gymwys i gymryd rhan mewn rhaglenni fel rhan o'r cylch cyllido cyfredol, gyda gofyniad i barchu darpariaethau cyfreithiol perthnasol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r DU yn dweud y gallai fod yn dymuno cymryd rhan mewn rhai o raglenni'r Undeb Ewropeaidd ar ôl 2020 fel gwladwriaeth nad yw'n Aelod.
  5. Cyrff a chronfeydd eraill yr Undeb Ewropeaidd Mae'r datganiad ar y cyd yn cynnwys gwarantau, rhwymedigaethau a hawliau sy'n cwmpasu Banc Buddsoddi Ewrop, Banc Canolog Ewrop, Cyfleuster ar gyfer Ffoaduriaid yn Nhwrci a'r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Argyfyngau Ewrop a Chronfa Datblygu Ewrop.
  6. Mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop, bydd y DU yn darparu gwarant am swm sy'n gyfartal â'r cyfalaf dyledus ar y diwrnod y bydd yn ymadael, i'w leihau yn unol ag amorteiddio stoc yn sgil gweithrediadau Banc Buddsoddi Ewrop. Bydd cyfran y DU o'r cyfalaf a dalwyd i mewn yn cael ei ad-dalu mewn deuddeg rhandaliad blynyddol, gan ddechrau yn 2019 (11 rhandaliad o 300 miliwn Ewro ac un o ychydig o dan 200 miliwn Ewro). Mae'r Adroddiad yn nodi bod y DU yn credu y byddai budd i'r ddwy ochr o drefniant parhaus rhwng y DU a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae'r DU yn dymuno archwilio'r trefniadau posibl hyn yn ail gam y negodiadau, er nad oes unrhyw awgrym ynghylch safbwynt yr Undeb Ewropeaidd ar hyn. Ni fydd prosiectau'r DU yn gymwys ar gyfer gweithrediadau newydd gan Fanc Buddsoddi Ewrop a gedwir ar gyfer Aelod-wladwriaethau.

Materion eraill yn ymwmneud â gwahanu

  1. Mae'r Adroddiad ar y Cyd hefyd yn amlinellu meysydd eraill o wahaniaethau a chydgyfeirio wrth ddod i gytundeb mewn nifer o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys: materion yn ymwneud â gwahanu yn sgil y DU yn ymadael ag Euratom, nwyddau a roddwyd ar y farchnad cyn ymadael yn parhau i fod ar gael, cydweithredu ar faterion sifil a masnachol, cydweithredu o ran polisi a threfniadau barnwrol mewn perthynas â materion troseddol, gweithdrefnau barnwrol parhaus (h.y. cymhwysedd parhaus y CJEU ar gyfer gweithdrefnau a gofrestrwyd cyn ymadael), gweithdrefnau gweinyddol parhaus a materion sy'n ymwneud â gweithrediad sefydliadau, asiantaethau a chyrff yr Undeb Ewropeaidd.

Mapio Cytundeb Cam Un yn erbyn Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

  1. Mae'r Adroddiad ar y Cyd yn cynnwys rhywfaint o gyfaddawd gan Lywodraeth y DU ac mae'n dangos newid sylweddol o'r sefyllfa a amlinellodd y Prif Weinidog yn gyntaf yn ei haraith yn Lancaster House ym mis Ionawr 2017 ac i ryw raddau ei haraith yn Florence ym mis Medi y llynedd. Mae barn gyffredinol ymhlith sylwebyddion annibynnol, ac yn sicr o fewn y 27 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, fod cytundeb Cam 1 wedi datgelu sefyllfa negodi wan Llywodraeth y DU a diffyg realaeth o ran y 'llinellau coch' a nodwyd yn yr araith yn Lancaster House.
  2. Er nad yw'r Adroddiad ar y Cyd yn sôn o gwbl am rai materion sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, mae'r newid yn y sefyllfa yn adlewyrchu symudiad gwirioneddol pellach tuag at safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y cynllun ar gyfer y negodiadau a amlinellwyd gennym yn y Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru flwyddyn yn ôl.
  3. O'r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod mynediad llawn a dirwystr i'r farchnad sengl er mwyn cefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru yn y dyfodol yn hollbwysig. Er bod yr Adroddiad ar y Cyd yn cadarnhau bwriad y DU i adael y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, mae sefyllfa'r DU wedi symud yn agos at hynny drwy alw am drefniadau masnachu mor ddirwystr ac esmwyth â phosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd. Bydd sefyllfa ddatganedig y DU o gefnogi cyfranogiad Gweriniaeth Iwerddon yn y Farchnad Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, ond hefyd y dylai Gogledd Iwerddon fod yn rhan o farchnad fewnol y DU heb ffin galed, gwiriadau a rheolaethau, yn gymhleth iawn i'w cyflawni, yn enwedig heb y berthynas agosaf bosibl gyda'r farchnad sengl a'r alinio rheoleiddiol sy'n sail i hynny.
  4. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi blaenoriaeth i werthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae pobl o wledydd eraill yn ei wneud i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ochr yn ochr ag ymateb i bryderon am agweddau ar fewnfudo drwy bolisi pragmataidd ac egwyddorol ar fudo yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â chyflogi gweithwyr ac osgoi camfanteisio arnynt. Mae Cytundeb Cam Un ar hawliau Dinasyddion i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac mewn mannau eraill ledled y DU, yn rhoi mwy o eglurder ynghylch eu statws yn y dyfodol pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy'n rhywbeth yr ydym wedi galw amdano'n gyson.
  5. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r camau diogelu yng ngham un y cytundeb ar hawliau dinasyddion yn nhermau: cyfyngu ar y seiliau dros wrthod preswyliaeth barhaol (dim ond os yw'r cais yn anghymwys neu os oes gan yr ymgeisydd gofnod troseddol difrifol neu ar sail diogelwch y gall hyn ddigwydd); sicrhau proses syml ar gyfer cyfnewid hawl barhaol i aros am y statws newydd; a'r cyfnod hwy y gall dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd fod i ffwrdd o'r DU heb ildio eu hawl i breswyliaeth. Mae'r rhain i gyd yn gamau diogelu pwysig sy'n debygol o fod yn gamau cadarnhaol i lawer o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru a thrigolion y DU sy'n byw yn Ewrop o ran cael rhywfaint o sicrwydd yng nghytundeb cam un. Er bod grwpiau ymgyrchu yn parhau i fod yn feirniadol o rai agweddau ar y cytundeb (e.e. sefyllfa gwŷr a gwragedd yn y dyfodol; neu hawliau dinasyddion y DU sy'n byw yn un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd i symud yn rhydd i un arall ar ôl Brexit), mae'r cytundeb yn mynd i'r afael â'r pryderon pwysicaf, yn sicr y rhai sy'n ymwneud â dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y DU.
  6. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson dros bwysigrwydd sicrhau na fydd Cymru yn colli yr un geiniog o'r cyllid a'r buddsoddiad y mae wedi'i gael o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ac er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd inni ynghylch yr arian a fyddai wedi cael ei dderbyn o dan raglen yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Adroddiad ar y Cyd yn sicrhau cyfranogiad y DU yn y rhaglenni cyfredol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i dderbyn cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd strwythurol y mae'n gymwys i'w gael tan 2020 (ac mae gwariant o dan Raglenni'r Cronfeydd Strwythurol yn gallu parhau hyd 2023). Mae'r Adroddiad ar y Cyd hefyd yn cofnodi'n ffurfiol y gallai'r DU ddymuno cymryd rhan mewn rhai rhaglenni ar ôl 2020 fel gwladwriaeth nad yw'n Aelod, sy'n rhywbeth yr ydym wedi pwyso amdano'n gyson ac yn ei groesawu.
  7. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch yr angen i gynnal yr amddiffyniadau a'r gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru, yn arbennig hawliau gweithwyr, pan na fydd y rhain bellach yn cael eu gwarantu drwy aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, wedi bod yn gyson o'r cychwyn cyntaf. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai ymrwymiadau mewn perthynas â chynnal yr amddiffyniadau hyn.
  8. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n glir ac yn gyson am sicrhau trefniadau pontio fel rhan o'r broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd er mwyn lleihau aflonyddwch ac ansicrwydd i fusnesau. Ar y sail honno, er mwyn osgoi canlyniadau economaidd negyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r newid yn safbwynt Llywodraeth y DU i gefnogi'r dull hwn ("cyfnod gweithredu"). Mae'r canllawiau a fabwysiadwyd gan y 27 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr yn cytuno i negodi cyfnod pontio sy'n cwmpasu'r Undeb Ewropeaidd cyfan. Ymddengys fod hyn yn newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y DU bellach yn cymryd rhan yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd, na phenderfyniadau cyrff, swyddfeydd nac asiantaethau'r Undeb. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn yr Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl (gyda phob un o'r pedwar rhyddid) yn ystod y cyfnod pontio. Mae'r Comisiwn hefyd wedi cynnig y dylai'r cytundeb ymadael, yn ystod y cyfnod pontio, warchod cymwyseddau sefydliadau'r Undeb (yn enwedig awdurdodaeth lawn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd), cyrff, swyddfeydd ac asiantaethau Undeb mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig ac i bersonau naturiol neu gyfreithlon y Deyrnas Unedig ac na ddylai'r cyfnod pontio fynd y tu hwnt i ddiwedd 2020.
  9. Bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd angen perthynas gyfansoddiadol wahanol iawn rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Wrth inni symud i gam dau y negodiadau, mae'n amlwg y bydd y mwyafrif helaeth o'r materion y bydd angen eu trafod rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â materion datganoledig, ac rydym yn pwyso'n gryf am gael ein cynnwys a chymryd rhan yn y negodiadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gytuno ar ddull sy'n adeiladu ar y cydweithredu da sy'n bodoli wrth baratoi busnes ar gyfer Cyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd.

Y Goblygiadau i Gymru

  1. Mae'r amser a gymerwyd i ddod i gytundeb ar y cam cyntaf wedi lleihau'n sylweddol yr amser sydd ar gael i ddod i gytundeb ar Gam dau ar y berthynas hirdymor gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU bod angen i'r trafodaethau hyn symud ymlaen yn gyflym a chan y byddant yn cynnwys materion sydd wrth wraidd datganoli, rhaid iddynt gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn.
  2. Fodd bynnag, dylid nodi bod llawer o bwyntiau ar faterion sy'n ymwneud â cham un y negodiadau yn dal heb eu cytuno a bod trafodaethau'n parhau ar rai materion arwyddocaol. Mae'r Adroddiad ar y Cyd yn egluro nad oes dim wedi'i gytuno nes bod popeth wedi'i gytuno a gall drafftio testun Cytuniad y gellir ei orfodi'n gyfreithiol i adlewyrchu'r cytundeb gwleidyddol fod yn broblematig.
  3. Fel yr amlinellir uchod, mae angen eglurhad sylweddol ar y materion sy'n ymwneud ag Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn arbennig ac maent yn parhau i fod yn broblematig iawn. Mae rhai agweddau'n destun pryder i Gymru. O ystyried yr ymrwymiadau yn yr Adroddiad ar y Cyd, mae'n anodd rhagweld pa atebion penodol y gall y DU eu cynnig a fydd yn sicrhau ffin feddal yn ogystal â chynnal systemau tollau a rheoleiddiol ar wahân yng Ngogledd Iwerddon i'r Undeb Ewropeaidd heb beryglu uniondeb y Farchnad Sengl. O gofio eu bod wedi gwrthod yn bendant cael ffin galed, byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod o hyd i ateb lle mae'n gwneud consesiynau gan dderbyn y Tariff Allanol Cyffredin ac aliniad rheoleiddiol llawn, neu dderbyn ateb ynys-gyfan gyda ffin forol â gweddill y DU. Fel y nodwyd, mae Atodiad 1 yn archwilio'r mater hwn ymhellach. O'n safbwynt ni, y canlyniad gorau a'r un mwyaf rhesymegol fydd i'r DU gyfan barhau i fod wedi'i halinio llawn i'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn gwarchod buddiannau Porthladdoedd Cymru a'u perthynas fasnachol ag Iwerddon ac mae'n cefnogi ein blaenoriaethau hirsefydlog ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Y camau nesaf

  1. Mae'r cytundeb ar gam un o'r trafodaethau wedi golygu y bu'n rhaid i'r DU gyfaddawdu. Mae hyn wedi gosod y naws ar gyfer deinameg wahanol yn yr ail gam (a ddisgrifiwyd gan Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, fel "ymddiriedaeth newydd a allai arwain at gyfeillgarwch newydd"). Bydd y cam nesaf yn gyflymach, yn ehangach ac yn ddyfnach o ran ei gwmpas a bydd yn rhaid i'r negodiadau gyflymu.
  2. Yn unol â'r canllawiau a fabwysiadwyd gan y 27 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, a'r cyfarwyddebau negodi dilynol [Atodiadau 3a a 3b] a gynigir ar ffurf drafft gan y Comisiwn ac a gaiff eu cadarnhau gan y Cyngor maes o law, bydd y negodiadau ar drefniadau pontio yn symud ymlaen a bydd unrhyw gytundeb yn cael ei ymgorffori yn y cytundeb ymadael o dan Erthygl 50 Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi nodi y dylai'r holl drafodaethau gael eu cwblhau erbyn Hydref 2018 i ganiatáu digon o amser ar gyfer prosesau cymeradwyo'r Undeb Ewropeaidd a'r broses weithredu.
  3. O ran y berthynas yn y dyfodol, mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i gychwyn 'trafodaethau archwiliol' ac mae'r Cyngor yn cynnig mabwysiadu canllawiau ar y materion hyn ym mis Mawrth 2018. Mae trafodaethau ar lefel swyddogol gyda Llywodraeth y DU wedi dechrau ar alluogi'r Gweinyddiaethau Datganoledig i gymryd rhan sylweddol yn y broses o lunio safbwyntiau negodi ar y berthynas yn y dyfodol.
  4. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Lywodraeth y DU y dylai'r model ar gyfer y dull o gynnal negodiadau Cam dau ddilyn y strwythur y mae'r DU yn ei ddefnyddio i gydlynu sut y mae'n cynnal busnes cyfredol yr Undeb Ewropeaidd. Dylai adeiladu ar y cydweithrediad sefydledig sydd wedi bodoli rhwng Llywodraethau olynol y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig wrth baratoi busnes Cyngor y Gweinidogion dros y 18 mlynedd diwethaf, fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth perthnasol (a'r Concordat cysylltiedig ar Gydlynu Materion Polisi'r Undeb Ewropeaidd) rhwng y pedair gweinyddiaeth. Yr egwyddor sydd wedi ategu'r cydweithrediad hwn yn llwyddiannus yw y bydd Llywodraeth y DU yn cynnwys y Gweinyddiaethau Datganoledig mor llawn â phosibl wrth ddatblygu safbwyntiau polisi'r DU ar faterion yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â materion datganoledig. Caiff hyn ei ategu gan ragdybiaeth y dylai fod gan y Gweinyddiaethau Datganoledig rôl i'w chwarae mewn cyfarfodydd lle y disgwylir i faterion sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar eu cyfrifoldebau datganoledig gael eu trafod.